- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
10 Mai 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2006.
2. I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, daw adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 i rym ar 11 Mai 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mai 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 11 Mai 2006 adrannau 19 i 22 a 24 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (“Deddf 2003”), sy'n ymwneud â chontractau rhianta a gorchmynion rhianta ar gyfer disgyblion ysgol.
Mae adran 19 yn darparu bod cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn ymrwymo i gontractau rhianta gyda rhiant disgybl neu blentyn.
Mae adran 20 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau pan gaiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta, ar gyfer amgylchiadau pan gaiff y llys wneud gorchymyn ac ar gyfer cynnwys ac effaith gorchymyn.
Mae adran 21 yn gwneud darpariaeth atodol. Mae adran 22 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Lys y Goron yn erbyn gwneud gorchymyn rhianta. Mae adran 24 yn ddarpariaeth ddehongli.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
1 i 11 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
18 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
23 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
25 i 29 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
30 i 38 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(1) a (2) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
39(3) (y gweddill) | 30 Ebrill 2004 | 2003/3300 |
39(4), (5) a (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
46 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
53 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
54 | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
57 i 59 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
60 i 64 | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(1), (2) a (3) 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 | |
85(4) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(4) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(5) (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(5) (y gweddill) (yn gyfyng ei chymhwysiad) | 1 Hydref 2004 amgyfnod o 18 mis | 2004/2168 |
85(6) (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
85(6) (y gweddill) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
85(7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
85(8) | 27 Chwefror 2004 | 2003/3300 |
85(9), (10) ac (11) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(1) a (2) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(3) (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
86(3) (y gweddill) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
86(4), (5) a (6) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
87 | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
88 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
89(1), (2), a (3) (4) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
89(5) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
89(6) a (7) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
90 | 31 Gorffennaf 2004 | 2004/1502 |
92 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
92 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
92 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 20 Ionawr 2004 | 2003/3300 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2004 | 2004/690 |
Atodlen 3 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2168 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen | Dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
12 | 30 Ebrill 2005 | 2005/1225 (Cy.83) (C.55) |
13 (gydag arbedion) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
14 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
14 (y gweddill) | 30 Ebrill 2005 | 2005/1225 (Cy.83) (C.55) |
15 | 30 Ebrill 2005 | 2005/1225 (Cy.83) (C.55) |
16 (gydag arbedion) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
17 | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
91 | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
40 i 45 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) (C.43) |
47 i 52 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) (C.43) |
55 a 56 | 31 Mawrth 2004 | 2004/999 (Cy.105) (C.43) |
Rhan 8 | 31 Rhagfyr 2004 | 2004/3238 (Cy.281) (C.144) |
Atodlen 1 (yn rhannol) | 30 Medi 2004 | 2004/2557 (Cy.228) (C.107) |
Atodlen 1 (y gweddill) | 30 Ebrill 2005 | 2005/1225 (Cy.83) (C.55) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: