Search Legislation

Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1403 (Cy.140) (C.48)

TRAFNIDIAETH

Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006

Wedi'i wneud

24 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12 a 13 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (Cychwyn) 2006.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

Y diwrnod penodedig

2.—(1Daw darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) isod i rym ar 26 Mai 2006.

(2Mae'r darpariaethau fel a ganlyn–

(a)Adran 1 (dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol)

(b)Adran 2 (Strategaeth Drafnidiaeth Cymru)

(c)Adran 3 a'r Atodlen (cynlluniau trafnidiaeth lleol)

(ch)Adran 4 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth)

(d)Adran 5 (cyd-awdurdodau trafnidiaeth)

(dd)Adran 6 (cymorth ariannol: swyddogaethau trafnidiaeth lleol)

(e)Adran 7 (darparu gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr)

(f)Adran 8 (Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru)

(ff)Adran 9 (swyddogaethau'r Pwyllgor)

(g)Adran 10 (canllawiau a chyfarwyddiadau i'r Pwyllgor)

(ng)Adran 11 (cymorth ariannol: gwasanaethau trafnidiaeth awyr)

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Mai 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p.6) (“y Ddeddf”).

Cyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu at Atodlenni iddi yw cyfeiriadau at adrannau neu at Atodlenni.

Effaith y Ddeddf yw darparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwerau ychwanegol ym maes trafnidiaeth a fydd, ynghyd â'i bwerau presennol, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu a rhoi ar waith, ar y cyd ag awdurdodau lleol a chyrff eraill yng Nghymru, system drafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd i wasanaethu Cymru.

Mae adran 1 yn rhoi dyletswydd drafnidiaeth gyffredinol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddatblygu polisïau ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth diogel, cynaliadwy ac effeithlon yng Nghymru, i gynnwys darpariaethau ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.

Mae adran 2 yn rhoi ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru y gofyniad am iddo gynhyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, sy'n rhoi manylion ei bolisïau trafnidiaeth, ac am iddo adolygu'r Strategaeth yn rheolaidd.

Mae adran 3 yn deddfu'r Atodlen i'r Ddeddf. Mae'r Atodlen yn diwygio Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38) sy'n ymwneud â chynlluniau trafnidiaeth lleol. Mae'r Atodlen yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gynnwys yn eu cynlluniau trafnidiaeth lleol eu polisïau ar gyfer rhoi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar waith yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trafnidiaeth lleol yng Nghymru gyflwyno eu cynlluniau trafnidiaeth lleol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn iddo eu cymeradwyo.

Mae adran 4 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo dau neu fwy o awdurdodau lleol yng Nghymru i ymrwymo i drefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd.

Mae adran 5 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu, drwy Orchymyn, gyd-awdurdodau trafnidiaeth, a fyddai'n gyrff corfforaethol, i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth ar y cyd o fewn eu hardaloedd.

Mae adran 6 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i gyd-awdurdodau trafnidiaeth ac i awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu swyddogaethau trafnidiaeth.

Mae adran 7 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod unrhyw wasanaeth trafnidiaeth cyhoeddus i deithwyr yn cael ei ddarparu at ddiben bodloni gofynion trafnidiaeth gyhoeddus na fyddent yn cael eu bodloni fel arall.

Mae adran 8 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru.

Mae adran 9 yn darparu manylion ynghylch swyddogaethau Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru.

Mae adran 10 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddyroddi canllawiau a chyfarwyddiadau i Bwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus Cymru ynghylch sut y dylai gyflawni ei swyddogaethau.

Mae adran 11 yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi cymorth ariannol i wasanaethau trafnidiaeth awyr yng Nghymru mewn amgylchiadau pan na fyddai'r gwasanaethau yn cael eu darparu ac eithrio gyda'r cymorth hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources