Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 1915 (Cy.158)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005

Wedi'u gwneud

12 Gorffennaf 2005

Yn dod i rym, ac eithrio

rheoliadau 2 a 7

1 Awst 2005,

Rheoliadau 2 a 7

1 Ebrill 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2005 a deuant i rym ar 1 Awst 2005, ac eithrio rheoliadau 2 a 7 a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(2).

Diwygio symiau a bennir yn y prif Reoliadau

2.  Am bob swm a bennir yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, pan fydd y swm hwnnw'n ymddangos yn narpariaeth y prif Reoliadau, a honno'n ddarpariaeth a bennir mewn perthynas â'r swm hwnnw yng ngholofn (1) (ac y gwelir yng ngholofn (2) beth yw ei phwnc), rhodder yn lle'r swm hwnnw y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (4).

Diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau

3.  Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (dehongli)—

(a)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder —

ystyr “Rheoliadau Ffioedd 2000” (“the Charges Regulations 2000”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(3);;

(b)yn y diffiniad cyntaf o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yn lle “rhagnodydd” ym mhob man y digwydd, rhodder “rhagnodydd amlroddadwy”;

(c)hepgorer yr ail ddiffiniad o “swp-ddyroddiad” (“batch issue”);

(ch)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “swp-ddyroddiad cyfatebol” (“equivalent batch issue”) yw ffurflen a ddarperir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy cyfatebol i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu;;

(d)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “ffurflen bresgripsiwn gyfatebol” (“equivalent prescription form”) yw ffurflen a ddarparwyd ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol ac nad yw'n cynnwys—

(a)

ffurflen bresgripsiwn Gymreig;

(b)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol;;

(dd)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol” (“equivalent repeatable prescription”) yw presgripsiwn a geir mewn ffurflen ac a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon i alluogi person i gael gwasanaethau amlweinyddu;;

(e)hepgorer y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”);

(f)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae “carchar” (“prison”) yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc ond nid canolfan hyfforddi ddiogel neu garchar y llynges, carchar milwrol neu garchar y llu awyr, ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “canolfan hyfforddi ddiogel” (“secure training centre”) yw man y mae troseddwyr sy'n destun gorchmynion cadw a hyfforddi o dan adran 100 o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(4) (tramgwyddwyr o dan 18 oed: gorchmynion cadw a hyfforddi) yn gallu cael eu cadw a'u hyfforddi a'u haddysgu a'u paratoi ar gyfer eu rhyddhau; ac

ystyr “sefydliad tramgwyddwyr ifanc” (“young offender institution”) yw man i gadw tramgwyddwyr a ddedfrydwyd i gael eu cadw mewn sefydliad i droseddwyr ifanc neu ddalfa am oes;;

(ff)ar ôl y diffiniad o “carchar” mewnosoder—

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person a gedwir mewn carchar, lle darperir gwasanaethau deintyddol, offthalmig, fferyllol neu nyrsio o dan y Ddeddf a thrwy, neu o dan drefniadau a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol neu fel arall heblaw yn rhinwedd adran 7(2) o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988(5) (estyniad pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd);;

(g)hepgorer y diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”);

(ng)yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

neu

(ch)y rhan o'r gofrestr a gynhelir gan Gyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(6) sy'n ymwneud â'r canlynol—

(i)ciropodyddion a phodiatryddion,

(ii)ffysiotherapyddion, neu

(iii)radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig,;

(h)yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

“ystyr “ffurflen bresgripsiwn Gymreig” (“Welsh prescription form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru a ddyroddwyd gan ragnodydd neu ddeintydd i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nid yw'n cynnwys—

(a)

presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;

(b)

ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(c)

presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

ac at ddibenion y diffiniad hwn—

ystyr “un o Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru (“Welsh NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth y GIG y lleolir y cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, sefydliadau a chyfleusterau yng Nghymru;

(i)

yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy Cymreig” (“Welsh repeatable prescription”) yw presgripsiwn ar ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddwyd gan ragnodydd amlroddadwy i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol yn y fformat a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Contract y GMS—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ond a lofnodir gan ragnodydd amlroddadwy; a

(b)

sy'n dangos y ceir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a orchmynnir ar y ffurflen fwy nag unwaith, ac sy'n pennu sawl gwaith y ceir eu darparu;

Amnewid rheoliad 3 o'r prif Reoliadau

4.  Yn lle rheoliad 3 o'r prif Reoliadau rhodder y rheoliad a ganlyn—

Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr

3.(1) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf—

(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—

(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;

(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—

(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(2) Os telir ffi o dan baragraff (1), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(3) Rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (6), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—

(a)o ran pob swp-ddyroddiad—

(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;

(b)o ran pob swp-ddyroddiad cyfatebol—

(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(i) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 3(1A)(b)(ii) o Reoliadau Ffioedd 2000.

(4) Os telir ffi o dan baragraff (3), rhaid i'r person sy'n talu, bryd hynny lofnodi datganiad yn ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad neu'r swp-ddyroddiad cyfatebol bod y ffi berthnasol wedi cael ei thalu.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi o £4.00 sy'n daladwy am y cyffur hwnnw gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf;

(b)os cyflenwir cyffur a orchmynnir ar ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl fesul cyfrannau, rhaid i'r ffi a bennir yn rheoliad 3(4) o Reoliadau Ffioedd 2000 gael ei thalu pan gyflenwir y gyfran gyntaf.

(6) Ni chaniateir codi nac adennill ffioedd o dan baragraffau (1), (3) neu (5) yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)pan fydd esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—

(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar;

(b)pan fydd hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan neu ar ran y claf—

(i)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn Gymreig, ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(ii)mewn achosion pan gyflwynir ffurflen bresgripsiwn gyfatebol, ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(iii)mewn achosion sy'n dod o fewn paragraff (3), ar y swp-ddyroddiad o ran y presgripsiwn amlroddadwy Cymreig neu, ar y swp-ddyroddiad cyfatebol o ran y presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol, ar yr adeg y cyflenwir y cyffur neu'r cyfarpar; neu

(c)pan fydd y claf yn preswylio mewn ysgol neu sefydliad y mewnosodwyd ei henw neu ei enw ar y ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol gan ragnodydd yn unol â theler contract gwasanaethau meddygol cyffredinol sy'n rhoi effaith i baragraff 44(2) o Atodlen 6 i Reoliadau Contractau GMS neu drefniadau eraill ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wnaed o dan adran 16CC(2) o'r Ddeddf.

(7) Ni fydd fferyllydd, beth bynnag fo telerau ei wasanaeth, o dan rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau fferyllol o ran gorchymyn ar—

(a)ffurflen bresgripsiwn Gymreig,

(b)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol,

(c)presgripsiwn amlroddadwy Cymreig, neu

(ch)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

oni thelir yn gyntaf iddo gan y claf unrhyw ffi y mae'n ofynnol ei chodi a'i hadennill gan baragraff (1), (3), neu (5) o ran y gorchymyn hwnnw.

(8) Rhaid i fferyllydd sy'n codi ac yn adennill ffi o dan baragraff (1), (3), neu (5), os bydd y claf yn gofyn am hynny, roi derbynneb i'r claf am y swm a dderbyniwyd ar y ffurflen a ddarparwyd at y diben a rhaid i'r ffurflen honno gynnwys ffurfiau o ddatganiad yn cefnogi cais am ad-daliad a gwybodaeth o ran i bwy y gellir gwneud cais am ad-daliad.

(9) Caiff unrhyw swm a fyddai fel arall yn daladwy gan Fwrdd Iechyd Lleol i fferyllydd o ran darparu gwasanaethau fferyllol gan y fferyllydd ei leihau gan swm unrhyw ffioedd y mae'n ofynnol eu codi a'u hadennill gan y darpariaethau blaenorol yn y rheoliad hwn..

Diwygio rheoliad 4 o'r prif Reoliadau

5.—(1Diwygier rheoliad 4 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol —

(1) Rhaid i feddyg sy'n darparu gwasanaethau fferyllol i glaf, yn ddarostyngedig i baragraff (3), godi ac adennill taliad gan y claf hwnnw—

(a)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig—

(i)am eitem hosan elastig ffi o £4.00, hynny yw ffi o £8.00 y pâr,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, ffi o £4.00;

(b)os yw'r claf yn cyflwyno ffurflen bresgripsiwn gyfatebol—

(i)am eitem hosan elastig y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(a) o Reoliadau Ffioedd 2000,

(ii)am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur, y ffi a bennir yn rheoliad 4(1)(b) o Reoliadau Ffioedd 2000..

(3Ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.

(4Ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn” ym mhob man y digwydd, rhodder y geiriau “ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu ar y ffurflen bresgripsiwn gyfatebol”.

(5Ym mharagraff (4)—

(a)yn lle'r geiriau “ffurflen bresgripsiwn sengl” rhodder “ffurflen bresgripsiwn Gymreig sengl neu ffurflen bresgripsiwn gyfatebol sengl”; a

(b)yn lle “£6.00” rhodder “£4.00”.

Diwygio rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau

6.—(1Diwygier rheoliad 8 o'r prif Reoliadau fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (3), ar ddechrau'r paragraff, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A)”.

(3Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(3A) Ni fydd yn ofynnol i berson sy'n dod o fewn paragraff (1)(a) neu (b) ddarparu unrhyw ddatganiad o hawl sy'n ofynnol gan reoliadau 3(6) neu 4(3) os dyroddwyd—

(a)ffurflen bresgripsiwn Gymreig;

(b)presgripsiwn amlroddadwy Cymreig;

(c)ffurflen bresgripsiwn gyfatebol; neu

(ch)presgripsiwn amlroddadwy cyfatebol,

a bod dyddiad geni'r person wedi'i argraffu drwy gyfrwng cyfrifiadur ar y ffurflen berthnasol ..

Mewnosod rheoliad 8A yn y prif Reoliadau

7.  Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder y rheoliad canlynol—

Esemptiad rhag ffioedd ar gyfer carcharorion

8A.  Nid yw carcharor yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y Rheoliadau hyn..

Diwygio rheoliad 11 o'r prif Reoliadau

8.  Ym mharagraff (2) o reoliad 11 o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau “rheoliad 3(6)” rhodder “rheoliad 3(8)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Gorffennaf 2005

rheoliad 2

YR ATODLENSymiau a amnewidir yn y prif Reoliadau

(1)(2)(3)(4)
Y ddarpariaeth yn y prif ReoliadauY pwncSwm blaenorolSwm newydd
Rheoliad 3Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr—
paragraff (1)(a)(i)ffi am hosanau elastig—
fesul eitem£4.00£3.00
y pâr£8.00£6.00
paragraff (1)(a)(ii)ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i)£4.00£3.00
paragraff (3)(a)(i)ffi am hosanau elastig—
fesul eitem£4.00£3.00
y pâr£8.00£6.00
paragraff (3)(a)(ii)ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (3)(a)(i)£4.00£3.00
paragraff (5)(a)ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn£4.00£3.00
Rheoliad 4Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan feddygon —
paragraff (1)(a)(i)ffi am hosanau elastig—
fesul eitem£4.00£3.00
y pâr£8.00£6.00
paragraff (1)(a)(ii)ffi am gyffuriau, ac am gyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)(i)£4.00£3.00
paragraff (4)ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn£4.00£3.00
Rheoliad 5Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar i gleifion allanol gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG —
paragraff (1)(a)ffi am hosanau elastig—
fesul eitem£4.00£3.00
y pâr£8.00£6.00
paragraff (1)(c)ffi am deits£8.00£6.00
paragraff (1)(ch)ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a) neu (1)(c), neu yn Atodlen 1£4.00£3.00
paragraff (5)ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn£4.00£3.00
Rheoliad 6Cyflenwi cyffuriau a chyfarpar mewn Canolfannau cerdded-i-mewn
paragraff (1)(a)ffi am hosanau elastig—
fesul eitem£4.00£3.00
y pâr£8.00£6.00
paragraff (1)(b)ffi am gyffuriau a chyfarpar na phennir ym mharagraff (1)(a)£4.00£3.00
paragraff (4)ffi am gyffuriau a gyflenwir fesul tipyn£4.00£3.00
Rheoliad 7(1)Cyflenwi cyffuriau o dan Gyfarwyddiadau Grwp Cleifion£4.00£3.00
Rheoliad 10(5)Tystysgrif ragdalu —
4 mis£20.93£15.69
12 mis£57.46£43.09

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae rheoliad 2 a'r Atodlen yn gostwng y ffi am eitemau ar bresgripsiwn a gyflenwir i gleifion o £4.00 i £3.00. Gostyngir y ffi am hosanau elastig o £4.00 i £3.00 (o £8.00 i £6.00 y pâr) a'r ffi am deits o £8.00 i £6.00. Gostyngir y symiau a ragnodir i roi tystysgrifau rhagdalu o £20.93 i £15.69 am dystysgrif pedwar mis ac o £57.46 i £43.09 am dystysgrif deuddeg mis.

Mae diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn darparu ar gyfer cymhwyso ffioedd ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol a ragnodir gan y prif Reoliadau o ran “presgripsiynau Cymreig” yn unig, sef y presgripsiynau hynny a ddyroddir ac a weinyddir yng Nghymru. Cymhwysir ffioedd ar gyfer presgripsiynau a ddyroddir o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (“presgripsiynau cyfatebol”) yn ôl y cyfraddau a ragnodir gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000.

Mae rheoliad 6 yn tynnu'r gofyniad bod yn rhaid i bersonau o dan 25 oed, a phersonau 60 oed neu drosodd, sy'n esempt rhag talu ffioedd o dan y prif Reoliadau yn rhinwedd eu hoedran, ac y nodir eu dyddiad geni ar ffurflenni presgripsiwn Cymreig, presgripsiynau amlroddadwy Cymreig, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ddatgan eu bod yn esempt oherwydd eu hoedran pan gyflenwir hwy â chyffuriau neu gyfarpar gan fferyllwyr o dan reoliad 3 o'r prif Reoliadau neu gan feddygon o dan reoliad 4 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu na fydd carcharorion mewn carcharau penodol yn atebol i dalu unrhyw ffioedd o dan y prif Reoliadau. Dim ond tra byddant yn y carchar mewn gwirionedd y bydd carcharorion yn cael cyffuriau a chyfarpar yn ddi-dâl ac felly ni fydd angen iddynt brofi eu hawl i esemptiad rhag talu'r ffioedd. Daw'r newid hwn o ganlyniad i drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarparu gofal iechyd o'r Swyddfa Gartref i Fyrddau Iechyd Lleol sy'n effeithiol o Ebrill 2006.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4).

Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) (“Deddf 1988”), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44.

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources