- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
5 Gorffennaf 2005
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2005
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4, ym mharagraff (1)(a) yn lle'r gair “bedwerydd” rhowch y gair “drydydd”, ac yn lle'r gair “bedair” yn y paragraff hwnnw ac ym mharagraff (1)(b) rhowch y gair “dair”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003. O dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i sichrau bod digon o addysg feithrin ar gael yn eu hardal ar gyfer plant o oedran arbennig. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr oedran hwnnw drwy gyfeirio at dymhorau ar ôl pen blwydd plentyn yn dair oed yn lle pen blwydd plentyn yn bedair oed.
1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: