- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 2
Rhif y Dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS1 | Cyfradd yr oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 75 oed neu drosodd. |
NS2 | Cyfradd y bobl oedrannus (65 oed neu drosodd): (a) y rhoddwyd cymorth iddynt i fyw gartref, fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd; a (b) y mae'r awdurdod yn eu cefnogi mewn cartrefi gofal fesul 1,000 o'r boblogaeth sy'n 65 oed neu drosodd. |
NS3 | (a)canran y lleoliadau cyntaf i blant sy'n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn a ddechreuodd gyda chynllun gofal ar waith; a (b)ar gyfer y plant hynny sy'n derbyn gofal yr oedd eu hail adolygiad (a oedd i fod ar ôl 4 mis) i fod wedi'i gwblhau yn ystod y flwyddyn, canran gyda chynllun ar gyfer sefydlogrwydd adeg y dyddiad priodol. |
NS4 | Canran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd â phrofiad o symud ysgol unwaith neu fwy yn ystod cyfnod neu gyfnodau o dderbyn gofal, nad oedd y symud hwnnw oherwydd trefniadau trosiannol, yn y 12 mis hyd at 31 Mawrth. |
Rhif y Dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS5 | (a)Nifer y teuluoedd digartref gyda phlant sy'n defnyddio llety gwely a brecwast, ac eithrio mewn argyfyngau; a (b)cyfartaledd nifer y dyddiau y mae pob aelwyd ddigartref yn treulio mewn llety dros dro. |
NS6 | Cyfartaledd nifer y dyddiau gwaith rhwng cyflwyno person fel person digartref i'rawdurdod a chyflawni dyletswydd yr awdurdod at aelwydydd a geir yn ystatudol ddigartref. |
NS7 | Canran yr anheddau anffit yn y sector preifat a wnaed yn ffit, a gaewyd neu a ddymchwelwyd o ganlyniad i gamau gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod lleol. |
NS8 | Nifer gyfartalog fesul 1000 o'r boblogaeth o'r canlynol: (i) unedau o gymorth fel y bo'r angen; (ii) lleoedd gwely y gellir eu cael yn uniongyrchol; (iii) lleoedd gwely mewn llety preswyl dros dro; (iv) lleoedd gwely mewn llety preswyl parhaol; (v) lleoedd gwely mewn llety gwarchod i bobl hyn; a (vi) gwasanaethau larwm cymunedol. |
Rhif y Dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS9 | Canran presenoldeb y disgyblion mewn ysgolion uwchradd. |
NS10 | Nifer a chanran: (i) yr holl ddisgyblion (gan gynnwys y rheini sydd yng ngofal awdurdod lleol); a (ii) y disgyblion sydd yng ngofal awdurdod lleol, sydd mewn unrhyw sefydliad dysgu a gynhelir gan awdurdod lleol, sy'n cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol ac sy'n ymadaelag addysg, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith, llawn amser, heb gymhwyster allanol a gymeradwywyd. |
NS11 | Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar ddiwedd Cyfnodd Allweddol 2, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. |
NS12 | Canran y disgyblion sy'n gymwys i gael eu hasesu ar diwedd Cyfnod Allweddol 3, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cyrraedd y Dangosydd Pynciau Craidd, fel a benderfynir gan Asesiadau Athrawon. |
NS13 | Cyfartaledd y sgôr pwyntiau cymwysterau allanol ar gyfer disgyblion 16 oed, mewn amgylcheddau dysgu a gynhelir gan yr awdurdod lleol. |
NS14 | (a) Nifer; a (b) chanran y disgyblion sy'n gymwys i'w hasesu, mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ac sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf): (i) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2; a (ii) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. |
Rhif y Dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS15 | (a) Cyfanswm mewn tunelli; a (b) chanran y gwastraff trefol (i) a ailddefnyddir ac/neu a ailgylchir; a (ii) a gompostir neu a drinnir yn fiolegol mewn ffordd arall. |
NS16 | (a) Cyfanswm mewn tunelli; a (b) chanran y gwastraff trefol pydradwy a anfonir at safleoedd tirlenwi. |
Rhif y dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS17 | Cyflwr: (a) prif ffyrdd (dosbarth A); a (b) ffyrdd dosbarthedig/nad ydynt yn brif ffyrdd. |
Rhif y dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS18 | (a)Nifer y busnesau uchel eu risg sy'n atebol i gael arolygiadau wedi'u rhaglenni neu weithgarwch gorfodi amgen yn ystod y flwyddyn; a (b)canran y busnesau hyn a oedd yn agored i arolygiad wedi'i raglennu neu weithgarwch gorfodi arall a arolygwyd/a oedd yn destun gweithgarwch gorfodi arall, o ran:
|
Rhif y dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS19 | (a)Canran y newid mewn allyriadau carbon deuocsid yn y stoc cyhoeddus annomestig; a (b)canran y newid yn y defnydd o ynni ac o allyriadau carbon deuocsid yn y stoc dai. |
Rhif y dangosydd | Prif ddangosydd |
---|---|
NS20 | Diogelu'r budd-dal tai: (a) nifer yr hawlwyr yr ymwelwyd â hwy fesul 1,000 baich achos; (b) nifer yr ymchwilwyr i dwyll a gyflogwyd fesul 1,000 baich achos; (c) nifer yr ymchwiliadau i dwyll fesul 1,000 baich achos; ac (ch) nifer yr erlyniadau a'r sancsiynau fesul 1,000 baich achos. |
NS21 | Cyflymder y prosesu: (a) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hawliadau newydd; a (b) cyfartaledd yr amser a gymerwyd i brosesu hysbysiadau o newidiadau mewn amgylchiadau. |
NS22 | Cywirdeb y prosesu: (a) canran yr achosion lle'r oedd y swm o fudd-dal a gyfrifwyd i fod yn ddyledus yn gywir ar sail yr wybodaeth a oedd ar gael adeg gwneud y penderfyniad, a hynny ar gyfer sampl o achosion a wiriwyd ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud; a (b) y ganran o ordaliadau budd-dal tai a adenillwyd. |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: