
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Defnyddio ystafelloedd cyhoeddus
21.—(1) Caiff Llywydd Tribiwnlys Prisio, Cyfarwyddwr y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr neu Glerc wneud cais am ganiatâd cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru am ddefnyddio unrhyw adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor hwnnw gan Dribiwnlys Prisio neu ei aelodau, Tribiwnlys arbennig, y Cyngor Llywodraethu, y Prif Weithredwr, Clerc neu weithwyr Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru ar ba ddyddiau bynnag a nodir yn y cais.
(2) Ni ddylai cyngor sy'n derbyn cais fel y darperir ym mharagraff (1) wrthod y caniatâd a geisir yn afresymol, a bydd hawl ganddo i godi tâl rhesymol mewn perthynas â defnydd o'r fath.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc Interim a benodir o dan reoliad 18(5) neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(7);
ystyr “Prif Weithredwr” (“Chief Executive”) yw Prif Weithredwr Interim a benodir o dan reoliad 18(1) neu Brif Weithredwr a benodir o dan reoliad 18(3).
Back to top