Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CRHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â PHRIF SWYDDOGION

RHAN 1LL+CRheolau Sefydlog Rhagnodedig

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

PenodiadauLL+C

1.  Lle bwriada'r awdurdod perthnasol benodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006), ac na fwriedir gwneud y penodiad yn unig o blith ei swyddogion presennol, rhaid iddo wneud y canlynol–

(a)llunio datganiad yn manylu am–

(i)ddyletswyddau'r swyddog dan sylw, a

(ii)unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;

(b)trefnu i'r swydd gael ei hysbysebu yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy'n gymwys i ymgeisio amdani; ac

(c)trefnu i gopi o'r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy'n gwneud cais.

2.(1) Lle hysbysebwyd swydd yn ôl darpariaeth paragraff [F11(2)(b)], rhaid i'r awdurdod perthnasol weithredu fel a ganlyn–

(a)cyfweld yr holl ymgeiswyr cymwys am y swydd, neu

(b)ddewis rhestr fer o'r cyfryw ymgeiswyr cymwys a chyfweld y rhai ar y rhestr fer.

(2) Lle nad ymgeisiodd unrhyw berson cymwys, neu os bydd yr awdurdod perthnasol yn ailhysbysebu'r swydd, rhaid i'r awdurdod perthnasol wneud trefniadau pellach i hysbysebu yn unol â pharagraff [F21(2)(b)].

Diwygiadau Testunol

RHAN 2LL+CAmrywiadau Awdurdodedig

[F31.(1) Rhaid i awdurdod perthnasol gymryd y camau a nodir yn is-baragraff (2) pan fo—LL+C

(a)yr awdurdod perthnasol yn bwriadu penodi prif swyddog (o fewn ystyr Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006); a

(b)y gydnabyddiaeth ariannol y mae’r awdurdod perthnasol yn bwriadu ei thalu i’r prif swyddog yn £100,000 y flwyddyn neu’n fwy.

(2) Y camau yw—

(a)llunio datganiad yn manylu—

(i)dyletswyddau’r swyddog dan sylw, a

(ii)unrhyw gymwysterau neu nodweddion y ceisir eu cael yn y person a benodir;

(b)trefnu i’r swydd gael ei hysbysebu’n gyhoeddus yn y fath fodd fel y bydd yn debygol o ddod i sylw personau sy’n gymwys i ymgeisio amdani; ac

(c)trefnu i gopi o’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (a) gael ei anfon at unrhyw berson sy’n gwneud cais.

(3) Pan fo is-baragraff (1) yn gymwys nid yw’n ofynnol i’r awdurdod perthnasol gymryd y cam a nodir yn is-baragraff (2)(b) os yw’n bwriadu penodi’r prif swyddog am gyfnod o ddim mwy na 12 mis.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

2.  Gall y rheolau sefydlog wneud darpariaeth, lle bo dyletswyddau prif swyddog yn cynnwys cyflawni swyddogaethau dau neu fwy o awdurdodau perthnasol yn rhinwedd adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972–LL+C

(a)gall y camau a gymerwyd dan baragraff 1 neu 2 uchod gael eu cymryd gan gydbwyllgor yr awdurdodau perthnasol hynny, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu brif swyddog unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol dan sylw; a

(b)gellir penodi unrhyw brif swyddog gan y cyfryw gydbwyllgor, is-bwyllgor o'r pwyllgor hwnnw neu bwyllgor neu is-bwyllgor o unrhyw rai o'r awdurdodau perthnasol hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

3.  Gellir eithrio o gymhwyso paragraff 1 a 2–LL+C

F4(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)unrhyw benodiad yn rhinwedd adran 9 (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol) y Ddeddf, ac

(c)unrhyw benodiad yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (cymhorthydd y maer).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CRHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â CHYFARFODYDD A THRAFODION

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

Cofnodi pleidleisiauLL+C

1.(1) Lle, yn union wedi cymryd pleidlais mewn cyfarfod o gorff perthnasol, bo unrhyw aelod o'r corff hwnnw yn mynnu hynny, rhaid cofnodi yng nghofnodion trafodion y cyfarfod hwnnw a fwriodd y person hwnnw bleidlais dros y cwestiwn neu yn erbyn y cwestiwn neu a ataliodd y person hwnnw rhag pleidleiso.

(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) yw'r awdurdod perthnasol, pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol neu gyd-bwyllgor neu is-bwyllgor perthnasol o'r cyfryw bwyllgor.

Llofnodi cofnodion- cyfarfodydd arbennigLL+C

2.  Lle mewn perthynas ag unrhyw gyfarfod o'r awdurdod perthnasol y bydd y cyfryw gyfarfod nesaf yn gyfarfod a elwir dan baragraff 3 (cyfarfodydd arbennig) o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, rhaid trin cyfarfod dilynol nesaf yr awdurdod perthnasol (sef cyfarfod a elwir heb fod o dan y paragraff hwnnw) fel cyfarfod addas at ddibenion paragraff 41(1) a (2) (llofnodi cofnodion) yr Atodlen honno(1).

rheoliad 4A

[F5ATODLEN 2ALL+CRheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol

CworwmLL+C

1.  Ni chaniateir trafod busnes mewn cyfarfod pwyllgor oni bai bod o leiaf hanner cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor yn bresennol, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Aelodau dirprwyolLL+C

2.  [F6Ni chaniateir i awdurdod perthnasol benodi un arall o’i aelodau i fod yn aelod o bwyllgor yn absenoldeb yr aelod a benodwyd yn unol â Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017.]]

Rheoliad 5(1) a 6

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI MEWN RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â STAFF

RHAN 1LL+CAwdurdod gyda Maer a Chabinet Gweithredol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

1.  Yn y Rhan hon–LL+C

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(3);

mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan [F7y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod].LL+C

3. [F8(1)]  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–LL+C

[F9(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;]

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(4) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(5) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);

(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu

(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr [F10awdurdod lleol] ) o Ddeddf Addysg 2002(6) yn gymwys iddo.

[F11(f)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu

(ff)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.]

[F12(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).]

4.—(1Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo [F13person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod], rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.LL+C

(2Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) [F14, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)]

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.LL+C

[F156.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.]LL+C

RHAN 2LL+CAwdurdod gydag Arweinydd a Chabinet Gweithredol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 Rhn. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

1.  Yn y Rhan hon–LL+C

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth o dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

mae gan “corff gweithredol” (“executive”) ac “arweinydd gweithredol” (“executive leader”) yr un ystyr ag yn Rhan II o Ddeddf 2000;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(7);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(8);

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan [F16y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod].LL+C

3. [F17(1)]  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–LL+C

[F18(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;]

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(9) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(10) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu

(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr [F19awdurdod lleol] ) o Ddeddf Addysg 2002(11) yn gymwys iddo.

[F20(e)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;

(f)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.]

[F21(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).]

4.—(1Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo [F22person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod] , rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.LL+C

(2Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), (b), (c) [F23, (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)]

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredol fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–LL+C

(a)person arall yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi'r person arall hwnnw fel aelod o staff yr awdurdod perthnasol; neu

(b)aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

[F246.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.]LL+C

F25RHAN 3LL+CAwdurdod gyda Maer a Rheolwr Gweithredol y Cyngor

 

F25....  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F25  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F25  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F25  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F26RHAN 4LL+CAwdurdod sy'n Gweithredu Trefniadau Amgen

 

F26....  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F26  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F26  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F26  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F26  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Rheoliad 8

ATODLEN 4LL+CDARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI YN Y RHEOLAU SEFYDLOG PARTHED CAMAU DISGYBLU

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 4 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

1.  Ym mharagraff 2, mae i “prif swyddog cyllid” (“chief finance officer”), F27... “camau disgyblu” (“disciplinary action”), [F28prif weithredwr” (“chief executve”)] [F29, “swyddog monitro” (“monitoring officer”) a “pennaeth gwasanaethau democrataidd” (“head of democratic services”)], yr un ystyr ag yn rheoliad 2 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 ac y mae i “person annibynnol dynodedig” (“designated independent person”) yr un ystyr ag yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hynny.

2. [F30(1)]  Ni ellir cymryd camau disgyblu parthed [F31prif weithredwr yr awdurdod] F32..., ei swyddog monitro [F33, ei brif swyddog cyllid, ei bennaeth gwasanaethau democrataidd neu unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)], ac eithrio camau a ddisgrifir ym mharagraff 3, gan yr awdurdod perthnasol, neu gan bwyllgor, is-bwyllgor, cydbwyllgor lle cynrychiolir yr awdurdod perthnasol neu gan unrhyw un sy'n gweithredu ar ran yr awdurdod perthnasol, ac eithrio yn unol ag argymhelliad mewn adroddiad a wnaed gan berson annibynnol dynodedig dan reoliad 9 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (ymchwilio i gamymddwyn honedig).

[F34(2) Swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef—

(a)pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod yr oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (1).]

3.  Y cam a grybwyllir ym mharagraff 2 yw atal dros dro y swyddog at ddibenion ymchwilio i'r camymddwyn honedig sy'n peri'r cam hwn; rhaid i unrhyw atal dros dro o'r fath fod ar gyflog llawn, a rhaid iddo derfynu ddim hwyrach nac ar derfyn dau fis yn cychwyn ar y diwrnod y daw'r atal dros dro i rym.

Diwygiadau Testunol

F30Atod. 4 para. 2(1): Atod. 4 para. 2 wedi ei ailrifo fel Atod. 4 para. 2(1) (1.7.2014) gan Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1514), rhlau. 1(2), 11(2)(a) (ynghyd â rhl. 12)

(1)

Diwygiwyd paragraff 41 gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

(4)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(5)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(10)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

2002 p.32.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources