- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
27 Mehefin 2006
Yn dod i rym
30 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 55(3) o Ddeddf Tai 2004(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i unrhyw HMO(2) yng Nghymru heblaw bloc o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddo.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004; a
(b)ystyr “mangre busnes” (“business premises”) yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, nad yw'n llety i fyw ynddo, neu nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â llety i fyw ynddo, nac yn rhan hanfodol ohono.
3.—(1) Mae HMO o ddisgrifiad rhagnodedig at ddibenion adran 55(2)(a) o'r Ddeddf pan fo'n bodloni'r amodau a ddisgrifir ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)mae'r HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy;
(b)mae wedi'i feddiannu gan bum person neu fwy; ac
(c)mae wedi'i feddiannu gan bersonau sy'n byw mewn dwy aelwyd unigol neu fwy.
(3) Rhaid ystyried y lloriau canlynol wrth benderfynu a yw HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy—
(a)unrhyw islawr—
(i)os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fwy ynddo;
(ii)os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo;
(iii)os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â, ac fel rhan hanfodol o'r HMO; neu
(iv)os ef yw'r unig neu'r prif gofnod i'r HMO ar y stryd;
(b)unrhyw atig—
(i)os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo;
(ii)os yw wedi'i adeiladu, ei drosi neu'i addasu i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo, neu
(iii)os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono;
(c)os yw'r llety i fyw ynddo wedi'i leoli mewn rhan o'r adeilad uwchben mangre busnes, gyda phob llawr yn rhan o'r fangre busnes;
(ch)os yw'r llety i fyw ynddo wedi'i leoli mewn rhan o adeilad islaw mangre busnes, gyda phob llawr yn rhan o'r fangre busnes;
(d)unrhyw lawr mesanîn nad yw'n cael ei ddefnyddio'n unig fel mynedfa rhwng dau lawr cyffiniol—
(i)os caiff ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel llety i fyw ynddo; neu
(ii)os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono; ac
(dd)unrhyw lawr arall a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n rhannol fel llety i fyw ynddo neu mewn cysylltiad â'r HMO, ac fel rhan hanfodol ohono.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Mehefin 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi disgrifiad o dŷ amlfeddiannaeth (“HMO”) y mae Rhan 2 o Ddeddf Tai 2004 (“y Ddeddf”) yn gymwys iddo. O dan adran 61(1) o'r Ddeddf, rhaid i bob HMO y mae Rhan 2 o'r Ddeddf yn gymwys iddo fod yn drwyddedig oni bai ei fod yn destun naill ai hysbysiad esemptio dros dro o dan adran 62 o'r Ddeddf neu orchymyn rheoli terfynol neu interim o dan Bennod 1 o Ran 4 o'r Ddeddf.
Mae'r Gorchymyn yn gymwys i HMOs yng Nghymru ond nid yw'n gymwys i flociau o fflatiau a droswyd y mae adran 257 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt. Mae'r rhain yn adeiladau sydd wedi'u trosi'n fflatiau hunangynhaliol ac sy'n cynnwys fflatiau hunangynhaliol pan nad oedd y gwaith adeiladu a wnaed mewn cysylltiad â'r trosiad yn cydymffurfio â'r safonau adeiladu priodol, ac nad yw o hyd yn cydymffurfio â hwy, ac mae llai na dwy ran o dair o'r fflatiau hunangynhaliol wedi'u perchen-feddiannu.
Mae erthygl 3(2) yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i HMOs eu bodloni er mwyn bod o ddisgrifiad a ragnodir gan erthygl 3(1). Un o'r amodau yw bod y cyfan neu ran o HMO yn cynnwys tri llawr neu fwy. Mae erthygl 3(3) yn rhestru'r lloriau mewn HMO sydd i'w hystyried wrth gyfrifo a yw'r HMO neu unrhyw ran ohono yn cynnwys tri llawr neu fwy.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar fusnesau, ar gael o Uned y Sector Preifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn: 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 55(3) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o “the appropriate national authority” yn adran 261(1).
Ar gyfer ystyr HMO gweler adrannau 77 a 254 i 259 o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: