Search Legislation

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

(rheoliad 2(1))

YR ATODLENDarpariaethau Cymunedol Penodedig

Rhan I

Y Ddarpariaeth yn Rheoliad y CyngorY Pwnc
Erthygl 5(3)Bwrw ymlaen â symud yn fwriadol organedd a addaswyd yn enetig ar draws ffin am y tro cyntaf a hwnnw'n organedd a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol mewn ffordd na fyddai'n cydymffurfio â'r gweithdrefnau perthnasol.
Erthygl 10(1)Methu â pharchu unrhyw benderfyniad ar fewnforio organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 10(2)Bwrw ymlaen ag allforio am y tro cyntaf organeddau a addaswyd yn enetig ac a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r weithdrefn berthnasol.
Erthygl 10(3)Allforio organeddau a addaswyd yn enetig yn ddarostyngedig i symudiadau trawsffiniol ar gyfer defnyddio'r organeddau hynny'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer eu prosesu heb fod cytundeb datganedig i awdurdodi'r mewnforio wedi'i wneud o fewn y Gymuned neu gan awdurdod cymwys trydedd wlad, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 12 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002.

Rhan II

Erthygl 4Methiant gan allforiwr i hysbysu'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio cyn symud ar draws ffin ryngwladol am y tro cyntaf GMO (Organedd a Addaswyd yn Enetig) a fwriadwyd ar gyfer ei ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd ac a arfaethwyd ar gyfer y defnydd a bennir yn unol ag Atodiad I, pwynt (i), i Reoliad y Cyngor;
Methu â darparu yn yr hysbysiad yr wybodaeth ofynnol, fel a bennir yn Atodiad I i Reoliad y Cyngor; a
Methu â sicrhau bod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yn gywir.
Erthygl 6Methu â chadw am 5 mlynedd o leiaf gofnodion o hysbysiadau o dan Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor; cydnabyddiadau bod hysbysiadau wedi dod i law; a phenderfyniadau'r Parti sy'n mewnforio neu'r wlad neu'r corff nad yw'n Barti ac sy'n mewnforio; a Methu ag anfon copïau o'r cofnodion i'r Awdurdod Cymwys ac i'r Comisiwn.
Erthygl 7(2)Methu ag anfon copi i'r Ysgrifenyddiaeth o unrhyw nodyn atgoffa a anfonwyd i'r Partïon sy'n mewnforio neu i'r gwledydd neu'r cyrff nad ydynt yn Bartïon ac sy'n mewnforio.
Erthygl 12(1)Methu â sicrhau bod gwybodaeth benodedig yn cael ei chynnwys mewn dogfen sy'n mynd gyda'r GMOs; a methu â sicrhau bod yr wybodaeth honno yn cael ei throsglwyddo i'r mewnforiwr.
Erthygl 12(2)Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu defnyddio'n uniongyrchol fel bwyd neu fwyd anifeiliaid neu ar gyfer prosesu.
Erthygl 12(3)Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer defnydd cyfyngedig.
Erthygl 12(4)Methu â darparu'r wybodaeth atodol benodedig o ran GMOs a fwriadwyd ar gyfer eu gollwng yn fwriadol ac unrhyw GMOs eraill y mae Rheoliad y Cyngor yn gymwys iddynt.
Erthygl 13Methu â hysbysu Partïon o dramwyad organeddau a addaswyd yn enetig drwy eu tiriogaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources