Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 126 (Cy.19)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

24 Ionawr 2006

Yn dod i rym

1 Mawrth 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw yn cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau ailadroddus o'r cronfeydd cyhoeddus ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r Gymuned Ewropeaidd ac ardal Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(2);

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad tuag at gynhaliaeth neu ffioedd cwrs myfyriwr yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4);

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan y Senedd gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ac nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon ar cyflogaeth;

ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n para am ddwy flwyddyn academaidd;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 5 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5;

ystyr “cwrs dynodedig rhan-amser” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 51 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 51;

ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(5);

ystyr “cwrs ôl-raddedig dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 63 neu gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 63;

ystyr “cwrs pen-ben” (“end-on course”) yw—

(a)

cwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i dderbyn un o'r rhain ar ei gyfer;

(b)

cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 neu ar ei ôl a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn gradd sylfaenol ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

(c)

cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs llawn-amser sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;

ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (6);

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cyfraniad” (“contribution”) yw cyfraniad myfyriwr cymwys wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 45 ac Atodlen 4;

ystyr “Cyngor Ymchwil (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol—

(a)

Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

(b)

Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,

(c)

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

(ch)

Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,

(d)

Y Cyngor Ymchwil Meddygol,

(dd)

Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

(e)

Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;

ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad sy'n cael eu rhoi gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

(a)

Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;

(b)

yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest—

  • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

  • plwyf Waltham Abbey;

(c)

yn sir Hertfordshire—

  • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

  • dosbarth Hertsmere,

  • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac

(ch)

yn sir Surrey—

  • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

  • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

  • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion rheoliad 8 o'r Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(6) sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig tra'i fod yn cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, mewn ysgol annibynnol neu mewn sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru”;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Switzerland Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall, ynghylch Symud Rhydd i Bersonau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(7) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(8) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(9);

ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

(a)

sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

(b)

sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;

(c)

sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu

(ch)

sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;

ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(10);

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998(11) heblaw hen ddyfarniad;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(12), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(13), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(14) a rheoliadau a wnaed odano neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed odani;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan Lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(15) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(16) ac mae unrhyw gyfeiriad at blentyn i ffoadur yn cynnwys cyfeiriad at lysblentyn;

mae i “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (5);

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;

mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(17);

mae i “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 4;

ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(18) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd heblaw fel doctor meddygol neu ddeintydd;

mae “llofnod electronig” (“electronic signature”) yn golygu cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “myfyriwr cymwys dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac sydd heb fod yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn;

ystyr “myfyriwr cymwys dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—

(sa)

sydd wedi cychwyn ar y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006,

(b)

sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd,

(c)

sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs pen-ben mewn cysylltiad â chwrs y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, neu

(ch)

sy'n cychwyn ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, ac y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw, ei fod yn fyfyriwr cymwys;

ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos;

ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb at ddibenion ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer yn 10 wythnos neu fwy;

y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 62;

mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 50;

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(19);

ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(20);

ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(21);

ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(22);

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(23);

ystyr Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(24) fel y'u diwygiwyd dim ond gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003(25) a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(26);

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004(27), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004(28), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004(29), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004(30) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005(31);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(32) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau (Cymorthi Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005 a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005;

ystyr “Rhif cyfrif benthyciad myfyriwr” (“student loan account number”) yw'r Rhif cyfrif a ddyrennir gan y rhoddwr benthyg ar gyfer benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr;

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd o ganlyniad i symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—

(a)â'i gwrs presennol; neu

(b)â chwrs dynodedig blaenorol yr oedd y myfyriwr, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn ymgymryd ag ef yn union cyn ymgymryd â'i gwrs presennol,

yn preswylio yn gyffredinol yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, gan gynnwys er mwyn penderfynu a yw person wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Mewnfudo 1971(33), trinnir person fel pe bai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod y person, priod neu bartner sifil y person neu riant neu warcheidwad y person neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu unrhyw berson sy'n gofalu amdano os yw'r person yn blentyn, yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac nid yw paragraff 9(c) o Atodlen 1 yn gymwys yn achos person o'r fath. Heb ragfarnu'r uchod, rhaid trin aelodau o lynges, byddin neu lu awyr rheolaidd y Goron fel pe baent wedi'u cyflogi dros dro o fewn ystyr y paragraff hwn am unrhyw gyfnod y byddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r lluoedd hynny.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd na'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall neu'r ddwy o'r ardaloedd hyn,

bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at weithiwr mudol o'r AEE yn gyfeiriad at berson sy'n wladolyn un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir ac sydd wedi ymgymryd â gweithgaredd fel person cyflogedig yn y Deyrnas Unedig—

(a)o dan Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ynghylch rhyddid symud gweithwyr yn y Gymuned(34), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir; neu

(b)o dan amgylchiadau lle mae gan y person fel un o wladolion y Deyrnas Unedig hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun Rheoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod.

(6Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”)—

(i)os nad yw'n gwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

(ii)os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac

(c)os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.

(7Ac eithrio yn achos rheoliad 27 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “bresenoldeb” myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.

(8Yn y Rheoliadau hyn ystyr “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) yw myfyriwr cymwys y mae paragraffau (9) neu (10) yn gymwys iddo ac sy'n cychwyn ar gwrs dynodedig (“y cwrs presennol”) ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

(9Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)a oedd wedi cael cynnig lle, ar 1 Awst 2005 neu cyn hynny, pa un ai yn amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs cyffelyb, a

(b)sy'n cychwyn ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol cyn 1 Medi 2007.

(10Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—

(a)a oedd wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd y cwrs hwnnw yn dechrau cyn 1 Medi 2006,

(b)na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster neu safon dynodedig,

(c)a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo,

(ch)os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallasai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig,

(d)os, o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, y cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol, a

(dd)os yw blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol yn cychwyn ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(11At ddibenion paragraff (2)(a) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn gyffelyb i'r cwrs presennol—

(a)os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu bellach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fuasai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(12Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (13) a (14).

(13Os cafodd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddiad, neu fwy nag un trosglwyddiad, o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

(14Os yw'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs pen-ben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun, mewn cysylltiad ag ef, yn gwrs pen-ben.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru ar 1 Medi 2006—

(a)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005

(b)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005; ac

(c)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

(6Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

(a)os yw person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

(b)os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

mae'r person yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4, 5 a 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (7) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 7 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cefnogaeth o dan Ran 7.

(7Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson fenthyciad neu os oedd yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998, mae'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 7 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu ag unrhyw gwrs dynodedig dilynol y bydd yn dechrau arno (gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond oni bai bod paragraff (6) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf grant o dan Rannau 4, 5 a 6 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau perthnasol yr hawl i gael cefnogaeth o dan Rannau 4, 5 a 6.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

4.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y person wedi'i grybwyll yn Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys—

(a)os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;

(b)os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(c)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(35);

(ch)os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(d)os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(dd)os yw'r person, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(4At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(5Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y mae paragraff 3(d) yn gymwys.

(6Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs dynodedig;

(b)at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(c)at gwrs dynodedig a chwrs ôl-raddedig dynodedig.

(7Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).

(8Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac

(c)nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(9Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs pen-ben y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(b)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben mewn perthynas ag ef ;

(c)mai dim ond ar y sail yr oedd y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y peidiodd y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b); ac

(ch)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).

(10Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig; neu

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol,

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

Cyrsiau dynodedig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw—

(a)wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

(b)yn un o'r canlynol—

(i)cwrs amser-llawn;

(ii)cwrs rhyngosod; neu

(iii)cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(36).

(4Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol—

(a)er gwaetha'r ffaith y gall y cwrs arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

(b)er gwaetha'r ffaith y gall rhan o'r cwrs fod yn ddewisol.

(5Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(6At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan fo'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig.

(3Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

(4Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

(a)nad oes unrhyw didyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

(b)bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na gwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.

(5Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

(6Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (7), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

(7Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys.

(8Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae gan y myfyriwr hawlogaeth ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

(9Yn y rheoliad hwn—

(a)A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

(b)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

(c)PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn mynychu cwrs blaenorol;

(ch)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailwneud ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailwneud y blynyddoedd academaidd cynt nad oedd y myfyriwr yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(d)Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;

(dd)Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(e)myfyriwr cymwys dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw;

(f)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig;

(ff)ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006.

(10Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y paragraff hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.

(11Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

(12Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw nad yw yn unol â pharagraffau (3) i (9).

(13Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosi neu lle na fydd yn trosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 58(1); neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(14Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(15Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 49.

Astudio blaenorol

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd yn sgil ei bresenoldeb ar gwrs blaenorol.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod arferol cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dilyn cwrs sy'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(5At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, mae cwrs blaenorol yn unrhyw gwrs y bu'r myfyriwr yn bresennol arno cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni'r amodau ym mharagraff (6).

(6Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw bod y cwrs yn gwrs addysg uwch amser-llawn a ddarparwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig ac—

(a)bod y sefydliad hwnnw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus pan ddarparwyd y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.

(7Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

(a)sydd wedi dechrau'r cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(b)nad yw wedi'i esgusodi o ran o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;

(c)na fydd yn ailwneud unrhyw ran o'r cwrs; ac

(ch)nad yw'n absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod y gwyliau.

Trosglwyddo statws

8.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os daw cais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

(b)os yw wedi ei fodloni bod un neu fwy nag un o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall gyda chaniatâd awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw;

(c)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu yn yr un pynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i dderbyn, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth

9.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

10.—(1Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)os daw'r cwrs yn gwrs dynodedig ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y cwrs ei ddynodi;

(b)os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r diwrnod y rhoddwyd y caniatâd, yn y drefn honno;

(c)os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu baragraff 8 o Atodlen 1 ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ond bod y ceisydd, o ganlyniad i'r ffaith bod y wladwriaeth y mae'r ceisydd yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd, yn dod yn berson o'r fath, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r wladwriaeth yn ymaelodi;

(ch)os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 31 neu am swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(3), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(d)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf;

(dd)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 19, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(e)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.

Gwybodaeth

11.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

RHAN 4GRANTIAU AT FFIOEDD

Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd

12.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd(37) am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 13 neu 14.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(38) ac—

(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.

Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus

13.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yn £1,200.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £600 yn yr achosion canlynol—

(a)blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw gyfnod neu gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (yn cynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;

(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

(i)lle mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, bod y cyfanswm o un neu fwy nag un o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu

(d)mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan y Sefydliad Prydeinig ym Mharis a gychwynnodd cyn 1 Medi 2001.

(3Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,145.

(4Caniateir didynnu swm oddi wrth y grant at ffioedd y penderfynnir arno o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 46.

Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat

14.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,125.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw £1,200—

(a)os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar neu ar ôl Medi 2001;

(b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os nad oes yr un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat yw £600—

(a)os yw'r cwrs dynodedig yn dechrau ar 1 Medi 2001 neu ar ôl hynny;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os oes un neu fwy nag un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.

(4Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,840.

(5Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Gerdd Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,355.

(6Caniateir didynnu swm o'r grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.

RHAN 5BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd

15.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei eithrio rhag bod yn gymwys gan y paragraff canlynol, gan reoliad 6 neu reoliad 7.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(b)os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

(c)os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS(39) ac—

(i)bod ei gwrs yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(ch); a

(ii)bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(ch)os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.

Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw.

(2Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd, swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd oddi ar ei grant at ffioedd yn unol â rheoliad 46.

(3Os benthyciad at gyfraniad at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,200 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £600.

(4Caiff myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gyfraniad at ffioedd—

(i)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd un dim ynghynt) yr hysbyswyd y myfyriwr ohono mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesiad o gyfraniad y myfyriwr neu mewn modd arall; a

(ii)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

(aa)methu â darparu yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(bb)darparu gwybodaeth y mae unrhyw fanylyn perthnasol ohoni yn anghywir.

(5Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn swm sy'n fwy na'r uchafswm a gafodd ei gynyddu.

(6Os yw myfyriwr cymwys dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad at gyfraniad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth iddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(7Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs mewn sefydliad preifat neu yng Ngholeg Heythrop.

Benthyciadau at ffioedd

17.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Rhaid i swm benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

(a)£3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau ym mharagraff (3) yn gymwys, £1,500; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 13(2), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,500.

(4Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffi mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

(5Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; neu

(b)bod blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd y myfyriwr hwnnw oddi arno.

(6Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, wedi didynnu oddi ar y swm hwnnw unrhyw fenthyciad at ffi y mae'r myfyriwr hwnnw wedi ei godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwyddod oddi arni.

(7Pan fo paragraff 5(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r isod—

(a)£3,000 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys, £1,500; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(8Pan fo myfyriwr cymwys dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffi sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

RHAN 6GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

18.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—

(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol at gostau byw y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd—

(a)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr;

(b)pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu

(c)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.

(4Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.

(5Ac eithrio grant o dan reoliad 20, nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(d)gwasanaeth di-dâl gydag—

(i)Awdurdod Iechyd neu Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 8 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(40) neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o'r Ddeddf honno(41) neu fwrdd iechyd lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 16BA o'r Ddeddf honno(42);

(ii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(43); neu

(iii)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(44).

(7Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(8Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

19.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad,

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;

(ch)£1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

(5Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

(6Uchafswm y grant o dan baragraffau (4)(a) a (4)(ch) yw £9,105 a £1,200, yn y drefn honno—

(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon; a

(b)os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.

Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal

20.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r amodau ym mharagraff (2) wedi'u bodloni.

(2Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)bod y myfyriwr cymwys o dan 21 oed ar ddiwrnod cyntaf y cwrs;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4; ac

(c)ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, fod y myfyriwr cymwys o dan fwy o galedi ariannol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4 nag a fuasai fel arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), swm y grant yw unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.

(4Uchafswm y grant yw £100 am bob wythnos neu ran o wythnos mewn blwyddyn academaidd—

(a)sy'n syrthio o fewn y gwyliau hiraf a gymerir; a

(b)na fydd y myfyriwr yn bresennol ar ei gwrs yn ystod yr un rhan ohoni.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol

21.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 22 i 25.

(3Caniateir didynnu o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 46.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant dibynyddion mewn oed

22.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â naill ai—

(a)partner y myfyriwr cymwys; neu

(b)dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,350.

(3Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw—

(a)£2,455; neu

(b)pan fo'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 ac sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant

23.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant mewn perthynas â chostau gofal plant ar gyfer pob plentyn dibynnol yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant gofal plant mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gofrestru—

(a)os yw'r plentyn o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)os oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a briodolir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(45) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(46).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £175 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £300 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(5Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y caiff costau gofal plant eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.

(6Mae swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “darparydd gofal plant wedi'i gymeradwyo” (“approved childcare provider”) yw darparydd gofal plant o fewn yr ystyr a briodolir i “childcare provider” yn Rheoliadau Credydau Treth (Categori Newydd o Ddarparydd Gofal Plant) 1999(47) ac sydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r Rheoliadau hynny; a

(b)ystyr “darparydd gofal plant wedi'i gofrestru” (“registered childcare provider”) yw person sy'n gweithredu fel gofalwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ac sydd wedi'i gofrestru o fewn ystyr adran 79F o Ddeddf Plant 1989(48) (cofrestru neu wrthod cofrestru gofalwyr plant a phersonau sy'n darparu gofal dydd i blant ifanc).

Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni

24.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw £1,400.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- eu cyfrifo

25.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 22 i 24 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 22;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 23; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 24.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A−B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Rhaid gostwng swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 22(4).

(5Rhaid gostwng swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 23(6).

(6Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

  • £3,225 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

  • £4,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

  • £4,300 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

  • £5,380 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(8).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd heblaw chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli

26.—(1Yn rheoliadau 21 i 25—

(a)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(b)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(c)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw fel arfer yn preswylio gyda'r myfyriwr);

(ch)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (dd), (e) ac (f), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(dd)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(e)at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;

(f)at ddibenion is-baragraffau (ff) ac (g), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;

(ff)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto os yw'r plant hynny'n dibynnu ar y myfyriwr; ac

(g)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(49);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(50);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(51);

(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac

(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

(4At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

Grantiau at deithio

27.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae cyfnod o astudio drwy hyfforddiant clinigol yn rhan angenrheidiol ohono) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd er mwyn bod yn bresennol mewn cysylltiad â'i gwrs mewn unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol heblaw gwariant sy'n cael ei dynnu at ddibenion astudiaethau preswyl i ffwrdd o'r sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs.

(3Mae swm y grant sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion ym mharagraff (1) neu baragraff (2).

(4Wrth benderfynu ar y gwariant sy'n cael ei dynnu gan fyfyriwr cymwys mae £285 o'r gwariant hwnnw'n cael ei anwybyddu.

(5At ddibenion y rheoliad hwn mae unrhyw gyfeiriad at wariant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad neu ar gyfnod o astudio—

(a)yn cynnwys gwariant cyn bod yn bresennol felly ac wedyn; a

(b)yn hepgor unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 19.

(6Os bydd myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs a'i fod yn rhesymol yn dynnu unrhyw wariant i yswirio yn erbyn atebolrwydd am gost triniaeth feddygol sy'n cael ei darparu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer unrhyw salwch neu anaf i'r corff a geir neu a ddioddefir yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ganddo hawl i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm sy'n cael ei dynnu felly.

(7Caniateir didynnu o'r grant o dan y rheoliad hwn yn unol â rheoliad 46.

Grantiau addysg uwch

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu tynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

(3Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £15,970 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £15,970 ac nad yw'n fwy na £21,955, mae'r myfyriwr yn derbyn swm hafal i M− A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £15,970; ac mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £21,955, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

Grant cynhaliaeth

29.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cynhaliaeth at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl i gael grant cynhaliaeth os oes ganddo hawl i gael grant cymorth arbennig.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant cynhaliaeth oni bai ei fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

(4Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac

(c)yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.

(5Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £600.

(6Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £1,200.

(7Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, bydd yn cael £2,700;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(ch)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425 ni thelir grant cynhaliaeth.

Grant Cymorth Arbennig

30.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu cost llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael ei dynnu er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae gan fyfyriwr dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol a Budd-daliadau 1992.

(3Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,350;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac

(c)yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.

(4Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £1,350;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £600.

(5Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M-A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £1,200.

(6Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £17,500 neu lai, mae'n cael £2,700;

(b)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM− A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(ch)os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425, ni thelir grant cynhaliaeth.

RHAN 7BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

31.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) na rheoliad 7.

(2Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn

32.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs carlam), yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,415;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,170;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,255;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,255;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,405.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,085;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,620;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,570;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,570;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,080.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn

33.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn, ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yn hafal i (X−Y)—

  • Os

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,415;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,170;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,255;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,255;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,405;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i (X−Y)—

  • Os

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,085;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,620;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,570;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,570;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,080;

  • Y yw swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”)—

(a)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth heb fod uwchlaw £1,200, yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;

(b)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth uwchlaw £1,200, yw £1,200; ac

(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, yw dim.

34.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 a myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw—

(a)£3,415, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(b)£6,170, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(c)£5,255, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£5,255, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(d)£4,405, i fyfyriwr yng nghategori 5.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw—

(a)£3,085, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(b)£5,620, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(c)£4,570, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£4,570, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(d)£4,080, i fyfyriwr yng nghategori 5.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng

35.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr, sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(a) neu 18(3)(b)—

(i)£1,620, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£3,030, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£2,160, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£2,160, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£2,160, i fyfyriwr yng nghategori 5;

(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(c) neu 18(5)—

(i)£1,620, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£3,030, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£2,585, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£2,585, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£2,160, i fyfyriwr yng nghategori 5;

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi manylion am incwm ei aelwyd—

(i)£2,560, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£4,630, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£3,940, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£3,940, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£3,905, i fyfyriwr yng nghategori 5.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr, sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(a) neu 18(3)(b)—

(i)£1,230, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£2,320, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£1,680, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£1,680, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£1,680, i fyfyriwr yng nghategori 5;

(b)os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(c) neu 18(5)—

(i)£1,320, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£2,320, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£1,885, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£1,855, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£1,680, i fyfyriwr yng nghategori 5;

(c)os yw'r myfyriwr yn ceisio am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi manylion am incwm ei aelwyd—

(i)£2,315, i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£4,215, i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£3,430, i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£3,430, i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£3,060, i fyfyriwr yng nghategori 5;

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni nad yw'n rhesymol, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori heblaw categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fe pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

(3Os yw myfyriwr cymwys yn aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai ei urdd, trinnir y myfyriwr fel pe bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter y flwyddyn academaidd

37.  Mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd ac nid yw'n daladwy mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

Myfyrwyr sy'n syrthio i fwy nag un categori

38.—(1Os yw myfyriwr yn syrthio i fwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 35 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y categori sy'n gymwys i chwarter yw'r canlynol—

(i)y categori y mae'r myfyriwr yn syrthio iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad am y flwyddyn academaidd.

(2Ni ellir cymhwyso categori 3 at chwarter oni bai bod y myfyriwr yn bresennol mewn sefydliad dros y môr am hanner o leiaf o gyfnod y chwarter hwnnw.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

39.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hwnnw hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy ynddynt sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig; neu

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n cael caniatád i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

40.—(1Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 32 i 35 ar gyfer pob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, codiad o £51;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £98;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £107;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £107;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £77.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, rhaid codi swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 32 i 35 ar gyfer pob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw'r rheoliadau hyn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

41.—(1Yn unol â rheoliad 46, caniateir didynnu o'r benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn.

(2O dan reoliad 46, ni chaniateir didynnu o'r benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng.

Dehongli Rhan 7

42.—(1Yn y rheoliad hwn—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'n preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig;

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr fel rhan o'i gwrs am o leiaf wyth wythnos yn olynol yn y flwyddyn academaidd;

(ch)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4.

(dd)ystyr “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(e)“myfyriwr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng;

(f)“myfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng;

(ff)“myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys

(i)nad yw'n gymwys am grant at gostau byw neu gostau eraill yn rhinwedd rheoliad 18(3)(a) neu 18(3)(b);

(ii)nad yw'n gymwys am grant at gostau byw yn rhinwedd rheoliad 18(3)(c) nac 18(5); neu

(iii)sydd, pan yn ymgeisio am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio rhoi manylion am incwm ei aelwyd;

(iv)os mai hyd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon yw un flwyddyn academaidd yn unig, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

RHAN 8DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŷN Å BENTHYCIADAU

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

43.—(1Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am gymryd benthyg swm ychwanegol o fenthyciad—

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylai uchafswm y benthyciad sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd gael ei gynyddu (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn deillio o'r ffaith bod y myfyriwr cymwys—

(i)wedi methu â rhoi gwybodaeth yn ddi-oed a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Mae'r swm ychwanegol o dan baragraff (1) yn swm na fydd, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(3Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad o lai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am gymryd benthyg swm ychwanegol na fydd, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.

Llog

44.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980(52) sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2004 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2005.

(2Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974(53) bydd benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.

(3Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.

(4Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).

RHAN 9ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo'r cyfraniad

45.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 4, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso'r cyfraniad

46.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 4 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;

(b)yn ail, i ostwng ADG;

(c)yn drydydd, i ostwng CCG;

(ch)yn bedwerydd, i ostwng PLA;

(d)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(dd)yn chweched, i ostwng GFT.

(2Yn achos myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

(a)pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo'n unol â rheoliad 13(1) a 14(1),

(i)mae GFF yn £1,200; a

(ii)y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;

(b)pan fo rheoliad 13(2)(a) neu (c) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 14(3) yn gymwys—

(i)mae GFF yn £600; a

(ii)y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;

(c)pan fo rheoliad 13(2)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 14(3) yn gymwys—

(i)mae GFF yn £600; a

(ii)gostyngir £600 ar y cyfraniad cyn iddo gael ei gymhwyso yn erbyn GFF;

(ch)pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo'n unol â rheoliad 14(1), 14(4), 14(5) neu 14(6);

(i)mae GFF yn ddim;

(ii)nid oes unrhyw ostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliad 14; a

(iii)mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;

(d)pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf)—

(i)mae GFF yn ddim;

(ii)nid oes unrhyw ostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliadau 13 a 14; a

(iii)mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;

(dd)Pan nad oes gan y myfyriwr yr hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS—

(i)mae GFF yn ddim;

(ii)gostyngir £1,200 ar y cyfraniad; a

(iii)mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;

(e)pan nad oes gan y myfyriwr yr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.

(3Yn achos myfyriwr cymwys dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 22;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 23;

(c)PLA yw swm y lwfans dysgu rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir o dan reoliad 24 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans);

(ch)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys, ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, â'r hawl i'w gael o dan Ran 7;

(d)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 27, os oes un;

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw—

(a)£2,560, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,630, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£3,940, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£3,940, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,305, yn achos myfyriwr yng nghategori 5;

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” yw—

(a)£2,315, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,215, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£3,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£3,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,060, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.

(7Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 38 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(8Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter o dan y paragraff hwn yw traean o'r swm ym mharagraff (5) neu (6) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.

(9Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £600 o swm y benthyciad ar gyfer costau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £37,900.

(10Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £1,200 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £37,900.

(11Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 42.

RHAN 10TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd

47.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael i'r sefydliad y mae'r myfyriwr yn atebol i'w dalu pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais dilys am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd i'r awdurdod academaidd—

(a)nid cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; ac, yn achos grant yn unig,

(b)nid hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a), neu yn ddi-oed ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law, os yw hynny yn hwyrach.

(3Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r rhandaliadau o'r benthyciad at ffioedd.

(5Os yw asesu cyfraniad myfyriwr dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad at gyfraniad at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad a thaliad dros dro.

(6Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd—

(a)os bydd y myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; ac

(b)os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu o gwbl.

Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw

48.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.

(2Caniateir i daliadau cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod y myfyriwr cymwys yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(3Os oes myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad o dan Ran 7, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael talu unrhyw randaliad fod y myfyriwr cymwys yn rhoi Rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 8, nid oes cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i fyfyriwr cymwys dynnu'n ôl o'i gwrs, rhoi'r gorau iddo neu gael ei ddiarddel oddi arno; a swm y cymorth am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y cymorth, os oes unrhyw gymorth o gwbl, sy'n daladwy mewn perthynas â phob cyfnod talu.

(5Pan fo myfyriwr cymwys yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—

(a)swm pob grant at gostau byw a chostau eraill y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol os nad oedd y myfyriwr wedi tynnu'n ôl o'r cwrs, wedi rhoi'r gorau iddo neu wedi'i ddiarddel oddi arno (y “swm llawn”); a

(b)faint yw'r swm llawn mewn perthynas â'r cyfnod sy'n rhedeg o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno (“y swm rhannol”).

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliadau o ran grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno a bod y taliad hwnnw'n fwy na'r swm rhannol—

(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin y gormodedd fel gordaliad; neu

(b)os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff estyn cyfnod hawlogaeth y myfyriwr tan ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a phenderfynu bod y swm llawn yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(7Os oes taliad o grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i fod i gael ei wneud neu os yw'n cael ei wneud ar ôl i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r cwrs, rhoi'r gorau iddo neu gael ei ddiarddel oddi arno, y swm sy'n ddyledus yw'r swm rhannol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod hawlogaeth tan ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a phenderfynu bod y swm llawn yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(8Nid oes cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 yn daladwy mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni bai y byddai, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn briodol o dan yr holl amgylchiadau i dalu'r cyfan neu ran o'r cymorth; a swm y cymorth am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y cymorth, os oes unrhyw gymorth o gwbl, sy'n daladwy mewn perthynas â phob cyfnod talu.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn talu rhandaliad mewn perthynas ag ef neu y byddai wedi talu rhandaliad mewn perthynas ag ef pe na bai'r myfyriwr cymwys wedi tynnu'n ôl o'i gwrs, wedi rhoi'r gorau iddo, wedi'i ddiarddel oddi arno neu wedi bod yn absennol ohono.

(10Wrth benderfynu a fyddai'n briodol talu'r cyfan neu ran o'r cymorth o dan baragraff (5) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr, hyd yr absenoldeb a'r caledi ariannol a gâi ei achosi pe na bai'r cyfan neu ran o'r cymorth yn cael ei dalu.

(11Ni fernir bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu â bod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw ei absenoldeb wedi bod yn hirach na 60 diwrnod.

(12Ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7, os yw'n penderfynu ar swm grant at gostau byw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd naill ai am y tro cyntaf neu drwy ddiwygio penderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ar y swm hwnnw—

(a)os yw'r penderfyniad yn cynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r swm ychwanegol a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol;

(b)os yw'r penderfyniad yn gostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu swm y gostyngiad o swm y grant sydd ar ôl i'w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant sydd ar ôl i'w dalu mae'r swm olaf yn cael ei ostwng i ddim ac mae'r gweddill yn cael ei dynnu o unrhyw grant arall at gostau byw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(ch)rhaid i unrhyw ordaliad sy'n weddill gael ei adennill yn unol â rheoliad 49.

(13Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 a bod myfyriwr sydd â hawl i gael benthyciad o dan Ran 7 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad neu'r swm ychwanegol o fenthyciad a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

(14Ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud unrhyw daliad benthyciad y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 7, os yw'n penderfynu bod swm y benthyciad y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael yn llai na'r swm y penderfynwyd arno o'r blaen naill ai drwy ddiwygio penderfyniad dros dro neu fel arall—

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu unrhyw swm sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn cymryd benthyg swm o fenthyciad sy'n fwy na'r hyn y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o swm unrhyw fenthyciad sydd ar ôl i'w dalu;

(b)os yw'r swm sydd i'w dynnu yn fwy na swm y benthyciad sydd ar ôl i'w dalu, mae'r swm olaf yn cael ei ostwng i ddim;

(c)rhaid i unrhyw ordaliad sy'n weddill gael ei adennill yn unol â rheoliad 49.

(15Mewn unrhyw achos lle bo angen cadarnhad o bresenoldeb, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth i'r myfyriwr cymwys o dan Ran 6 neu Ran 7 cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gael y cadarnhad hwnnw.

(16Mae angen cadarnhad o bresenoldeb oddi wrth sefydliad mewn perthynas â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol os yw'r flwyddyn honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 onid yw eithriad ym mharagraff (17) yn gymwys.

(17Mae eithriad yn gymwys—

(a)os yw grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac os ydyw, caniateir i'r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael cadarnhad o bresenoldeb; neu

(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, i wneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

(18Rhaid i sefydliad anfon y cadarnhad o bresenoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf y mae'r cadarnhad mewn perthynas â hi i fod i ddod i law.

(19Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”)—

(a)pan fo myfyriwr ag anabledd yn ymgymryd â chwrs yn y Deyrnas Unedig drwy ddysgu o hirbell am nad yw'n gallu mynychu'r cwrs am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd, yw cadarnhad bod y myfyriwr wedi dechrau ymgymryd â'r cwrs; a

(b)mewn unrhyw achos arall, yw cadarnhad oddi wrth y sefydliad bod y myfyriwr cymwys wedi ymgyflwyno yn y sefydliad hwnnw a'i fod wedi dechrau mynychu'r cwrs presennol.

Gordalu

49.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan Ran 6 neu 7 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 6 neu 7.

(3Caniateir i unrhyw ordaliad ar gyfer unrhyw grant o dan Ran 6 gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(4Caniateir i unrhyw ordaliad benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd gael ei adennill os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn—

(a)bod y gordaliad yn deillio o fethiant gan y myfyriwr i roi yn ddi-oed wybodaeth a allai effeithio ar a oes ganddo hawl i gael benthyciad neu beidio neu ar swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(b)bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i rhoi yn anghywir o ran manylyn perthnasol; neu

(c)bod y myfyriwr wedi methu â rhoi gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(5Os oes gordaliad benthyciad at gostau byw yn adenilladwy yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(6Os cafwyd gordaliad benthyciad at gostau byw nad yw'n adenilladwy o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf.

RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwys

50.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y person wedi'i grybwyll yn Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser—

(i)bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(54); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;

(b)os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor sy'n bwrw dedfryd o gaethiwed.

(4Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53(1)(b) neu reoliad 54 os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(8Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 53(1)(a) oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru neu Loegr; neu

(b)o dan reoliad 53(1)(b) neu 54 oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(9Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth blynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).

(10Dyma'r benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (9)—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(55); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(56).

(11Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(12At ddibenion paragraff (11), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf—

(a)os yw'n radd (heblaw gradd anrhydedd) sydd wedi'i dyfarnu i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol at gwrs ei radd gyntaf;

(b)os ymgymerwyd â'r cwrs mewn sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig; ac

(c)os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.

(13Os daw myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14), caiff fod â hawl i gael cymorth yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(14Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (13)—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig; neu

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n cael caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.

(15Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (16) neu (17).

(16Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(17Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig; neu

(ii)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig heblaw'r cwrs presennol;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(18Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-raddedig dynodedig.

Cyrsiau rhan-amser dynodedig

51.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 50—

(a)os yw wedi'i grybwyll yn Atodlen 2, heblaw ym mharagraff 4 o'r Atodlen honno;

(b)os yw'n para o leiaf un flwyddyn academaidd ac nad yw'n para fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster;

(c)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch)nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5.

(2Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(57).

(4At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 50(1) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

52.—(1Mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (1) yn rhedeg tan ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu lle na fydd yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws o dan reoliad 57 neu 58; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 61.

Cymorth at gyrsiau rhan-amser

53.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, dyma'r cymorth sydd ar gael—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)y grant sylfaenol, a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.

(2Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

(3Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran

FT / PT × 100

lle

  • FT yw nifer y blynyddoedd academaidd y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs sy'n cyfateb mewn amser-llawn i'r cwrs rhan-amser dynodedig

  • PT yw nifer y blynyddoedd academaidd y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig.

(4Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw—

(a)£590 os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

(b)£710 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

(c)£885 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(58) i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor; neu

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(59) i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;

(iii)neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(60) i gael lwfans y fargen newydd;

(b)os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,345, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;

(c)os yw'r incwm perthnasol yn £15,345, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a);

(ch)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £15,345 ond yn llai na £23,145, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

(d)os yw'r incwm perthnasol yn £23,145, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) yw £50;

(dd)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £23,145 ond yn llai nag £23,745, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a);

(e)os yw'r incwm perthnasol yn £23,745 neu fwy ond yn llai na £25,645, nid oes cymorth ar gael o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(b) £1 am bob £9.50 cyflawn y mae'r incwm perthnasol yn fwy nag £23,745;

(f)os yw'r incwm perthnasol yn £25,645, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(b) yw £50;

(ff)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £25,645, nid oes cymorth yn daladwy o dan baragraff (1).

(6Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy dynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol—

(a)£50 plws £1 arall am bob £9.50, £7.63 neu £5.93 cyflawn y mae'r incwm perthnasol yn fwy na £15,345 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

(b)os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).

(7Os caiff myfyriwr gymorth o dan reoliad 57 perthynas â mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig mewn blwyddyn academaidd, uchafswm y cymorth o dan baragraff (1)(a) am y flwyddyn honno yw swm y grant sylfaenol am y cwrs sydd â'r dwysedd astudio uchaf y mae'r myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn y flwyddyn academaidd honno.

(8At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(d)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (9);

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'u barther sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig cyn 1 Medi 2006;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(f)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhoi'r gorau i fyw gyda'i gilydd fel arfer; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

(ff)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(g)os yw'r rheoliad hwn yn cyfeirio at ddyddiad a bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw a bod statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig o ganlyniad i drosglwyddo'r statws hwnnw unwaith neu fwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas ag ef yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, trinnir y myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar y dyddiad y dechreuodd ar y cwrs cychwynnol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i)£2,000 mewn perthynas â'i bartner;

(ii)£2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;

(b)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(c)ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais yn bartner i'r myfyriwr.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

54.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr rhan-amser cymwys ei dynnu mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£9,105 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;

(ch)£1,200 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Ceisiadau am gymorth

55.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

(3Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (2) yn gymwys—

(a)os daw'r cwrs yn gwrs rhan-amser dynodedig ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y cwrs ei ddynodi;

(b)os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r caniatâd, yn y drefn honno; neu

(c)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 54, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(ch)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth

56.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Trosglwyddo statws

57.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

Trosi statws

58.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os caiff gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 51(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

(3Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 19 mewn rhandaliadau o dro i dro, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)mae uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 54 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 19 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 54 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 19, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch)os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr holl amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os caiff gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(6Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5)—

(a)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 54 mewn rhandaliadau o dro i dro, ni chaniateir talu taliad perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)rhaid i unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ynddi gael ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 7;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 6 neu 7 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac

(ch)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 54 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 19 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 54 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

59.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu cymorth o dan reoliad 54 ac o dan reoliad 53(1)(b) a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff, os nad oes modd gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, wneud asesiad dros dro o'r cymorth sy'n daladwy.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Talu grantiau at ffioedd

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 53(1)(a) i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y mae'n credu eu bod yn addas.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y mae'n credu eu bod yn briodol.

(4Ni chaniateir gwneud taliad oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y myfyriwr wedi bod yn ymgymryd â'r cwrs ers pythefnos.

Gordalu

61.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd o dan reoliad 53(1)(a) oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.

(3Caniateir i unrhyw ordaliad grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

RHAN 12CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

62.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

(3Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-raddedig dynodedig fod y person wedi'i grybwyll yn Atodlen 1; a

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person dynnu gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992(61);

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(62) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a yswyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth o ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wneir o dan ddeddfwriaeth benthyciadau myfyrwyr.

(6Pan fo cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, nid yw paragraff (4)(c) ond yn gymwys os gwnaed y cytundeb—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(8Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (10) neu (11).

(10Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf ac nad yw'r statws hwnnw wedi dod i ben neu wedi'i derfynu;

(b)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(11Yr amodau yw—

(a)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig heblaw'r cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol; a

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(12Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

(a)mwy nag un cwrs ôl-raddedig dynodedig;

(b)cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig

63.  Mae cwrs ôl-raddedig yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 62—

(a)os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n radd uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw'n gwrs—

(i)sy'n para o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser, nad yw'n para fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster;

(c)os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch)nad yw'n gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(63).

(3At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

64.—(1Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys drwy gydol y cyfnod cymhwystra.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, mae “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”) ym mharagraff (1) yn hafal i'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-raddedig dynodedig.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y bydd yn penderfynu arno.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-raddedig dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi trosglwyddo neu lle na fydd yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 65; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-raddedig dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y mae'n credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 70.

Trosglwyddo statws

65.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-raddedig arall, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os caiff gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.

(2Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig arall yn y sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

Ceisiadau am gymorth

66.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-raddedig dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes ganddo hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Gwybodaeth

67.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm grantiau

68.  Y grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn fwy na £5,780 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

Talu grantiau

69.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol ac wrth arfer ei swyddogaethau o dan y paragraff hwn fe gaiff wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn un o amodau'r hawl i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordalu

70.—(1Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2Caniateir i unrhyw ordaliad grant o dan y Rhan hon gael ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(64)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Ionawr 2006

Rheoliadau 4, 10, 18, 38, 39 a 50(2), 50(7), 50(14), 55(3)(b), 62(3), 62(5)

ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS

1.  Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig o fewn ystyr Deddf Ymfudo 1971(65); a

(b)yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

2.  Person sy'n ffoadur, sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, sydd heb roi'r gorau i breswylio felly ers cael ei gydnabod fel ffoadur, neu sy'n briod, yn bartner sifil neu'n blentyn i ffoadur o'r fath, ac ym mhob achos yn bodloni'r amod preswylio ym mharagraff 9(a).

3.  Person sydd—

(a)wedi cael gwybod gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y credir ei bod yn gywir caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu aros yno, er na fernir bod y person yn gymwys i'w gydnabod fel ffoadur;

(b)wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hyn; ac

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu aros,

neu sy'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, os yw'r person neu, yn ôl fel y digwydd, y priod, y partner sifil, y plentyn neu'r llysblentyn, yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

4.  Person sy'n weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

(a)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 7(2) neu (3) o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ynghylch rhyddid symud i weithwyr yn y Gymuned(66), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE neu Erthygl 9(3) o Atodiad I i Gytundeb y Swistir neu, os yw'r person yn un o wladolion y Deyrnas Unedig, yn rhinwedd hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn i Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun y naill neu'r llall o'r Erthyglau hyn; a

(b)yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

5.  Person sy'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

(a)wedi'i leoli yn y Deyrnas Unedig gyda'i briod neu ei bartner sifil; a

(b)yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

6.  Person sy'n blentyn i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—

(a)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod neu Erthygl 3(6) o Atodiad I i Gytundeb y Swistir, neu, os yw rhiant y person sy'n weithiwr mudol yn un o wladolion y Deyrnas Unedig, yn rhinwedd hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na phlentyn i wladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun y naill neu'r llall o'r Erthyglau hyn; a

(b)yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.

At ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn ac mae “plentyn” yn cael ei ddehongli yn unol â hyn.

7.  Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn wladolyn i un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd neu'n blentyn y wladolyn o'r fath—

(a)y mae ei gwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru neu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a

(b)sy'n bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9(b) ac (c); ac

(c)nad yw'n syrthio o fewn paragraff 8.

8.  Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, yn wladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd—

(a)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a fu'n preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd;

(c)sydd, os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, â hawl i gael ei drin nid yn llai ffafriol na gwladolyn o Aelod-wladwriaeth arall yn rhinwedd ei fod wedi arfer hawl Gymunedol i rydd-symudiad; ac

(ch)oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion cael addysg amser-llawn, yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn union cyn cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato is-baragraff (b).

9.  Dyma'r amodau preswylio y cyfeirir atynt uchod—

(a)bod y person fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)bod y person wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 1 neu 3, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 4, 5, 6 neu 7, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir; ac

(c)nad yw preswyliad y person yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, yn ôl fel y digwydd, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) wedi bod yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn.

Rheoliadau 5 a 51

ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

1.  Cwrs gradd gyntaf heblaw cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4.

2.  Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

3.  Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(a)Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

(b)Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

4.  Cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf.

5.  Cwrs o hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a chymuned.

6.  Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol—

(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

7.  Cwrs sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon—

(a)yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 6(a) neu (b) uchod; ond

(b)nad yw'n uwch na safon cwrs gradd gyntaf,

ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Rheoliadau 11, 56 a 67

ATODLEN 3GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch)ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd)bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.

3.  Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw.

Rheoliadau 2(1), 20, 26, 45(1) a 46(1)

ATODLEN 4ASESIAD ARIANNOL

Diffiniadau

1.  Yn yr Atodlen hon:—

(a)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(ch)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(d)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(dd)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd);

(e)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei gyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5).

(f)mae i “myfyriwr annibynnol cymwys” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(ff)ystyr “myfyriwr annibynnol dan yr hen drefn” (“independent old system student”) yw myfyriwr cymwys—

(i)sy'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn; a

(ii)nad oes ganddo bartner;

(g)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(ng)ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

(h)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(i)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(j)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

(l)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny;

Myfyriwr cymwys annibynnol

2.  Myfyriwr cymwys annibynnol yw myfyriwr cymwys ym mhob achos—

(a)lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)lle mae wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch)lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(dd)lle mae, yn unol â gorchymyn gan lys cymwys, wedi bod o dan warchodaeth neu ofal unrhyw berson cyfreithiol nad yw'n rhiant i'r myfyriwr neu wedi cael llety gan berson o'r fath drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'n 16 oed a chyn diwrnod cyntaf ei gwrs (“y cyfnod perthnasol”) (ar yr amod nad yw wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol);

(e)lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8;

(f)lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw, wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff)lle mae'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)lle mae—

(i)yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ii)wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(ng)lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(iii)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(iv)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(v)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(vi)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg;

(vii)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

Incwm yr aelwyd

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac—

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw partner o fewn ystyr paragraff 1(j)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,050 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn heblaw'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—

(a)y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau; neu

(b)y mae cyfraniad rhieni yn gymwys mewn perthynas ag ef fel arall gan gyfeirio at y myfyriwr sy'n rhiant neu ei bartner.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(67), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwn at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (68) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

5.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, ni wneir unrhyw ddidyniadau y disgwylid eu gwneud neu ni chaniateir unrhyw esemptiadau a ganiateid—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

(c)o dan is-baragraff (2).

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,050.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr cymwys y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y rhiant am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth reth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan nad yw'r rhieni yn byw gyda'i gilydd fel hyn; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r myfyriwr cymwys a'i bartner fel arfer yn byw gyda'i gilydd am ran yn unig o'r flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn byw gyda'i gilydd fel arfer.

(4Os os gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad- myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn

8.—(1Cyfrifir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn, yn unol ag is-baragraff (2); a

(b)mewn unrhyw achos lle nad yw'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn, yn unol ag is-baragraff (3).

(2Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £10,505 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £10,505; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £10,505, dim.

(3Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys dan yr hen drefn nad yw'n annibynnol, yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £22,560 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £22,560; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £22,560, dim.

(4Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (2) neu (3) beidio â bod yn fwy na £7,430 mewn unrhyw achos.

(5Os yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£7,430; neu

(b)y cyfraniad a fuasai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un myfyriwr cymwys yn unig.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os oes cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â'r canlynol—

(a)dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, os yw incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei gymryd i ystyriaeth, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys annibynnol y mae gan bob un ohonynt bartner mewn perthynas ag incwm yr un aelwyd.

Cyfrifo cyfraniad- myfyrwyr dan y drefn newydd

9.—(1Mewn perthynas â myfyriwr cymwys sy'n fyfyriwr cymwys dan y drefn newydd, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £37,900, £1 am bob £9.50 cyflawn cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £37,900; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £37,900 neu lai, dim.

(2Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £7,430.

(3Pan fydd is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy nag—

(a)£7,430; neu

(b)y cyfraniad a fuasai'n daladwy petai dim ond un myfyriwr yn dal dyfarniad.

(4Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae cyfraniad yn daladwy o ran—

(a)dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, lle ystyrir incwm partner y rhiant perthnasol, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys annibynnol y mae gan ddau ohonynt bartner o ran yr un incwm aelwyd.

Rhannu cyfraniadau

10.—(1Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 8 neu 9 heblaw mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn nad oes ganddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad statudol heblaw dyfarniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) gan y canlynol—

(i)mwy nag un plentyn i rieni'r myfyriwr cymwys;

(ii)rhiant y myfyriwr cymwys; neu

(iii)partner rhiant y myfyriwr cymwys,

y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw unrhyw gyfran o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn gyfiawn ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sydd o dan sylw gan gymryd i ystyriaeth sut mae paragraff 7 o'r Atodlen hon yn cael ei gymhwyso at fyfyrwyr cymwys newydd a myfyrwyr presennol ill dau;

(b)yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn pryd y mae dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(69) neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (70) (a dim dyfarniad statudol arall) gan fwy nag un plentyn i rieni'r myfyriwr cymwys, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yn swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 wedi'i rannu â nifer y plant i'w rieni y mae ganddynt ddyfarniad statudol perthnasol;

(c)pe na bai unrhyw ran o'r cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 yn cael ei chymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr cymwys, o ganlyniad i'r dyraniad o dan is-baragraff (b), mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach—

(i)yn gyntaf mewn perthynas â'r dyfarniad statudol lleiaf (neu bob dyfarniad statudol o'r fath) y caniateir i'r cyfraniad gael ei gymhwyso ato; a

(ii)wedyn, yn nhrefn gynyddol eu maint, mewn perthynas â phob dyfarniad statudol sy'n weddill y caniateir i'r cyfraniad gael ei gymhwyso ato, nes bod modd dyrannu balans y cyfraniad yn gyfartal heb fod yr un rhan ohono ar ôl neu nes nad oes yr un rhan o unrhyw ddyfarniad statudol ar ôl nad yw'r cyfraniad wedi'i gymhwyso ati.

(2Mewn unrhyw achos—

(a)lle mae gan riant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm yn cael ei asesu o dan yr Atodlen hon bartner;

(b)lle mae cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol y rhiant hwnnw yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn naill ai i'r rhiant hwnnw neu i'w bartner; ac

(c)lle nad yw'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn hafal i'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys arall,

mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo o dan is-baragraff (3).

(3Os yw is-baragraff (2) yn gymwys, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â phob aelwyd berthnasol yn cael ei gyfrifo ac mae'r dyraniad yn cael ei wneud yn unol ag is-baragraff (1) o'r paragraff hwn gan gadw'n ôl dim ond y rhan honno o'r cyfraniad a ddyrannwyd i bob myfyriwr cymwys nad yw'n rhan o'r aelwyd berthnasol.

(4Mewn achos lle mae cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol rhiant y myfyriwr cymwys yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un plentyn i'r rhiant hwnnw neu i bartner y rhiant hwnnw, os oes un, a bod incwm gweddilliol unrhyw fyfyriwr cymwys o'r fath yn fwy na dim, mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a)mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo heb gyfeirio at baragraff 4 ond fel arall yn unol â'r Atodlen hon ac yn cael ei ddyrannu rhwng pob myfyriwr cymwys yn unol â'r paragraff hwn;

(b)wedyn cymhwysir hefyd mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys gyfraniad arall o £1 am bob £9.50 cyflawn y mae'r swm a gyfrifir o dan is-baragraff (c) yn fwy na £22,560;

(c)y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yw cyfanswm unrhyw symiau a gyfrifir o dan baragraffau 4, 5 a 7 (os yw'n briodol) o'r Atodlen hon gan ddidynnu'r swm (os oes swm) sy'n cyfateb i faint yn fwy na £22,560 yw cyfanswm y symiau a gyfrifir o dan baragraffau 5 a 7.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—

(a)os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b)os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad at ei blant o dan y paragraff hwn.

(6Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(j) o'r Atodlen hon, mae'r symiau a ychwanegir at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (5) o'r paragraff hwn yn cael eu cyfrifo fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a gafodd y cyfrifiad hwnnw ei gyfrifo ar y sail honno mewn gwirionedd neu beidio.

(7Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd berthnasol” (“relevant household”) yw'r holl fyfyrwyr cymwys hynny y cyfrifir cyfraniad mewn perthynas â hwy gan gyfeirio ar yr un incwm o dan baragraffau 5 a 7 ill dau.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Disgrifir isod y newidiadau sylweddol heblaw graddfeydd grantiau a benthyciadau a wneir yn y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd (rheoliad 2(1)) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn.

Mae myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

  • grant at ffioedd (Rhan 4);

  • benthyciad at gyfraniad at ffioedd (rheoliad 16);

  • grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 19);

  • grant i fyfyrwyr sy'n ymadael â gofal (rheoliad 20);

  • grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 21 i 26);

  • grant at deithio (rheoliad 27);

  • grant addysg uwch (rheoliad 28); a

  • benthyciadau at gostau byw (Rhan 7).

Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi ac nad yw'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i amodau penodedig—

  • benthyciadau at ffioedd (rheoliad 17);

  • grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 19);

  • grant i fyfyrwyr sy'n ymadael â gofal (rheoliad 20);

  • grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 21 i 26);

  • grant at deithio (rheoliad 27);

  • grant cynhaliaeth (rheoliad 29);

  • grant cymorth arbennig (rheoliad 30); a

  • benthyciadau at gostau byw (Rhan 7).

I fod â hawl i gael cymorth ariannol rhaid i fyfyriwr ddod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2. Mae'r rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn at ddibenion ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (rheoliad 2(2)).

Nid yw cymorth ond ar gael o dan y rheoliadau o ran cyrsiau dynodedig o fewn ystyr rheoliadau 5, 51 ac Atodlen 2.

Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno rheolau newydd ar astudio blaenorol yn rheoliadau 6 a 7. Mae myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 yn gymwys i gael grant cymorth ffioedd a grant cynhaliaeth am hyd arferol eu cwrs ac am un flwyddyn ychwanegol. Gostyngir nifer y blynyddoedd pryd y mae cymorth ar gael ar sail nifer y blynyddoedd y rhoddwyd cymorth i addysg uwch eisoes. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dechrau eu cwrs cyn 1 Medi 2006 bydd cymorth ar gael am hyd arferol y cwrs. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu estyn cymhwystra pan fo rhesymau personol anorchfygol dros wneud hynny o ran y myfyriwr dan sylw. Mae benthyciadau cynhaliaeth ar gael drwy gydol cyfnod y cymhwystra, sy'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn gorffen y cwrs dynodedig. Bydd myfyrwyr sy'n mynychu cyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n parhau llai na dwy flynedd yn esempt rhag y rheolau astudio blaenorol.

Ni fydd myfyrwyr sydd â chymhwyster gradd anrhydedd oddi wrth sefydliad addysg uwch yn y DU yn gymwys i gael cymorth o dan y rheoliadau, ond bydd myfyrywyr sy'n ymgymryd â chwrs ail radd sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol, doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, cynllunydd trefol neu gynllunydd gwlad a thref yn dal yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth.

Mae'r diffiniad o “cwrs pen-ben” wedi ei ddiwygio (rheoliad 2(1)) fel bod myfyrwyr sy'n mynd ben-ben o radd sylfaen a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 (neu yn y flwyddyn academaidd 2006/7 ar gyfer myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) at radd anrhydedd yn cael eu trin fel myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn. Bydd myfyrwyr sy'n symud o gwrs gradd at gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs gradd gyntaf) ar neu ar ôl 1 Medi 2006 (ac eithrio myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd) yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd pan ddechreuant eu cwrs hyfforddi athrawon.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac mae 3 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer y grant at ffioedd sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth newydd ar gyfer benthyciadau at ffioedd. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer benthyciad newydd at gyfraniad at ffioedd nad yw'n uwch na £1200 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn o ran mynychu cyrsiau dynodedig. £600 yw'r terfyn o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2). Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer benthyciad at ffioedd hyd at fwyafswm o £3,000 y flwyddyn academaidd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd o ran ffioedd sy'n daladwy ganddynt mewn perthynas â mynychu cyrsiau dynodedig. Y terfyn yw £1500 o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 13(2).

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw. Mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth ar gyfer grant cynhaliaeth ar sail prawf modd ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd. Uchafswm y grant sydd ar gael ar gyfer rhan fwyaf y myfyrwyr yw £2,700. Uchafswm y grant sydd ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw am raddau cyntaf) y mae cyfanswm eu cyfnodau mynychu amser-llawn o leiaf 6 wythnos ond llai na 10 wythnos yw £1,350. Profir y grant cynhaliaeth fel a ganlyn—

  • Bydd myfyrwyr sydd ag incwm aelwyd o £17,500 neu lai yn cael grant cynhaliaeth llawn o £2,700. Bydd myfyrwyr sydd ag incwm aelwyd uwchlaw £15,500 yn cael grant rhannol, gyda lleiafswm o grant o £50 yn daladwy unwaith y bydd incwm yr aelwyd yn cyrraedd £37,425.

  • Bydd athrawon dan hyfforddiant yn cael elfen o'r grant cynhaliaeth nas cyfrifir ar sail prawf modd beth bynnag y bo incwm yr aelwyd. Bydd myfyrwyr ar gyrsiau ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw am raddau cyntaf) sy'n astudio am fwy na 10 wythnos yn cael elfen nas cyfrifir ar sail prawf modd o £1,200; caiff y sawl sy'n astudio rhwng 6 a 10 wythnos £600.

  • Cyfrifir yr hawl i gael grant rhannol drwy gymhwyso tapr o £1 am bob £6 i incwm aelwyd a ennillir dros ben £17,500 hyd at £26,499. Cymhwysir ail dapr o £1 am bob £9.50 i incwm aelwyd sydd rhwng £26,500 a £37,425.

Mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer grant cymorth arbennig ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd hefyd yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm a budd-daliadau eraill a gyfrifir ar sail prawf modd fel Budd-dal Tai. Yr un yw uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael ag uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael. Nid yw myfyrwyr sy'n gymwys i gael grant cymorth arbennig yn gymwys i gael grant cynhaliaeth. Ni roddir y grant cymorth arbennig yn lle unrhyw ran o'r benthyciad cynhaliaeth.

Mae Rhan 7 a Rhan 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Bydd myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sy'n gymwys i gael grant cynhaliaeth hefyd yn gymwys i gael benthyciad cynhaliaeth a thelir hyd at £1,200 o'r grant yn lle elfen o'r benthyciad myfyriwr. Gostyngir yr hawl i gael benthyciad cynhaliaeth o £1 am bob £1 o'r grant sy'n daladwy hyd at uchafswm o £1,200.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesiad ariannol o fyfyrwyr ac ar gyfer cyfrifo cyfraniad y myfyriwr cymwys. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso i grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes iddo gael ei ddiddymu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr hawl i'w cael.

Mae Rhan 10 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau a benthyciadau. Mae rheoliad 48 yn cyflwyno gofyniad newydd bod sefydliadau i gadarnhau presenoldeb myfyrwyr ar gyrsiau cyn i daliad gael ei wneud. Mae eithriadau ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gorfforol abl i fod yn bresennol ar y cwrs. Bydd myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau, ond nad ydynt yn abl i fod yn bresennol ar gwrs oherwydd anabledd yn gymwys i gael cymorth myfyriwr o dan y Rheoliadau ac eithrio'r grant at deithio (rheoliad 2(7)).

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyrsiau rhan-amser.

Mae Rhan 12 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Lluniwyd arfarniad rheoliadol o'r Rheoliadau hyn ac fe'i rhoddwyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Cyllid Myfyrwyr, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)).

(3)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.

(5)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Y mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

(7)

Gorch. 4904.

(8)

Cm 2073.

(9)

Cm 2183.

(10)

1962 p.12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Gorchymyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(11)

O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972.

(12)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.

(13)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6.

(15)

Gorch. 9171.

(16)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(17)

O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.

(18)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(20)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.

(32)

O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341.

(33)

1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61), adran 39 ac Atodlen 4.

(34)

OJ Rhif L257, 19.10. 1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).

(35)

O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.

(36)

1992 p.13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 27.

(37)

Diffinnir ffioedd (“fees”) yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).

(38)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.

(39)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.

(40)

1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 1(2).

(41)

Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 6.

(42)

Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002.

(43)

1978 p.29.

(45)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 56.

(46)

2002 p.21.

(47)

S.I. 1999/3110.

(48)

1989 p. 41; mewnosodwyd adran 79F gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

(49)

1992 p.4.

(50)

2002 p.38.

(51)

1989 p.41.

(52)

O.S. 1980/51, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/596 ac O.S. 1999/3177.

(54)

O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.

(56)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr (Yr Alban) 2001 (dsa6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(57)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(58)

1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3.

(59)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14) Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwme (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6.

(60)

1973 c. 50; section 2 as substituted by the Employment Act 1988 (c. 19) was amended by the Employment Act 1989 (c. 38), Schedule 7. Subsections (3A) and (3B) were inserted by the Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993 (c. 19), section 47 in relation to Scotland only.

(61)

O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.

(62)

2000 p.14.

(63)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(64)

1998 p.38.

(65)

1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.

(66)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).

(67)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10. Nid yw diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Diwygiwyd adran 619 gan Ddeddf Cyllid 1989 (p. 26), adran 170 a Deddf Cyllid 1996 (p. 8), adran 135 ac Atodlen 21. Diwygiwyd adran 639 gan Ddeddf Cyllid 2000 (p. 17), Atodlen 13. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.

(68)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(69)

O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.

(70)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Addasiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources