Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 16/07/2005.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
61.—(1) Mae'r Rhan hon yn effeithiol at ddibenion gwneud darpariaeth ar gyfer argyfwng neu berygl difrifol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “argyfwng neu berygl difrifol” yn sefyllfa bresennol neu sefyllfa a fygythir sy'n codi o sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu fod sail resymol dros gredu hynny, ac mae'r sefyllfa yn fygythiad i'r boblogaeth neu'r amgylchedd yn unrhyw le.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 61 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
62.—(1) Mewn achosion o argyfwng neu berygl difrifol, rhaid i ddeiliad gwastraff peryglus—
(a)cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i osgoi argyfwng neu berygl difrifol; neu
(b)os nad yw'n rhesymol ymarferol i gydymffurfio â pharagraff (a), cymryd pob cam cyfreithlon a rhesymol i liniaru'r argyfwng neu berygl difrifol.
(2) At ddibenion paragraff (1), gellid ystyried gweithred neu anweithred yn gyfreithlon er y byddai, heblaw am y rheoliad hwn, yn ffurfio toriad yn y Rheoliadau hyn.
(3) Os yw deiliad gwastraff peryglus yn gwybod neu os oes ganddo sail resymol dros gredu bod argyfwng neu berygl difrifol wedi codi, rhaid iddo hysbysu'r Asiantaeth o'r amgylchiadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(4) Os bydd y deiliad yn cymryd unrhyw gam sy'n cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid iddo, oni fydd y cam hwnnw wedi llwyr osgoi'r argyfwng neu'r perygl difrifol heb dorri'r Rheoliadau hyn, hysbysu'r Asiantaeth cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(5) At ddibenion paragraff (4), bernir na fydd argyfwng neu berygl difrifol wedi cael ei osgoi'n llwyr os rhyddhawyd unrhyw sylwedd neu wrthrych sydd yn wastraff peryglus, neu os oes sail resymol dros gredu hynny, p'un a yw'r deiliad yn credu ai peidio ei fod wedi llwyr ddifetha'r sylwedd neu'r gwrthrych, eu hadennill neu beri nad oes dim niwed ynddynt.
(6) Os digwydd hysbysiad yn unol â pharagraff (3) neu (4) os hysbysir yn llafar, rhaid i'r deiliad gadarnhau yn ysgrifenedig i'r Asiantaeth y materion a hysbyswyd o fewn un wythnos ar ôl yr hysbysiad llafar.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn nid yw person i'w ryddhau o unrhyw ofyniad a osodir gan y rheoliad hwn ddim ond am ei fod wedi peidio â bod yn ddeiliad oherwydd bod y gwastraff wedi mynd o'i feddiant neu ei reolaeth oherwydd y rhyddhad.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 62 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
63.—(1) Rhaid i'r Asiantaeth arfer ei swyddogaethau (p'un ai o dan y Rheoliadau hyn neu fel arall) fel y bydd yn cymryd pob cam rhesymol ymarferol sy'n angenrheidiol neu'n hwylus i osgoi neu liniaru argyfwng neu berygl difrifol.
(2) Rhaid i berson awdurdodedig wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas ag argyfwng neu berygl difrifol arfer ei bwerau o dan adrannau 108 a 109 o Ddeddf 1995 er mwyn cymryd pob cam sy'n rhesymol ymarferol i osgoi neu liniaru'r argyfwng neu'r perygl difrifol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 63 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: