Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 158 19(1)

ATODLEN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

RHAN 1Mangreoedd

1.—(1Rhaid bod–

(a)man derbyn lle y mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn cael eu derbyn;

(b)man lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio gyda chyfleusterau digonol ar gyfer gwneud hynny; ac

(c)man glân lle y mae compost neu weddill traul yn cael ei storio.

(2Rhaid i'r man glân fod wedi'i wahanu'n ddigonol oddi wrth y man derbyn a'r fan lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r man glân o'r mannau eraill.

(3Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w lanhau a'i ddiheintio a rhaid bod yno le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin.

2.  Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y man derbyn a naill ai–

(a)eu trin ar unwaith; neu

(b)eu storio yn y man derbyn a'u trin heb oedi amhriodol.

3.  Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd–

(a)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi â deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu hylifau sy'n dod ohono; a

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n dod ohono.

4.  Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos–

(a)y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned;

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi a deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu a hylifau sy'n dod ohono, a

(c)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi a deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu a hylifau sy'n dod ohnono.

5.  Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin yn y man pwrpasol cyn iddynt adael y fangre a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo dim ond gwastraff arlwyo heb ei drin ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.

RHAN IISystemau a pharamedrau ar gyfer trin gwastraff arlwyo

1.  Oni fydd cymeradwyaeth yn benodol yn caniatáu system wahanol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:

Compostio

SystemCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu
Mwyafswm maint y gronyn40cm6cm40cm
Isafbwynt y tymheredd60°C70°C60°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd2 ddiwrnod1 awr8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd)

Rhaid bodlonir gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd fel rhan o'r broses gompostio.

Bio-nwy

SystemBio-nwy mewn adweithydd caeedigBio-nwy mewn adweithydd caeedig
Mwyafswm maint y gronyn5cm6cm
Isafbwynt y tymheredd57°C70°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd5 awr1 awr

2.  Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.

Gweithfeydd compostio

3.  Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid iddi bennu pa un ac, yn ychwanegol at hynny, rhaid bod ynddi'r naill neu'r llall o'r amodau canlynol–

(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo a bod y deunydd yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau o leiaf ar ôl ei drin (nid yw'n angenrheidiol ei storio mewn system wedi'i hamgáu), neu

(b)y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac sydd wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (nid o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.

Gweithfeydd bio-nwy

4.  Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–

(a)bod camau wedi'u cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu

(b)bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.

Rheoliad 17(4)

ATODLEN 2Hylif yn deillio o anifeiliaid sy'n cnoi cil

Trin neu ollwng hylif wrth brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil

1.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid yn deillio o anifail sy'n cnoi cil–

(a)gollwng yr hylif sy'n dod o'r broses neu ei anfon i'w ollwng–

(i)i garthffos gyhoeddus yn unol â chydsyniad neu gytundeb elifiant masnachol gan yr ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991(1); neu

(ii)i ddyfroedd a reolir (o fewn ystyr Deddf Adnoddau Dŵ r 1991(2)) i gydymffurfio â chydsyniad gollwng gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y Ddeddf honno; neu

(b)trin yr hylif sy'n dod o'r gwaith prosesu yn y fangre brosesu yn y fath fodd fel bod gan yr hylif a gafodd ei drin–

(i)lefel o solidau crog o ddim mwy nag 80 mg y litr, a

(ii)galw am ocsigen biocemegol o ddim mwy na 60 mg y litr,

ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Os yw'r person sy'n prosesu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn traddodi hylif nad yw wedi'i drin yn unol ag is-baragraff (1)(b) i'w ollwng gan berson arall, a bod y person hwnnw'n methu ei ollwng yn unol ag is-baragraff (1)(a)–

(a)mae'r person hwnnw ynghyd â'r proseswr yn euog o dramgwydd; ond

(b)mae i'r proseswr ddangos i'r proseswr gredu ar sail resymol y byddai'r person yn gollwng yr hylif yn unol ag is-baragraff 1(a) yn amddiffyniad.

(3Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran gwaed nad yw wedi'i gymysgu gydag unrhyw ddeunydd arall sy'n dod o anifail sy'n cnoi cil.

Mesur hylif a gafodd ei drin

2.—(1Er mwyn sicrhau bod yr hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) y lleiaf y mae'n rhaid i weithredydd sy'n trin hylif yn unol â'r paragraff hwnnw ei wneud yw'r mesuriadau canlynol.

(2Rhaid i'r gweithredydd fonitro'n barhaus lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin neu fel arall ei mesur deirgwaith y dydd.

(3Unwaith yr wythnos, rhaid i'r gweithredydd fesur lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin drwy ddull sy'n cydymffurfio â “Suspended Settleable and Total Dissolved Solids in Waters and Effluents(3)”.

(4Unwaith yr wythnos rhaid i'r gweithredydd fesur galw'r hylif a gafodd ei drin am ocsigen biocemegol drwy ddull sy'n cydymffurfio â'r “5 day Biochemical Oxygen Demand (BOD5)(4)”.

(5Os yw unrhyw un o'r mesuriadau hyn yn dangos nad yw'r hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) rhaid i'r gweithredydd sicrhau mai'r hylif a gafodd ei drin yn unol â pharagraff 1(1)(a) yn unig sydd yn cael ei ryddhau hyd onid yw profion pellach yn dangos bod y system drin yn cyrraedd y lefelau gofynnol.

(6Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cofnodion

3.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi dyddiadau a chanlyniadau mesuriadau a wnaed yn unol â pharagraff 2.

(2Ar gyfer yr holl hylif a gaiff ei ollwng neu ei draddodi o'r fangre brosesu, rhaid iddo, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

(a)ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin oedd yr hylif;

(b)dyddiad a dull ei ollwng neu ei draddodi;

(c)faint ohono a ollyngwyd neu a draddodwyd;

(ch)ym mha le y'i gollyngwyd, neu'r fangre y traddodwyd ef iddi; a

(d)enw'r cludydd, os oedd cludydd.

(3Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cofnodion traddodi

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi unrhyw hylif sy'n deillio o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil (p'un ai ef ei hun a'u prosesodd ai peidio) o unrhyw fangre, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

(a)cyfeiriad y fangre y cesglir yr hylif ohoni;

(b)y dyddiad y cesglir yr hylif;

(c)faint o hylif a disgrifiad ohono, ac ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin ydyw;

(ch)y fan lle y mae i'w ollwng neu i'w waredu.

(2Rhaid iddo roi copi i'r person sy'n cludo'r hylif.

(3Rhaid i'r cludydd gadw ei gopi o'r cofnod gyda'r llwyth hyd oni ollyngir neu oni waredir yr hylif.

(4Rhaid i'r sawl sy'n traddodi gadw copi o'r cofnod am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid i'r cludydd ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.

(5Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Rheoliad 21

ATODLEN 3Dulliau Profi

RHAN IY DULL AR GYFER YNYSU CLOSTRIDIUM PERFRINGENS

Amser profi

1.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C ac 8°C nes bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell, rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid cyflawni'r profion drwy ddefnyddio dwy gyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid i bob sampl 10 gram gael ei rhoi'n aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml Clostridium perfringens o wanedydd a wnaed o 0.1% pepton a 0.8% sodiwm clorid wrth pH o 7 a'i chymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o'r hydoddiant i ddysgl petri 90 mm sterilaidd (yn ddyblyg) y mae'n rhaid ychwanegu ynddi 15 ml o agar Shahidi-Ferguson (agar SF)(5) ar dymheredd o 47°C±1°C a'i gymysgu ar unwaith a chan bwyll drwy droelli'r ddysgl 5 gwaith yn glocwedd a 5 gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Pan fydd yr agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml pellach o agar SF ar dymheredd o 47°C±1°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo a chyda'r platiau at i fyny, rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Clostridium perfringens

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi nodweddiadol o Clostridium perfringens (du). Bydd y sampl yn methu dros dro os bydd unrhyw gytrefi sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens yn bresennol, ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau ai cytrefi o Clostridium perfringens ydynt ai peidio.

6.  Yn achos pob plât, rhaid is-feithrin 10 cytref nodweddiadol o Clostridium perfringens ar blât agar SF pellach. Os bydd llai na 10 cytref ar y plât, rhaid is-feithrin pob cytref nodweddiadol ar blât pellach. Rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

7.  Os oes gordyfiant ar arwynebedd y platiau ac nad yw'n bosibl dethol cytrefi nodweddiadol a ynyswyd yn dda, rhaid is-feithrin 10 cytref a amheuir ar ddyblygiadau o blatiau agar SF a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

8.  Rhaid is-feithrin un gytref nodweddiadol o bob plât ar yr agar SF a'i deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Cytrefi a gafodd eu his-feithrin

9.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob plât am gytrefi sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens. Rhaid i bob cytref sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens

(a)gael trywanblaniad i gyfrwng symudoldeb nitrad(6); a

(b)ei phlannu naill ai mewn cyfrwng gelatin lactos(7) neu mewn disgiau gelatin golosg(8);

a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Symudoldeb

10.  Rhaid archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad am y math o dyfiant ar hyd y llinell drywanu. Os oes tystiolaeth o dyfiant yn tryledu i mewn i'r cyfrwng oddi wrth y llinell drywanu, rhaid ystyried bod y bacteria yn symudol.

Rhydwytho nitrad yn nitrid

11.  Ar ôl archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad, rhaid ychwanegu ato 0.2 ml i 0.5 ml o adweithydd canfod nitrid. Bydd lliw coch yn ymffurfio yn cadarnhau bod y bacteria wedi rhydwytho nitrad i nitrid. Rhaid diystyru meithriniadau sy'n dangos adwaith wan (h.y. lliw pinc). Os na fydd lliw coch yn ymffurfio cyn pen 15 munud, rhaid ychwanegu swm bach o lwch zinc a gadael i'r plât sefyll am 15 munud. Os bydd lliw coch yn ymffurfio ar ôl ychwanegu llwch zinc, bydd hyn yn cadarnhau nad yw nitrad wedi'i rydwytho'n nitrid.

Cynhyrchu nwy ac asid o lactos a gelatin yn troi'n hylif

12.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am bresenoldeb swigod bach nwy yn y cyfrwng.

13.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am liw. Mae lliw melyn yn dangos bod y lactos wedi eplesu.

14.  Rhaid oeri'r cyfrwng gelatin lactos am un awr ar 2- 8°C ac yna'i wirio i weld a yw'r gelatin wedi hylifo. Os yw'r cyfrwng wedi ymsolido, rhaid ei ailddeor yn anerobig am 18- 24 awr eto, oeri'r cyfrwng am un awr eto ar 2- 8°C a'i wirio eto i weld a yw'r gelatin wedi hylifo.

15.  Rhaid penderfynu ar bresenoldeb Clostridium perfringens ar sail y canlyniadau o baragraffau 10 i 14. Rhaid ystyried bod bacteria sy'n cynhyrchu cytrefi duon ar agar SF, yn ansymudol, yn rhydwytho nitrad yn nitrid, yn cynhyrchu nwy ac asid o lactos ac yn hylifo gelatin o fewn 48 awr yn Clostridium perfringens.

Profion Rheoli

16.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–

(a)Clostridium perfringens heb fod yn fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio;

(b)Escherichia coli NCTC 10418((9) neu sylwedd cyfwerth iddo nad yw'n fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac

(c)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Clostridium perfringens.

17.  Rhaid rhoi darnau 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol yn y naill a'r llall o ddau gynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog (BPW)(10) a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

18.  Rhaid rhoi un gytref o Clostridium perfringens mewn 10 ml BPW a'i chymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol. Rhaid ailadrodd hyn ar gyfer Escherichia coli.

19.  Yna caiff y rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

RHAN IIY DULLIAU AR GYFER YNYSU SALMONELA

A.Y DULL BACTERIOLEGOL

1.—(1Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

(2Rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg gan ddefnyddio dwy gyfran 25 gram yr un o bob sampl a anfonwyd i'w phrofi.

Diwrnod un

2.  Ar y diwrnod cyntaf, rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddwr Pepton Byfferog (BPW) a'u deor ar 37°C±1°C am 18 awr±2 awr.

Diwrnod dau

3.  Ar yr ail ddiwrnod, rhaid plannu 0.1 ml o'r cynhwysydd BPW wedi'i ddeor mewn 10 ml o gawl Rappaports Vassiliadis (cawl RV)(11) a'i ddeor ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ±3awr.

Diwrnod tri

4.  Ar y trydydd diwrnod, rhaid gosod y cawl RV ar ddau blât 90 milimetr o Agar Gwyrdd Gloyw (BGA)(12) neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD)(13) gan ddefnyddio dolen 2.5 mm mewn diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o un plât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r ail blât heb aildrydanu'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C ±2°C dros nos am 24 ± 3 awr. Rhaid ailddeor y cawl RV gweddilliol ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ychwanegol.

5.  The residual RV broth must be reincubated at 41.5°C±0.5°C for a further 24 hours.

Diwrnod pedwar

6.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey(14); ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

7.  Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.

Diwrnod pump

8.  Ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau gyda un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

9.  Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.

B.Y DULL DARGLUDIANT TRYDANOL

10.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

Diwrnod un

11.  Ar y diwrnod cyntaf rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddŵr Pepton/Lysin/Glwcos Byfferog (BPW/L/G)(15) a'u deor ar 37°C am 18 awr.

Diwrnod dau

12.  Ar yr ail ddiwrnod rhaid ychwanegu'r BPW/L/G a ddeorwyd at gyfrwng Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin-N-Ocsid (SC/T/D)(16) a Glwcos Lysin Decarbocsylas (LD/G)(17) mewn celloedd neu bantiau dargludo trydanol. Ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng mwy na 5 ml rhaid ychwanegu 0.2 ml o BPW/L/G ac ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng 5 ml neu lai rhaid ychwanegu 0.1 ml o BPW/L/G. Rhaid bod y celloedd neu'r pantiau wedi'u cysylltu â chyfarpar mesur dargludiant trydanol addas a osodwyd i fonitro a chofnodi newidiadau yn y dargludiant trydanol fesul 6 munud dros gyfnod o 24 awr. Rhaid cadw tymheredd y celloedd a'r pantiau ar 37°C.

Diwrnod tri

13.  Ar y trydydd diwrnod, ar ddiwedd y cyfnod 24 awr, rhaid i'r wybodaeth a gofnodwyd gan y cyfarpar mesur dargludiant gael ei dadansoddi a'i dehongli gan ddefnyddio'r meini prawf a ddiffinnir gan weithgynhyrchwyr y cyfarpar. Os dynodir dros dro bod pant neu gell yn cadarnhau bod Salmonela'n bresennol, rhaid cadarnhau'r canlyniad drwy is-feithrin cynnwys y pant neu'r gell ar ddau blât 90 milimetr o BGA neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD) sy'n defnyddio dolen 2.5 mm ei diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o'r naill blât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r plât arall heb ailwefru'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C dros nos.

Diwrnod pedwar

14.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o 3 cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey; ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

Diwrnod pump

15.  ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

RHAN IIIY DULL AR GYFER YNYSU ENTEROBACTERIACEAE

1.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C a 8°C hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid gweithredu'r profion drwy ddefnyddio pum cyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi pob sampl 10 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog a'i chymysgu'n drylwyr hyd nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o hydoddiant i ddysgl petri 90 mm ddi-haint (yn ddyblyg). Rhaid bod y platiau wedi'u labelu i ddynodi cyfran y sampl y cymerwyd yr hydoddiant ohoni. Rhaid ychwanegu 15 ml o Agar Glwcos Bustl Coch Fioled (VRBGA)(18) ar dymheredd o 47°C±2°C ym mhob dysgl petri ac ar unwaith ei gymysgu gan bwyll drwy droelli'r ddysgl bum gwaith yn glocwedd a phum gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Unwaith y mae'r agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml VRBGA pellach o agar ar dymheredd o 47°C±2°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo rhaid troi'r platiau wyneb i waered a'u deor yn anerobig ar 36°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Enterobacteriaceae

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi sy'n nodweddu Enterobacteriaceae (cytrefi porffor 1-2 mm eu diamedr). Rhaid cyfrif yr holl gytrefi nodweddiadol ar bob plât a chymryd cymedr rhifyddol y platiau dyblyg.

Bydd y sampl yn methu dros dro naill ai–

(a)os bydd unrhyw gymedr rhifyddol dros 30(19); neu

(b)os bydd tri neu ragor o gymedrau rhifyddol dros 10;

ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a yw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.

6.  Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Archwilio'r is-feithriniadau

7.  Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac yn eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.

8.  Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.

Dulliau rheoli

9.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–

(a)Escherichia coli NCTC 10418 heb fod yn fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac

(b)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Enterobacteriaceae.

10.  Rhaid rhoi cyfran 10 gram o'r protein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

11.  Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.

12.  Yna caiff hon ei thrin a'i harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

(3)

Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rhyngrwyd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 011751957X.

(4)

Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 0117522120.

(5)

Shahidi-Ferguson Agar – Gweler Shahidi, S.A. a Ferguson, A.R. (1971) Applied Microbiology 21:500-506. American Society for Microbiology, 1913 1 St N.W., Washington DC 20006, UDA.

(6)

Motility nitrate medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefeld R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892. National Research Council of Canada, Ottawa ON K1A OR6, Canada.

(7)

Lactos gelatin medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefield R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892.

(8)

Charcoal gelatin discs -Gweler Mackie a McCartney, (1996) Practical Medical Microbiology 14, 509. Churchill Livingstone, Robert Stevenson House, 1-3 Baxter"s Place, Leith Walk, Caeredin EH1 3AF.

(9)

The National Collection of Type Cultures, Central Public Health Laboratory, 61 Colindale Ave, Llundain NW9 5HT.

(10)

Buffered Pepton Water – Gweler Edel, W. and Kampelmacher, E.H. (1973) Bulletin of World Health Organisation, 48: 167-174, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).

(11)

Rappaports Vassiliadis Broth – Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, a Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200. Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.

(12)

Brilliant Green Agar – Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).

(13)

Xylose Lisene Deoxycholate Agar – Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.

(14)

MacConkey Agar – Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir.

(15)

Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(16)

Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol – Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawnt

(17)

Lysine Decarboxylase Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(18)

Violet Red Bile Glucose Agar – Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory Practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.

(19)

Mae cymedr rhifyddol yn gyfwerth â 3x10 197 o unedau ffurfio cytref fesul gram o"r sampl wreiddiol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources