Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 22/04/2009

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/05/2005.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1398 (Cy.112)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

24 Mai 2005

Yn dod i rym

31 Mai 2005

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 94(5), (5A), (5C), 95(3), (3A), (3B) a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2) ac ar ôl ymgynghgori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd yn unol ag adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(3) mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Mai 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

mae i “aelod lleyg” (“lay member”) yr ystyr a roddir iddo gan baragraffau 1(4) a 2(4) o Atodlen 1;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau a ddisgrifir yn rheoliad 3;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.(5)

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at —

(a)adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o Ddeddf 1998, oni ddywedir fel arall;

(b)athro neu athrawes yn cynnwys pennaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Cyfansoddiad panelau apêlLL+C

3.  Pan wneir trefniadau neu drefniadau ar y cyd gan —

(a)awdurdod addysg lleol o dan adran 94(1) neu (1A)(6);

(b)corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 94(2) neu (2A)(7);

(c)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol, yn unol ag adran 94(3)(8);

(ch)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod, yn unol ag adran 94(4)(9);

(d)awdurdod addysg lleol o dan adran 95(2),

mae apêl i'w wneud i banel apêl a gyfansoddir yn unol â'r paragraff perthnasol yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Dyletswydd i hysbysebu am aelodau lleygLL+C

4.—(1Yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i'r awdurdod priodol sicrhau cyhoeddi hysbyseb ar gyfer aelodau lleyg o banelau apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1.

(2Rhaid cyhoeddi'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) cyn diwedd y cyfnod tair blynedd a ddechreuodd pan gyhoeddwyd yr hysbyseb ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw ar gyfer aelodau lleyg, panel apêl a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 24 i Ddeddf 1998, ac ar ôl hynny ym mhob cyfnod tair blynedd ar ôl y dyddiad pan gyhoeddir hysbyseb (neu'r hysbyseb derfynol mewn cyfres o hysbysebion) ddiwethaf gan yr awdurdod hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn.

(3Rhaid i'r hysbyseb y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod —

(a)nodi wrth eu henw, eu dosbarth, neu'u disgrifiad cyffredinol, yr ysgolion sy'n cael eu gwasanaethu gan y panelau apêl y mae'r hysbyseb yn cyfeirio atynt;

(b)cael ei rhoi mewn o leiaf un papur newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r ysgolion a nodir yn yr hysbyseb;

(c)caniatáu cyfnod o 21 o ddiwrnodau o leiaf o ddyddiad cyhoeddi'r hysbyseb ar gyfer atebion.

(4Cyn penodi unrhyw aelod lleyg, rhaid i'r awdurdod priodol ystyried unrhyw bersonau cymwys sydd wedi gwneud cais i'r awdurdod mewn ymateb i'r hysbyseb ddiweddaraf neu'r gyfres ddiweddaraf o hysbysebion a roddwyd yn unol â pharagraff (1) ac sy'n dangos eu bod yn dymuno cael eu hystyried ar gyfer y penodiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Y weithdrefn apelioLL+C

5.  Rhaid gwneud unrhyw apêl o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3 yn unol ag Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Ystyriaethau perthnasol mewn apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf 1998LL+C

6.—(1Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch), mae'r materion i'w hystyried gan banel apêl wrth ystyried apêl i gynnwys —

(a)unrhyw hoff ddewis a fynegir gan yr apelydd mewn perthynas â'r plentyn fel a grybwyllir yn adran 86; a

(b)y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion ac a gyhoeddir gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92(10).

(2Pan wnaethpwyd y penderfyniad o dan apêl ar y sail y byddai rhagfarn o'r math y cyfeirir ati yn adran 86(3)(a) yn codi fel a grybwyllir yn is-adran (4) o'r adran honno, caiff panel apêl benderfynu bod lle i'w gynnig i blentyn dim ond os yw'r panel yn cael ei fodloni —

(a)nad oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol yn ei wneud o dan amgylchiadau'r achos; neu

(b)y byddai'r plentyn wedi cael cynnig lle petai'r trefniadau derbyn (fel a gyhoeddir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 92) wedi cael eu gweithredu'n gywir.

(3Mewn perthynas ag apêl a wneir o dan drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), wrth ystyried apêl rhaid i banel apêl ystyried —

(a)y rhesymau dros benderfyniad yr awdurdod addysg lleol y dylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn; a

(b)unrhyw resymau a gyflwynir gan y corff llywodraethu pam y byddai derbyn y plentyn yn amhriodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Talu lwfansauLL+C

7.—(1Mae adran 173(4) o Ddeddf 1972(11), yn gymwys i unrhyw aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, at ddibenion, ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod addysg lleol perthnasol i dalu lwfans colled ariannol i'r aelod hwnnw, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at ddyletswydd wedi'i chymeradwyo i'w ddarllen fel cyfeiriad at fod yn bresennol mewn cyfarfod o banel apêl.

(2Mae adran 174(1) o Ddeddf 1972(12) yn gymwys mewn perthynas â phanel apêl a gyfansoddir yn unol ag unrhyw un o baragraffau Atodlen 1, ac yn yr adran honno fel y mae'n gymwys, mae'r cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir gan y corff dan sylw i'w ddarllen fel cyfeiriad at daliadau ar gyfraddau a benderfynir —

(a)gan yr awdurdod, yn achos panel apêl a gyfansoddir o dan drefniadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a), (ch) neu (d);

(b)fel arall gan gorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu'r ysgol neu'r ysgolion dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

IndemnioLL+C

8.—(1Rhaid i'r awdurdod priodol indemnio aelodau unrhyw banel apêl a gyfansoddir at ddibenion y trefniadau a wnaed ganddo, fel a bennir yn rheoliad 3, yn erbyn unrhyw gostau a threuliau cyfreithiol rhesymol a dynnir gan yr aelodau hynny mewn cysylltiad ag unrhyw benderfyniad neu gam a gymerir ganddynt yn ddidwyll yn unol â'u swyddogaethau fel aelodau o'r panel hwnnw.

(2Pan gyfansoddir un o'r panelau hynny gan —

(a)cyrff llywodraethu dwy neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr un awdurdod addysg lleol; neu

(b)awdurdod addysg lleol a chorff llywodraethu neu gyrff llywodraethu un neu ragor o ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac a gynhelir gan yr awdurdod,

mae unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o dan baragraff (1) yn rhwymedigaeth cyd ac unigol ar y cyrff sy'n gwneud y trefniadau ar y cyd oni bai bod trefniant blaenorol wedi'i gytuno fel arall yn ysgrifenedig rhwng y cyrff hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2005

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CCYFANSODDIAD PANELAU APÊL

Trefniadau a wnaed gan awdurdod addysg lleolLL+C

1.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan awdurdod addysg lleol o blith—

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r awdurdod addysg lleol benodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r awdurdod benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod neu o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu neu gan y cyrff llywodraethu, heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg ag, unrhyw gysylltiad â —

(i)yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii)unrhyw berson o fewn paragraff (b)

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraph (7)(c).

(9Ni chaiff person fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl yn erbyn penderfyniad os oedd y person hwnnw ymhlith y rheini a wnaeth y penderfyniad neu ymhlith y rheini a gymerodd ran yn y trafodaethau ynghylch gwneud y penderfyniad ai peidio.

(10Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(11Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau a wnaed gan gorff llywodraethuLL+C

2.—(1Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(b), cyfansoddir panel apêl gan dri neu bum aelod a benodwyd gan gorff llywodraethu o blith —

(a)personau sy'n gymwys i fod yn aelodau lleyg; a

(b)personau sydd â phrofiad mewn addysg neu sy'n gyfarwydd â chyflwr addysg yn ardal yr awdurdod; neu

(c)personau sy'n rhieni i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol.

(2O blith aelodau panel apêl —

(a)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n gymwys i fod yn aelod lleyg ac a benodir felly; a

(b)rhaid i o leiaf un fod yn berson sy'n dod o fewn is-baragraff (1)(b) neu (1)(c).

(3Rhaid i'r corff llywodraethu penodi un aelod o'r panel i ymddwyn fel cadeirydd.

(4At ddibenion y paragraff hwn mae person yn gymwys i fod yn aelod lleyg os yw ef yn berson heb brofiad personol o reoli unrhyw ysgol neu o ddarparu addysg mewn unrhyw ysgol (gan ddiystyru unrhyw brofiad fel llywodraethwr neu unrhyw brofiad mewn unrhyw swydd wirfoddol arall).

(5Caniateir i'r corff llywodraethu benodi digon o bersonau o dan y paragraff hwn i alluogi dau neu ragor o banelau apêl eistedd yr yn pryd.

(6Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl os yw'n anghymwys yn rhinwedd is-baragraff (7).

(7Mae'r personau a ganlyn yn anghymwys i fod yn aelodau o banel apêl —

(a)unrhyw aelod o'r awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu unrhyw aelod o'r corff llywodraethu;

(b)unrhyw berson a gyflogir gan yr awdurdod neu gan y corff llywodraethu heblaw person a gyflogir yn athro neu'n athrawes;

(c)unrhyw berson sydd â, neu a fu ar unrhyw adeg gysylltiad â —

(i) yr awdurdod neu'r ysgol, neu

(ii) unrhyw berson o fewn paragraff (b),

o fath y gellid tybio'n rhesymol ei fod yn codi amheuon am ei allu i weithredu'n ddiduedd mewn perthynas â'r awdurdod neu'r ysgol.

(8Rhaid peidio â thybio bod person a gyflogir yn athro neu'n athrawes gan yr awdurdod, oherwydd y gyflogaeth honno'n unig, â chysylltiad â'r awdurdod fel a grybwyllir yn is-baragraff (7)(c).

(9Ni chaiff person sy'n athro neu'n athrawes mewn ysgol fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl sy'n cwestiynu a ddylid derbyn y plentyn i'r ysgol honno ai peidio.

(10Os bydd unrhyw un o'r aelodau, unrhyw adeg ar ôl i banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi ddechrau ystyried apêl —

(a)yn marw; neu

(b)oherwydd salwch, yn methu â pharhau yn aelod; neu

(c)oherwydd bod amheuon rhesymol yn codi am ei allu i weithredu'n ddiduedd, yn methu â pharhau yn aelod,

caiff y panel barhau i ystyried yr apêl a dod i benderfyniad yn ei chylch cyn belled nad yw nifer yr aelodau sy'n weddill yn llai na thri a bod gofynion is-baragraff (2) uchod wedi'u bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethuLL+C

3.—(1Pan fydd trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(c), mae paragraff 2 o'r Atodlen hon yn gymwys fel petai —

(a)(ac eithrio yn is-baragraff (7)) unrhyw gyfeiriad at y corff llywodraethu yn gyfeiriad at gyrff llywodraethu y ddwy ysgol neu'r ysgolion i gyd; a

(b)yn is-baragraff (7), unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at unrhyw un o'r cyrff llywodraethu hynny neu at unrhyw un o'r ysgolion hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar y cyd gan awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethuLL+C

4.  Pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(ch), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â'r trefniadau hynny fel y mae'n gymwys mewn perthynas â threfniadau a wneir gan awdurdod addysg lleol ac y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(a) ond fel petai yn is-baragraff (7) unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw neu at yr ysgol honno yn gyfeiriad at gorff llywodraethu unrhyw ysgol y mae'r trefniadau yn ymwneud â hi neu unrhyw ysgol o'r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Apelau gan gyrff llywodraethu o dan adran 95LL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(d), bydd paragraff 1 o'r Atodlen hon yn effeithiol fel y bydd yn effeithiol pan fydd y trefniadau yn drefniadau a bennir yn rheoliad 3(a).

(2Ni chaiff neb fod yn aelod o banel apêl er mwyn ystyried apêl o dan adran 95(2) os bu i unrhyw raddau â rhan mewn ystyried o'r blaen a ddylai'r plentyn dan sylw gael ei dderbyn yn ôl ai peidio i unrhyw ysgol y gwaharddwyd ef yn barhaol ohoni ar unrhyw adeg, neu mewn unrhyw apêl blaenorol sy'n ymwneud â'r plentyn o dan adran 95(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CGWEITHDREFN APÊL

Apelau a wneir yn unol ag adran 94LL+C

1.—(1Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(a) i (ch).

(2Rhaid i fanylion y trefniadau ar gyfer gwneud apêl, gan gynnwys yr wybodaeth sy'n cynnwys y manylion cyswllt ar gyfer pa gorff neu gyrff bynnag sy'n gyfrifol am y trefniadau hynny, gael eu rhoi mewn unrhyw ddogfen sy'n cynnwys hysbysiad i rieni am —

(a)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(b) a (2) ac sy'n gwrthod derbyn eu plentyn i ysgol y mae'r rhieni wedi mynegi mai hi yw eu hoff ddewis yn unol â'r trefniadau a wneir o dan adran 86(1);

(b)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1)(a) o ran yr ysgol y mae addysg i'w darparu i'w plentyn ynddi; neu

(c)penderfyniad y cyfeirir ato yn adran 94(1A) neu (2A) ac sy'n gwrthod caniatâd i blentyn sydd eisoes wedi'i dderbyn i ysgol i fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno.

(3Rhaid i apêl fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi nodi'r sail dros ei gwneud.

(4Rhaid i banel apêl roi cyfle i apelydd ymddangos a gwneud sylwadau llafar, a chaniatáu iddo gael ei hebrwng gan gyfaill neu gael ei gynrychioli.

(5Rhaid i apêl gael ei gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sydd wedi gwneud y trefniadau o dan adran 94 o Ddeddf 1998 yn cyfarwyddo fel arall, ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan y panel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;

(b)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad apêl gan banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 neu 2 o Atodlen 1 (neu yn unol â pharagraff 2 fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno); a

(c)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o unrhyw banel apêl pan fydd apêl yn cael ei hystyried.

(6At ddibenion is-baragraff (5), mae apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno i'w thrin —

(i)fel apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o'r Atodlen honno os yw'n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir, a

(ii)fel apêl at banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os yw'n ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(7Os bydd aelodau'r panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(8Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei gwneud yn ysgrifenedig i —

(a)yr apelydd a'r awdurdod addysg lleol; a

(b)yn achos apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1, (neu yn unol â'r paragraff hwnnw fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 3 o'r Atodlen honno), i'r corff llywodraethu a wnaeth y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn neu'r corff llywodraethu yr apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a wnaed ar ei ran.

(9At ddibenion is-baragraff (8), bydd apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1, fel y mae'n gymwys yn rhinwedd paragraff 4 o'r Atodlen honno, i'w thrin fel apêl i banel apêl a gyfansoddir yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen honno, os bydd yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(10Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (9), bydd pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio, gan gynnwys y cyfnod y maent i'w dwyn o'i fewn, i'w penderfynu gan y corff neu'r cyrff sy'n gwneud y trefniadau o dan adran 94.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Apelau a wneir yn unol ag adran 95 o Ddeddf 1998LL+C

2.—(1Yn y paragraff hwn ystyr “apêl” yw apêl a wneir o dan y trefniadau a bennir yn rheoliad 3(d).

(2Pan fydd unrhyw benderfyniad a grybwyllir yn adran 95(2) wedi'i wneud gan yr awdurdod addysg lleol neu ar ei ran, rhaid i'r awdurdod hysbysu corff llyworaethu'r ysgol yn ysgrifenedig am —

(a)y penderfyniad hwnnw; a

(b)hawl y corff llywodraethu i apelio yn erbyn y penderfyniad yn unol ag is-baragraff (3).

(3Rhaid i unrhyw apêl gan y corff llywodraethu yn erbyn unrhyw benderfyniad cael ei gwneud dim hwyrach na'r pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan hysbysir ef o dan is-baragraff (2).

(4Rhaid i apêl fod drwy hysbysiad ysgrifenedig sy'n nodi'r sail dros ei gwneud.

(5Rhaid i'r panel apêl gyfarfod i ystyried apêl ar unrhyw ddyddiad y bydd yr awdurdod addysg lleol yn ei benderfynu ond rhaid i'r dyddiad a benderfynir beidio â bod ar ôl y pymthegfed diwrnod ysgol ar ôl y diwrnod pan fydd yr awdurdod hwnnw yn derbyn yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan hysbysiad is-baragraff (4).

(6Ar apêl rhaid i'r panel ganiatáu —

(a)i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu wneud sylwadau ysgrifenedig;

(b)i un o swyddogion yr awdurdod a enwebir gan yr awdurdod, a llywodraethwr a enwebir gan y corff llywodraethu, ymddangos a gwneud sylwadau llafar; ac

(c)i'r corff llywodraethu gael ei gynrychioli.

(7Rhaid i apelau gael eu gwrando'n breifat ac eithrio pan fydd yr awdurdod addysg lleol yn cyfarwyddo fel arall; ond —

(a)os yw'r panel yn cyfarwyddo hynny, caiff un aelod o'r awdurdod addysg lleol fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw wrandawiad o apêl gan banel apêl; a

(b)caiff un aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol, fel sylwedydd, mewn unrhyw gyfarfod o banel apêl sy'n ystyried apêl.

(8Caniateir cyfuno dwy neu ragor o apelau ac ymdrin â hwy yn yr un achos os yw'r panel apêl yn ystyried bod hynny'n hwylus oherwydd mai'r un rhai yw'r materion a godir gan yr apelau neu oherwydd eu bod yn gysylltiedig.

(9Os bydd aelodau panel apêl yn anghytuno â'i gilydd, bydd yr apêl sy'n cael ei hystyried i'w phenderfynu gan fwyafrif syml o'r pleidleisiau a fwriwyd ac, os bydd nifer y pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan gadeirydd y panel ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

(10Rhaid i'r panel apêl roi gwybod am ei benderfyniad a'r sail dros ei wneud—

(a)yn ysgrifenedig i'r awdurdod addysg lleol a'r corff llywodraethu; a

(b)erbyn diwedd yr ail ddiwrnod ysgol ar ôl i wrandawiad yr apêl ddod i ben.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (10), mae pob mater sy'n ymwneud â'r weithdrefn apelio i'w benderfynu gan yr awdurdod addysg lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 31.5.2005, gweler rhl. 1(1)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion sy'n ymwneud ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002.

O dan adran 94 rhaid i awdurdod addysg leol, neu yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i gorff llywodraethu wneud trefniadau sy'n galluogi rhieni i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch derbyn plant i ysgolion, gan gynnwys penderfyniadau sy'n gwrthod caniatâd i blant sydd eisoes wedi'u derbyn i ysgol fynd i chweched dosbarth yr ysgol honno.

O dan adran 95 rhaid i awdurdod addysg lleol wneud trefniadau sy'n galluogi corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod i dderbyn plentyn a oedd, adeg gwneud y penderfyniad, wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn, ac Atodlen 1 iddynt, yn darparu ar gyfer dull cyfansoddi panel apêl pan fydd trefniadau'r apêl yn cael eu gwneud gan awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu neu pan fydd trefniadau ar y cyd yn cael eu gwneud gan ddau neu ragor o gyrff llywodraethu, neu'r awdurdod addysg lleol ac un neu ragor o gyrff llywodraethu.

Mae rheoliad 4 yn nodi dyletswydd awdurdod derbyn i hysbysebu am aelodau lleyg.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r weithdrefn y mae panel apêl i'w mabwysiadu pan fydd yn gwrando apêl.

Mae rheoliad 6 yn nodi'r materion y mae'n rhaid i'r panel apêl derbyn eu hystyried wrth wrando apêl.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu lwfansau i aelodau o banelau apêl gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau mewn perthynas â cholled ariannol, a threuliau teithio a chynhaliaeth.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu sy'n gyfrifol am wneud trefniadau'r apêl i indemnio aelodau'r panel apêl yn erbyn treuliau neu gostau cyfreithiol a dynnwyd mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad y maent yn ei wneud.

(1)

1998 p.31. Amnewidiwyd is-adrannau (5), (5A), a (5C) o adran 94 gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 p.32. Amnewidiwyd is-adrannau (3), (3A) a (3B) o adran 95 gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002, a pharagraff 9 o Atodlen 4 iddi. Am y diffiniad o “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.

(3)

1992 p.53, diwygiwyd gan baragraff 22 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.

(6)

Mewnosodwyd adran 94(1A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (2) o Atodlen 4 iddi.

(7)

Mewnosodwyd adran 94(2A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (3) o Atodlen 4 iddi.

(8)

Diwygiwyd adran 94(3) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (4) o Atodlen 4 iddi.

(9)

Diwygiwyd adran 94(4) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8(1) a (5) o Atodlen 4 iddi.

(10)

O.S. 1994/1303. Amnewidiwyd adran 92 gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2002.

(11)

Diwygiwyd adran 173(4) gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 p.42 a pharagraff 26 o Atodlen 11 iddi.

(12)

Diwygiwyd adran 174(1) gan adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 p.65.

(13)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources