- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
22.—(1) Bydd unrhyw apêl i hen Dribiwnlys a gychwynnwyd cyn 15 Chwefror 2006, ac a fyddai, pe bai wedi'i gychwyn ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny'n gymwys i'w benderfynu gan Dribiwnlys Prisio a sefydlwyd o dan reoliad 11, yn cael ei drosglwyddo ar 15 Chwefror 2006 i'w benderfynu gan y Tribiwnlys Prisio hwnnw (“y Tribiwnlys newydd”).
(2) Ar 15 Chwefror 2006 ac ar ôl hynny—
(a)bydd y darpariaethau statudol perthnasol yn bodoli, fel pe bai unrhyw beth a wnaed mewn perthynas â'r apêl gan neu yng nghyswllt yr hen Dribiwnlys y trosglwyddwyd ef ohono, neu Glerc, Llywydd neu gadeirydd yr hen Dribiwnlys hwnnw, wedi'i wneud gan neu mewn perthynas â'r Tribiwnlys newydd, neu, yn ôl y digwydd, Clerc, Llywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd hwnnw, a
(b)bydd unrhyw gyfeiriad (sut bynnag y geirir ef) at Glerc, Llywydd neu gadeirydd hen Dribiwnlys yn y darpariaethau statudol perthnasol neu'r offerynnau a wneir danynt, cyn belled ag sy'n angenrheidiol i weithredu'r rheoliad hwn, yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at Glerc, neu, yn ôl y digwydd, Lywydd neu Gadeirydd y Tribiwnlys newydd.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr “darpariaethau statudol perthnasol” (“the relevant statutory provisions”) yw—
(a)mewn perthynas ag apeliadau o dan adran 16, neu baragraff 3(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992, y Rheoliadau hyn;
(b)mewn perthynas ag apeliadau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 24 o Ddeddf 1992, y Rheoliadau hynny;
(c)mewn perthynas ag apeliadau o dan Atodlen 4A i Ddeddf 1988 (Hysbysiadau i Gwblhau), a than Reoliadau a wnaed dan adran 55 o Ddeddf 1988 (“y Rheoliadau hynny”), y Rheoliadau hynny;
(ch)mewn perthynas ag apeliadau a wnaed o dan adran 45 o Ddeddf Draenio Tir 1991, Deddf 1991;
(d)mewn perthynas ag apeliadau o dan baragraff 5C o Atodlen 9 (Cosbau Sifil) o Ddeddf 1988, y Rheoliadau hyn.
(4) At ddibenion Rhan 4 y Rheoliadau hyn, ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw—
(a)Clerc Interim neu Glerc a benodir o dan reoliad 18(5) a (7), ac
(b)unrhyw gyflogai arall i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru a benodir o dan reoliad 18(8), y mae holl swyddogaethau neu ran o swyddogaethau Clerc yn Rhan 4 y Rheoliadau hyn, wedi'u dirprwyo iddynt.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: