Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 12/05/2006.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Rheoliad 17(4)
1.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid yn deillio o anifail sy'n cnoi cil–
(a)gollwng yr hylif sy'n dod o'r broses neu ei anfon i'w ollwng–
(i)i garthffos gyhoeddus yn unol â chydsyniad neu gytundeb elifiant masnachol gan yr ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991(1); neu
(ii)i ddyfroedd a reolir (o fewn ystyr Deddf Adnoddau Dŵ r 1991(2)) i gydymffurfio â chydsyniad gollwng gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y Ddeddf honno; neu
(b)trin yr hylif sy'n dod o'r gwaith prosesu yn y fangre brosesu yn y fath fodd fel bod gan yr hylif a gafodd ei drin–
(i)lefel o solidau crog o ddim mwy nag 80 mg y litr, a
(ii)galw am ocsigen biocemegol o ddim mwy na 60 mg y litr,
ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.
(2) Os yw'r person sy'n prosesu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn traddodi hylif nad yw wedi'i drin yn unol ag is-baragraff (1)(b) i'w ollwng gan berson arall, a bod y person hwnnw'n methu ei ollwng yn unol ag is-baragraff (1)(a)–
(a)mae'r person hwnnw ynghyd â'r proseswr yn euog o dramgwydd; ond
(b)mae i'r proseswr ddangos i'r proseswr gredu ar sail resymol y byddai'r person yn gollwng yr hylif yn unol ag is-baragraff 1(a) yn amddiffyniad.
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran gwaed nad yw wedi'i gymysgu gydag unrhyw ddeunydd arall sy'n dod o anifail sy'n cnoi cil.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
2.—(1) Er mwyn sicrhau bod yr hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) y lleiaf y mae'n rhaid i weithredydd sy'n trin hylif yn unol â'r paragraff hwnnw ei wneud yw'r mesuriadau canlynol.
(2) Rhaid i'r gweithredydd fonitro'n barhaus lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin neu fel arall ei mesur deirgwaith y dydd.
(3) Unwaith yr wythnos, rhaid i'r gweithredydd fesur lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin drwy ddull sy'n cydymffurfio â “Suspended Settleable and Total Dissolved Solids in Waters and Effluents(3)”.
(4) Unwaith yr wythnos rhaid i'r gweithredydd fesur galw'r hylif a gafodd ei drin am ocsigen biocemegol drwy ddull sy'n cydymffurfio â'r “5 day Biochemical Oxygen Demand (BOD5)(4)”.
(5) Os yw unrhyw un o'r mesuriadau hyn yn dangos nad yw'r hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) rhaid i'r gweithredydd sicrhau mai'r hylif a gafodd ei drin yn unol â pharagraff 1(1)(a) yn unig sydd yn cael ei ryddhau hyd onid yw profion pellach yn dangos bod y system drin yn cyrraedd y lefelau gofynnol.
(6) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
3.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi dyddiadau a chanlyniadau mesuriadau a wnaed yn unol â pharagraff 2.
(2) Ar gyfer yr holl hylif a gaiff ei ollwng neu ei draddodi o'r fangre brosesu, rhaid iddo, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–
(a)ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin oedd yr hylif;
(b)dyddiad a dull ei ollwng neu ei draddodi;
(c)faint ohono a ollyngwyd neu a draddodwyd;
(ch)ym mha le y'i gollyngwyd, neu'r fangre y traddodwyd ef iddi; a
(d)enw'r cludydd, os oedd cludydd.
(3) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
4.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi unrhyw hylif sy'n deillio o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil (p'un ai ef ei hun a'u prosesodd ai peidio) o unrhyw fangre, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–
(a)cyfeiriad y fangre y cesglir yr hylif ohoni;
(b)y dyddiad y cesglir yr hylif;
(c)faint o hylif a disgrifiad ohono, ac ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin ydyw;
(ch)y fan lle y mae i'w ollwng neu i'w waredu.
(2) Rhaid iddo roi copi i'r person sy'n cludo'r hylif.
(3) Rhaid i'r cludydd gadw ei gopi o'r cofnod gyda'r llwyth hyd oni ollyngir neu oni waredir yr hylif.
(4) Rhaid i'r sawl sy'n traddodi gadw copi o'r cofnod am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid i'r cludydd ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.
(5) Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 12.5.2006, gweler rhl. 1
Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rhyngrwyd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 011751957X.
Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 0117522120.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: