Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 12/05/2006.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
1. Oni fydd cymeradwyaeth yn benodol yn caniatáu system wahanol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:LL+C
System | Compostio mewn adweithydd caeedig | Compostio mewn adweithydd caeedig | Compostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu |
---|---|---|---|
Mwyafswm maint y gronyn | 40cm | 6cm | 40cm |
Isafbwynt y tymheredd | 60°C | 70°C | 60°C |
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd | 2 ddiwrnod | 1 awr | 8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd) |
Rhaid bodlonir gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd fel rhan o'r broses gompostio.
System | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig | Bio-nwy mewn adweithydd caeedig |
---|---|---|
Mwyafswm maint y gronyn | 5cm | 6cm |
Isafbwynt y tymheredd | 57°C | 70°C |
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd | 5 awr | 1 awr |
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
2. Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
3. Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid iddi bennu pa un ac, yn ychwanegol at hynny, rhaid bod ynddi'r naill neu'r llall o'r amodau canlynol–
(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo a bod y deunydd yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau o leiaf ar ôl ei drin (nid yw'n angenrheidiol ei storio mewn system wedi'i hamgáu), neu
(b)y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac sydd wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (nid o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
4. Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–
(a)bod camau wedi'u cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu
(b)bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: