- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Wedi'i wneud
10 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1980” yw Deddf Priffyrdd 1980(2);
ystyr “Deddf 1981” yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3).
2. 31 Mai 2005 yw'r dyddiad a bennwyd i'r canlynol ddod i rym—
(a)adran 51 o'r Ddeddf (diwygiadau o ran mapiau diffiniol a datganiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 5 i'r Ddeddf—
(i)paragraff 8 (cyfuno mapiau diffiniol a datganiadau),
(ii)paragraff 10 (ceisiadau am rai orchmynion penodol o dan Ran III),
(iii)paragraff 11 (gweithdrefn mewn cysylltiad â gorchmynion penodol); a
(b)adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf—
(i)paragraff 2 (dyletswydd i roi sylw i amaethyddiaeth, coedwigaeth a gwarchodaeth natur),
(ii)yn ddarostyngedig i erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, paragraff 3 (diwygio adran 31 o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â chyflwyno ffordd i fod yn briffordd, gan y tybir hynny ar ôl ei defnyddio gan y cyhoedd am 20 mlynedd),
(iii)paragraff 9(1) i (3) (gwyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau),
(iv)paragraff 11 (gwyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau sy'n croesi rheilffyrdd),
(v)paragraff 14(1) a (4)(a) (darpariaethau atodol),
(vi)paragraff 20(a) i (c) (dehongli), a
(vii)paragraff 24 (dirprwyo'r swyddogaeth o wneud penderfyniad).
3. 15 Gorffennaf 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) ddod i rym i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf—
(a)i'r graddau y mae'n ymwneud â phriffordd a grewyd o ganlyniad i orchymyn gwyro arbennig y mae paragraff (c) o'r erthygl hon yn gymwys, paragraff 5 (priffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw ar draul y cyhoedd),
(b)i'r graddau y mae'n mewnosod adran 118B yn Neddf 1980 at ddibenion paragraff (1)(b) o'r adran honno, paragraff 8 (cau priffyrdd penodol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol),
(c)i'r graddau y mae'n mewnosod adran 119B yn Neddf 1980 at ddibenion paragraff (1)(b) o'r adran honno, paragraff 12 (gwyro priffyrdd penodol sy'n croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol), ac
(ch)i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaeth a gafodd ei dwyn i rym gan yr erthygl hon—
(i)paragraff 13(1) i (5) (ac eithrio (5)(e)) a (7) i (9) (arfer pwerau gwneud gorchmynion diddymu neu wyro llwybrau cyhoeddus),
(ii)i'r graddau nad yw'n cael ei ddwyn i rym gan erthygl 2, paragraff 14 (darpariaethau atodol),
(iii)paragraff 17 (pwerau mynd i mewn),
(iv)ym mharagraff 18 (rheoliadau, cynlluniau a gorchmynion)—
(aa)is-baragraff (a), i'r graddau ei fod, yn adran 325(1)(d) o Ddeddf 1980, yn mewnosod cyfeiriadau at adrannau 118B(4) a 119B(4), a
(bb)is-baragraff (b),
(v)paragraff 19 (dirymu ac amrywio cynlluniau a gorchmynion), i'r graddau ei fod, yn adran 326(5) o Ddeddf 1980, yn mewnosod cyfeiriadau at orchymyn diddymu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig,
(vi)paragraff 20(d) ac (e) (dehongli),
(vii)paragraff 21 (arbedion o ran cyfarpar telathrebu), i'r graddau ei fod, yn adran 334(2) o Ddeddf 1980, yn mewnosod cyfeiriadau at orchymyn diddymu arbennig a gorchymyn gwyro arbennig,
(viii)ym mharagraff 23 (darpariaethau o ran gwneud, cadarnhau etc. gorchmynion)—
(aa)is-baragraff (1),
(bb)is-baragraff (2)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(1) a (2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (2)(b),
(cc)is-baragraff (3)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(3A) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchmynion gwyro arbennig, is-baragraff (3)(b),
(dd)is-baragraff (4)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 1(3B) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchmynion gwyro arbennig, is-baragraff (4)(b),
(ee)i'r graddau ei fod, ym mharagraff 2(2) a (3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (5),
(ff)ac eithrio i'r graddau y mae'n mewnosod paragraff 2A(1)(b) o Atodlen 6 yn Neddf 1980, is-baragraff (7),
(gg)is-baragraff (8), a
(hh)is-baragraff (9)(a) ac, i'r graddau ei fod, ym mharagraff 3(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1980, yn mewnosod y cyfeiriad at orchymyn gwyro arbennig, is-baragraff (9)(b).
4. 21 Tachwedd 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i'r canlynol ddod i rym—
(a)adran 51 o'r Ddeddf (diwygiadau o ran mapiau diffiniol a datganiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraff 2 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (cofrestr o geisiadau o dan adran 53); a
(b)adran 57 o'r Ddeddf (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddarpariaethau canlynol Atodlen 6 i'r Ddeddf-
(i)paragraff 4 (cofrestr o fapiau, datganiadau a mynegiadau), a
(ii)i'r graddau y mae'n mewnosod adran 121B yn Neddf 1980, paragraff 15 (cofrestr o geisiadau).
5. Nid yw erthygl 2(b)(ii) (diwygio adran 31 o Ddeddf 1980) yn gymwys—
(a)os mae perchennog, neu os mae ei ragflaenwyr mewn teitl, fwy na 6 mlynedd cyn 31 Mai 2005, wedi adneuo map a datganiad yn unol ag adran 31(6) o Ddeddf 1980; a
(b)os na wnaeth y perchennog hwnnw, neu os na wnaeth ei ragflaenwyr mewn teitl, o fewn y cyfnod o 6 mlynedd yn gorffen ar 31 Mai 2005, roi datganiad statudol (p'un a roddwyd datganiad blaenorol ai peidio) yn unol ag adran 31(6) o Ddeddf 1980.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym rai o ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) o ran Cymru ar 31 Mai 2005, 15 Gorffennaf 2005 a 21 Tachwedd 2005.
Mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn eu cychwyn yn gwella ac yn atgyfnerthu'r gwaith o reoli'r 33,000 o gilometrau amcangyfrifedig o hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghymru drwy—
(a)galluogi awdurdodau priffyrdd lleol i gyfuno eu mapiau diffiniol os ydynt yn anghyflawn o ganlyniad i ad-drefnu llywodraeth leol yn flaenorol a thrwy wneud mân ddiwygiadau i'r gweithdrefnau sy'n gymwys i orchmynion llwybrau cyhoeddus ac addasiadau yn gyffredinol. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 31 Mai 2005 (erthygl 2);
(b)galluogi awdurdodau priffyrdd lleol i gau neu wyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau ac, ymhen amser, gilffyrdd cyfyngedig, at ddibenion amddiffyn plant ysgol a staff ysgolion drwy helpu'r awdurdodau i wella diogelwch mewn ysgolion lle y mae llwybrau cyhoeddus yn croesi tir sy'n cael ei feddiannu at ddibenion ysgol. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2005 (erthygl 3); ac
(c)ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau priffyrdd lleol lunio a chadw tair cofrestr newydd sy'n ymwneud â gorchmynion llwybrau cyhoeddus ac addasiadau a thrwy alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i ragnodi cynnwys y cofrestrau hynny. Daw'r darpariaethau hyn i rym ar 21 Tachwedd 2005 (erthygl 4).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Cafodd darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 eu dwyn i rym yng Nghymru gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—
Adran(nau) neu Atodlen(ni) | Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
2 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
12 i 14 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
18, 20 a 46(1)(a) | 21 Mehefin 2004 | 2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
46(1)(b) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
57 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
60 a 61 | 1 Tachwedd 2002 | 2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(1) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(3) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(4) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 | 30 Ionawr 2001 | 2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
102 (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 2 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 2 a 3 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) ac 19 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 21 Mehefin 2004 | 2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau III i VI | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi'u gwneud o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr—
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: