- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
24 Mai 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2005.
2. Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.—(1) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); a
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
4. 31 Mai 2005 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
5.—(1) Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 3 o Atodlen 4 yn gymwys o ran derbyn plant mewn blwyddyn ysgol yn gynharach na 2007-2008.
(2) Er bod paragraff 10 a 11 o Atodlen 4 yn dod i rym, nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 yn effeithiol o ran penderfyniad a wnaed gan awdurdod addysg lleol cyn 31 Mai 2005 sy'n cyfarwyddo ysgol benodol i dderbyn disgybl.
(3) Os bydd rhiant wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 24 i Deddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —
(a)mae adrannau 84(6) a 94 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 24 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai adran 50, paragraffau 2 a 8 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 24 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a
(b)mae adran 25(5)(c) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(3) yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.
(4) Os bydd corff llywodraethu wedi rhoi hysbysiad o apêl yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 25 i Ddeddf 1998 cyn 31 Mai 2005 —
(a)mae adrannau 84(6), 87 a 95 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 25 iddi yn parhau i fod yn effeithiol ynglyn â'r apêl honno fel pe bai paragraffau 2 a 9 o Atodlen 4 a diddymiad Atodlen 25 i Ddeddf 1998 heb ddod i rym; a
(b)mae adran 25(5)(c) of Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe bai paragraff 2(a) o Atodlen 21 heb ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Mai 2005
Erthygl 4
Y Ddarpariaeth | Y Pwnc |
---|---|
Adran 50 | Apelau derbyn |
Adran 51 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 4 isod | Diwygiadau pellach o ran derbyniadau |
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod | Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol |
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod | Diddymiadau |
Atodlen 4, paragraffau 2, 3(1), (2), (3), (4), (5), (7), (8), 8, 9, 10, 11 | Trefniadau Derbyn |
Atodlen 21 | Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol |
Paragraffau 1, 2 a 22 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym | |
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu — | Diddymiadau |
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5), Atodlenni 24 a 25, | |
Yn Atodlen 26, paragraffau 6(4), 8(9) a 15, | |
Yn Atodlen 28, Rhan 2, | |
Yn Atodlen 30, paragraffau 3(3), 47(a). |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”) ar 31 Mai 2005. Mae adran 50 yn diwygio adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”), fel bod y trefniadau ar gyfer apelau i baneli apêl yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyn plentyn i ysgol yn cael eu gosod mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym ar 31 Mai 2005 adran 51 o Ddeddf 2002 a darpariaethau yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno sy'n gwneud diwygiadau pellach i Ddeddf 1998 o ran derbyniadau i ysgolion.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol. Mae'r diwygiadau i adran 86 o Ddeddf 1998 ynghylch hoff dewis rhiant a derbyniadau i ddosbarthiadau chwech yn gymwys o ran blwyddyn benderfynu 2005-06, pan benderfynir y trefniadau derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol 2007-08.
Nid yw'r diwygiadau i adrannau 96 a 97 o Ddeddf 1998 ynghylch pŵer AALlau i gyfarwyddo ysgol i dderbyn plant yn gymwys o ran penderfyniad i gyfarwyddo a wnaed cyn 31 Mai 2005.
O ran apelau derbyn a wnaed cyn 31 Mai 2005, mae darpariaethau Deddf 1998 sy'n ymwneud ag apelau o'r fath a darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 1974 sy'n ymwneud ag awdurdodaeth yr ombwdsmon i fod yn effeithiol fel pe nas diwygiwyd gan Ddeddf 2002.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad | O.S. Rhif Cychwyn |
---|---|---|
Adrannau 14 i 17 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 18(2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 19(6) (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adrannau 21 a 22 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adrannau 27 a 28 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 29 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 30 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 32 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 39(1) (yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 41 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 42 | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 43 | 1 Tachwedd 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 46 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 49 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 51 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 52 (yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adrannau 54 i 56 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 60 i 64 | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 72 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 75 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 97 a 98 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 99(1) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 100 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 101 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 103 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 105 i 107 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 108 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 109 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 111 i 118 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 119 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(1) a (3) i (5) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 120(2) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 121 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Adran 122 i 129 | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 130 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn llawn) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
Adran 131 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 132 a 133 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 134 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 135 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 136 i 140 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 141 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 142 i 144 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 145 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 146 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 148 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 149 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 150 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 151(2) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 152 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 154 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 155 | 1 Medi 2004 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 156 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adrannau 157 i 174 | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 176 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Adran 177 | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 178(1) a (4) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 179 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 180 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 181 i 185 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 188 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 189 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 191 i 194 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 195 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn llawn) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 196 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 197 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 198 | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Adran 199 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 200 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adran 201 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Adrannau 202 a 203 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 206 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Adran 207 a 208 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Adran 215 (yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) a 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) a 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 1, paragraff 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 3, paragraffau 1 i 5 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 4, paragraffau 1 a 4 | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
Paragraff 12(1), (3) i (5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
Atodlen 5 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 9 | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 10, paragraffau 1, 6, 11 a 15 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 11 | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 12(1) a (2) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7 | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3 | 1 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
Paragraffau 4 i 9 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraff 8 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 13 i 15 | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18 | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
Atodlen 19 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 20 | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
Atodlen 21 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 19 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1667 |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Atodlen 22 (yn rhannol) | 1 Hydref 2002 | 2002/2439 |
(yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2002 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2003 | 2002/3185 (Cy.301) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2003 | 2003/1718 (Cy.185) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2003 | 2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667 |
(yn rhannol) | 4 Rhagfyr 2003 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 1 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 9 Ionawr 2004 | 2003/2961 (Cy.278) |
(yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Awst 2004 | 2004/912 (Cy.95) |
(yn rhannol) | 1 Medi 2004 | 2004/1728 (Cy.172) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: