- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfarfodydd Cyhoeddus) 1991(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 —
(a)ym mharagraff (a), ar ôl y geiriau “NHS trust”, mewnosoder “all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in England”;
(b)ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder —
“(aa)the circumstances in which an NHS trust all or most of whose hospitals, establishments and facilities are situated in Wales shall hold a public meeting are those where it has received a report made under the provisions of section 96A of the Government of Wales Act 1998;”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau) (Teithwyr a Phobl Wedi'u Dadleoli) 1993(2) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 7—
(a)yn lle “the Audit Commission for Local Authorities and the National Health Service in England and Wales”, rhodder “the Auditor General for Wales”;
(b)yn lle “section 3(5)-(7) of the Audit Commission Act 1998”, rhodder “section 14(4) and (9) of the Public Audit (Wales) Act 2004”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o “the auditor”, ac yn ei le rhodder y canlynol —
““the auditor” means, in relation to a local authority which is a local government body in Wales, as defined in section 12 of the Public Audit (Wales) Act 2004, the auditor appointed under section 13 of that Act to audit the accounts of the authority in accordance with Chapter 1 of Part 2 of that Act; and in relation to any other local authority, the auditor appointed under section 3 of the Audit Commission Act 1998 to audit the accounts of the authority in accordance with that Act;”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdodau Addysg Lleol) 1998(4) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)(f) o reoliad 4, ar y dechrau, mewnosoder “in relation to a local education authority in England,”.
(3) Ar ôl paragraff (1)(f) o reoliad 4, mewnosoder —
“(fa)in relation to a local education authority in Wales, the Auditor General for Wales;”.
6.—(1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(5) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6) o reoliad 7—
(a)hepgorer y geiriau “i'r Comisiwn Archwilio” pan ymddangosant gynt, ac yn eu lle rhodder “i Archwilydd Cyffredinol Cymru”; a
(b)hepgorer y geiriau “adran 28(1)(d) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998” ac yn eu lle rhodder “adran 96B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998”.
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001(6) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(1)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (d), hepgor y gair “neu”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (dd), mewnosoder—
“; neu—
bod y datgelu yn cael ei wneud i Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion unrhyw swyddogaeth ganddo neu gan archwilydd o dan Ran 2 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
8.—(1) Diwygir (Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(7) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (5)(b) o reoliad 6—
(a)yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;
(b)yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
9.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002(8) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5—
(a)yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;
(b)yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
10.—(1) Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002(9) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (6)(b) o reoliad 6—
(a)yn lle “y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr”, rhodder “Archwilydd Cyffredinol Cymru”;
(b)yn lle “adran 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998”, rhodder “adran 14(4) a (9) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2005
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: