Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005

Adolygu cymorth ariannol

17.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol adolygu unrhyw gymorth ariannol—

(a)yn flynyddol, ar ôl derbyn datganiad oddi wrth y rhieni mabwysiadol ynghylch—

(i)eu hamgylchiadau ariannol;

(ii)anghenion ac adnoddau ariannol y plentyn;

(iii)eu cyfeiriad ac a oes gan y plentyn gartref gyda hwy o hyd (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt); a

(b)os daw unrhyw newid yn amgylchiadau'r rhieni mabwysiadol neu'r plentyn, gan gynnwys unrhyw newid cyfeiriad, yn hysbys iddo.

(2Bydd paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fydd cymorth ariannol yn daladwy mewn rhandaliadau neu'n rheolaidd.

(3Caiff yr awdurdod lleol amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben os, o ganlyniad i adolygiad, bydd yn ystyried bod angen y rhieni mabwysiadol am gymorth ariannol wedi newid neu wedi peidio ers i'r swm o gymorth ariannol gael ei benderfynu ddiwethaf.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodir yn unol â rheoliad 13(3), caiff yr awdurdod lleol—

(a)amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben; a

(b)ceisio adennill y cyfan neu ran o'r cymorth ariannol y mae wedi'i dalu.

(5Os y gofyniad i roi datganiad blynyddol yn unol â chytundeb y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c) yw'r amod na chydymffurfir ag ef, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chymryd unrhyw gamau o dan baragraff (4) hyd nes—

(a)iddo anfon nodyn atgoffa at y person a aeth i gytundeb gan ei atgoffa o'r angen i roi datganiad blynyddol;

(b)i 28 o ddiwrnodau ddod i ben ers y dyddiad yr anfonwyd y nodyn atgoffa hwnnw.

(6Ar ôl iddo gymryd y camau a bennir ym mharagraff (5), os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu o dan baragraff (4) y dylid atal cymorth ariannol, caiff godi'r ataliad pan fydd wedi cael y datganiad blynyddol y cyfeirir ato yn rheoliad 11(3)(c).

(7Rhaid i'r awdurdod lleol orffen talu cymorth ariannol pan—

(a)bydd y plentyn yn peidio â bod â chartref gyda'r rhieni mabwysiadol (neu gyda'r naill neu'r llall ohonynt);

(b)bydd y plentyn yn peidio â bod mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser ac yn dechrau mewn swydd gyflogedig;

(c)bydd y plentyn yn gymwys i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith yn ei hawl ei hun; neu

(ch)bydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed, oni bai ei fod yn parhau mewn addysg lawnamser neu hyfforddiant llawnamser, pan gaiff barhau hyd ddiwedd y cwrs addysg neu'r hyfforddiant y mae yn ei ddilyn bryd hynny.

(8Mae rheoliadau 9, 10 a 12 yn gymwys mewn perthynas ag adolygiad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys o ran asesiad o dan reoliad 8.

(9Os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu amrywio neu atal taliadau cymorth ariannol neu ddod â'r taliadau i ben, neu'n penderfynu diwygio'r cynllun, rhaid iddo roi hysbysiad o'r bwriad yn unol â rheoliad 9(1), ac mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys y rhesymau dros y bwriad a bydd paragraffau (3) a (4) o reoliad 13 yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (3) fel y maent yn gymwys i benderfyniad o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.