- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
22 Tachwedd 2005
Yn dod i rym
24 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2).
Mae wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.
Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(3) sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005; deuant i rym ar 24 Tachwedd 2005.
2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005(4) yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn rheoliad 3 (diwygiad o'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(5)) mewnosoder ar y diwedd y geiriau “which was itself amended by Commission Directive 2005/63/EC”(6).
4. Yn yr Atodlen, yn nhestun yr Atodlen 2A newydd sydd i'w mewnosod yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (rhestr o gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig ac nad yw'r gofynion labelu alergenau yn gymwys iddynt) yng ngholofn 2 yn lle'r geiriau “Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours” rhodder y geiriau “Fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations and flavours”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Tachwedd 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 sy'n gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/26/EC sy'n llunio rhestr o gynhwysion neu sylweddau bwyd a eithriwyd dros dro o Atodiad IIIa o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33). Yn unol â'r amserlen yn y Gyfarwyddeb honno, daw'r Rheoliadau hynny i rym ar 25 Tachwedd 2005. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhoi esemptiad nes 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergenau a geir yn rheoliad 34B o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 yn achos cynhwysion penodol sy'n dod o gynhwysion alergenig. Mae Rheoliadau 1996 yn rhychwantu Prydain Fawr i gyd; mae'r Rheoliadau diwygio hynny'n gymwys o ran Cymru'n unig.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/63/EC sy'n cywiro Cyfarwyddeb 2005/26/EC (OJ Rhif L258, 4.10.2005, t.3).
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhoi esemptiad tan 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergenau a geir yn rheoliad 34B o Reoliadau 1996 yn achos gelatin pysgod a ddefnyddir fel cariwr paratoadau carotenyn (rheoliad 4);
(b)yn diweddaru'r diffiniad o “Directive 2000/13/EC” (rheoliad 3).
4. Ni luniwyd arfarniad rheoliadol manwl ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio o gwbl ar gostau busnes.
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.
Trosglwyddwyd Swyddogaethau “the Secretary of State” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).
O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 2001/1232 (Cy.66), 2004/249 (Cy.26), 2004/3022 (Cy.261), 2005/ 2835 (Cy. 200).
OJ Rhif L258, 4.10.2005, t.3.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: