- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol—
(a)yn flynyddol, ar ôl derbyn datganiad oddi wrth y rhieni mabwysiadol ynghylch—
(i)eu hamgylchiadau ariannol;
(ii)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn;
(iii)eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a
(b)os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad, yn hysbys iddo.
(2) Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.
(3) Caiff yr awdurdod lleol amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yn ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 13(3), caiff yr awdurdod lleol—
(a)amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben; a
(b)ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol y mae wedi'i dalu.
(5) Os y gofyniad i roi datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c) yw'r amod na chydymffurfir ag ef, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (4) hyd nes—
(a)iddo anfon nodyn atgoffa at y person a aeth i gytundeb gan ei atgoffa o'r angen i roi datganiad blynyddol;
(b)i 28 o ddiwrnodau ddod i ben ers y dyddiad yr anfonwyd y nodyn atgoffa hwnnw.
(6) Ar ôl iddo gymryd y camau a bennir ym mharagraff (5), os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (4) y dylid atal cymorth ariannol, caiff godi'r ataliad pan fydd wedi cael y datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c).
(7) Rhaid i'r awdurdod lleol orffen talu cymorth ariannol pan—
(a)bydd y plentyn yn peidio â bod â chartref gyda'r rhieni mabwysiadol (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt);
(b)bydd y plentyn yn peidio â bod mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser ac yn dechrau mewn swydd gyflogedig;
(c)bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun; neu
(ch)bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed, oni bai ei fod yn parhau mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser, pan gaiff barhau hyd ddiwedd y cwrs addysg neu'r hyfforddiant y mae yn ei ddilyn bryd hynny.
(8) Mae rheoliadau 9, 10 a 12 yn gymwys mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys o ran asesiad o dan reoliad 8.
(9) Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad o'r bwriad yn unol â rheoliad 9(1), ac mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y bwriad a bydd paragraffau (3) a (4) o reoliad 13 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (3) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: