Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(1);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

mae “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 2(2);

ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;

ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)” (“the Adoption Agencies (Wales) Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(3);

ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person:

(a)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;

(b)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;

(c)

sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn;

(ch)

sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu

(d)

sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;

ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.

(4Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth cymorth mabwysiadu;

ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;

ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

ystyr “gwrthrych” (“subject”), o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) yw person y mae'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth yn ceisio cysylltu ag ef neu'n ceisio gwybodaeth amdano;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), o ran asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth honno;

ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—

(a)

perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu

(b)

unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;

ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—

(a)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu amdano yn unol â rheoliad 19(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) ei fod yn blentyn y dylid ei leoli i'w fabwysiadu;

(b)

y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu

(c)

sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;

ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn —

(a)

y mae person —

(i)

wedi hysbysu am y plentyn hwnnw o'i fwriad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a

(ii)

yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu

(b)

sydd wedi'i fabwysiadu gan berson —

(i)

nad yw'n rhiant naturiol y plentyn; a

(ii)

nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn

ond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth; a

rhaid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5(2).

(5Yn y Rheoliadau hyn —

(a)mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol o ran y person hwnnw;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw;

(c)mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu —

(i)yn gyfeiriadau at y plentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;

(ii)yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;

(ch)mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.

Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu

2.—(1Ni chaniateir i unrhyw gais am gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gael ei wneud o ran asiantaeth cymorth mabwysiadu sy'n gorff anghorfforedig.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn ac adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffiniad o “adoption support services”), mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u rhagnodi —

(a)cymorth i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol, neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;

(b)gwasanaethau y gellir eu darparu mewn cysylltiad ag anghenion therapiwtig y plentyn o ran y mabwysiadu hwnnw;

(c)cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'r rhiant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn ac sy'n codi o'r mabwysiad hwnnw;

(ch)cymorth pan fo tarfu ar drefniant mabwysiadu neu leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd, gan gynnwys:

(i)cyfryngu; a

(ii)trefnu a rhedeg cyfarfodydd i drafod achosion tarfu ar fabwysiadu neu leoli;

(d)cymorth i bersonau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth ynglyn â'u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau;

(dd)cymorth i berthnasau personau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed, i gael gwybodaeth ynglyn â'r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'r person a fabwysiadwyd.

(3At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.

Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

3.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.

(3Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan —

(a)unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth;

(b)unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth;

(c)unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;

(ch)unrhyw awdurdod lleol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys —

(a)crynodeb o ddatganiad o ddiben yr asiantaeth;

(b)crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 19(1); ac

(c)cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.

(5Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.

(6Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r awdurdod cofrestru, i unrhyw oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rheoli bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

(8Ni fydd dim ym mharagraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i fynd yn groes i, neu i beidio â chydymffurfio ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r darparydd cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

4.  Rhaid i'r person cofrestredig —

(a)cadw golwg ar y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant, a phan fo'n briodol, eu hadolygu;

(b)hysbysu'r awdurdod cofrestru o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 o ddiwrnodau; ac

(c)os adolygir yr arweiniad plant, darparu copi i bob oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources