1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.
4. Yn y Gorchymyn hwn:—
(a)mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;
(b)ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470).
ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;
ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 6 wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005” ei lofnodi ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'i adneuo yn Ystorfa Cofnodion ac Uned Ailafael Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwynt Neptune, Ocean Way, Caerdydd;
5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.
S. C. Shouler
Cyfarwyddwr, Polisi Trafnidiaeth a Gweinyddu
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyddiedig 16 Awst 2005