Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 12 Mai 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) ym Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Rheoliad y Gymuned” (“the Community Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(1) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy–

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(2);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol(3);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(4);

(ch)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3(5);

(d)

Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol(6);

(dd)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd (7);

(e)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a 2 ac a fwriedir at ddibenion techchnegol(8);

(h)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw(9).

(ff)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran dulliau o waredu neu o ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsnewid bio-nwy a phrosesu brasderau wedi'u rendro(10);

(g)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid(11);

(2Y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a geir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno yw'r deunydd Categori 1, y deunydd Categori 2 a'r deunydd Categori 3, ac mae i ymadroddion eraill a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

Cymeradwyaethau, etc.

3.  Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, gyfarwyddyd hysbysiad neu gydnabyddiaeth a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.

(1)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.

(2)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(3)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(4)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(5)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(6)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(7)

OJ Rhif L151,30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t. 9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.

(8)

OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.

(9)

OJ Rhif L162, 30.4.2004, t 62.

(10)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, p.46.

(11)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, p.27.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources