- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Wedi'u gwneud
19 Hydref 2005
Yn dod i rym
20 Hydref 2005
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adrodd ar Brisiau Cynhyrchion Llaeth (Cymru) 2005; deuant i rym ar 20 Hydref 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Rhaid i broseswr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wybodaeth ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth(3).
(2) Caiff yr hysbysiad y cyfeirir ato o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i'r proseswr llaeth ddarparu'r wybodaeth ofynnol yn wythnosol, a chaiff bennu'r amser a'r diwrnod erbyn pryd y bydd rhaid darparu'r wybodaeth a ffurf yr wybodaeth.
3. Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 2(1) yn euog o dramgwydd, ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2005, yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweithredu erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 562/2005 (OJ Rhif L95, 14.4.2005, t.11) sy'n gosod rheolau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1255/1999 o ran cyfathrebiadau rhwng yr Aelod-wladwriaethau a'r Comisiwn yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth.
Mae Rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i broseswyr llaeth ddarparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru unrhyw wybodaeth y bydd y Cynulliad yn gofyn amdani drwy hysbysiad ynglŷn â phrisiau cynhyrchion llaeth penodol. Mae methu cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (rheoliad 3).
Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ar yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ei baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: