Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 17/12/2018.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1806 (Cy.138)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

5 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy'n cael ei achosi gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1LL+CCYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym fel a ganlyn —

(a)Rhannau 1, 2, paragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 12 ac, at ddibenion y paragraff hwnnw yn unig, yn Rhan 5, rheoliadau 59(3) ac Atodlen 9 a rheoliad 74 ar 6 Gorffennaf 2005; a

(b)y gweddill, ar 16 Gorffennaf 2005.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr GwastraffLL+C

2.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn —

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb Wastraff” (“the Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(3) ar wastraff fel y'i diwygiwyd gan —

(i)Cyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC(4) a 91/692/EEC(5);

(ii)Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EC(6); a

(iii)Rheoliad (EC)Rhif 1882/2003(7); a

(b)ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—

(i)sy'n wastraff(8) at ddibenion y Gyfarwyddeb Wastraff; a

(ii)yn ddarostyngedig i reoliad 15, nas gwaharddwyd o rychwant y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gyfeiriad at yr amodau a osodwyd yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb honno, sef, sicrhau bod gwastraff yn cael ei adfer neu ei waredu heb beryglu iechyd dynol a heb ddefnyddio prosesau neu ddulliau a allai niweidio'r amgylchedd ac yn benodol—

(a)heb beri risg i ddŵr, aer, pridd a phlanhigion ac anifeiliaid;

(b)heb beri niwsans drwy sŵn neu arogleuon; ac

(c)heb effaith andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Gyfarwyddeb Gwastraff PeryglusLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus” (“the Hazardous Waste Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC(9) ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 94/31/EC(10).

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)Atodiad I, Atodiad II neu Atodiad III yn gyfeiriad at yr atodiad i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus a rifwyd felly, fel y nodir yr atodiad hwnnw yn y Rheoliadau hyn fel a ganlyn—

(i)Atodlen 1, sy'n dangos Atodiad I (Categorïau neu fathau generig o wastraff peryglus a restrwyd yn ôl eu natur neu'r gweithgaredd a'u cynhyrchodd);

(ii)Atodlen 2, sy'n nodi Atodiad II (Cyfansoddion gwastraffoedd yn Atodiad I.B sy'n eu gwneud yn beryglus pan fydd ganddynt y nodweddion a ddisgrifir yn Atodiad III); a

(iii)Atodlen 3, sy'n nodi Atodiad III (Nodweddion gwastraffoedd sy'n eu gwneud yn beryglus);

(b)mae nodweddion peryglus yn gyfeiriad at y nodweddion a geir ac a nodir yn Atodiad III.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y Rhestr WastraffoeddLL+C

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC(11) ar 3 Mai 2000 yn disodli Penderfyniad 94/3/EC sy'n sefydlu rhestr wastraffoedd yn unol ag Erthygl 1(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff a Phenderfyniad y Cyngor 94/904/EC sy'n sefydlu rhestr o wastraffoedd peryglus yn unol ag Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus, fel y'i diwygiwyd gan y diwygiadau i hynny sy'n effeithiol o dro i dro o ran Cymru yn unol â Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd;

ystyr “Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes Regulations”) yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005(12); ac

ystyr “y Rhestr Wastraffoedd” (“the List of Wastes”) yw'r rhestr wastraffoedd a nodir ym Mhenderfyniad y Rhestr Wastraffoedd fel y'i nodir o bryd i'w gilydd yn Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd, sef y rhestr y cyfeirir ati yn indent cyntaf Erthygl 1(4) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus a luniwyd ar sail Atodiadau I a II, a honno'n rhestr a chanddi un neu fwy o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III, gan gymryd i ystyriaeth darddiad a chyfansoddiad y gwastraff ac, os oes angen, gwerthoedd terfyn y crynodiad.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn ynglŷn â'r ffaith bod unrhyw wastraff—

(a)“wedi'i restru fel gwastraff ” ac “wedi'i restru fel gwastraff peryglus” yn cyfeirio at y ffaith bod y gwastraff hwnnw wedi'i restru fel gwastraff, neu fel gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd, ar yr amod, yn achos gwastraff y mae gwerth terfyn o grynodiad yn gymwys iddo, mai dim ond pan fo'r gwerth terfyn perthnasol o grynodiad wedi'i fodloni y dylid barnu ei fod wedi'i restru fel gwastraff peryglus;

(b)“heb ei restru fel gwastraff peryglus” yn cyfeirio at y ffaith bod y gwastraff hwnnw heb ei restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, p'un a ydyw wedi'i restru fel gwastraff ai peidio, neu p'un a ydyw fel arall yn wastraff peryglus ai peidio yn unol â'r Rheoliadau hyn;

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Dehongli'n GyffredinolLL+C

5.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “amlgasgliad” (“multiple collection”) yr ystyr a roddir gan reoliad 38;

mae i “ardal harbwr” yr un ystyr â “harbour area” yn Rheoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(13);

mae i “argyfwng neu berygl difrifol” (“emergency or grave danger”) yr ystyr a roddir gan reoliad 61;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw Asiantaeth yr Amgylchedd;

ystyr “atodlen y cludwyr” (“schedule of carriers”) yw'r ffurf ar atodlen a nodir yn Atodlen 5 ac y mae'n ofynnol ei chwblhau pan fo mwy nag un cludwr yn cludo, neu i gludo, y llwyth;

ystyr “cludwr” (“carrier”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw person sy'n cymryd un neu fwy o'r camau canlynol, sef, casglu'r llwyth o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu neu o'r fangre lle mae'n cael ei gadw, ei draddodi i'r traddodai, neu ei gludo wrth ei drosglwyddo o'r fangre honno i'r traddodai;

ystyr “cod chwe digid” (“six digit code”) yw'r cod chwe digid sy'n cyfeirio at fath o wastraff yn unol â'r Rhestr Wastraffoedd, ac mewn perthynas â gwastraff peryglus, mae'n cynnwys y seren;

mae “cod traddodi” (“consignment code”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 34(1);

mae “cymysgu” (“mixing”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 18;

ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “chwarter” (“quarter”) yw unrhyw gyfnod o dri mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(14);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(15);

ystyr “diwrnod busnes” (“business day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw—

(a)

unrhyw ddydd Sadwrn neu unrhyw ddydd Sul;

(b)

unrhyw ddydd Gwener y Groglith neu unrhyw ddydd Nadolig;

(c)

unrhyw ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(16); neu

(ch)

unrhyw ŵyl gyhoeddus arall;

ystyr “SIC” (“SIC”) yw'r cyhoeddiad sy'n dwyn y teitl “the UK Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003” a baratowyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'i gyhoeddi gan Wasg ei Mawrhydi ar 31 Rhagfyr 2002 ac a weithredwyd ar 1 Ionawr 2003(17);

ystyr “esemptiad cofrestredig” (“registered exemption”) yw gweithgaredd a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau 1994 ac sydd wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod cofrestru priodol yn unol â'r Rheoliadau hynny;

ystyr “gwasanaethau brys” (“emergency services”) yw gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân a'r gwasanaeth ambiwlans y mae'n debygol y byddai'n rhaid iddynt ymateb i argyfwng;

ystyr “gwasanaeth symudol” (“mobile service”) yw gwasanaeth sy'n cael ei weithredu o fangre ac sy'n cynnwys un neu ragor o'r gweithgareddau canlynol, sef, adeiladu, cynnal a chadw neu drwsio unrhyw fangre arall, neu sy'n cynnwys unrhyw osodion, ffitiadau neu gyfarpar a leolir yn y fangre arall honno, a hwnnw'n wasanaeth y mae gweithredydd y gwasanaeth yn cynhyrchu gwastraff peryglus wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw yn y fangre arall honno;

ystyr “gwastraff asbestos” (“asbestos waste”) yw gwastraff sy'n cynnwys asbestos neu a halogwyd ganddo;

mae i “gwastraff nad yw'n beryglus” (“non-hazardous waste”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7;

mae “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “llong” (“ship”) yw cwch o unrhyw fath gan gynnwys cwch ymsuddol, cwch arnofiol ac unrhyw strwythur sy'n llwyfan gosodedig neu arnofiol;

mae i “llong y Deyrnas Unedig” yr ystyr a roddir i “United Kingdom ship” yn adran 1 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(18);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw long ac unrhyw gyfrwng cludo arall y mae gwasanaeth symudol yn cael ei weithredu ohono;

ystyr “nodyn traddodi” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw ffurflen adnabod y mae'n ofynnol iddi fynd gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 5(3)(19) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus;

ystyr “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”) yw'r nodyn traddodi a nodir yn Atodlen 6 ac y mae'n ofynnol ei ddefnyddio mewn perthynas ag amlgasgliadau;

mae i “person awdurdodedig” yr ystyr a roddir i “authorised person” gan adran 108(15) o Ddeddf 1995;

ystyr “Rheoliadau 1994” (“the 1994 Regulations”) yw Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994(20);

ystyr “Rheoliadau 1996” (“the 1996 Regulations”) yw Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996(21);

ystyr “SEPA” yw Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban;

ystyr “traddodai” (“consignee”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person y mae'r gwastraff yn cael neu i'w drosglwyddo iddo i'w adfer neu ei waredu;

ystyr “traddodwr” (“consignor”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r person sy'n peri bod y gwastraff hwnnw'n cael ei symud o'r fangre lle cafodd y gwastraff ei gynhyrchu neu lle cedwir ef;

mae i “trwydded gwastraff” yr un ystyr â “waste permit” yn Atodlen 4 i Reoliadau 1994; ac

mae i “trwydded rheoli gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste management licence” gan adran 35(1) o Ddeddf 1990.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae gan yr ymadroddion canlynol (sef yr ymadroddion a ddiffinnir yn Erthygl 1(b) i (g) o'r Gyfarwyddeb Wastraff) yr ystyron sydd ganddynt yn y gyfarwyddeb honno, sef —

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol” (“the original producer”)) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff hwn;

ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person y mae'r gwastraff yn ei feddiant;

ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-gofal ar safleoedd gwaredu;

ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw un o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIA o'r Gyfarwyddeb Wastraff;

ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw rai o'r gweithrediadau y darperir ar eu cyfer yn Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff(22); ac

ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi, sortio neu gymysgu gwastraff neu unrhyw un neu fwy o'r gweithrediadau hynny, at ddibenion cludo,

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)caniateir i unrhyw ddogfen sydd i'w darparu neu i'w rhoi i unrhyw berson (heblaw hysbysiad cosb benodedig o dan Ran 10) gael ei darparu neu ei rhoi i'r person hwnnw ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(b)caiff unrhyw ofyniad i wneud neu gadw cofnod neu i ddal gafael ar gofnod neu i gadw cofrestr ei fodloni ar ffurf electronig os oes modd i'r testun hwnnw gael ei gynhyrchu gan y person hwnnw ar ffurf dogfen sy'n weladwy ac yn ddarllenadwy;

(c)caiff unrhyw ofyniad i lofnodi hysbysiad, nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad ei fodloni gan lofnod electronig wedi ei ymgorffori yn y ddogfen; ac

(ch)ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi'i atodi i ddata electronig arall neu wedi'i gysylltu'n rhesymegol ag ef ac sy'n gweithredu fel dull dilysu.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

RHAN 2LL+CGWASTRAFF PERYGLUS A GWASTRAFF NAD YW'N BERYGLUS

Gwastraff peryglusLL+C

6.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae gwastraff yn wastraff peryglus os yw—

(a)wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd(23);

(b)wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu

(c)yn swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 8 ei fod yn wastraff peryglus,

ac mae'r term “peryglus” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Gwastraff nad yw'n beryglusLL+C

7.  Nid yw'r canlynol yn wastraff peryglus—

(a)gwastraff nad yw'n wastraff peryglus yn unol â rheoliad 6; neu

(b)swp penodol o wastraff y penderfynwyd yn unol â rheoliad 9 ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus,

ac mae'r ymadrodd “nad yw'n beryglus” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Gwastraff penodol sydd i'w drin fel gwastraff peryglusLL+C

8.—(1Caiff y Cynulliad, gan ystyried Atodiadau I, II a III a gwerthoedd terfyn y crynodiad yn y Rhestr Wastraffoedd, benderfynu, mewn achosion eithriadol, bod swp penodol o wastraff yng Nghymru—

(a)nad yw wedi'i restru yn y Rhestr Wastraffoedd;

(b)nad yw wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu

(c)sy'n cael ei drin, er ei fod o fath sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff nad yw'n beryglus yn unol â rheoliad 9(2),

yn amlygu un neu ragor o'r nodweddion peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff peryglus.

(2Mae swp penodol o wastraff a gynhyrchwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd ac y penderfynir am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweithrediaeth yr Alban, neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd, ei fod yn wastraff peryglus yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff peryglus yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Gwastraff penodol i'w drin fel gwastraff nad yw'n beryglusLL+C

9.—(1Caiff y Cynulliad benderfynu, mewn achosion eithriadol, ar sail tystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan y deiliad, a chan ystyried Atodiadau I, II a III a gwerthoedd terfyn crynodiad yn y Rhestr Wastraffoedd, nad yw swp penodol o wastraff yng Nghymru sydd—

(a)wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd;

(b)wedi'i restru mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 62A(1) o Ddeddf 1990; neu

(c)sy'n cael ei drin, er ei fod o fath nad yw wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd, fel gwastraff peryglus yn unol â rheoliad 8(2),

yn amlygu unrhyw un o'r nodweddion a restrir yn Atodiad III i'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, ac felly ei fod i'w drin i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.

(2Mae swp penodol o wastraff a gynhyrchwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon ac sydd wedi'i restru fel gwastraff peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd ac y penderfynir am y tro gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweithrediaeth yr Alban, neu Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl y digwydd, ei fod yn wastraff nad yw'n beryglus yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd, i'w drin, yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad a wneir o dan reoliad 8, i bob pwrpas fel gwastraff nad yw'n beryglus yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Darpariaethau sy'n gyffredin i reoliadau 8 a 9LL+C

10.—(1Caiff y Cynulliad ddirymu penderfyniad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9.

(2Rhaid i'r Cynulliad, cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 8 neu 9 neu ddirymu penderfyniad o'r fath, ac eithrio os yw o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny oherwydd natur argyfwng neu berygl difrifol, ymgynghori â'r canlynol—

(a)y cyrff angenrheidiol;

(b)deiliad y swp penodol o wastraff; ac

(c)unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo—

(i)bod ganddo fuddiant yn y gwastraff penodol; neu

(ii)yr effeithir arno fel arall yn uniongyrchol gan y penderfyniad.

(3Rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad o unrhyw benderfyniad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 neu ddirymiad a wnaed o dan reoliad 8 neu 9 i'r canlynol—

(a)y cyrff angenrheidiol;

(b)deiliad y swp o wastraff penodol o dan sylw; ac

(c)unrhyw berson yr ymgynghorodd ag ef yn unol â pharagraff (2)(c).

(4Rhaid rhoi rhesymau yn yr hysbysiad dros y penderfyniad neu'r dirymiad, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Y cyrff angenrheidiolLL+C

11.  At ddibenion y Rhan hon, dyma'r “cyrff angenrheidiol”—

(a)yr Asiantaeth;

(b)SEPA;

(c)Yr Ysgrifennydd Gwladol;

(ch)Gweithrediaeth yr Alban;

(d)Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon(24);

(dd)Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; ac

(e)unrhyw gorff y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod yn cynrychioli personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y penderfyniad perthnasol neu'r dirymiad perthnasol o benderfyniad, yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

RHAN 3LL+CCYMHWYSO RHANNAU 4 I 10

Cymhwyso cyffredinol ar Rannau 4 i 10LL+C

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus.

(2Ac eithrio'r darpariaethau yn rheoliad 13 (cymhwyso i wastraff asbestos) ac 14 (cymhwyso i ffracsiynau a gesglir ar wahân), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff domestig(25) .

(3Nid oes dim sydd yn Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn (symud gwastraff peryglus) yn gymwys mewn perthynas â thrawslwytho gwastraff y mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor 259/93/EEC(26), heblaw Teitl III o'r rheoliad hwnnw, yn gymwys iddo.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff peryglus yng Nghymru er gwaethaf y ffaith bod gwastraff—

(a)wedi cael ei gynhyrchu ar fangre neu ei symud oddi yno yn yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar; neu

(b)yn cael ei gludo, neu i'w gludo, o fangre yng Nghymru i fangre yn un o'r lleoedd hynny.

(5Er mwyn osgoi amheuaeth, wrth eu cymhwyso—

(a)i wastraff llongau, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw long;

(b)i ddyfroedd mewnol a môr tiriogaethol y Deyrnas Unedig sy'n cydffinio â Chymru, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys, heb leihau effaith paragraff (3), i lwyth o wastraff a gludir mewn unrhyw long,

ym mhob achos (p'un a yw'r llong yn llong y Deyrnas Unedig neu fel arall ac, os llong y Deyrnas Unedig ydyw, p'un a gofrestrwyd hi yng Nghymru neu fel arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwastraff asbestosLL+C

13.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff asbestos sy'n wastraff domestig ac eithrio i'r graddau y byddent, heblaw am y paragraff hwn, yn gosod rhwymedigaethau ar berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd yn gynhyrchydd gwreiddiol y gwastraff domestig a hefyd naill ai—

(a)i berson sy'n preswylio yn y fangre ddomestig lle ceir y gwastraff asbestos; neu

(b)i berson sy'n gweithredu ar ran person o'r fath yn ddi-dâl.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu mewn perthynas â gwastraff asbestos nad yw'n wastraff domestig a gynhyrchir yn ystod unrhyw rai o weithgareddau adeiladu, addasu, trwsio a chynnal a chadw (gan gynnwys gwaith strwythurol) neu ddymchwel mangre ddomestig neu unrhyw ran ohoni, fel y byddant yn trin unrhyw gontractiwr sy'n cael ei gymryd ymlaen gan feddiannydd domestig—

(i)fel y cynhyrchydd; a,

(ii)os nad yw'r contractiwr yn cymryd person arall ymlaen fel traddodwr, fel y traddodwr,

o'r gwastraff asbestos heb gynnwys y meddiannydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahânLL+C

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i ffracsiynau domestig a gasglwyd ar wahân, sef, gwastraff peryglus—

(a)sy'n wastraff domestig; a

(b)a gasglwyd o'r fangre lle cynhyrchwyd ef ar wahân i'r casgliad o wastraff arall o'r fangre honno.

(2At ddibenion paragraff (1), ceir ystyried bod gwastraff peryglus wedi'i gasglu ar wahân i'r casgliad o wastraff arall er gwaethaf y ffaith iddo gael ei gasglu ar yr un pryd neu ar yr un cerbyd neu'r ddau, ar yr amod nad yw'r gwastraff peryglus yn cael ei gymysgu gyda'r gwastraff arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân.

(4Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ffracsiynau a gesglir ar wahân tan y caiff y gwastraff hwnnw ei symud o'r fangre lle cafodd ei gynhyrchu i fangre ar gyfer casglu, gwaredu neu adfer.

(5Mae'r sefydliad neu'r ymgymeriad sy'n derbyn y gwastraff hwnnw yn y fangre honno i'w drin fel cynhyrchydd y gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwastraff ymbelydrolLL+C

15.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gwastraff ymbelydrol o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Sylweddau Ymbelydrol 1993(27)

(a)pan fydd yn esempt am y tro rhag gofynion—

(i)adran 13 (gwaredu gwastraff ymbelydrol); neu

(ii)adran 14 (cronni gwastraff ymbelydrol),

o'r Ddeddf honno gan adran 15 o'r Ddeddf honno neu yn unol â hi; a

(b)pan fydd un neu fwy o nodweddion peryglus yn codi heb fod o'i natur ymbelydrol.

(2Er gwaethaf rheoliad 2(1)(b)(ii), trinnir gwastraff ymbelydrol y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo fel gwastraff at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac yn unol â hynny trinnir ef fel gwastraff peryglus ac mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r gwastraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwastraff amaethyddolLL+C

16.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff amaethyddol cyn [F115 Mai 2007], ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i wastraff amaethyddol pryd bynnag y daeth yn wastraff.

(2At ddibenion y Rheoliad hwn, ystyr “gwastraff amaethyddol” yw gwastraff o fangre a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(28).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwastraff mwyngloddiau a chwareliLL+C

17.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wastraff o fwynglawdd neu chwarel cyn [F215 Mai 2007], ond maent yn gymwys ar ac ar ôl y dyddiad hwnnw i'r gwastraff hwnnw pa bryd bynnag y daeth yn wastraff.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 4LL+CCYMYSGU GWASTRAFF PERYGLUS

Ystyr cymysgu gwastraff peryglusLL+C

18.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod gwastraff peryglus o unrhyw ddisgrifiad wedi'i gymysgu os cymysgwyd ef â'r canlynol—

(a)categori gwahanol o wastraff peryglus;

(b)gwastraff nad yw'n beryglus; neu

(c)unrhyw sylwedd neu ddeunydd arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwahardd cymysgu gwastraff peryglus heb drwyddedLL+C

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw sefydliad neu ymgymeriad sy'n gwaredu neu'n adfer gwastraff peryglus, neu sy'n cynhyrchu, casglu neu gludo gwastraff peryglus gymysgu unrhyw wastraff peryglus.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys fel y byddai'n gwahardd proses a ddefnyddir i gynhyrchu gwastraff ac sy'n golygu cynhyrchu gwastraffoedd cymysg, sef proses heblaw un sy'n cymysgu gwastraff gydag unrhyw wastraff, sylwedd neu ddeunydd arall, sy'n golygu—

(a)newid yn natur neu gyfansoddiad y gwastraff hwnnw; neu

(b)cynhyrchu gwastraff arall.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r graddau y mae'r cymysgu'n rhan o weithrediad gwaredu neu adfer a'i fod wedi'i awdurdodi gan drwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, ac yn cael ei gyflawni yn unol â gofynion y drwydded honno neu'r esemptiad hwnnw (sut bynnag y mynegir y gofynion hynny).

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswydd i wahanu gwastraffoedd a gymysgwydLL+C

20.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deiliad—

(a)pan fo'r gwastraff peryglus wedi'i gymysgu heblaw o dan ac yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig, p'un ai gan y deiliad neu gan ddeiliad blaenorol; a

(b)pan fo'r gwahanu—

(i)yn dechnegol ac yn economaidd ddichonadwy; a

(ii)yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff.

(2Rhaid i'r deiliad drefnu bod gwaith gwahanu'r gwastraff yn cael ei wneud yn unol â thrwydded gwastraff neu esemptiad cofrestredig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Yn y Rheoliad hwn ystyr “gwahanu” yw gwahanu gwastraff oddi wrth unrhyw wastraff, sylwedd neu ddeunydd arall a gymysgwyd ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 5LL+CHYSBYSU'R FANGRE

Gofyniad i hysbysu'r fangreLL+C

21.—(1Pan fo gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu mewn unrhyw fangre heblaw mangre esempt neu'n cael ei symud oddi yno, rhaid hysbysu'r fangre i'r Asiantaeth yn unol â gofynion y Rhan hon.

(2Mae mangre a hysbyswyd yn briodol i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon yn fangre a hysbyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn am y cyfnod o ddeuddeg mis (“cyfnod yr hysbysiad”) sy'n dechrau ar yr amser effeithiol ac yn dod i ben ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hwnnw o ddeuddeg mis.

(3Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd gwastraff peryglus i hysbysu'r fangre berthnasol yn unol â rheoliadau 24 a 26 os nad yw wedi'i hysbysu fel arall eisoes.

(4Heb leihau effaith paragraff (3), caiff traddodwr, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 25, hysbysu mangre'r safle yn unol â'r rheoliad hwnnw a rheoliad 26.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I22Rhl. 21 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwahardd symud gwastraff peryglus o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esemptLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb symud, na pheri symud, na chludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre, onid yw'r fangre honno, pan symudir y gwastraff, yn fangre a hysbyswyd neu'n fangre esempt.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i symud neu gludo gwastraff peryglus o unrhyw fangre os oedd y gwastraff hwnnw wedi'i ddyddodi yn y fangre honno yn groes i adran 33 o Ddeddf 1990 heblaw drwy honni cydymffurfedd â thrwydded rheoli gwastraff neu esemptiad cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 22 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I24Rhl. 22 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Esemptiad rhag y gofyniad i hysbysuLL+C

23.—(1Nid oes angen hysbysu mangre esempt i'r Asiantaeth yn unol â'r Rhan hon.

(2Mae mangre o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), i'r graddau a bennir yn y paragraff hwnnw, yn fangre esempt am y tro—

(a)os cedwir y terfyn cymwys (heblaw mewn perthynas â llong); a

(b)os na symudir gwastraff peryglus o'r fangre gan unrhyw berson heblaw—

(i)cludwr cofrestredig; neu

(ii)cludwr sy'n esempt rhag y gofyniad i gofrestru fel cludwr cofrestredig yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(29).

(3Dyma'r disgrifiadau o fangreoedd—

(a)mangre swyddfa, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel swyddfa;

(b)mangre siop, i'r graddau bod y gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre fel siop;

(c)mangre sy'n cael ei defnyddio ar gyfer amaethyddiaeth o fewn ystyr Deddf Amaethyddiaeth 1947(30), i'r graddau bod gwastraff peryglus yn deillio wrth ddefnyddio'r fangre ar gyfer amaethyddiaeth;

(ch)mangre o ddisgrifiad a restrir—

(i)ym mharagraffau (a) i (e) o adran 75(5) o Ddeddf 1990; neu

(ii)yn Atodlen 1 i Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(31),

(d)mangre lle mae cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig yn cael ei gasglu, i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw;

(dd)mangre sy'n cael ei defnyddio gan bractis deintyddol, milfeddygol neu feddygol i'r graddau y mae'r fangre yn cael ei defnyddio at y diben hwnnw; ac

(e)unrhyw long.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 23 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I26Rhl. 23 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysiad gan gynhyrchyddLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i gynhyrchydd gwastraff peryglus hysbysu mangre'r safle i'r Asiantaeth neu, os yw'n gweithredu gwasanaeth symudol ac yn dewis trin mangre'r gwasanaeth fel y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig, mangre'r gwasanaeth—

(a)cyn y tro cyntaf y mae'n cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle, neu, yn achos hysbysu mangre'r gwasanaeth ar unrhyw un o'r mangreoedd perthnasol ar safle, yn ôl gofynion yr achos;

(b)os oedd y fangre berthnasol cyn hynny yn fangre a hysbyswyd, ond bod cyfnod yr hysbysiad wedi dod i ben, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar fangre'r safle neu unrhyw un o fangreoedd cysylltiedig, yn ôl gofynion yr achos;

(c)pan fo'r fangre yn peidio â bod yn fangre esempt, cyn y tro nesaf y bydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus ar y safle honno; neu

(ch)os bydd y fangre a hysbyswyd yn peidio â bod yn fangre'r gwasanaeth mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig o ran mynd dros y terfynau cymwys y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 30 mewn perthynas â'r fangre gysylltiedig honno, cyn mynd dros y terfynau hynny.

(2Os na ellir yn rhesymol ragweld y bydd gweithgareddau'r cynhyrchydd yn cynhyrchu gwastraff peryglus, mae paragraff (1) yn gymwys fel pe rhoddid yn lle “cyn” bob tro y mae'n digwydd, “cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn”.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 24 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I28Rhl. 24 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Hysbysiad gan draddodwrLL+C

25.—(1Rhaid i draddodwr sy'n bwriadu symud, neu beri symud, unrhyw wastraff peryglus o unrhyw fangre hysbysu'r fangre honno i'r Asiantaeth—

(a)os y fangre honno yw mangre'r safle ac os na wyddys pwy yw'r cynhyrchydd, neu os na ellir dod o hyd iddo heb anhwylustod afresymol neu dreuliau afresymol; neu

(b)os na chynhyrchwyd y gwastraff ar y fangre honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 25 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I30Rhl. 25 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Darpariaethau cyffredin ynghylch hysbysiadauLL+C

26.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys p'un a roddir hysbysiad gan neu ar ran y cynhyrchydd neu'r traddodwr.

(2Gellir rhoi hysbysiad o'r fangre berthnasol yn ysgrifenedig neu dros y ffôn.

(3Ni cheir rhoi hysbysiad heb gydsyniad yr Asiantaeth fwy nag un mis ymlaen llaw i'r amser y bydd yn effeithiol.

(4Rhaid i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad roi'r wybodaeth ganlynol i'r Asiantaeth—

(a)ei enw a'i gyfeiriad a manylion sut y gellir cysylltu ag ef, ac os yw'n hysbysu ar ran person arall, enw a chyfeiriad y person hwnnw a manylion sut y gellir cysylltu â'r person hwnnw;

(b)cyfeiriad y fangre sy'n cael ei hysbysu;

(c)dosbarthiad y fangre yn unol â'r SIC; ac

(ch)unrhyw wybodaeth arall y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani mewn cysylltiad â'i swyddogaethau monitro symud gwastraff peryglus, neu arolygu yn unol â rheoliad 56 o'r Rheoliadau hyn neu baragraff 13 o Atodlen 4 i Reoliadau 1994.

(5Os bydd unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth sy'n cael ei darparu yn unol â pharagraff (4) yn ystod y cyfnod hysbysu, nid yw'r fangre i'w thrin fel mangre sydd wedi'i hysbysu tan fydd yr Asiantaeth wedi cael yr wybodaeth sydd wedi'i diweddaru yn y fath fodd ag i fodloni gofynion paragraff (4).

(6Caiff yr Asiantaeth ragnodi model wedi ei fformadu i hysbysu mangre yn ysgrifenedig ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—

(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r model wedi'i fformadu ar ei gwefan ac mewn modd arall y mae'n ystyried sy'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt hysbysu'r fangre o'i gynnwys; a

(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod ystyried unrhyw hysbysiad oni chafodd ei wneud yn y model hwnnw a fformadwyd, neu mewn fformat ag effaith sylweddol debyg.

(7Rhaid i'r person sy'n hysbysu dalu i'r Asiantaeth y ffi berthnasol sy'n daladwy ar gyfer hysbysu'r fangre ar yr un pryd ag y rhoddir yr hysbysiad (ond nid oes unrhyw ffioedd yn daladwy mewn perthynas â gwybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (5)).

(8Os gofynnir iddi wneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth hysbysu person sy'n ddeiliad gwastraff peryglus neu sy'n cynnal busnes traddodi neu gasglu gwastraff peryglus p'un a yw unrhyw fangre lle mae'r person hwnnw yn bwriadu symud, peri symud neu gludo unrhyw wastraff peryglus yn fangre a hysbyswyd, ac os felly, y manylion sydd gan yr Asiantaeth ynghylch y person a hysbysodd y fangre ac amser effeithiol yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 26 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I32Rhl. 26 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cod mangreLL+C

27.—(1Pan hysbysir mangre berthnasol yn briodol i'r Asiantaeth, a bod yr Asiantaeth yn cael y ffi berthnasol, rhaid iddi wrth ei derbyn ddyroddi i'r person sy'n hysbysu god cofrestru, sef cod unigryw ar gyfer y fangre honno (“cod mangre”).

(2Caniateir i'r cod mangre gynnwys llythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 27 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I34Rhl. 27 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Yr amser effeithiolLL+C

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) o'r Rheoliad hwn a heb leihau effaith rheoliad 26(3), yr amser y mae'r hysbysiad yn cymryd effaith (“yr amser effeithiol”) yw—

(a)os oes cyfnod o hysbysiad blaenorol yn parhau mewn grym, pan ddaw'r cyfnod hwnnw i ben;

(b)os yw'r person sy'n rhoi'r hysbysiad yn gofyn am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano;

(c)ym mhob achos arall, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod busnes ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

(2Ni all hysbysiad ddod yn effeithiol cyn yr amser y bydd yr Asiantaeth yn dyroddi'r cod mangre ar gyfer y cyfnod y mae'r hysbysiad yn ymdrin ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 28 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I36Rhl. 28 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwasanaethau symudolLL+C

29.—(1Os yw cynhyrchydd gwastraff peryglus yn gweithredu gwasanaeth symudol, y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig yw mangre y mae paragraff (2) yn gymwys iddi (“mangre'r gwasanaeth”) tra gweithredir y gwasanaeth symudol hwnnw o fewn y terfynau cymwys ac yr ufuddheir i'r cyfyngiad deiliadaeth o ran pob mangre gysylltiedig.

(2Dyma'r mangreoedd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—

(a)y fangre lle gweithredir y gwasanaeth symudol; neu

(b)os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.

(3Os yw unrhyw fangre—

(a)yn fangre safle ar wahân i'r gwasanaeth symudol; a hefyd

(b)yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,

caniateir gwneud un hysbysiad unigol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 29 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I38Rhl. 29 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Y terfynau cymwysLL+C

30.—(1Y terfynau cymwys ar gyfer—

(a)gwasanaeth symudol yw bod cyfanswm maint y gwastraff peryglus a gynhyrchir wrth gynnal y gwasanaeth hwnnw mewn unrhyw set unigol o fangreoedd cysylltiedig yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis; a

(b)unrhyw fangre esempt yw bod cyfanswm y gwastraff peryglus a gynhyrchwyd yn y fangre yn llai na 200kg mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis.

(2Mae gwastraff peryglus a gynhyrchir ar fangre siop gan gwsmeriaid y meddiannydd i'w drin fel pes cynhyrchwyd gan y meddiannydd at ddibenion y Rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 30 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I40Rhl. 30 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Cyfyngiad y ddeiliadaethLL+C

31.  Cyfyngiad y ddeiliadaeth yw nad yw gweithredydd y gwasanaeth symudol naill ai'n berchen nac yn feddiannydd y mangreoedd cysylltiedig hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 31 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I42Rhl. 31 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Dehongli'n gyffredinol Ran 5LL+C

32.  Yn y Rhan hon—

mae i “amser effeithiol” (“effective time”) yr ystyr a roddir gan reoliad 28;

ystyr “cludwr cofrestredig” (“registered carrier”) yw cludwr a gofrestrwyd yn unol â Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989(32);

mae i “cyfnod hysbysu” (“period of notification”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Swyddfeydd, Siopau a Mangreoedd Rheilffyrdd 1963(33);

ystyr “ffi berthnasol” (“relevant fee”) yw'r ffi sy'n daladwy yn ôl cynllun a wnaed yn unol ag adran 41 o Ddeddf 1995;

mae i “cyfarpar gwastraff trydanol ac electronig” yr ystyr a roddir i “waste electrical and electronic equipment” yng Nghyfarwyddeb 2002/96/EC(34);

mae i “mangre a hysbyswyd” (“notified premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 21(2);

ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw'r fangre y mae'n ofynnol i'r cynhyrchydd neu'r traddodwr ei hysbysu;

mae i “mangre esempt” (“exempt premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 23;

mae i “mangre gwasanaeth” (“service premises”) yr ystyr a roddir gan reoliad 29(1);

ystyr “mangre gysylltiedig” (“related premises”) yw mangre safle lle mae gwasanaeth symudol yn cynhyrchu gwastraff y mae mangre safle yn fangre berthnasol ar ei gyfer yn unol â rheoliad 29;

ystyr “mangre safle” (“site premises”) yw mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu;

mae i “mangre siop” yr ystyr a roddir i “shop premises” gan adran 1(3) o Ddeddf 1963; a

mae i “mangre swyddfa” yr ystyr a roddir i “office premises” gan adran 1(2)(a) o Ddeddf 1963.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 32 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I44Rhl. 32 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 6LL+CSYMUD GWASTRAFF PERYGLUS

Codau traddodiLL+C

Safon codioLL+C

33.—(1Dyletswydd yr Asiantaeth o dro i dro yw dynodi safon, ac ar bob adeg gynnal mewn grym ddynodiad ar safon, (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “safon codio”), sy'n darparu ar gyfer cyfansoddiad codau traddodi at ddibenion y Rhan hon.

(2Rhaid i'r safon codio alluogi pob llwyth o wastraff peryglus gael cod traddodi unigryw.

(3Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau gwahanol i nodiadau traddodi a gwblhawyd mewn perthynas â gwastraff peryglus a symudwyd drwy biblinell yn unol â rheoliad 41, pan fo pibellau yn para am fwy na chwarter.

(4Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau traddodi gael eu ffurfio o lythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 33 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Codau traddodiLL+C

34.—(1Dyletswydd—

(a)y cynhyrchydd, o ran—

(i)llwyth o wastraff peryglus sydd i'w symud o fangre (heblaw llong) lle mae'r gwastraff yn cael ei gynhyrchu;

(ii)gwastraff peryglus sydd i'w symud drwy biblinell o fangre (heblaw llong) mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo; neu

(iii)gwastraff peryglus sydd i'w ddyddodi o fewn cwrtil y fangre lle'i cynhyrchwyd;

(b)meistr y llong, o ran unrhyw wastraff peryglus sy'n cael ei symud o long yn ardal harbwr (gan gynnwys gwastraff a ollyngwyd drwy ddamwain ar dir sy'n gyfagos â'r llong); ac

(c)y traddodwr, o ran unrhyw lwyth arall o wastraff peryglus,

yw rhoi i'r gwastraff peryglus god unigryw yn unol â'r safon codio sydd mewn grym ar y pryd.

(2Y cod a roddir yn unol â pharagraff (1) fydd y cod traddodi gwastraff peryglus o dan sylw at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 34 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Y dogfennau sydd i'w cwblhau ar gyfer llwythiLL+C

Cwblhau nodiadau traddodiLL+C

35.—(1Pan symudir gwastraff peryglus o unrhyw fangre—

(a)rhaid cwblhau nodyn traddodi yn unol â pharagraff (3) o'r rheoliad hwn a gofynion y rheoliad perthnasol os yw un o'r rheoliadau canlynol yn gymwys—

(i)rheoliad 36 (y weithdrefn safonol);

(ii)rheoliad 39 (symud gwastraff llong i gyfleusterau derbyn);

(iii)rheoliad 40 (symud gwastraff llong heblaw i gyfleusterau derbyn);

(iv)rheoliad 41 (symud gwastraff drwy biblinell); neu

(v)pan wrthodir y llwyth neu unrhyw ran ohono gan y traddodai, ym mhob achos yn unol â rheoliad 42 a 43;

(b)os bydd rheoliad 37 (Atodlen y cludwyr) yn gymwys, rhaid cwblhau atodlen y cludwyr yn unol â'r rheoliad hwnnw a pharagraff (3) o'r rheoliad hwn; ac

(c)os bydd rheoliad 38 (amlgasgliad) neu reoliad 44 (gweithdrefn amlgasglu ar gyfer llwythi a wrthodwyd) yn gymwys, rhaid cwblhau nodyn traddodi amlgasgliad yn unol â'r rheoliad cymwysadwy hwnnw a pharagraff (4) o'r rheoliad hwn.

(2Mae ffurf y nodyn traddodi a geir yn Atodlen 4, neu ffurf sydd yn gofyn am yr un wybodaeth yn yr un fformat ar y cyfan, i gael ei defnyddio a rhaid ei chwblhau fel y bydd yn cynnwys (lle dangosir yn y ffurf) yr holl wybodaeth y darparwyd ar ei chyfer yn yr Atodlen honno sy'n gymwys i'r achos.

(3Mae ffurf atodlen y cludwyr a geir yn Atodlen 5, neu ffurf sydd yn gofyn am yr un wybodaeth yn yr un fformat ar y cyfan, i gael ei defnyddio a rhaid ei chwblhau fel y bydd yn cynnwys (lle dangosir yn y ffurf) yr holl wybodaeth y darparwyd ar ei chyfer yn yr Atodlen honno sy'n gymwys i'r achos.

(4Mae ffurf y nodyn traddodi amlgasgliad a geir yn Atodlen 6, neu ffurf sy'n gofyn am yr un wybodaeth yn yr un fformat ar y cyfan, i gael ei defnyddio a rhaid ei chwblhau fel y bydd yn cynnwys (lle dangosir yn y ffurf) yr holl wybodaeth y darparwyd ar ei chyfer yn yr Atodlen honno sy'n gymwys i'r achos.

(5Yn y Rhan hon, mae cyfeiriad at ran o nodyn traddodi, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad wrth ei Rhif neu ddisgrifiad yn gyfeiriad at y rhan honno fel y mae'n ofynnol iddi gael ei Rhif o neu ei disgrifio yn ôl y digwydd yn y ffurf yn Atodlen 4, 5 neu 6 yn ôl y gofyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 35 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Y weithdrefn safonolLL+C

36.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob achos lle mae llwyth o wastraff peryglus i'w symud o fangre ac eithrio mewn achosion y mae unrhyw rai o reoliadau 38 i 41 yn gymwys iddynt.

(2Cyn symud y llwyth—

(a)rhaid i gynhyrchydd, neu ddeiliad, y gwastraff peryglus yn ôl y digwydd—

(i)paratoi copi o'r nodyn traddodi ar gyfer pob un o'r canlynol: cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus (os yw'n wahanol i'r traddodwr); y traddodwr; y cludwr; a'r traddodai;

(ii)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a

(iii)rhoi pob copi i'r cludwr;

(b)rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi a rhoi pob copi i'r traddodwr;

(c)rhaid i'r traddodwr—

(i)cwblhau Rhan D ar bob copi;

(ii)os nad y cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yw'r traddodwr, rhoi un copi iddo;

(iii)cadw un copi; a

(iv)rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr.

(3Rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—

(a)yn teithio gyda'r llwyth; a

(b)yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—

(a)cwblhau Rhan E ar y ddau gopi; a

(b)rhoi un copi i'r cludwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 36 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Atodlen y cludwyrLL+C

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ym mhob achos (p'un ai o dan reoliad 36, neu reoliad 40) os oes mwy nag un cludwr yn cludo'r llwyth, neu i gludo'r llwyth.

(2Cyn symud y llwyth—

(a)rhaid i'r traddodwr—

(i)paratoi copi o atodlen y cludwyr i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus (os yw'n wahanol i'r traddodwr), y traddodwr, pob cludwr a'r traddodai; a

(ii)rhoi pob copi i'r cludwr cyntaf;

(b)rhaid i'r cludwr cyntaf sicrhau bod pob copi y mae wedi'i dderbyn yn teithio gyda'r llwyth;

(c)wrth draddodi llwyth i bob cludwr dilynol—

(i)rhaid i'r cludwr blaenorol roi i'r cludwr dilynol bob copi o'r atodlen y mae wedi'i gael;

(ii)rhaid i'r cludwr dilynol gwblhau'r dystysgrif berthnasol ar bob copi, rhoi un i'r cludwr blaenorol a rhaid iddo gadw'r copi, a sicrhau bod pob copi sy'n weddill ac y mae wedi'i dderbyn yn teithio gyda'r llwyth; a

(iii)pan draddodir llwyth i draddodai, rhaid i'r cludwr gadw un copi o atodlen y cludwyr a rhoi pob copi sy'n weddill i'r traddodai.

(3Pan fo—

(a)trefniadau ar gyfer cludo'r llwyth heb eu gwneud gyda'r holl gludwyr y bwriedir iddynt fod yn ymwneud ag ef cyn cychwyn cludo; neu

(b)bod newid mewn unrhyw drefniadau o'r fath am unrhyw reswm ar ôl i'r cludo ddechrau,

mae paragraff (2) yn gymwys fel pe bai'r cludwr mewn meddiant o'r llwyth pan wneir trefniadau pellach, yn achos paragraff (a), neu'n effeithiol, yn achos paragraff (b), yn draddodwr a phe bai'r cludwr nesaf yn gludwr cyntaf.

(4Pan fydd y rheoliad hwn yn gymwys, heblaw mewn achos o lwyth o wastraff peryglus a wrthodwyd, mae rheoliad 36 yn effeithiol fel pe bai—

(a)cyfeiriad at wastraff peryglus yn cael ei symud yn cynnwys cyfeiriad at ei feddiant yn cael ei drosglwyddo i'r cludwr nesaf;

(b)ym mharagraff (2)(a)(i), y cyfeiriad at “y cludwr” yn gyfeiriad at “bob cludwr”;

(c)ym mharagraff (2)(a)(iii), 2(b) a (2)(c)(iv), y cyfeiriad at “y cludwr” yn gyfeiriad at “y cludwr cyntaf”;

(ch)ym mharagraff (3)(b) mewn perthynas â chludwr nad yw'n gludwr olaf, y cyfeiriad at “y traddodai” yn gyfeiriad at “y cludwr dilynol”;

(d)ym mharagraff (4)(b), y cyfeiriad at “y cludwr” yn gyfeiriad at “y cludwr olaf”.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 37 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

AmlgasgliadauLL+C

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i daith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;

(b)bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangre wahanol (nad yw unrhyw un ohonynt yn llong);

(c)bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru; ac

(ch)bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai,

a chyfeirir at daith sy'n bodloni'r amodau hyn yn y Rheoliadau hyn fel “amlgasgliad”.

(2Os yw'r cludwr yn dewis cymhwyso'r weithdrefn amlgasgliad a nodir yn y rheoliad hwn i amlgasgliad, mae gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i'r cludwr, ac i'r cynhyrchwyr, deiliaid a thraddodwyr y llwythi a gesglir yn ystod y cylch casglu.

(3Cyn y casgliad cyntaf, rhaid i'r cludwr—

(a)paratoi dau gopi o'r nodyn casglu amlgasgliadau, a chopi pellach ar gyfer pob cynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, y cesglir y gwastraff oddi wrtho yn ystod y cylch, ac un copi i bob traddodwr, mewn achosion pan nad cynhyrchydd, neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yw'r traddodwr;

(b)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi.

(4Cyn symud gwastraff o bob set o fangreoedd lle gwneir casgliad—

(a)rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, gwblhau'r atodlen i'r nodyn traddodi ar gyfer amlgasgliadau ar bob copi;

(b)rhaid i'r traddodwr a'r cludwr lofnodi eu priod ddatganiadau yn yr atodiad i'r nodyn traddodi ar gyfer amlgasgliadau ar bob copi o'r nodyn; ac

(c)rhaid i'r cludwr drosglwyddo copi sydd wedi'i gwblhau i'r cynhyrchydd neu'r deiliad ym mhob achos (ac os nad y cynhyrchydd na'r deiliad yw'r traddodwr, i'r traddodwr).

(5Ar ôl casglu'r llwyth olaf ond cyn ei gyflwyno i'r traddodai, rhaid i'r cludwr gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y cludwr yn adran C ar y ddau gopi sy'n weddill o'r nodyn traddodi.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 42, pan fydd y gwastraff wedi'i draddodi—

(a)rhaid i'r cludwr drosglwyddo i'r traddodai y ddau gopi sy'n weddill o'r nodyn;

(b)rhaid i'r traddodai gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y traddodai yn Adran C a chwblhau'r dystysgrif yn rhan D o'r nodyn ar y ddau gopi; ac

(c)rhaid i'r traddodai ddychwelyd un copi o'r nodyn sydd wedi'i gwblhau i'r cludwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 38 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Symud gwastraffoedd llongau i gyfleusterau derbynLL+C

39.—(1Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o long (gan gynnwys gormodedd neu ollyngiadau drwy lwytho neu ddadlwytho, a gafodd eu gollwng yn ddamweiniol ar dir yn gyfagos â'r llong) mewn ardal harbwr—

(a)i gyfleusterau derbyn a ddarperir yn yr ardal harbwr honno; neu

(b)drwy biblinell i unrhyw gyfleusterau o'r fath a ddarperir y tu allan i ardal harbwr.

(2Cyn bod y gwastraff yn cael ei symud o'r llong rhaid i feistr y llong—

(a)paratoi dau gopi o'r nodyn traddodi;

(b)cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi;

(c)cadw un copi; ac

(ch)rhoi un copi i weithredydd y cyfleusterau.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn llwyth o wastraff peryglus rhaid i weithredydd y cyfleusterau gwblhau Rhan E ar y copi a dderbyniodd.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 39 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Symud gwastraffoedd llongau heblaw i gyfleusterau derbynLL+C

40.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o long mewn ardal harbwr heblaw mewn achos y mae rheoliad 39 yn gymwys iddi.

(2Cyn symud y llwyth—

(a)rhaid i feistr y llong—

(i)paratoi tri chopi o'r nodyn traddodi;

(ii)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a

(iii)rhoi pob copi i'r cludwr;

(b)rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi;

(c)rhaid i feistr y llong—

(i)cwblhau Rhan D ar bob copi;

(ii)cadw un copi; a

(iii)rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr;

(ch)rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—

(i)yn mynd gyda'r llwyth; a

(ii)yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—

(a)cwblhau Rhan E ar y ddau gopi; a

(b)rhoi un copi i'r cludwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 40 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Symud gwastraff drwy biblinellLL+C

41.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o unrhyw fangre (heblaw llong), lle caiff ei gynhyrchu neu ei storio, drwy biblinell.

(2Cyn rhoi'r gwastraff mewn piblinell, ac, os yw'r piblinellu'n barhaus, ar ddechrau pob chwarter rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, yn ôl y digwydd—

(a)paratoi un copi o'r nodyn traddodi ar gyfer pob un o'r canlynol: y cynhyrchydd neu'r deiliad, yn ôl y digwydd (os yw'n wahanol i'r traddodwr), y traddodwr a'r traddodai;

(b)cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi, gyda'r ddarpariaeth bod yn rhaid cofnodi cyfradd y llif cyfartalog yn Rhan B3, ynghyd ag amcangyfrif o gyfanswm cyfaint y gwastraff sydd i'w biblinellu fesul wythnos neu fis calendr.

(3Rhaid i'r traddodai gwblhau Rhan E ar bob copi gyda'r addasiadau canlynol—

(a)yn Rhan E1, bernir bod y cyfeiriad at y dyddiad pan dderbyniwyd y gwastraff yn gyfeiriad at y dyddiad diwethaf pan dderbyniwyd y gwastraff gan y traddodai yn unol â'r nodyn traddodi hwnnw; a

(b)yn Rhan E2, nid oes angen manylion cofrestru'r cerbyd.

(4Rhaid i'r traddodai gadw un copi a sicrhau bod copi yn cael ei roi i'r traddodwr, ac i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, os yw'n wahanol i'r traddodwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 41 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Llwythi a wrthodwydLL+C

Dyletswydd traddodai nad yw'n derbyn y llwythLL+C

42.—(1Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 43 a 44 yn gymwys pan nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi llwyth o wastraff peryglus, p'un ai yn gyfan neu'n rhannol.

(2Nid yw gofynion rheoliad 36(4), 38(6)(b) ac (c), 39(3), neu 40(3) (sy'n ymwneud â dyletswyddau'r traddodai wrth dderbyn y llwyth) yn ôl y digwydd, yn gymwys i draddodai mewn perthynas â llwyth, neu ran ohono, a wrthodwyd.

(3Os rhoddwyd copïau o'r nodyn traddodi ynglyn â llwyth a wrthodwyd i'r traddodai, rhaid iddo—

(a)dangos ar Ran E o bob copi y mae'n ei gael nad yw'n derbyn y llwyth, neu ran o'r llwyth yn ôl y digwydd, a'r rhesymau pam nad yw'n derbyn y llwyth neu ran o'r llwyth;

(b)cadw un copi;

(c)rhoi un copi i'r cludwr; a

(ch)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys.

(4Os na roddwyd copïau o'r nodyn traddodi i'r traddodai rhaid iddo—

(a)paratoi esboniad ysgrifenedig o'i resymau dros beidio â derbyn y traddodi, gan gynnwys y manylion sy'n hysbys iddo am y llwyth, cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, y traddodwr a'r cludwr;

(b)rhoi'r cyfryw esboniad ysgrifenedig i'r cludwr;

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon un copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad, os yw'n hysbys; ac

(ch)cadw copi o'i esboniad ysgrifenedig.

(5Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—

(a)hysbysu'r Asiantaeth;

(b)gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus; ac

(c)cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y cyfarwyddiadau hynny yn cael eu cyflawni (gan gynnwys cwblhau unrhyw nodyn traddodi ar eu rhan).

(6Mae'n ddyletswydd ar gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi—

(a)i wneud trefniadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol i drosglwyddo'r llwyth neu'r rhan o'r llwyth a wrthodwyd i draddodai penodedig arall sy'n dal trwydded gwastraff neu sydd wedi'i gofrestru i gyflawni gweithgaredd esempt ar gyfer adfer neu waredu'r gwastraff; a

(b)i roi, ar unwaith—

(i)cyfarwyddiadau i'r cludwr yn unol â hynny; a

(ii)hysbysiad i'r Asiantaeth o'r trefniadau a'r cyfarwyddiadau.

(7Mewn unrhyw achos o fewn paragraff (6)(a), os na ellir dod o hyd i unrhyw draddodai amgen o fewn 5 niwrnod busnes, rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi wneud trefniadau i ddychwelyd y gwastraff i'r fangre y cafodd ei symud ohoni i'w storio yn unol ag amodau'r Gyfarwyddeb Wastraff hyd nes y deuir o hyd i draddodai addas.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 42 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Nodyn traddodi pellach ar gyfer llwyth a wrthodwydLL+C

43.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i symud unrhyw lwyth ar ôl iddo gael ei wrthod gan y traddodai ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 44 yn gymwys iddo.

(2Cyn symud y llwyth neu ran o'r llwyth o'r lle traddodi gwreiddiol, rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi gwreiddiol sicrhau bod copi o nodyn traddodi newydd wedi'i baratoi mewn perthynas â'r llwyth neu'r rhanlwyth a wrthodwyd i bob un o'r canlynol:

(a)cynhyrchydd y gwastraff peryglus;

(b)os nad cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus yw'r traddodwr, y traddodwr;

(c)y cludwr; ac

(ch)y traddodai newydd.

(3Rhaid i'r cynhyrchydd neu'r deiliad —

(a)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi o'r nodyn fel a ganlyn—

(i)dylid copïo'r wybodaeth y mae ei hangen i gwblhau Rhan A o'r nodyn traddodi gwreiddiol gan gynnwys y cod traddodi perthnasol a rhaid ychwanegu'r llythyren 'R' at ddiwedd y cod;

(ii)rhaid rhoi enw a chyfeiriad y traddodai newydd (gan gynnwys y cod post) yn Rhan A4; a

(iii)yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid copïo'r wybodaeth berthnasol a geir yn Rhan B o'r nodyn traddodi gwreiddiol (os gwrthodir rhan o'r llwyth, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r rhan honno) i Ran B; a

(b)rhoi pob copi i'r cludwr.

(4Os yw'r traddodai a wrthododd y llwyth neu ran o'r llwyth yn datgan yn ei esboniad ysgrifenedig bod y disgrifiad o'r gwastraff yn y nodyn traddodi gwreiddiol yn anghywir, rhaid i'r cynhyrchydd neu'r deiliad gynnwys yn lle hynny ddisgrifiad cywir o'r gwastraff yn y nodyn traddodi newydd.

(5Rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi.

(6Rhaid i'r cynhyrchydd neu'r deiliad a enwir yn y rhan berthnasol o'r nodyn traddodi gwreiddiol—

(a)cwblhau Rhan D ar bob copi;

(b)os nad y cynhyrchydd neu'r deiliad yw'r traddodwr, rhoi un copi i'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn ôl y digwydd; ac

(c)rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr.

(7Rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi o'r nodyn traddodi newydd a dderbyniodd—

(a)yn teithio gyda'r llwyth neu'r rhanlwyth;

(b)yn cael ei roi i'r traddodai newydd pan draddodir y llwyth neu'r rhanlwyth.

(8Rhaid i'r traddodai newydd—

(a)cwblhau Rhan E ar y ddau gopi o'r nodyn traddodi newydd; a

(b)rhoi un copi i'r cludwr.

(9Os oes mwy nag un cludwr i fod—

(a)ym mharagraffau (3)(b), (5) a (6)(c), mae cyfeiriadau at y cludwr i'w trin fel cyfeiriadau at y cludwr cyntaf;

(b)ym mharagraffau (2)(c) a (7) mae cyfeiriadau at y cludwr i'w trin fel cyfeiriadau at bob cludwr;

(c)ym mharagraff (7)(b), o ran cludwr nad yw'n gludwr olaf, mae'r cyfeiriad at “y traddodai newydd” i'w drin fel cyfeiriad at “y cludwr dilynol”; ac

(ch)ym mharagraff (8)(b) mae'r cyfeiriad at y cludwr i'w drin fel cyfeiriad at y cludwr olaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 43 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Y weithdrefn ar gyfer llwythi amlgasgliad a wrthodwydLL+C

44.—(1Pan fo dau lwyth neu fwy sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad yn cael eu gwrthod a'u bod i gael eu traddodi i'r un traddodai, os yw'r cludwr yn dewis cymhwyso'r weithdrefn amlgasglu a nodir yn rheoliad 38 i draddodi o'r fath, mae'r gofynion canlynol yn gymwys—

(a)rhaid i'r cludwr—

(i)paratoi dau gopi o'r nodyn traddodi amlgasgliad, ynghyd ag un copi ar gyfer pob cynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd, y mae ei lwyth wedi'i wrthod, ac un copi ar gyfer pob traddodwr, mewn achosion lle nad y traddodwr yw'r cynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl y digwydd; a

(ii)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi;

(b)cyn symud y gwastraff o'r fangre lle cafodd ei draddodi'n wreiddiol—

(i)rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, gwblhau'r atodiad i'r nodyn traddodi amlgasgliad ar bob copi a baratowyd gan y cludwr;

(ii)rhaid i'r traddodwr a'r cludwr lofnodi eu priod ddatganiadau i'r atodiad i'r nodyn traddodi amlgasgliad ar bob copi a baratowyd gan y cludwr;

(iii)rhaid i'r cludwr drosglwyddo copi sydd wedi'i gwblhau i'r cynhyrchydd neu'r deiliad ym mhob achos (ac os nad y cynhyrchydd yw'r traddodwr, i'r traddodwr).

(c)wrth draddodi'r gwastraff i'r traddodai newydd—

(i)rhaid i'r cludwr gwblhau'r manylion sydd i'w cwblhau gan y cludwr yn adran C ar bob copi o'r nodyn traddodi;

(ii)rhaid i'r cludwr drosglwyddo i'r traddodai bob copi o'r nodyn;

(iii)rhaid i'r traddodai gwblhau'r manylion sydd i'w cablhau gan y traddodai yn Adran C a chwblhau'r dystysgrif yn Rhan D o'r nodyn ar bob copi o'r nodyn; a

(iv)rhaid i'r traddodai ddychwelyd un copi o'r nodyn a gwblhawyd i'r cludwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 44 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswydd i draddodi o fewn terfyn amserLL+C

Dyletswydd i draddodi llwyth yn brydlonLL+C

45.  Dyletswydd y cludwr yw traddodi'r llwyth i'r traddodai yn brydlon a heb oedi'n ormodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 45 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Symudiadau trawsffiniolLL+C

Symud trawsffiniol o wastraff peryglusLL+C

46.  Mae Atodlen 7 yn effeithiol mewn cysylltiad ag adnabod cilyddol ar nodiadau traddodi a symud trawsffiniol o wastraff peryglus rhwng Cymru a Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gibraltar.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 46 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 7LL+CCOFNODION AC ATEBION

Cofnodion safleLL+C

Cofnodion gwastraff peryglus sydd wedi'i dipio (ei ollwng)LL+C

47.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n tipio (neu'n gollwng) gwastraff peryglus (p'un ai wrth ei waredu neu ei storio) yn neu ar unrhyw dir gofnodi ac enwi'r gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2Rhaid i gofnod gynnwys naill ai—

(a)cynllun safle wedi'i farcio â grid, neu

(b)cynllun safle â throsgaenau lle dangosir dyddodion y gwastraff sy'n cael ei dipio (ei ollwng) mewn perthynas â chyfuchliniau'r safle.

(3Mae cofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn i'w cadw mewn cofrestr.

(4Rhaid enwi'r dyddodion drwy gyfeirio at—

(a)y disgrifiad perthnasol a'r cod chwe digid yn y Rhestr Wastraffoedd, ynghyd â disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff; a

(b)y nodyn traddodi sy'n ymwneud â'r gwastraff hwnnw, ac eithrio lle gwaredir gwastraff o fewn cwrtil y fangre lle cynhyrchir ef, pan mae'n rhaid disgrifio'r dyroddion drwy gyfeirio at yr ateb chwarterol a roddir i'r Asiantaeth gan gynhyrchydd y gwastraff peryglus o dan reoliad 53.

(5Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofrestr yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag o fewn 24 awr ar ôl derbyn y gwastraff, neu'r dyddodion, yn ôl y digwydd;

(b)cadw'r gofrestr ar y safle lle mae'r tipio'n digwydd; ac

(c)cadw'r cofnodion—

(i)am dair blynedd ar ôl dyddodi'r gwastraff; neu

(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

(6Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o oriau at ddibenion y rheoliad hwn neu reoliad 48, dim ond y diwrnodau neu oriau unrhyw ddiwrnod busnes sydd i'w cyfrif.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 47 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Cofnodion gwaredu neu adfer gwastraff peryglus drwy ddulliau eraillLL+C

48.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd—

(a)yn gwaredu gwastraff peryglus yn neu ar dir (ac eithrio unrhyw waredu y mae rheoliad 47 yn ymdrin ag ef);

(b)yn adfer gwastraff peryglus yn neu ar dir; neu

(c)yn derbyn gwastraff peryglus mewn gorsaf drosglwyddo,

gofnodi ac enwi unrhyw wastraff peryglus a dderbyniwyd yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn a rheoliad 51.

(2Rhaid enwi'r gwastraff yn y cofnod drwy gyfeirio at y disgrifiad perthnasol yn y Rhestr Wastraffoedd a'r cod chwe digid, a rhaid i'r hyn a gofnodir gynnwys disgrifiad o gyfansoddiad y gwastraff.

(3Rhaid i'r cofnod gynnwys—

(a)maint, natur a tharddiad unrhyw wastraff o'r fath;

(b)y nodweddion peryglus perthnasol;

(c)pan fo'n gymwys, y dull adfer mewn perthynas â'r gwastraff drwy gyfeirio at y Rhif a'r disgrifiad cymwys yn unol ag Atodiad IIB o'r Gyfarwyddeb Wastraff; a

(ch)stocrestr yn dangos y lleoliad penodol lle delir y gwastraff.

(4Rhaid i gofnodion a wneir o dan y rheoliad hwn gael eu cadw mewn cofrestr.

(5Rhaid diweddaru'r gofrestr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag dim hwyrach na 24 awr ar ôl—

(a)derbyn llwyth o wastraff peryglus;

(b)unrhyw waith adfer neu waredu a wnaed neu ar ôl rhoi unrhyw wastraff peryglus i'w storio yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; neu

(c)symud unrhyw wastraff peryglus o'r fangre.

(6Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo wneud neu gadw cofnodion yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)cadw'r gofrestr o'r cofnodion ar y safle lle gwneir unrhyw waith adfer neu lle gweithredir yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd; a

(b)cadw'r cofnodion—

(i)lle'r adferir y gwastraff peryglus yn llawn, neu lle mae'n aros yn yr orsaf drosglwyddo, yn ôl y digwydd, nes y bydd yn gadael y safle ac am dair blynedd wedyn; neu

(ii)os oes ganddo drwydded gwastraff y gweithredir y safle yn unol â hi, hyd nes y bydd y drwydded honno wedi'i hildio neu wedi'i dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 48 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Cofnodion cynhyrchydd a chofnodion cludoLL+C

Cofnodion cynhyrchwyr, deiliaid a thraddodwyrLL+C

49.—(1Rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad gwastraff peryglus, ac, os yw'n wahanol i'r cynhyrchydd, traddodwr gwastraff peryglus, gadw cofnod o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff.

(2Os cludir y gwastraff, mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn cynnwys gofyniad i gadw cofnod o fanylion sy'n ddigonol i wybod pwy yw'r cludwr.

(3Rhaid i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn tra bydd yn parhau i fod yn ddeiliad y gwastraff a hynny am o leiaf dair blynedd wedyn gan ddechrau ar y dyddiad pan drosglwyddir y gwastraff i berson arall.

(4Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â'r darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn mewn cofrestr a gedwir gan y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, yn ôl y digwydd, at y diben.

(5Rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw a'i diogelu gan gynhyrchydd, deiliad neu draddodwr o dan baragraff (4) o'r rheoliad hwn gael ei chadw—

(a)o ran y gofrestr y mae'n ofynnol i gynhyrchydd neu ddeiliaid ei chadw—

(i)yn y fangre a hysbyswyd yn unol â rheoliad 24;

(ii)os nad yw'n meddiannu'r fangre honno bellach, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw); neu

(iii)os na hysbyswyd unrhyw fangre mewn perthynas â'r gwastraff, yn ei brif le busnes (neu unrhyw gyfeiriad arall y cytunir arno gyda'r Asiantaeth at y diben hwnnw).

(b)rhaid i'r gofrestr y mae'n ofynnol i draddodwr heblaw'r cynhyrchydd neu'r deiliad ei chadw gael ei chadw yn ei brif le busnes.

(6Os yw'r cynhyrchydd neu'r deiliad yn rhoi'r gorau i feddiannu'r fangre a hysbyswyd cyn y daw'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i ben, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 49 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Cofnodion cludwyrLL+C

50.—(1Rhaid i sefydliad neu ymgymeriad sy'n cludo gwastraff peryglus gadw cofnodion o faint, natur, tarddiad ac, os yw'n berthnasol, cyrchfan, amledd casglu, cyfrwng cludo a dull trin y gwastraff yn unol â gofynion canlynol y rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r sefydliad neu'r ymgymeriad gadw'r cofnodion sydd i'w gwneud yn unol â'r rheoliad hwn am o leiaf ddeuddeng mis gan ddechrau ar y dyddiad y traddodir y gwastraff i'w gyrchfan.

(3Rhaid cofnodi'r wybodaeth sydd i'w chofnodi yn unol â pharagraff (1) mewn cofrestr a rhaid cadw'r gofrestr ym mhrif le busnes y cludwr.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 50 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Cofrestrau a chofnodion: darpariaethau cyffredinLL+C

51.—(1Mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chofrestrau y mae'n ofynnol eu cadw o dan reoliadau 47 i 50.

(2Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr roi yn y gofrestr bob copi y mae'n ei gael o'r canlynol—

(a)unrhyw nodyn traddodi (gan gynnwys nodiadau amldraddodi a phan na dderbynnir llwythi, y nodyn gwreiddiol, copi o unrhyw esboniad o'r rhesymau dros wrthod a baratowyd yn unol â rheoliad 42 a'r nodyn traddodi a baratowyd yn unol â rheoliad 43 neu 44);

(b)ateb unrhyw draddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr a'i derbyniodd yn unol â rheoliad 54; ac

(c)unrhyw atodlen cludwr a roddwyd iddo yn unol â rheoliad 37.

(3Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofrestr neu gadw cofnodion hyd nes y bydd ei drwydded gwastraff wedi'i hildio neu wedi'i dirymu anfon y cofnodion hynny neu'r gofrestr honno i'r Asiantaeth pan ildir neu ddirymir y drwydded.

(4O ran pob cofrestr a gedwir neu gofnod a wneir yn unol â rheoliad 15 neu 16 o Reoliadau 1996, a phob cofnod a wneir yn unol â rheoliad 13 neu 14 o Reoliadau Rheoli Llygredd (Gwastraff Arbennig) 1980—

(a)rhaid eu cadw gyda'r gofrestr a gedwir yn unol â rheoliad 47 i 49 gan y person y mae'n ofynnol iddo gadw'r cofrestr honno, am y cyfnod a grybwyllir yn y rheoliad perthnasol; a

(b)rhaid eu hanfon gan y person hwnnw ynghyd â'r gofrestr honno os anfonir hi at yr Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 51 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Hawl deiliad blaenorol i gael gwybodaethLL+C

52.—(1Mae dyletswydd gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo ar gyfer gwaredu neu adfer, yn ôl y digwydd, i unrhyw ddeiliad blaenorol y gwastraff, i roi i'r deiliad blaenorol hwnnw dystiolaeth ddogfennol pan ofynnir amdani bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd, i'r Gyfarwyddeb Wastraff.

(2Rhaid i unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod (na chaniateir iddo fod yn llai na saith niwrnod) y mae'r wybodaeth i'w darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 52 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Atebion chwarterol traddodai ac atebion hunanwaredu chwarterolLL+C

53.—(1Rhaid i bob traddodai roi ateb, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel ateb chwarterol y traddodai, i'r Asiantaeth o wybodaeth sy'n ymwneud â holl lwythi gwastraff peryglus a dderbyniwyd ganddo yn unrhyw chwarter yn unol â pharagraff (4).

(2Rhaid i'r ateb gynnwys—

(a)llwythi a wrthodwyd;

(b)gwastraff peryglus a draddodwyd drwy biblinell os yw rheoliad 41 yn gymwys; ac

(c)yn achos amlgasgliadau, pob llwyth unigol a gasglwyd.

(3Mewn unrhyw chwarter os gwaredir gwastraff peryglus drwy ei ddodi yng nghwrtil y fangre lle'i cynhyrchir, rhaid i'r cynhyrchydd roi ateb mewn perthynas â'r chwarter hwnnw o wybodaeth sy'n ymwneud â'r dyddodi i'r Asiantaeth, yn unol â pharagraff (4).

(4Rhaid i ateb a roddir yn unol â'r rheoliad hwn mewn perthynas â chwarter gael ei dychwelyd dim hwyrach na'r amser a bennir yn y golofn ar y llaw dde yn y tabl isod mewn perthynas â'r chwarter a bennir yn y golofn ar y llaw chwith:

Y chwarter pan dderbyniwyd, neu pan ddyddodwyd y gwastraff peryglus, yn ôl y digwyddYr ateb i ddod i law'r Asiantaeth ddim hwyrach na
Diweddu ar 31 Mawrth30 Ebrill yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 30 Mehefin31 Gorffennaf yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 30 Medi31 Hydref yn yr un flwyddyn pan fo'r chwarter yn digwydd
Diweddu ar 31 Rhagfyr31 Ionawr yn y flwyddyn nesaf ar ôl i'r chwarter ddigwydd

(5Caiff yr Asiantaeth ragnodi fformat ar gyfer rhoi atebion o dan y rheoliad hwn ac, os rhagnodir fformat am y tro yn unol â'r paragraff hwn—

(a)rhaid i'r Asiantaeth gyhoeddi'r fformat ar ei gwefan ac mewn unrhyw fodd arall yr ystyria'n briodol i hysbysu personau y mae'n ofynnol iddynt gyflwyno atebion o'r fath iddynt o'i chynnwys; a

(b)nid yw'r Asiantaeth yn gorfod barnu bod ateb wedi'i roi yn briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn oni chafodd ei roi yn y fformat hwnnw, neu mewn fformat sylweddol o ran effaith.

(6Os bydd yr Asiantaeth yn rhagnodi ffi sy'n daladwy gan draddodai drwy gynllun codi tâl a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel dull o adennill ei chostau a dynnwyd wrth iddi gyflawni swyddogaethau o ran y llwythi sydd wedi'u cynnwys mewn atebion chwarterol y traddodai, caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan y Rheoliadau hyn o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Rhl. 53 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Atebion y traddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwrLL+C

54.  Heb leihau effaith unrhyw ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn ar ran y traddodai i anfon unrhyw ddogfen neu gopi ohoni at y cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr, rhaid i draddodai anfon at gynhyrchydd neu ddeiliad a enwir yn y rhan berthnasol o nodyn traddodi—

(a)ateb ar ffurf sy'n cyfateb i'r ffurf a welir yn Atodlen 8 neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith o fewn un mis o ddiwedd y chwarter y derbyniwyd y gwastraff o dan sylw; neu

(b)copi o'r nodyn traddodi ynghyd â disgrifiad o'r dull gwaredu neu adfer a ddefnyddiwyd mewn perthynas â'r gwastraff o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y cafodd y gwastraff o dan sylw ei dderbyn.

(2Os traddodwyd gwastraff peryglus drwy biblinell mewn achos y mae rheoliad 41 yn gymwys iddo, mae paragraff (1) yn gymwys fel bod yr ateb sy'n ofynnol o dan is-baragraff (a) neu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan is-baragraff (b) i'w ddarparu o fewn un mis i ddiwedd y chwarter y rhoddwyd y gwastraff o dan sylw mewn piblinell.

(3Os yw rheoliad 42 yn gymwys, nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r llwyth neu'r rhanlwyth o dan sylw.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Rhl. 54 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswyddau i roi gwybodaethLL+C

55.—(1Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw unrhyw gofnod yn unol ag unrhyw rai o'r darpariaethau blaenorol yn y Rhan hon, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol cadw'r cofnod, ddangos y cofnod hwnnw i'r Asiantaeth neu'r gwasanaethau brys pan ofynnir amdano.

(2Rhaid i gynhyrchydd, deiliad, deiliad blaenorol, traddodwr, cludwr neu draddodai gwastraff peryglus roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth fod ei hangen yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac at ddibenion monitro cynhyrchiant, symud, storio, trin, adfer a gwaredu gwastraff peryglus.

(3Mae gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo i'w adfer neu i'w waredu, yn ôl y digwydd, y ddyletswydd i roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani dystiolaeth ddogfennol bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd o'r Gyfarwyddeb Wastraff.

(4Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth i'r Asiantaeth yn unol â'r rheoliad hwn roi'r wybodaeth honno yn y ffurf y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani.

(5Mae'r pŵer a roddir gan baragraff (4) yn cynnwys pŵeri'w gwneud yn ofynnol i ddangos ar ffurf weladwy a darllenadwy unrhyw wybodaeth a ddelir ar ffurf electronig.

(6Mae unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn i fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae'r wybodaeth i'w darparu.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Rhl. 55 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 8LL+CSWYDDOGAETHAU'R ASIANTAETH

Arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglusLL+C

56.  Dyletswydd yr Asiantaeth yw cyflawni arolygiadau o dro i dro priodol ar gynhyrchwyr gwastraff peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Rhl. 56 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Arolygu gweithrediadau casglu a chludoLL+C

57.—(1Mewn perthynas ag arolygiadau priodol o dro i dro ar weithrediadau casglu a chludo y mae angen eu cynnal yn unol ag Erthygl 13 o'r Gyfarwyddeb Wastraff gan yr Asiantaeth(35), heb leihau yn gyffredinol effaith y gofyniad i gynnal arolygiadau o'r fath, dyletswydd yr Asiantaeth i'r graddau y mae'r arolygiadau'n ymwneud â gwastraff peryglus yw cynnal yr arolygiadau fel eu bod yn ymwneud yn benodol â tharddiad a chyrchfan y gwastraff peryglus.

(2Ym mharagraff (1), mae “gweithrediadau casglu a chludo” yn cynnwys gweithrediadau lle cludir y gwastraff peryglus ar ôl ei drosglwyddo rhwng gwahanol gludwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Rhl. 57 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Asiantaeth i gadw cofrestrau etcLL+C

58.  Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestrau a anfonwyd ati ac unrhyw gofnodion sy'n dod gyda'r cofrestrau hynny yn unol â rheoliad 51(3), am gyfnod nad yw'n llai na thair blynedd ac sy'n dechrau pan dderbynnir hwy gan yr Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Rhl. 58 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

FfioeddLL+C

59.—(1Diwygir adran 41 o Ddeddf 1995 (pŵer i wneud cynlluniau sy'n gosod taliadau) fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1)(c) rhodder—

(c)as a means of recovering costs incurred by it in performing functions conferred by regulations made for the purpose of implementing Council Directive 91/689/EEC the Agency may require the payment to it of such charges as may from time to time be prescribed;.

(3Mae Atodlen 9 yn effeithiol i wneud darpariaeth mewn perthynas â ffioedd sydd i'w codi gan yr Asiantaeth mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn nes y daw cynllun codi tâl o dan adran 41 o Ddeddf 1995 i adennill y costau a dynnir gan yr Asianaeth wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I71Rhl. 59(1)(2) mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

I72Rhl. 59(3) mewn grym ar 16.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I73Rhl. 59(3) mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Darparu gwybodaeth i'r Cynulliad CenedlaetholLL+C

60.—(1Rhaid i'r Asiantaeth hysbysu'r Cynulliad bob blwyddyn o unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob sefydliad neu ymgymeriad sy'n gwaredu neu adfer gwastraff peryglus yn bennaf ar ran trydydd partïon ac sydd yn debygol o ffurfio rhan o'r rhwydwaith integredig y cyfeirir ati yn Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb Wastraff—

(a)enw a chyfeiriad;

(b)y dull a ddefnyddir i drin gwastraff; ac

(c)y mathau a'r meintiau o wastraff y gellir eu trin.

(2Rhaid i'r Asiantaeth ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan baragraff (1) yn y fformat a ddarperir yn unol â phedwerydd paragraff Erthygl 8(3) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Rhl. 60 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 9LL+CARGYFYNGAU A PHERYGL DIFRIFOL

CyffredinolLL+C

61.—(1Mae'r Rhan hon yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaeth ar gyfer argyfwng neu berygl difrifol.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “argyfwng neu berygl difrifol” yn sefyllfa bresennol neu sefyllfa a fygythir sy'n codi o sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu fod sail resymol dros gredu hynny, ac mae'r sefyllfa yn fygythiad i'r boblogaeth neu'r amgylchedd yn unrhyw le.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Rhl. 61 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswyddau cyffredinol y deiliad os bydd argyfwng neu berygl difrifolLL+C

62.—(1Mewn achosion o argyfwng neu berygl difrifol, rhaid i ddeiliad gwastraff peryglus—

(a)cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i osgoi argyfwng neu berygl difrifol; neu

(b)os nad yw'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio â pharagraff (a), cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i liniaru'r argyfwng neu berygl difrifol.

(2At ddibenion paragraff (1), gellid ystyried gweithred neu anweithred yn gyfreithlon er y byddai, heblaw am y rheoliad hwn, yn ffurfio toriad yn y Rheoliadau hyn.

(3Os yw deiliad gwastraff peryglus yn gwybod neu os oes ganddo sail resymol dros gredu bod argyfwng neu berygl difrifol wedi codi, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth o'r amgylchiadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(4Os bydd y deiliad yn cymryd unrhyw gam sy'n cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid iddo, oni fydd y cam hwnnw wedi llwyr osgoi'r argyfwng neu'r perygl difrifol heb dorri'r Rheoliadau hyn, hysbysu'r Asiantaeth cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(5At ddibenion paragraff (4), bernir na fydd argyfwng neu berygl difrifol wedi cael ei osgoi'n llwyr os rhyddhawyd unrhyw sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu os oes sail resymol dros gredu hynny, p'un a yw'r deiliad yn credu ai peidio ei fod wedi llwyr ddifetha'r sylwedd neu'r gwrthrych, eu hadennill neu beri nad oes dim niwed ynddynt.

(6Os digwydd hysbysiad yn unol â pharagraff (3) neu (4) os hysbysir yn llafar, rhaid i'r deiliad gadarnhau yn ysgrifenedig i'r Asiantaeth y materion a hysbyswyd o fewn un wythnos ar ôl yr hysbysiad llafar.

(7At ddibenion y rheoliad hwn nid yw person i'w ryddhau o unrhyw ofyniad a osodir gan y rheoliad hwn ddim ond am ei fod wedi peidio â bod yn ddeiliad oherwydd bod y gwastraff wedi mynd o'i feddiant neu ei reolaeth oherwydd y rhyddhad.

Gwybodaeth Cychwyn

I76Rhl. 62 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dyletswyddau cyffredinol yr AsiantaethLL+C

63.—(1Rhaid i'r Asiantaeth arfer ei swyddogaethau (p'un ai o dan y Rheoliadau hyn neu fel arall) fel y bydd yn cymryd pob cam rhesymol ymarferol sy'n angenrheidiol neu'n hwylus i osgoi neu liniaru argyfwng neu berygl difrifol.

(2Rhaid i berson awdurdodedig wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag argyfwng neu berygl difrifol arfer ei bwerau o dan adrannau 108 a 109 o Ddeddf 1995 er mwyn cymryd pob cam sy'n rhesymol ymarferol i osgoi neu liniaru'r argyfwng neu'r perygl difrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Rhl. 63 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 10LL+CGORFODI

GorfodiLL+C

64.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd yr Asiantaeth yw gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw hawl i ddwyn achos a all fod gan unrhyw berson sy'n codi ar wahân i'r Rheoliadau hyn, neu unrhyw hawl, pŵer neu ddyletswydd arall gan unrhyw berson naill ai yn y gyfraith neu'n codi yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniad (yn ddatganedig neu ymhlyg) neu o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Rhl. 64 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

TramgwyddauLL+C

65.  Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan neu o dan y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn—

(a)Rhan 4;

(b)rheoliadau 21, 22, 24, 25 a 26;

(c)rheoliadau 34 i 44;

(ch)rheoliadau 46 ac Atodlen 7;

(d)Rhan 7 (ac eithrio rheoliad 52); ac

(dd)rheoliad 62.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Rhl. 65 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

AmddiffyniadauLL+C

66.  Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 65 i brofi—

(a)nad oedd yn rhesymol yn gallu cydymffurfio â'r ddarpariaeth o dan sylw oherwydd argyfwng neu berygl difrifol a'i fod wedi cymryd pob cam a oedd yn rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau—

(i)i gadw i'r lleiaf posibl unrhyw fygythiad i'r cyhoedd neu'r amgylchedd; a

(ii)i sicrhau cydymffurfedd â'r ddarpariaeth o dan sylw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad; neu

(b)os nad oes unrhyw argyfwng neu berygl difrifol, ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni tramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Rhl. 66 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Atebolrwydd personau heblaw'r prif dramgwyddwrLL+C

67.—(1Os cyflawnir tramgwydd gan unrhyw berson o dan y Rhan hon oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall, gellir cyhuddo'r person arall hwnnw o dramgwydd a'i gollfarnu yn rhinwedd y paragraff hwn p'un a ddygwyd achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.

(2Os cyflawnwyd tramgwydd o dan y Rhan hon gan gorff corfforaethol a phrofir iddo gael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu mewn swydd o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.

(3Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (2) yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol.

Gwybodaeth Cychwyn

I81Rhl. 67 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Gwybodaeth anwir a chamarweiniolLL+C

68.—(1Bydd unrhyw berson sydd, wrth gymryd arno ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan neu o dan unrhyw rai o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn i roi unrhyw wybodaeth, yn gwneud a datganiad y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu'n gwneud unrhyw ddatganiad yn ddi-hid sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn cyflawni tramgwydd.

(2Mae person sy'n fwriadol yn gwneud cofnod anwir mewn unrhyw gofnod neu gofrestr y mae'n ofynnol eu cadw yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau blaenorol yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I82Rhl. 68 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

CosbauLL+C

69.—(1Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r rheoliadau canlynol, sef—

(a)rheoliad 21 (gofyniad i hysbysu mangre);

(b)rheoliad 22 (gwahardd symud gwastraff o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt);

(c)rheoliadau 24 i 26 (hysbysiadau);

(ch)rheoliad 34 (codau traddodi);

(d)rheoliadau 35 i 44 (nodiadau traddodi);

(dd)rheoliad 46 ac Atodlen 7 (llwythi trawsffiniol);

(e)rheoliad 53 (atebion chwarterol traddodai ac atebion hunanwaredu chwarterol);

(f)rheoliad 54 (atebion y traddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr); neu

(ff)rheoliad 55 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth),

yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 neu 68 mewn cysylltiad ag unrhyw ofyniad arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Rhl. 69 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Cosbau penodedigLL+C

70.—(1Pan fydd gan berson awdurdodedig sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth reswm i gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff y person awdurdodedig roi hysbysiad i'r person hwnnw yn cynnig cyfle iddo ryddhau ei hun oddi wrth unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd hwnnw drwy dalu cosb benodedig.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dramgwydd sy'n golygu—

(a)methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff); neu

(b)gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol gan honni cydymffurfio ag unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff).

(3Os rhoddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thramgwydd—

(a)ni ellir dwyn achos am y tramgwydd hwnnw cyn pen wyth diwrnod ar hugain ar ôl dyddiad yr hysbysiad; a

(b)ni cheir ei gollfarnu o'r tramgwydd hwnnw os yw'n talu'r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi'r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn golygu tramgwydd fel sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi gwybodaeth resymol am y tramgwydd a rhaid iddo ddatgan—

(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd paragraff (3), ni ddygir achos am y tramgwydd;

(b)swm y gosb benodedig; ac

(c)enw'r person y telir y gosb benodedig iddo a'r cyfeiriad lle gellir talu.

(5Heb leihau effaith talu drwy unrhyw ddull arall, ceir talu cosb benodedig drwy anfon llythyr y talwyd amdano ymlaen llaw a'i bostio at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw sy'n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall).

(6Os anfonir llythyr yn unol â pharagraff (5) bernir bod taliad wedi'i wneud ar yr amser y byddid yn traddodi'r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.

(7Rhaid anfon hysbysiad o gosb benodedig a ddyroddwyd yn unol â'r adran hon yn y ffurf a osodir yn Atodlen 10.

(8Y gosb benodedig sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn yw £300; ac o ran y symiau a dderbynnir gan neu ar ran yr Asiantaeth, rhaid talu'r symiau hynny i'r Cynulliad.

(9Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—

(a)sy'n cymryd arni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid yr Asiantaeth;

(b)sy'n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law ai peidio erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.

(10Ym mharagraff (9), ystyr “prif swyddog cyllid” yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros faterion ariannol yr Asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Rhl. 70 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 11LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

Arbedion i freintiau penodolLL+C

71.—(1Ni ddylid ystyried bod dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson i ddangos unrhyw ddogfennau neu gofnodion pe byddai hawl ganddo i wrthod dangos y dogfennau neu'r cofnodion hynny yn unrhyw achos mewn unrhyw lys ar y sail eu bod yn destun braint broffesiynol gyfreithiol, neu'n awdurdodi unrhyw berson i gymryd meddiant o unrhyw ddogfennau neu gofnodion sydd ym meddiant person a fyddai â'r hawl honno.

(2Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (3), ni ddylid dehongli dim yn y Rheoliadau hyn fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw.

(3Rhaid i berson gydymffurfio â chais gan yr Asiantaeth i roi gwybodaeth yn unol â rheoliad 55(2), er y byddai gwneud hynny'n argyhuddo'r person hwnnw neu briod y person hwnnw, ond ni chaniateir i wybodaeth a roddir yn ymateb i gais o'r fath gael ei chyflwyno yn dystiolaeth mewn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw neu briod y person hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Rhl. 71 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Dirymiadau ac arbedionLL+C

72.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, dirymir Rheoliadau 1996.

(2Os symudwyd llwyth o fangre cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a bod nodyn traddodi wedi'i godi mewn perthynas â'r llwyth hwnnw o dan Reoliadau 1996, yna—

(a)am gyfnod o 72 awr ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym yn eu cyfanrwydd—

(i)mae Rheoliadau 1996 yn parhau i fod yn gymwys ym mhob ffordd arall i'r llwyth hwnnw;

(ii)nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn (heblaw am reoliad 62 (dyletswyddau cyffredinol y deiliad ar achlysur argyfwng neu berygl difrifol)) yn gymwys i'r llwyth hwnnw yn ystod y cyfnod hwnnw;

(b)ar ôl hynny—

(i)mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r llwyth hwnnw ac eithrio nad yw'r gofyniad i roi ateb chwarterol traddodai mewn perthynas â'r llwyth hwnnw yn unol â rheoliad 53 yn codi; a

(ii)mae'r gofyniad i'r traddodai anfon copi o'r nodyn traddodi a anfonwyd i'r Asiantaeth yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw lwyth a anfonwyd yn unol â Rheoliadau 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I86Rhl. 72 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Diwygiadau CanlyniadolLL+C

73.  Mae Atodlen 11 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i'r ddeddfwriaeth) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I87Rhl. 73 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Darpariaethau TrosiannolLL+C

74.  Mae Atodlen 12 (sy'n gwneud darpariaethau trosiannol cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) yn effeithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I88Rhl. 74 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)

I89Rhl. 74 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(36)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2005

Rheoliad 3(2)(a)(i)

ATODLEN 1LL+CATODIAD I I'R GYFARWYDDEB GWASTRAFF PERYGLUS

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

ANNEX ILL+CCATEGORIES OR GENERIC TYPES OF HAZARDOUS WASTE LISTED ACCORDING TO THEIR NATURE OR THE ACTIVITY WHICH GENERATED THEM (*) (WASTE MAY BE LIQUID, SLUDGE OR SOLID IN FORM)

ANNEX I.A.

Wastes displaying any of the properties listed in Annex III and which consist of:

1.  anatomical substances; hospital and other clinical wastes;

2.  pharmaceuticals, medicines and veterinary compounds;

3.  wood preservatives;

4.  biocides and phyto-pharmaceutical substances;

5.  residue from substances employed as solvents;

6.  halogenated organic substances not employed as solvents excluding inert polymerized materials;

7.  tempering salts containing cyanides;

8.  mineral oils and oily substances (e.g. cutting sludges, etc.);

9.  oil/water, hydrocarbon/water mixtures, emulsions;

10.  substances containing PCBs and/or PCTs (e.g. dielectrics etc.);

11.  tarry materials arising from refining, distillation and any pyrolytic treatment(e.g. still bottoms, etc.);

12.  inks, dyes, pigments, paints, lacquers, varnishes;

13.  resins, latex, plasticizers, glues/adhesives;

14.  chemical substances arising from research and development or teaching activities which are not identified and/or are new and whose effects on man and/or the environment are not known (e.g. laboratory residues, etc.);

15.  pyrotechnics and other explosive materials;

16.  photographic chemicals and processing materials;

17.  any material contaminated with any congener of polychlorinated dibenzo-furan;

18.  any material contaminated with any congener of polychlorinated dibenzo-p-dioxin.

  • ANNEX I.B.

  • Wastes which contain any of the constituents listed in Annex II and having any of the properties listed in Annex III and consisting of:

19.  animal or vegetable soaps, fats, waxes;

20.  non-halogenated organic substances not employed as solvents;

21.  inorganic substances without metals or metal compounds;

22.  ashes and/or cinders;

23.  soil, sand, clay including dredging spoils;

24.  non-cyanidic tempering salts;

25.  Metallic dust, powder;

26.  Spent catalyst materials;

27.  liquids or sludges containing metals or metal compounds;

28.  residue from pollution control operations (e.g. baghouse dusts, etc.) except (29), (30) and (33);

29.  scrubber sludges;

30.  sludges from water purification plants;

31.  decarbonization residue;

32.  ion-exchange column residue;

33.  sewage sludges, untreated or unsuitable for use in agriculture;

34.  residue from cleaning of tanks and/or equipment;

35.  contaminated equipment;

36.  contaminated containers (e.g. packaging, gas cylinders, etc.) whose contents included one or more of the constituents listed in Annex II;

37.  batteries and other electrical cells;

38.  vegetable oils;

39.  materials resulting from selective waste collections from households and which exhibit any of the characteristics listed in Annex III;

40.  any other wastes which contain any of the constituents listed in Annex II and any of the properties listed in Annex III..

(*) Certain duplications of entries found in Annex II are intentional.

Rheoliad 3(2)(a)(ii)

ATODLEN 2LL+CATODIAD 2 I'R GYFARWYDDEB GWASTRAFF PERYGLUS

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 2 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

ANNEX IILL+CCONSTITUENTS OF THE WASTES IN ANNEX I.B WHICH RENDER THEM HAZARDOUS WHEN THEY HAVE THE PROPERTIES DESCRIBED IN ANNEX III (*)

Wastes having as constituents:

C1beryllium; beryllium compounds;
C2vanadium compounds;
C3chromium (VI) compounds;
C4cobalt compounds;
C5nickel compounds;
C6copper compounds;
C7zinc compounds;
C8arsenic; arsenic compounds;
C9selenium; selenium compounds;
C10silver compounds;
C11cadmium; cadmium compounds;
C12tin compounds;
C13antimony; antimony compounds;
C14tellurium; tellurium compounds;
C15barium compounds; excluding barium sulfate;
C16mercury; mercury compounds;
C17thallium; thallium compounds;
C18lead; lead compounds;
C19inorganic sulphides;
C20inorganic fluorine compounds, excluding calcium fluoride;
C21inorganic cyanides;
C22the following alkaline or alkaline earth metals: lithium, sodium, potassium, calcium, magnesium in uncombined form;
C23acidic solutions or acids in solid form;
C24basic solutions or bases in solid form;
C25asbestos (dust and fibres);
C26phosphorus: phosphorus compounds, excluding mineral phosphates;
C27metal carbonyls;
C28peroxides;
C29chlorates;
C30perchlorates;
C31azides;
C32PCBs and/or PCTs;
C33pharmaceutical or veterinary compounds;
C34biocides and phyto-pharmaceutical substances (e.g. pesticides, etc.);
C35infectious substances;
C36creosotes;
(*) Certain duplications of generic types of hazardous wastes listed in Annex I are intentional.
C37isocyanates; thiocyanates;
C38organic cyanides (e.g. nitriles, etc.);
C39phenols; phenol compounds;
C40halogenated solvents;
C41organic solvents, excluding halogenated solvents;
C42organohalogen compounds, excluding inert polymerized materials and other substances referred to in this Annex;
C43aromatic compounds; polycyclic and heterocyclic organic compounds;
C44aliphatic amines;
C45aromatic amines;
C46ethers;
C47substances of an explosive character, excluding those listed elsewhere in this Annex;
C48sulphur organic compounds;
C49any congener of polychlorinated dibenzo-furan;
C50any congener of polychlorinated dibenzo-p-dioxin;
C51hydrocarbons and their oxygen; nitrogen and/or sulphur compounds not otherwise taken into account in this Annex..

Rheoliad 3(2)(a)(iii)

ATODLEN 3LL+CATODIAD III I'R GYFARWYDDEB GWASTRAFF PERYGLUS

“ANNEX IIILL+CPROPERTIES OF WASTES WHICH RENDER THEM HAZARDOUS

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 3 Pt. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

Notes

1.

Attribution of the hazard properties “toxic” (and “very toxic”), “harmful”, “corrosive” and “irritant” is made on the basis of the criteria laid down by Annex VI, part I A and part II B, of Council Directive 67/548/EEC of 27 June 1967 of the approximation of laws, regulations and administrative provisions relating to the classification, packaging and labelling of dangerous substances (48), in the version as amended by Council Directive 79/831/EEC (49).

2.

With regard to attribution of the properties “carcinogenic”, “teratogenic” and “mutagenic”, and reflecting the most recent findings, additional criteria are contained in the Guide to the classification and labelling of dangerous substances and preparations of Annex VI (part II D) to Directive 67/548/EEC in the version as amended by Commission Directive 83/467/EEC (50).

Test methods

The test methods serve to give specific meaning to the definitions given in Annex III.

The methods to be used are those described in Annex V to Directive 67/548/EEC,in the version as amended by Commission Directive 84/449/EEC (51), or by subsequent Commission Directives adapting Directive 67/548/EEC to technical progress. These methods are themselves based on the work and recommendations of the competent international bodies, in particular the OECD.

H1“Explosive”: substances and preparations which may explode under the effect of flame or which are more sensitive to shocks or friction than dinitrobenzene.
H2“Oxidizing”: substances and preparations which exhibit highly exothermic reactions when in contact with other substances, particularly flammable substances.
H3-A“Highly flammable”:
— liquid substances and preparations having a flash point below 21 °C (including extremely flammable liquids), or
— substances and preparations which may become hot and finally catch fire in contact with air at ambient temperature without any application of energy, or
— solid substances and preparations which may readily catch fire after brief contact with a source of ignition and which continue to burn or to be consumed after removal of the source of ignition, or
— gaseous substances and preparations which are flammable in air at normal pressure, or
— substances and preparations which, in contact with water or damp air, evolve highly flammable gases in dangerous quantities.
H3-B and“Flammable”: liquid substances and preparations having a flash point equal to or greater than 21 °C less than or equal to 55 °C.
H4“Irritant”: non-corrosive substances and preparations which, through immediate, prolonged or repeated contact with the skin or mucous membrane, can cause inflammation.
H5“harmful”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve limited health risks.
H6“Toxic”: substances and preparations (including very toxic substances and preparations) which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may involve serious, acute or chronic health risks and even death.
H7“Carcinogenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce cancer or increase its incidence.
H8“Corrosive”: substances and preparations which may destroy living tissue on contacts.
H9“Infectious”: substances containing viable micro-organisms or their toxins which are known or reliably believed to cause disease in man or other living organisms.
H10“Teratogenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce non-hereditary congenital malformations or increase their incidence.
H11“Mutagenic”: substances and preparations which, if they are inhaled or ingested or if they penetrate the skin, may induce hereditary genetic defects or increase their incidence.
H12Substances and preparations which release toxic or very toxic gases in contact with water, air or an acid.
H13Substances and preparations capable by any means, after disposal, of yielding another substance, e.g. a leachate, which possesses any of the characteristics listed above.
H14“Ecotoxic”: substances and preparations which present or may present immediate or delayed risks for one or more sectors of the environment.

Rheoliad 35(2)

ATODLEN 4LL+CFFURF NODYN TRADDODI

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHEOLIADAU GWASTRAFF PERYGLUS (CYMRU) 2005LL+C

Rheoliad 35(3)

ATODLEN 5LL+CATODLEN Y CLUDWYR

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 35(4)

ATODLEN 6LL+CFFURF NODYN TRADDODI AMLGASGLIAD

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 46

ATODLEN 7LL+CSYMUD TRAWSFFINIOL YN Y DU O WASTRAFF PERYGLUS

Adnabod nodiadau traddodi trawsffiniol y DULL+C

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4 a pharagraff 7, os yw gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar a'i gludo i Gymru (“nodyn traddodi trawsffiniol i Gymru”), ni fydd unrhyw ofyniad i nodyn traddodi fynd gyda'r gwastraff o dan Ran 6 yn gymwys—

(a)os bydd nodyn traddodi sydd wedi'i gwblhau yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Gibraltar yn mynd gyda'r gwastraff; a

(b)os yw'r nodyn yn cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol gan y nodyn traddodi safonol a welir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 94/774 dyddiedig 24 Tachwedd 1994(37) (“nodyn traddodi trawsffiniol”).

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

2.  Caiff unrhyw ofyniad yn Rhan 6 i gwblhau nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol ei fodloni drwy gynnwys yr wybodaeth —

(a)ar y nodyn traddodi trawsffiniol; neu

(b)lle nad yw hynny'n bosibl, ar ffurflen ar wahân a baratowyd at y diben hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

3.  Caiff unrhyw ofyniad i gadw copi o nodyn traddodi ar gyfer llwyth trawsffiniol neu i roi copi o'r nodyn i berson arall ei fodloni drwy gadw copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol neu roi copi o'r nodyn i'r person arall hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Llwythi trawsffiniol y DU i mewn i GymruLL+C

4.—(1Os yw llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru yn cael ei wrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol, rhaid i'r traddodai—

(a)dangos ar y nodyn traddodi trawsffiniol (os yw wedi cael un) neu darparu mewn modd arall gofnod ysgrifenedig o'r ffaith ei fod wedi gwrthod y llwyth (neu ran ohono) a'r rhesymau dros ei wrthod;

(b)cadw copi o'r nodyn neu'r cofnod;

(c)rhoi copi i'r cludwr; ac

(ch)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, anfon copi at y traddodwr, ac (os yw'n wahanol i'r traddodwr) y cynhyrchydd neu'r deiliad sydd wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol.

(2Wrth gael ei hysbysu nad yw'r traddodai yn derbyn traddodi'r llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru neu ran o'r llwyth, rhaid i'r cludwr—

(a)hysbysu'r Asiantaeth; a

(b)gofyn am gyfarwyddiadau gan gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus y mae ei enw wedi'i nodi ar y nodyn traddodi trawsffiniol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cânt eu bodloni.

(3Cyn bod llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru sydd wedi'i wrthod yn cael ei symud o'r gyrchfan draddodi wreiddiol, rhaid i'r cludwr sicrhau—

(a)bod nodyn traddodi yn cael ei gwblhau'n unol â rheoliad 43 neu 44; a

(b)bod copi o'r nodyn traddodi yn cael ei anfon at SEPA (os cludir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).

(4Os derbynnir llwyth trawsffiniol i mewn i Gymru o'r Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r traddodwr anfon copi o'r nodyn traddodi trawsffiniol at SEPA (os traddodir y gwastraff o'r Alban) neu at Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (os traddodir y gwastraff o Ogledd Iwerddon).

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 7 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Llwythi trawsffiniol y DU allan o GymruLL+C

5.—(1Pan fo llwyth trawsffiniol allan o Gymru yn cael ei draddodi i fangre yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae'r gofynion canlynol yn gymwys yn ychwanegol at y rhai yn Rhan 6.

(2Cyn i'r gwastraff peryglus gael ei symud—

(a)rhaid i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, yn ôl fel y digwydd, neu (yn achos amlgasgliad o wastraff peryglus) y cludwr, sicrhau—

(i)bod copi o'r nodyn traddodi perthnasol wedi'i baratoi ar gyfer SEPA (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yn yr Alban), neu ar gyfer Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yng Ngogledd Iwerddon); a

(ii)bod copi ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer y traddodai.

(b)rhaid i'r copïau o'r nodyn traddodi perthnasol a baratowyd yn unol â pharagraff (a) gael eu cwblhau yn unol â Rhan 6; ac

(c)rhaid i'r traddodwr (neu'r cynhyrchydd neu'r deiliad, yn ôl fel y digwydd), neu yn achos amlgasgliad o wastraff peryglus, y cludwr, anfon y copi o'r nodyn a baratowyd yn unol â pharagraff (a)(i) at yr awdurdod perthnasol o leiaf 72 awr cyn symud y llwyth neu, os nad yw hynny'n bosibl, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(3Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y copi ychwanegol o'r nodyn a baratowyd ar gyfer traddodai yn teithio gyda'r llwyth ac yn cael ei roi i'r traddodai wrth draddodi'r llwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 7 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Amlgasgliadau yng Nghymru a LloegrLL+C

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i daith a wneir gan gludwr a honno'n daith sy'n bodloni'r amodau a nodir yn rheoliad 38(1) ac eithrio bod o leiaf un casgliad yn cael ei wneud yn Lloegr.

(2Mae taith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo i'w thrin fel amlgasgliad at ddibenion y Rheoliadau hyn ond o ran unrhyw gasgliadau a wneir yn Lloegr, rhaid i'r cludwr sicrhau bod y nodyn traddodi amlgasgliad yn cael ei gwblhau cyn bod y gwastraff yn cael ei draddodi i'r traddodai.

(3Pan fo'r traddodai ar gyfer taith y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo wedi'i leoli yn Lloegr, mae rheoliad 38 yn gymwys i gasglu unrhyw lwythi a gesglir yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Regulation/Rheoliad 54

ATODLEN 8LL+CFFURF AR ATEB Y TRADDODAI I'R CYNHYRCHYDD NEU'R DEILIAD

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 8 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 59

ATODLEN 9LL+CY FFIOEDD TROSIANNOL A GODIR GAN YR ASIANTAETH

1.  Mae'r paragraffau canlynol yn effeithiol mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy i'r Asiantaeth o dan y Rheoliadau hyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

2.  Y ffi sydd i'w thalu wrth roi hysbysiad am fangre yn unol â rheoliad 26 yw—LL+C

(a)£28 am bob set o fangreoedd a hysbysir yn ysgrifenedig;

(b)£23 am bob set o fangreoedd a hysbysir dros y ffôn; ac

(c)£18 am bob set o fangreoedd a hysbysir ar ffurf electronig.

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

3.  Mae'r ffi sydd i'w thalu gan draddodai mewn perthynas ag unrhyw atebion chwarterol traddodai a roddir yn unol â rheoliad 53 fel a ganlyn—LL+C

(a)am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—

(i)£10 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a

(ii)£19 am unrhyw lwyth arall; a

(b)am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, swm y meintiau canlynol ar gyfer pob llwyth a dderbyniwyd gan y traddodai yn ystod y chwarter—

(i)£5 am bob llwyth sy'n ffurfio rhan o amlgasgliad; a

(ii)£10 am unrhyw lwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

4.  Y ffi sydd i'w thalu gan gynhyrchydd mewn perthynas ag unrhyw ateb hunanwaredu a wneir yn unol â rheoliad 53 yw—LL+C

(a)am unrhyw ateb a roddir yn ysgrifenedig, £19; a

(b)am unrhyw ateb a roddir ar ffurf electronig, £10.

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

5.  Yr amser i dalu'r ffi sy'n ofynnol o dan baragraff 3 a 4 yw'r dyddiad diweddaraf o'r 30 niwrnod sy'n dilyn —LL+C

(a)diwrnod olaf y chwarter y mae'r ateb i'w gwmpasu os na chyflwynir ateb yn unol â rheoliad 53; neu

(b)y dyddiad y cyflwynwyd yr ateb yn unol â rheoliad 53.

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

6.  Caiff traddodai adennill o draddodwr unrhyw ffioedd a dalwyd o dan baragraff 3 o ran llwythi a anfonwyd gan y traddodwr hwnnw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 70(7)

ATODLEN 10LL+CFFURF HYSBYSIADAU COSBAU PENODEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 10 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 73

ATODLEN 11LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1LL+CDIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH SYLFAENOL

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990LL+C

1.  Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn cael ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

2.  Yn adran 75 (fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005(38)LL+C

(a)yn is-adran (8A) yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)in the application of this Part to Wales, means any waste which is a hazardous waste for the purposes of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.;

(b)mae is-adran (8B) yn cael ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003LL+C

3.  Mae Deddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003(39) yn cael ei diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

4.  Yn adran 25(2), yn lle “for the purpose of Council Directive 91/689/EEC” rhodder “within the meaning of regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CDIWYGIADAU I IS-DDEDDFWRIAETH

Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cofrestru Cludwyr ac Atafaelu Cerbydau) 1991LL+C

5.  Mae Rheoliadau Gwastraff a Reolir (Cofrestru Cludwyr ac Atafaelu Cerbydau) 1991(40) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

6.  Ar ddiwedd Atodlen 1 mewnosoder “The Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991LL+C

7.  Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991(41) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 11 para. 7 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

8.  Yn rheoliad 2(3), yn lle “special waste” rhodder “hazardous waste”, ac yn lle “Special Waste Regulations 1996” rhodder “Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 11 para. 8 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Prosesau a Sylweddau Rhagnodedig) 1991LL+C

9.  Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Prosesau a Sylweddau Rhagnodedig) 1991(42) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 11 para. 9 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

10.  Yn Adran 5.1 o Bennod 5 o Atodlen 1—LL+C

(a)yn y diffiniad o “exempt hazardous waste incineration plant”—

(i)ym mharagraff (ii) yn lle “Annex II to Directive 91/689/EEC on hazardous waste” rhodder “Schedule 2 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”;

(ii)ym mharagraff (iii) yn lle “Annex III to Directive 91/689/EEC on hazardous waste” rhodder “Schedule 3 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”;

(b)yn y diffiniad o “hazardous waste”—

(i)yn y geiriau agoriadol, yn lle “Article 1(4) of Directive 91/689/EEC” rhodder “regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”; a

(ii)yn is-baragraff (i)(b) a pharagraff (v), yn lle “in Annex II to Directive 91/689/EEC” rhodder “in Schedule 2 to the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 11 para. 10 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff 1994LL+C

11.  Mae Rheoliadau 1994 yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I120Atod. 11 para. 11 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

12.  Yn rheoliad 1(3), yn lle'r diffiniad o “special waste”, rhodderLL+C

“hazardous waste” has the meaning given by regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.

Gwybodaeth Cychwyn

I121Atod. 11 para. 12 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

13.  Yn rheoliad 3, ar y diwedd ychwaneger “(q) the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I122Atod. 11 para. 13 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

14.  Yn rheoliad 10(1)(j) yn lle “special waste” rhodder “hazardous waste”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I123Atod. 11 para. 14 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

15.  Yn rheoliad 10(1)(k) ar y diwedd mewnosoder “or regulation 47(5) or 48(6) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I124Atod. 11 para. 15 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

16.  Yn rheoliad 14(1) a 14(2), yn lle “toxic and dangerous waste” rhodder “hazardous waste”, ac yn rheoliad 14(3) yn lle'r diffiniad o “toxic and dangerous waste” rhodder ““hazardous waste” has the meaning given by regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I125Atod. 11 para. 16 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

17.  Yn rheoliad 17(3) a 17(3A) yn lle “special waste” rhodder “hazardous waste”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I126Atod. 11 para. 17 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

18.  Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, yn lle is-baragraff (d) hyd at ddiwedd paragraff 5, rhodder—LL+C

(d)every record made relating to the site pursuant to regulation 14 of the Control of Pollution (Special Waste) Regulations 1980, regulation 16 of the 1996 Regulations, or regulation 47 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;

and any estimate under paragraph 4 of the total quantities of the different types of waste dealt with at the site shall, in particular, differentiate between biodegradable waste, non-biodegradable waste and hazardous waste..

Gwybodaeth Cychwyn

I127Atod. 11 para. 18 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

19.  Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 1A, yn lle'r diffiniad o wastraff peryglus rhodder ““hazardous waste” means such waste as defined in Regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I128Atod. 11 para. 19 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

20.  Yn atodlen 3, ym mharagraffau 3(a)(ii), 3(c), 18(2)(b), 28, 36(1), 36(2), 38, 39(1), 39(2), 41(2), ac yn nhablau 4, 4A a 4B, bob tro y mae'n ymddangos, yn lle “special waste” rhodder “hazardous waste”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I129Atod. 11 para. 20 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

21.  Ym mharagraff 9 o Atodlen 4, hepgorer is-baragraffau (9) a (10).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I130Atod. 11 para. 21 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

22.  Ym mharagraff 13(1) o Atodlen 4 dileer “, and producers of special waste,”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I131Atod. 11 para. 22 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

23.  Ym mharagraffau 14(1)(b) a 14(1A) o Atodlen 4 yn lle “special waste” rhodder “hazardous waste”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I132Atod. 11 para. 23 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

24.  Yn lle paragraff 14(5) o Atodlen 4, rhodder—LL+C

(2) Paragraph (a) of regulation 66 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005 (defence in case of emergency) shall apply to a person charged with an offence under paragraph (4) above as it applies to a person charged with an offence under regulation 65 of those Regulations..

Gwybodaeth Cychwyn

I133Atod. 11 para. 24 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

25.  Yn lle paragraff 14(8) o Atodlen 4, rhodder—LL+C

(8) Regulations 67 and 69(2) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005 shall apply to an offence under this paragraph as they apply to an offence under regulation 65 of those Regulations..

Gwybodaeth Cychwyn

I134Atod. 11 para. 25 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999LL+C

26.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(43) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I135Atod. 11 para. 26 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

27.  Ym mharagraff 9 o Atodlen 1, yn lle “hazardous waste (that is to say, waste to which Council Directive 91/689/EEC applies).” rhodder “hazardous waste as defined in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I136Atod. 11 para. 27 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Deuffenylau Polyclorineiddiedig a Sylweddau Peryglus) (Cymru a Lloegr) 2000LL+C

28.  Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Gwaredu Deuffenylau Polyclorineiddiedig a Sylweddau Peryglus) (Cymru a Lloegr) 2000(44) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I137Atod. 11 para. 28 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

29.  Yn lle rheoliad 11(3), rhodder y canlynol—LL+C

(3) Subject to paragraphs (5) and (7), the Agency shall keep a register specifying the quantity, origin, nature and PCB content of used PCBs in respect of which—

(a)copies of consignment notes specifying that information are furnished to it under regulations 5(4), 8(7) or 9(3) of the Special Waste Regulations 1996; or

(b)quarterly returns specifying that information are furnished to it under regulation 53 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005,

and which in either case have been furnished by a person in the course of a business concerned with the disposal of PCBs.

Gwybodaeth Cychwyn

I138Atod. 11 para. 29 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000LL+C

30.  Mae Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000(45) (sy'n rhychwantu Cymru a Lloegr) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I139Atod. 11 para. 30 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

31.  Ym mhennod 5 o Atodlen 1—LL+C

(a)yn y diffiniad o “hazardous waste” yn y paragraff yn Adran 5.1 sy'n dwyn y pennawd “Interpretation of Section 5.1” —

(i)yn y geiriau agoriadol yn lle “Article 1(4) of Directive 91/689/EEC on hazardous waste” rhodder “regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”; a

(ii)ym mharagraff (a)(ii) yn lle “Annex II to Directive 91/689/EEC on hazardous waste” rhodder “Schedule 2 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”;

(b)ym mharagraff 1 o'r paragraff yn Adran 5.3 sy'n dwyn y pennawd “Interpretation of Part A(1)” yn lle'r diffiniad o “hazardous waste”, rhodder ““hazardous waste” means any waste as defined for the time being in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”; ac

(c)yn y paragraff yn Adran 5.4 sy'n dwyn y pennawd “Interpretation of Part A(1)” mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff 3—

4.  In this Part, hazardous waste means any waste as defined in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005..

Gwybodaeth Cychwyn

I140Atod. 11 para. 31 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002LL+C

32.  Mae Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002(46) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I141Atod. 11 para. 32 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

33.  Yn rheoliad 3(3)(e), yn lle “Special Waste Regulations 1996” rhodder “Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I142Atod. 11 para. 33 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002LL+C

34.  Mae Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002(47) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I143Atod. 11 para. 34 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

35.  Yn Rheoliad 7(2) yn lle “Hazardous waste means any waste as defined in Article 1(4) of Directive 91/689/EEC (hazardous waste).” rhodder “Hazardous waste means any waste as defined in regulation 6 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I144Atod. 11 para. 35 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

36.  Yn lle paragraff 2(a) o Atodlen 1, rhodder “(a) it is a hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005; and”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I145Atod. 11 para. 36 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

37.  Yn lle paragraff 3(1)(a) o Atodlen 1, rhodder “(a) it is a hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005; and”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I146Atod. 11 para. 37 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

38.  Yn lle paragraff 3(1)(b) o Atodlen 1, rhodder “(b) it is a non-hazardous waste as defined in the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I147Atod. 11 para. 38 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

39.  Yn lle paragraff 5(1)(g) o Atodlen 1, rhodder—LL+C

(g)in the case of hazardous waste, the relevant properties which render it hazardous as listed in Schedule 3 of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005;.

Gwybodaeth Cychwyn

I148Atod. 11 para. 39 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003LL+C

40.  Mae Rheoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003(48) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I149Atod. 11 para. 40 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

41.  Yn rheoliad 3(2), yn lle'r geiriau “or the provisions of Council Directive 91/689/EEC on hazardous waste.” rhodder “or the provisions of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005.”LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I150Atod. 11 para. 41 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Rheoliad 74

ATODLEN 12LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL

DARPARIAETHAU'R RHEOLIADAU HYNLL+C

1.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw hysbysiad o fangre a roddir at ddibenion y Rheoliadau hyn o'r diwrnod ar ôl diwrnod gwneud y Rheoliadau hyn a chyn 16 Gorffennaf 2005.LL+C

(2Pan fwriedir symud gwastraff o unrhyw fangre ar ôl 16 Gorffennaf 2005, caiff cynhyrchydd, ac, o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn rheoliad 25, traddodwr, hysbysu mangre i'r Asiantaeth ymlaen llaw yn unol â rheoliad 26.

(3Ni chaiff yr amser effeithiol fod ar ddyddiad sy'n gynharach nag 16 Gorffennaf 2005 nac ar ddyddiad sy'n hwyrach nag 16 Medi 2005.

(4Rhaid i'r Asiantaeth, pan fydd hysbysiad wedi'i roi'n briodol yn unol â'r paragraff hwn, ddyroddi cod mangre yn unol â rheoliad 27.

(5Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn yr un ystyron ag yn Rhan 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I151Atod. 12 para. 1 mewn grym ar 6.7.2005, gweler rhl. 1(2)(a)

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gamau a gymerwyd gan gynhyrchydd neu draddodwr cyn i'r paragraff hwn ddod i rym ond a fyddai, pe baent wedi'u cymryd ar ôl iddo ddod i rym, wedi bod yn hysbysiad a oedd yn cydymffurfio â rheoliad 26 (“rhaghysbysiad”).LL+C

(2Mae rhaghysbysiad i'w ystyried yn hysbysiad a roddir pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.

(3Nid yw rheoliad 28(1) yn gymwys i hysbysiad sy'n codi o raghysbysiad a daw'r hysbysiad hwnnw'n effeithiol, yn lle hynny:

(a)os gofynnodd y person a roes y rhaghysbysiad am ddyddiad ar gyfer cychwyn, ar ddechrau'r dyddiad y gofynnwyd amdano felly;

(b)os na chafodd unrhyw gais o'r fath ei wneud, ar ddechrau'r pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod y digwyddodd y rhaghysbysu;

(c)pan fydd y taliad o'r ffi berthnasol wedi'i dderbyn gan yr Asiantaeth;

(ch)pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym;

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(4Pan fo'r Asiantaeth yn dyroddi cod mangre ar gyfer mangre sy'n destun rhaghysbysiad a roddwyd yn unol â'r paragraff hwn, mae'r cod hwnnw i'w ystyried yn god a ddyroddwyd ar y dyddiad y daeth y paragraff hwn i rym.

(5Pan fo'r ffi berthnasol wedi'i thalu i'r Asiantaeth ar gyfer rhaghysbysiad, mae'r ffi honno i'w hystyried yn ffi sydd wedi'i thalu at ddibenion rheoliad 26(7) pan fydd y paragraff hwn wedi dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I152Atod. 12 para. 2 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

3.  Pan fo gwaith symud gwastraff drwy biblinell o unrhyw fangre wedi'i ddechrau cyn 16 Gorffennaf 2005 ond yn parhau ar ôl hynny, mae rheoliad 41 yn effeithiol fel petai 16 Gorffennaf 2005 oedd y diwrnod cyntaf y cafodd y gwastraff ei symud drwy biblinell.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I153Atod. 12 para. 3 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

RHAN 2LL+CCYFUNDREFNAU CANIATÁU

4.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon, mae cyfeiriad mewn trwydded gwastraff at wastraff arbennig, neu at wastraff arbennig o unrhyw ddisgrifiad (sut bynnag y mae wedi'i lunio), yn gyfeiriad at wastraff peryglus, neu wastraff peryglus o'r disgrifiad hwnnw, yn ôl y digwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I154Atod. 12 para. 4 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â gwastraff nad oedd yn wastraff arbennig yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym os bydd y gwastraff hwnnw yn dod yn wastraff peryglus o ganlyniad i'r Rheoliadau hyn (“gwastraff y mae ei statws wedi'i newid”).LL+C

(2Nid yw unrhyw waharddiad cyffredinol neu gyfyngiad cyffredinol sydd wedi'i gynnwys mewn trwydded gwastraff sy'n ymwneud â gwaredu neu adfer gwastraff arbennig o dan y drwydded honno yn union cyn i'r Rheoliadau hynny ddod i rym yn gymwys i waredu neu adfer gwastraff y mae ei statws wedi'i newid i'r graddau y mae'r drwydded yn benodol yn awdurdodi gwaredu neu adfer y math hwnnw o wastraff.

(3Caiff deiliad trwydded gwastraff na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw o dan ei drwydded oherwydd y newid yn statws y gwastraff hwnnw, barhau i waredu neu adfer y gwastraff hwnnw yn unol â'r drwydded er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig.

(4Nid yw rheoliad 17(3) o Reoliadau 1994 yn gymwys i gynnal gweithgaredd esempt sy'n ymwneud â gwastraff y mae ei statws wedi'i newid yn unrhyw le gan berson a oedd yn cynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym (“person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid”).

(5Caiff person esempt o ran gwastraff y mae ei statws wedi'i newid, a hwnnw'n berson na fyddai wedi'i awdurdodi mwyach i gynnal gweithgaredd esempt sy'n cynnwys gwastraff o'r fath oherwydd y newid yn ei statws, barhau i gynnal y gweithgaredd hwnnw yn y lle hwnnw yn unol â Rheoliadau 1994 er gwaethaf y newid mewn statws tan y dyddiad rhagnodedig.

(6Y dyddiad rhagnodedig—

(a)os bydd cais am drwydded gwastraff neu amrywiad i drwydded wedi'i wneud yn briodol mewn perthynas â'r gweithgaredd cyn 16 Gorffennaf 2006, yw'r dyddiad y cytunir ar y cais neu os gwrthodir y cais (neu os bernir bod y cais wedi'i wrthod), y dyddiad daw'r cyfnod ar gyfer apelio i ben heb fod apêl wedi'i gwneud neu'r dyddiad y tynnir unrhyw apêl yn ôl neu y penderfynir yn derfynol arni; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, yw 16 Gorffennaf 2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I155Atod. 12 para. 5 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gyfundrefn ar gyfer rheoli ac olrhain gwaith symud gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (Cyfarwyddeb 91/689/EC). Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru.

Gwastraff PeryglusLL+C

Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (Cyfarwyddeb 75/442/EEC) yn rheoleiddio, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, y broses o reoli pob math o wastraff (“gwastraff y Gyfarwyddeb”). Mae'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yn ategu'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff drwy osod gofynion ychwanegol o ran gwastraff y Gyfarwyddeb sy'n amlygu nodweddion peryglus penodol. Mae'r gofynion hyn wedi'u trosi o'r blaen gan Reoliadau Gwastraff Arbennig 1996, drwy reolaethau ar “wastraff arbennig”. Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Gwastraff Arbennig 1996 ac yn rhoi'r term “gwastraff peryglus” (“hazardous waste”) yn lle'r term “gwastraff arbennig” (“special waste”).

Mae Rhannau 1 i 3 o'r Rheoliadau yn diffinio gwastraff peryglus ac yn nodi sut mae'r Rheoliadau yn gymwys i'r gwastraff hwnnw. Mae'r diffiniad o wastraff peryglus yn rheoliad 6 yn cyfeirio at y rhestr o wastraffoedd peryglus a nodir yn Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1820 (Cy.148)) sy'n cael eu gwneud ar yr un dyddiad â'r Rheoliadau hyn.

Mae eithriad rhag y rheolaethau hyn ar gyfer gwastraff domestig sy'n amlygu nodweddion peryglus ond nid os yw wedi'i ffurfio o wastraff asbestos neu'n cael ei gasglu ar wahân. Yn y naill achos a'r llall, nid yw'r rheoliadau yn gosod rhwymedigaethau yn uniongyrchol ar ddeiliaid tai.

Gwahardd CymysguLL+C

Mae Rhan 4 yn gwahardd cymysgu gwastraff peryglus onid yw wedi'i ganiatáu fel rhan o weithrediad gwaredu neu adfer yn unol â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff. Mae'n gosod dyletswydd hefyd i wahanu gwahanol gategorïau o Wastraff Peryglus pan fo hynny'n dechnegol ddichonadwy.

HysbysuLL+C

Mae Rhan 5 yn ei gwneud yn dramgwydd i symud gwastraff peryglus o fangre na hysbyswyd Asiantaeth yr Amgylchedd ohoni, onid yw'n fangre esempt neu onid yw'r gwastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon. Rhaid i gynhyrchydd y gwastraff neu'r traddodwr (y person sy'n trefnu ar gyfer symud y gwastraff) hysbysu pob mangre lle mae gwastraff peryglus yn cael ei gynhyrchu neu ei symud. Mae hysbysiad yn para 12 mis ac ar ôl hynny rhaid hysbysu'r fangre eto. Mae ffi yn daladwy i Asiantaeth yr Amgylchedd pan hysbysir mangre.

Symud Gwastraff PeryglusLL+C

Mae Rhan 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfennau gael eu cwblhau pryd bynnag y mae gwastraff peryglus yn cael ei symud o fangre (sy'n cynnwys ei symud o longau a'i symud drwy biblinell). Mae'r amrywiol fathau o ffurflen i'w gweld yn Atodlenni 4 i 6. Diben hyn yw sicrhau bod disgrifiad cywir o lwythi gwastraff yn mynd gyda hwy pryd bynnag y byddant yn symud. Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw ofynion i sicrhau bod gwastraff peryglus yn cael ei becynnu a'i labelu'n briodol (gweler yn benodol Reoliadau Pecynnu (Gofynion Hanfodol) 2003 (O.S. 2003/1941).

Mae'n ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gwblhau gwahanol rannau o'r ffurflenni. Os bydd y traddodai yn gwrthod y gwastraff, rhaid gwneud trefniadau amgen addas. Mae Atodlen 7 yn ymdrin â throsglwyddiadau trawsffiniol o fewn y Deyrnas Unedig a Gibraltar.

Cofnodion ac AtebionLL+C

Mae Rhan 7 yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr, deiliaid, cludwyr, traddodwyr a thraddodeion gadw cofnodion. Rhaid iddynt gael eu cadw am 3 blynedd o leiaf ac eithrio yn achos cludwyr pan fo'r cyfnod yn gyfnod o 12 mis. Mae'n ofynnol i draddodeion roi i Asiantaeth yr Amgylchedd atebion chwarterol sy'n nodi'r llwythi y maent wedi'u cael yn ystod y cyfnod hwnnw. Gall fod yn ofynnol i draddodeion dalu ffi i Asiantaeth yr Amgylchedd ond rhoddir hawl iddynt ei hadennill oddi wrth y traddodwyr a anfonodd y gwastraff atynt. Mae'n ofynnol hefyd iddynt anfon ateb at y cynhyrchwyr neu'r deiliaid a anfonodd wastraff atynt. Mae Atodlen 9 yn nodi cynllun trosiannol ar gyfer ffioedd.

Swyddogaethau'r AsiantaethLL+C

Mae Rhan 8 yn nodi swyddogaethau'r Asiantaeth. Yn benodol, mae'n ofynnol i'r Asiantaeth arolygu cynhyrchwyr gwastraff peryglus o bryd i'w gilydd a chadw unrhyw gofnodion a anfonwyd ati yn unol â Rhan 7 am 3 blynedd o leiaf.

Argyfyngau a Pherygl DifrifolLL+C

Mae Rhan 9 yn gosod dyletswyddau ar ddeiliaid gwastraff peryglus ac Asiantaeth yr Amgylchedd os bydd argyfwng neu berygl difrifol sy'n deillio o wastraff peryglus.

GorfodiLL+C

Mae Rhan 10 yn ei gwneud yn dramgwydd i fethu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn. Lefel 5 ar y raddfa safonol (£5000 ar hyn o bryd) yw'r gosb uchaf am fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan neu o dan y rheoliadau a nodir yn rheoliad 69(1). Caiff yr Asiantaeth ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig o £300 yn lle ceisio sicrhau collfarniad am dramgwyddau o'r fath. Mae tramgwyddau eraill o dan y Rheoliadau (gan gynnwys darparu gwybodaeth anwir) yn ddarostyngedig i'r ddirwy uchaf, sef lefel 5, os ydynt yn destun prawf diannod, ac yn ddarostyngedig i ddirwyon uwch a charchariad hefyd os ydynt yn destun prawf ar dditiad.

Diwygiadau i reoliadau eraillLL+C

Mae Atodlen 11 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliadau fel bod cyfeiriadau at wastraff arbennig yn cael eu hepgor a bod cyfeiriadau at wastraff peryglus yn cael eu diweddaru i fod yn gyson â'r Rheoliadau hyn.

Darpariaeth drosiannolLL+C

Mae Atodlen 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol. Mae'n darparu ar gyfer hysbysu cyn bod y rheoliadau yn llwyr ddod i rym. Mae'n gwneud darpariaeth drosiannol hefyd ar gyfer yr achosion hynny lle byddai'r newid i wastraff peryglus o wastraff arbennig yn golygu na fyddai person wedi'i awdurdodi mwyach i waredu neu adfer gwastraff.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Mae'r gyfrol sy'n dwyn y teitl “Indexes to the United Kingdom Standard Industrial Classification of Economic Activities 2003”, ac y cyfeirir ati yn y diffiniad o “SIC”, ar gael oddi wrth y Stationery Office Limited drwy ffonio 0870 600 552.

(1)

S.I. 2005/850.

(3)

OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.

(4)

OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.

(5)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i diwygiwyd drwy Gorigendwm, OJ Rhif L 146, 13.6.2003, t.52).

(6)

OJ. Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.

(7)

OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.

(8)

Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn diffinio “waste” fel unrhyw sylwedd neu eitem yn y categorïau a nodir yn Atodlen I (Categorïau o Wastraff) i'r Gyfarwyddeb honno y mae'r deiliad yn cael gwared arno neu arni neu'n bwriadu gwneud hynny neu y mae'n ofynnol iddo gael gwared arno neu arni.

(9)

OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm i Gyfarwyddeb 91/689/EC (OJ Rhif L 23, 30.1.1998 t.39).

(10)

OJ Rhif L 168, 2.7.1994, t.28.

(11)

OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3.

(13)

O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(16)

1971 p.80.

(17)

ISBN 0116216417.

(19)

O dan Erthygl 5(3) mae'n ofynnol i'r nodyn traddodi gynnwys y manylion a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 94/774/EC (OJ Rhif L 310, 3/12/1994 t. 70; disgwylir y caiff y penderfyniad hwn ei newid ym Mehefin 2005). Ceir y gofynion perthnasol yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.

(21)

O.S. 1996/972 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/2019, 1997/251, 2001/3148.

(22)

Dehonglwyd ystyron “gwaredu” (“disposal”) ac “adfer” (“recovery”) gan Lys Cyfiawnder Ewrop yn C-6/00. Dyfarnodd y Llys (ym mharagraff 60 o'r dyfarniad) fel a ganlyn: “…the intention of Annexes II A and II B to the Directive is to list the most common disposal and recovery operations and not precisely and exhaustively to specify all the disposal and recovery operations covered by the Directive.”.

(23)

Mae gwastraffoedd a restrir yn wastraffoedd peryglus yn y Rhestr Wastraffoedd yn cael eu hystyried yn beryglus yn unol ag indent cyntaf Erthygl 1.4 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus.

(24)

Mae Adran yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys ei hasiantaeth weithredol, y Gwasanaeth Treftadaeth Amgylcheddol.

(25)

Mae Erthygl 1(5) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus wedi darparu ar gyfer rheolau penodol sydd i'w gwneud gan y Gymuned Ewropeaidd gan ystyried natur benodol gwastraff domestig; ni chafodd y cyfryw reolau, ar ddyddiad gwneud y Rheoliadau hyn, eu mabwysiadu.

(26)

OJ Rhif L 30, 6.2.1993, t.1.

(28)

1947 p.48 (gweler adran 109(3)).

(29)

1989 p.14.

(30)

1947 p.48.

(31)

O.S. 1992/588. Diwygiwyd rheoliad 2 gan reoliad 24(3) o O.S. 1994/1056; mae diwygiadau eraill i O.S. 1992/588 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(32)

1989 p.14.

(33)

1963 p.41.

(34)

OJ Rhif L 037, 13.12.2003, t.24.

(35)

Gweler paragraff 13 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau.

(36)

1998 p.38.

(37)

OJ No L 196, 16. 8. 1967, p. 1.

(38)

OJ No L 259, 15. 10. 1979, p. 10.

(39)

OJ No L 257, 16.9.1983, p.1.

(40)

OJ No L 251, 19.9.1984, p.1.

(41)

OJ Rhif L310, 03.12.1994, t.70.

(43)

2003 p.33.

(44)

O.S. 1991/1624; diwygiwyd Atodlen gan O.S. 1994/1137, 1996/972, 2000/1973.

(45)

O.S. 1991/2839; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1559, 2003/63.

(46)

O.S. 1991/472; mae diwygiadau perthnasol wedi'u cynnwys yn O.S. 1998/767.

(47)

O.S. 1999/293, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(48)

O.S. 2000/1043, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(49)

O.S. 2000/1973; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 2002/2980.

(50)

O.S. 2002/1689, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(51)

O.S. 2002/1959; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1375.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources