Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

5.—(1Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth —

(a)oni bai ei fod wedi hysbysu'r awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff hwnnw ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth; a

(b)oni bai bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Y gofynion yw —

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i redeg yr asiantaeth;

(b)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.

Penodi rheolwr

6.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel 'y rheolwr cofrestredig') i reoli'r asiantaeth.

(2Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol —

(a)enw unrhyw berson a benodir yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)y dyddiad y daw'r penodiad yn effeithiol.

Ffitrwydd y rheolwr

7.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig beidio â chaniatáu i berson reoli'r asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai —

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

(b)o ystyried maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

8.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, wedi iddynt ystyried —

(a)maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth; a

(b)yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles y rhai sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth,

redeg neu reoli'r asiantaeth â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.

(2Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.

(3Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod y rheolwr cofrestredig yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu tramgwyddau

9.—(1Pan fo'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol —

(a)dyddiad a lle'r gollfarn;

(b)y tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohoni;

(c)y gosb a osodwyd am y tramgwydd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources