Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/07/2005.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
64.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd yr Asiantaeth yw gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw hawl i ddwyn achos a all fod gan unrhyw berson sy'n codi ar wahân i'r Rheoliadau hyn, neu unrhyw hawl, pŵer neu ddyletswydd arall gan unrhyw berson naill ai yn y gyfraith neu'n codi yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniad (yn ddatganedig neu ymhlyg) neu o ganlyniad i unrhyw weithred neu anweithred.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 64 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
65. Mae'n dramgwydd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodwyd ar y person hwnnw gan neu o dan y darpariaethau canlynol o'r Rheoliadau hyn—
(a)Rhan 4;
(b)rheoliadau 21, 22, 24, 25 a 26;
(c)rheoliadau 34 i 44;
(ch)rheoliadau 46 ac Atodlen 7;
(d)Rhan 7 (ac eithrio rheoliad 52); ac
(dd)rheoliad 62.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 65 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
66. Mae'n amddiffyniad i berson a gyhuddir o dramgwydd o dan reoliad 65 i brofi—
(a)nad oedd yn rhesymol yn gallu cydymffurfio â'r ddarpariaeth o dan sylw oherwydd argyfwng neu berygl difrifol a'i fod wedi cymryd pob cam a oedd yn rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau—
(i)i gadw i'r lleiaf posibl unrhyw fygythiad i'r cyhoedd neu'r amgylchedd; a
(ii)i sicrhau cydymffurfedd â'r ddarpariaeth o dan sylw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad; neu
(b)os nad oes unrhyw argyfwng neu berygl difrifol, ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac arfer diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni tramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 66 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
67.—(1) Os cyflawnir tramgwydd gan unrhyw berson o dan y Rhan hon oherwydd gweithred neu ddiffyg rhyw berson arall, gellir cyhuddo'r person arall hwnnw o dramgwydd a'i gollfarnu yn rhinwedd y paragraff hwn p'un a ddygwyd achos yn erbyn y person a grybwyllwyd gyntaf ai peidio.
(2) Os cyflawnwyd tramgwydd o dan y Rhan hon gan gorff corfforaethol a phrofir iddo gael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn cymryd arno ei fod yn gweithredu mewn swydd o'r fath, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi'n unol â hynny.
(3) Pan fydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (2) yn gymwys i weithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr y corff corfforaethol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 67 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
68.—(1) Bydd unrhyw berson sydd, wrth gymryd arno ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodwyd gan neu o dan unrhyw rai o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn i roi unrhyw wybodaeth, yn gwneud a datganiad y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu'n gwneud unrhyw ddatganiad yn ddi-hid sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn cyflawni tramgwydd.
(2) Mae person sy'n fwriadol yn gwneud cofnod anwir mewn unrhyw gofnod neu gofrestr y mae'n ofynnol eu cadw yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau blaenorol yn y Rheoliadau hyn yn cyflawni tramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 68 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
69.—(1) Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r rheoliadau canlynol, sef—
(a)rheoliad 21 (gofyniad i hysbysu mangre);
(b)rheoliad 22 (gwahardd symud gwastraff o fangre oni roddwyd hysbysiad neu onid yw'n esempt);
(c)rheoliadau 24 i 26 (hysbysiadau);
(ch)rheoliad 34 (codau traddodi);
(d)rheoliadau 35 i 44 (nodiadau traddodi);
(dd)rheoliad 46 ac Atodlen 7 (llwythi trawsffiniol);
(e)rheoliad 53 (atebion chwarterol traddodai ac atebion hunanwaredu chwarterol);
(f)rheoliad 54 (atebion y traddodai i'r cynhyrchydd, y deiliad neu'r traddodwr); neu
(ff)rheoliad 55 (dyletswyddau i ddarparu gwybodaeth),
yn atebol, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Mae person sy'n cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 neu 68 mewn cysylltiad ag unrhyw ofyniad arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—
(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu
(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 69 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
70.—(1) Pan fydd gan berson awdurdodedig sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth reswm i gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 65 y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, caiff y person awdurdodedig roi hysbysiad i'r person hwnnw yn cynnig cyfle iddo ryddhau ei hun oddi wrth unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd hwnnw drwy dalu cosb benodedig.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dramgwydd sy'n golygu—
(a)methiant i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad mewn unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff); neu
(b)gwneud datganiad anwir neu gamarweiniol gan honni cydymffurfio ag unrhyw un o'r rheoliadau a restrir yn rheoliad 69(1)(a) i (ff).
(3) Os rhoddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thramgwydd—
(a)ni ellir dwyn achos am y tramgwydd hwnnw cyn pen wyth diwrnod ar hugain ar ôl dyddiad yr hysbysiad; a
(b)ni cheir ei gollfarnu o'r tramgwydd hwnnw os yw'n talu'r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi'r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn golygu tramgwydd fel sy'n angenrheidiol ar gyfer rhoi gwybodaeth resymol am y tramgwydd a rhaid iddo ddatgan—
(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd paragraff (3), ni ddygir achos am y tramgwydd;
(b)swm y gosb benodedig; ac
(c)enw'r person y telir y gosb benodedig iddo a'r cyfeiriad lle gellir talu.
(5) Heb leihau effaith talu drwy unrhyw ddull arall, ceir talu cosb benodedig drwy anfon llythyr y talwyd amdano ymlaen llaw a'i bostio at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw sy'n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall).
(6) Os anfonir llythyr yn unol â pharagraff (5) bernir bod taliad wedi'i wneud ar yr amser y byddid yn traddodi'r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.
(7) Rhaid anfon hysbysiad o gosb benodedig a ddyroddwyd yn unol â'r adran hon yn y ffurf a osodir yn Atodlen 10.
(8) Y gosb benodedig sy'n daladwy yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn yw £300; ac o ran y symiau a dderbynnir gan neu ar ran yr Asiantaeth, rhaid talu'r symiau hynny i'r Cynulliad.
(9) Mewn unrhyw achos mae tystysgrif—
(a)sy'n cymryd arni ei bod wedi'i llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid yr Asiantaeth;
(b)sy'n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law ai peidio erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatganwyd.
(10) Ym mharagraff (9), ystyr “prif swyddog cyllid” yw'r person sydd â'r cyfrifoldeb dros faterion ariannol yr Asiantaeth.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 70 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: