- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
41.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os symudir gwastraff peryglus o unrhyw fangre (heblaw llong), lle caiff ei gynhyrchu neu ei storio, drwy biblinell.
(2) Cyn rhoi'r gwastraff mewn piblinell, ac, os yw'r piblinellu'n barhaus, ar ddechrau pob chwarter rhaid i'r cynhyrchydd, neu'r deiliad, yn ôl y digwydd—
(a)paratoi un copi o'r nodyn traddodi ar gyfer pob un o'r canlynol: y cynhyrchydd neu'r deiliad, yn ôl y digwydd (os yw'n wahanol i'r traddodwr), y traddodwr a'r traddodai;
(b)cwblhau Rhannau A, B a D ar bob copi, gyda'r ddarpariaeth bod yn rhaid cofnodi cyfradd y llif cyfartalog yn Rhan B3, ynghyd ag amcangyfrif o gyfanswm cyfaint y gwastraff sydd i'w biblinellu fesul wythnos neu fis calendr.
(3) Rhaid i'r traddodai gwblhau Rhan E ar bob copi gyda'r addasiadau canlynol—
(a)yn Rhan E1, bernir bod y cyfeiriad at y dyddiad pan dderbyniwyd y gwastraff yn gyfeiriad at y dyddiad diwethaf pan dderbyniwyd y gwastraff gan y traddodai yn unol â'r nodyn traddodi hwnnw; a
(b)yn Rhan E2, nid oes angen manylion cofrestru'r cerbyd.
(4) Rhaid i'r traddodai gadw un copi a sicrhau bod copi yn cael ei roi i'r traddodwr, ac i gynhyrchydd neu ddeiliad y gwastraff peryglus, os yw'n wahanol i'r traddodwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: