
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThe Whole
Cross Heading
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made).
Symud gwastraffoedd llongau heblaw i gyfleusterau derbyn
40.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o long mewn ardal harbwr heblaw mewn achos y mae rheoliad 39 yn gymwys iddi.
(2) Cyn symud y llwyth—
(a)rhaid i feistr y llong—
(i)paratoi tri chopi o'r nodyn traddodi;
(ii)cwblhau Rhannau A a B ar bob copi; a
(iii)rhoi pob copi i'r cludwr;
(b)rhaid i'r cludwr gwblhau Rhan C ar bob copi;
(c)rhaid i feistr y llong—
(i)cwblhau Rhan D ar bob copi;
(ii)cadw un copi; a
(iii)rhoi pob copi sy'n weddill i'r cludwr;
(ch)rhaid i'r cludwr sicrhau bod pob copi a dderbyniodd—
(i)yn mynd gyda'r llwyth; a
(ii)yn cael ei roi i'r traddodai pan draddodir y llwyth.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 42, wrth dderbyn y llwyth, rhaid i'r traddodai—
(a)cwblhau Rhan E ar y ddau gopi; a
(b)rhoi un copi i'r cludwr.
Back to top