RHAN 7Cofnodion
Cofnodion
32.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am ddwy flynedd o leiaf, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Caiff cofnod fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.
Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid
33. Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.
Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid
34. Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.
Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangre
35.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw fangre sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu yn y fangre wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio sgil-gynnyrch o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad y gwaredwyd neu y defnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a faint o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd a disgrifiad ohono, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu yn y fangre drwy roi sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu yn fwyd i ymlusgiaid ac i adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.
Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
36.—(1) Rhaid i weithredydd unrhyw waith bio-nwy neu waith compostio sydd yn derbyn gwastraff arlwyo gofnodi–
(a)y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r fangre;
(b)faint o wastraff arlwyo a ddanfonwyd a disgrifiad ohono, gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau nad oedd cig wedi'i gynnwys yn y gwastraff; ac
(c)enw'r cludydd;
a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio
37. Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi–
(a)y dyddiadau y caiff y deunydd ei drin;
(b)disgrifiad o'r deunydd a gaiff ei drin;
(c)faint o ddeunydd a gaiff ei drin;
(ch)canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd ar y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a
(d)digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd
38. Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–
(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;
(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl;
(c)disgrifiad o'r sampl a sut i'w hadnabod;
(ch)y dyddiad y daeth y sampl i law yn y labordy;
(d)y dyddiad y profwyd y sampl yn y labordy; ac
(dd)canlyniad y prawf;
a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.
Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddill traul
39.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd mangre y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu adar yn cael eu cadw arni gofnodi–
(a)y dyddiad y deuir â'r compost neu'r gweddill traul i'r fangre honno;
(b)faint o gompost neu weddill traul a disgrifiad ohono;
(c)y tir y rhoddir y compost neu'r gweddill traul arno;
(ch)dyddiad ei roi ar y tir; a
(d)y dyddiad y rhoddwyd y tir gyntaf dan gnwd neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid sy'n cnoi cil, moch neu adar (ac eithrio adar gwyllt) fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;
a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.
(2) Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio mewn unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig.