- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Ionawr 2005 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
mae i “casglwr” yr ystyr a roddir i “collector” yn Erthygl 144(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004;
ystyr “cyfnod neilltuo” (“set-aside period”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 31 Awst (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol;
mae “cwrs dŵr” (“watercourse”) yn cynnwys camlas a ffos gae;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;
mae i “ffermwr” yr ystyr a roddir i “farmer” yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;
ystyr “gorchudd glas” (“green cover”) yw gorchudd glas a sefydlwyd neu sydd, yn ôl y digwydd, i'w sefydlu yn unol ag Atodlen 1;
ystyr “gwastraff organig” (“organic waste”) yw deunydd gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan anifeiliaid neu blanhigion fel sgil-gynnyrch gwaith cynhyrchu amaethyddol, ac mae'n cynnwys sarn anifeiliaid;
mae i “prosesydd” yr un ystyr â “processor” yn Rheoliad y Comisiwn 1973/2004;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 795/2004” (“Commission Regulation 795/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004(1) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 1973/2004” (“Commission Regulation 1973/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004(2) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 mewn perthynas â'r cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn Nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a defnyddio tir a neilltuwyd ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai;
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003(3) sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac sy'n diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001;
ystyr “Rheoliad y Cyngor 1251/1999” (“Council Regulation 1251/1999”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1251/1999 sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol(4);
ystyr “Rheoliadau Trawsgydymffurfio 2004” (“the Cross Compliance Regulations 2004”) yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(5);
ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd” (“land set aside for non-food purposes”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 55(b) o Reoliad y Cyngor o dan yr amodau a bennwyd ym Mhennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir at y diben hwnnw yn unol â hynny;
ystyr “tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith gynhyrchu” (“land set aside from production”) yw tir sydd wedi'i neilltuo yn unol ag Erthygl 54(3) o Reoliad y Cyngor (ac eithrio tir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd), a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at ffermwr yn neilltuo tir oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â hynny; ac
ystyr “tymor gorchudd glas” (“green cover season”) yw'r cyfnod o 15 Ionawr i 14 Gorffennaf (yn gynhwysol) mewn unrhyw flwyddyn benodol.
(2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
(3) mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn ôl y digwydd.
3. At ddibenion ail frawddeg Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor, caniateir i dir gael ei neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —
(a)os yw'n gymwys ar gyfer hawl neilltir yn unol ag Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor neu'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiateir o dan reoliad 5;
(b)os yw o leiaf 6 metr (ond yn llai na 10 metr) ei led;
(c)os yw o leiaf 0.05 hectar o ran maint; ac
(ch)os yw'n ffinio —
(i)â pherth;
(ii)â choetir;
(iii)â chwrs dŵ r; neu
(iv)â darn o dir yr hysbyswyd o dan adran 28(1)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu wedi'u nodi yn Atodlen 1.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd wedi'u nodi yn Atodlen 2.
(3) mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) i fod yn gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu a thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd yn y drefn honno yn ychwanegol at y safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i'r tir yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Trawsgydymffurfio 2004.
(4) Nid yw darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys i dir —
(a)sydd wedi'i neilltuo neu wedi'i goedwigo yn unol ag Erthyglau 22 i 24 neu Erthygl 31 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(7) sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio neu'n diddymu Rheoliadau penodol, a
(b)sy'n cael ei gyfrif yn neilltir at ddibenion Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor,
i'r graddau y mae gofynion Atodlen 1 neu 2 yn anghydnaws â'r gofynion amgylcheddol neu'r gofynion coedwigo a bennwyd yn unol â'r Erthyglau hynny.
(5) mae ffermwr yn esempt rhag unrhyw ofyniad penodol yn Atodlen 1 neu 2 mewn perthynas â neilltir penodol os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cais sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â'r gofyniad hwnnw, y dylai gael ei esemptio rhagddo —
(a)er mwyn hwyluso ymchwil i effaith defnyddio dulliau penodol o reoli neilltir;
(b)er diogelu'r amgylchedd;
(c)os sefydliad addysgol yw'r ffermwr, er mwyn ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni ei bwrpas addysgol;
(ch)am fod un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y cyfnod neilltuo—
(i)bod piblinell, cebl neu beilon, yn rhinwedd unrhyw bŵer neu awdurdodiad a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, yn cael ei gosod neu ei osod neu y bydd yn cael ei gosod neu ei osod drwy, neu'n cael ei hadeiladu neu y bydd yn cael ei hadeiladu neu ei adeiladu ar neu ar draws, y tir, ac nad oedd gosod neu adeiladu'r piblinell, cebl neu beilon yn gynnig yr hysbyswyd y ffermwr ohono fwy na 5 mis cyn y dyddiad y cafodd y tir ei neilltuo;
(ii)bod gwaith cynnal a chadw'r biblinell, y cebl neu'r peilon yn cael ei wneud neu y bydd yn cael ei wneud o dan awdurdod statudol ar y neilltir penodol; neu
(iii)bod gwaith cloddio archeolegol yn cael ei wneud, neu y bydd yn cael ei wneud, ar y tir;
(d)er iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid;
(dd)am fod yr esemptiad hwnnw yn angenrheidiol, naill er mwyn ei gwneud yn bosibl trin achos difrifol o niwed i iechyd planhigion neu heigiad difrifol o unrhyw bla neu chwynnyn penodol, neu er mwyn caniatáu i fesurau gael eu cymryd i atal unrhyw beth o'r fath sy'n achosi'r niwed neu'r heigiad rhag datblygu; neu
(e)er mwyn bod o fudd i elusen (fel y'i diffinnir yn adran 96(1) o Ddeddf Elusennau 1993)(8).
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu bod unrhyw esemptiad a roddir yn unol â pharagraff (5) yn effeithiol tan ddyddiad a bennir yn yr esemptiad, neu hyd nes bod achlysur penodol, a bennir yn yr esemptiad, wedi digwydd.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “chwynnyn penodol” yw unrhyw un o'r chwyn niweidiol a restrir yn adran 1(2) o Ddeddf Chwyn 1959(9), sef Rhododendron ponticum, clymog Japan (Reynoutria japonica), efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum) neu ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera).
5.—(1) Mewn sefyllfa a bennir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) o baragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, caiff ffermwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dir nad yw fel arall yn gymwys ar gyfer hawl neilltir.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cais gael ei wneud ar unrhyw ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani, a phan fo'r ffermwr yn bwriadu cyfnewid y tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer am dir arall sy'n gymwys ar gyfer hawl neilltir (gan gynnwys tir sy'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiatawyd o dan y rheoliad hwn), rhaid iddo roi manylion am y tir hwnnw, yn ogystal â'r tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer, yn ei gais.
(3) Pan fo ffermwr yn dal unrhyw ran o'r tir y mae ei gais wedi'i wneud ar ei gyfer, neu unrhyw dir y mae'n bwriadu ei gyfnewid am y tir hwnnw, fel tenant, rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig ei landord â'r cyfnewid, a rhaid i'r cais gynnwys datganiad gan y ceisydd bod y cydsyniad hwnnw wedi'i sicrhau.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r cais a wnaed o dan baragraff (1) os yw wedi'i fodloni —
(a)bod is-baragraff perthnasol paragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004 a nodwyd yng nghais y ffermwr yn gymwys mewn perthynas â'r tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer;
(b)pan fo'r cais wedi'i wneud ar sail is-baragraff (c) paragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, ynglyn â'r rhesymau a roddwyd ganddo dros ddymuno cyfnewid tir anghymwys am dir cymwys ar ei ddaliad; ac
(c)ynglyn â'r canlynol —
(i)os yw'r tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer i'w gyfnewid am dir cymwys arall, nad yw arwynebedd y tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer yn fwy o 5% nag arwynebedd y tir sydd i'w gyfnewid; neu
(ii)os na fwriedir cyfnewid unrhyw dir, ni fydd cymeradwyo'r cais yn arwain at gynnydd sylweddol yn arwynebedd cyfan y tir sy'n gymwys at ddibenion hawliau neilltir.
(5) Pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi o dan baragraff (4) ond bod unrhyw ddatganiad a oedd wedi'i gynnwys gan y ffermwr yn y cais, neu unrhyw wybodaeth a oedd wedi'i rhoi mewn cysylltiad â'r cais, yn anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth honno.
(6) Yn y rheoliad hwn mae i “yn gymwys ar gyfer hawl neilltir”, mewn perthynas â thir, yr ystyr a roddir i “eligible for set-aside entitlement” gan baragraff cyntaf Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor.
6.—(1) mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (defnyddio tir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai at ddibenion di-fwyd).
(2) Rhaid i ddeunyddiau crai y mae Erthygl 146(2)(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn gymwys iddynt gael eu pwyso gan weithredydd cyfarpar pwyso cyhoeddus sy'n dal tystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 18 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985(10).
(3) At ddibenion Erthygl 146(4) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, rhaid i rawnfwydydd a hadau olew y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt gael eu dadnatureiddio drwy eu lliwio â lliw llachar.
(4) At ddibenion Erthygl 157(1) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 15 Mai yn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir adneuo contract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(5) At ddibenion Erthygl 157(3) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 31 Ionawr yn y flwyddyn sy'n dilyn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir i gasglwr neu brosesydd cyntaf y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn y paragraff hwnnw.
(6) Yn y rheoliad hwn —
ystyr “yr hawl neilltir gysylltiedig” (“the associated set-aside entitlement”) yw'r hawl neilltir sy'n cael ei hawlio ar gyfer y tir sydd wedi'i neilltuo i gynhyrchu'r deunyddiau crai y mae'r contract y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4), a'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 5, yn ymwneud â hwy; ac
mae i “prosesydd cyntaf” yr ystyr a roddir i “first processor” gan Erthygl 144(c) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004.
7.—(1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ffermwr yn neilltuo tir at ddibenion di-fwyd, ac ym mharagraffau (2) i (5) mae cyfeiriadau at “deunyddiau crai” yn gyfeiriadau at ddeunyddiau crai a gynhyrchir ar y tir hwnnw.
(2) Yn ystod unrhyw fis pan fydd casglwr yn prynu neu'n gwerthu unrhyw ddeunyddiau crai, rhaid iddo wneud cofnod o faint o bob deunydd crai y mae wedi'i brynu neu wedi'i werthu yn ystod y mis hwnnw, ac enwau a chyfeiriadau'r prynwyr neu'r proseswyr dilynol y mae wedi gwerthu'r deunyddiau crai hynny iddynt.
(3) Rhaid i gasglwr ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) tan y cynharaf o'r canlynol —
(a)diwedd y drydedd flwyddyn galendr sy'n dilyn y flwyddyn galendr y mae'n cyflwyno i brosesydd y deunyddiau crai y mae'r cofnodion hynny'n cyfeirio atynt; neu
(b)seithfed pen-blwydd dyddiad eu creu.
(4) Ar unrhyw ddydd y mae prosesydd yn prynu, prosesu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu unrhyw gynhyrchion a geir drwy brosesu deunyddiau crai o'r fath, rhaid iddo wneud cofnod sy'n dangos —
(a)meintiau'r gwahanol ddeunyddiau crai a brynwyd ganddo ar gyfer prosesu;
(b)maint y deunyddiau crai a broseswyd ganddo ynghyd â maint a math y cynhyrchion terfynol, y cydgynhyrchion a'r sgil-gynhyrchion a gafwyd o'r prosesu;
(c)maint y deunyddiau crai a gollwyd yn ystod y prosesu;
(ch)maint y deunyddiau crai a ddinistriwyd, os o gwbl, ynghyd â'r rheswm dros eu dinistrio;
(d)maint a math y cynhyrchion a werthwyd neu a waredwyd fel arall ganddo a'r pris a gafwyd amdanynt; ac
(dd)enwau a chyfeiriadau unrhyw brynwyr neu broseswyr dilynol y mae'n gwerthu iddynt y deunyddiau crai hynny neu'r cynhyrchion hynny a gafwyd drwy'r prosesu.
(5) Rhaid i brosesydd ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) am ddwy flynedd o'r naill neu'r llall o'r dyddiadau canlynol —
(a)pan fo'r cofnodion yn ymwneud â phrynu, prosesu, gwastraffu, dinistrio, gwerthu neu waredu fel arall y deunyddiau crai, y dyddiad y mae'n prynu, prosesu, gwastraffu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu'r deunyddiau crai, yn ôl y digwydd; a
(b)pan fo'r cofnodion yn ymwneud â gwerthu neu waredu fel arall gynhyrchion a gafwyd drwy brosesu'r deunyddiau crai hynny, y dyddiad y cafodd y cynhyrchion hynny eu gwerthu neu eu gwaredu fel arall, yn ôl y digwydd.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Ionawr 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: