Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Gorffennaf 2006.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “blwyddyn academaidd gyfredol” (“current academic year”) yw'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond ar neu cyn 31 Awst 2006;

ystyr “blwyddyn academaidd nesaf” (“next academic year”) yw'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond ar neu cyn 31 Awst 2007;

ystyr “blwyddyn academaidd newydd” (“new academic year”) yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

ystyr “Coleg” (“College”) yw Coleg Ewrop;

ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “dyddiad symud” (“moving date”) yw'r dyddiad y mae'r ceisydd yn symud i Wlad Belg, yr Eidal neu Wlad Pwyl, yn ôl fel y digwydd, er mwyn—

(a)

bod yn bresennol ar y cwrs hyfforddiant iaith hwnnw mewn unrhyw achos lle mae'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar gwrs dwys o hyfforddiant iaith yn union cyn y cwrs dynodedig; neu

(b)

bod yn bresennol ar y cwrs dynodedig, mewn unrhyw achos arall;

ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(1), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990, Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990, Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(2) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(3);

ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 23 neu 25;

ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 4 o Ran 4;

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro;

ystyr “myfyriwr Cyfarwyddeb” (“Directive student”) yw person sydd—

(a)

yn syrthio o fewn paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 1 yn rhinwedd y ffaith ei fod—

(i)

yn berson hunangyflogedig o'r EEA;

(ii)

yn berson hunangyflogedig o'r Swistir;

(iii)

yn aelod o deulu person hunangyflogedig o'r EEA neu berson hunangyflogedig o'r Swistir;

(iv)

yn berthynas uniongyrchol ddibynnol yn llinach esgynnol gweithiwr mudol o'r EEA neu'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr o'r fath;

(b)

yn syrthio o fewn paragraff 3 o Ran 2 o Atodlen 1;

(c)

yn syrthio o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yn rhinwedd y ffaith ei fod yn aelod o deulu gwladolyn o'r GE;

(ch)

yn syrthio o fewn paragraff 8 o Ran 2 o Atodlen 1;

ystyr “myfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol” (“current Directive student”) yw myfyriwr Cyfarwyddeb a ddechreuodd y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006;

ystyr “myfyriwr cyfredol” (“current student”) yw myfyriwr—

(a)

a ddechreuodd y cwrs cyfredol cyn 1 Medi 2006;

(b)

y dyfarnwyd bod ganddo hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw cyn 7 Gorffennaf 2006 yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1998; ac

(c)

a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru yn union cyn y dyddiad symud;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11;

ystyr “myfyriwr newydd” (“new student”) ac eithrio yn Atodlen 2 yw myfyriwr—

(a)

sy'n dechrau'r cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond ar neu cyn 31 Awst 2007;

(b)

y dyfarnwyd bod ganddo hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw yn unol â Rheoliadau 2000 cyn 7 Gorffennaf 2006; ac

(c)

sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru;

ystyr “Rheoliadau 2000” (“2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) 2000(4);

ystyr “Sefydliad” (“Institute”) yw Sefydliad Prifysgol Ewrop;

ystyr “sefydliad Ewropeaidd” (“European institution”) yw—

(a)

Canolfan Bologna;

(b)

Coleg Ewrop;

(c)

y Sefydliad.

(2Os yw'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at benderfyniad a wnaed (neu nas gwnaed) neu at beth arall a wnaed (neu nas gwnaed) gan y Cynulliad Cenedlaethol, yna, mewn perthynas ag unrhyw amser cyn i swyddogaeth gwneud y penderfyniad neu'r peth gael ei throsglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol pan oedd y swyddogaeth o dan sylw yn swyddogaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau 2000, mae'r cyfeiriad at y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddarllen fel cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol(5).

Dirymu, arbed a darpariaethau trosiannol

4.  Mae Rheoliadau 2000, Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) 2001(6) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) (Diwygio) (Rhif 2) 2001(7) wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru.

5.  Mae Rheoliadau 2000 yn parhau yn gymwys mewn perthynas â Chymru mewn perthynas â blwyddyn academaidd a ddechreuodd cyn 1 Medi 2005.

6.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 7 i 10, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd newydd yn unig.

7.—(1Mae unrhyw daliad cymorth sydd wedi'i wneud neu a oedd i'w wneud o dan Reoliadau 2000 i fyfyriwr cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol i gael ei drin fel taliad sydd wedi'i wneud neu a oedd i'w wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu, yn unol â'r Rheoliadau hyn, swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol yn unol â pharagraff (2) a bod swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yn gostwng, swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yw'r swm y penderfynwyd ei fod yn daladwy i'r myfyriwr o dan Reoliadau 2000.

(4Caiff myfyriwr cyfredol wneud cais o dan y Rheoliadau hyn am gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol os nad oedd wedi gwneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2000 cyn 7 Gorffennaf 2006.

8.—(1Os bu cyn 7 Gorffennaf 2006—

(a)i fyfyriwr cyfredol neu ddarpar fyfyriwr wneud cais am gymorth o dan Reoliadau 2000 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf; a

(b)nad oedd penderfyniad wedi'i wneud, os yw hynny'n berthnasol, o ran a oedd gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs cyfredol neu o ran swm y cymorth a oedd yn daladwy, os oedd cymorth yn daladwy o gwbl, i'r myfyriwr hwnnw,

mae'r cais i'w drin fel pe bai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Mae unrhyw daliad cymorth a wnaed neu sydd i'w wneud o dan Reoliadau 2000 i fyfyriwr cyfredol neu fyfyriwr newydd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf cyn 7 Gorffennaf 2006 i'w drin fel taliad a wnaed neu sydd i'w wneud o dan y Rheoliadau hyn.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ailasesu, yn unol â'r Rheoliadau hyn, swm y cymorth y penderfynwyd cyn 7 Gorffennaf 2006 ei fod yn daladwy i fyfyriwr cyfredol neu fyfyriwr newydd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nesaf.

(4Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy i fyfyriwr cyfredol yn unol â pharagraff (2) a bod swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yn gostwng, swm y cymorth sy'n daladwy i'r myfyriwr yw'r swm y penderfynwyd ei fod yn daladwy i'r myfyriwr o dan Reoliadau 2000.

(5At ddibenion paragraff (1), ystyr “darpar fyfyriwr” yw person—

(a)sy'n dechrau'r cwrs cyfredol yn y flwyddyn academaidd nesaf; a

(b)a wnaeth gais am gymorth o dan Reoliadau 2000 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 7 Gorffennaf 2006; ond

(c)nad oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 ar ei gymhwystra i gael cymorth mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

9.—(1Os oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 o dan Reoliadau 2000 nad oedd person a oedd yn dechrau cwrs yn y flwyddyn academaidd gyfredol neu yn y flwyddyn academaidd nesaf yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs sydd wedi'i ddynodi at ddibenion rheoliad 4 o Reoliadau 2000—

(a)caniateir trin cais y person hwnnw fel cais am gymorth a wnaed o dan y Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy; a

(b)caniateir i benderfyniad gael ei wneud felly, yn unol â'r Rheoliadau hyn, o ran a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys ac os felly, ar swm y cymorth sy'n daladwy iddo mewn perthynas â'r canlynol (os oes cymorth yn daladwy o gwbl)—

(i)yn achos person a ddechreuodd ei gwrs yn y flwyddyn academaidd gyfredol, y flwyddyn academaidd gyfredol a'r flwyddyn academaidd nesaf; a

(ii)yn achos person sy'n dechrau ei gwrs yn y flwyddyn academaidd nesaf, y flwyddyn academaidd honno.

10.  Caiff myfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol wneud cais o dan y Rheoliadau hyn am gymorth neu am swm ychwanegol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

11.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu—

(a)ei fod yn syrthio o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)y dylai fod ganddo hawl, ar sail teilyngdod, i gael cymorth mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(3Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;

(b)os yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n berson addas i gael cymorth.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol achos y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(5At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad sy'n cael ei wneud o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur

y mae paragraff 3(c) yn gymwys.

(7Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 fod â hawl i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig ar unrhyw adeg.

(8Mae person yn fyfyriwr cymwys hefyd at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)os yw—

(i)yn fyfyriwr cyfredol; neu

(ii)yn fyfyriwr newydd; a

(b)nad oedd penderfyniad wedi'i wneud cyn 7 Gorffennaf 2006 na ddylai fod ganddo hawl mwyach i gael cymorth mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(9At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cwrs cymwys” yw cwrs—

(a)sydd—

(i)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs tebyg; a

(ii)yn para am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd; a

(b)y cafodd y myfyriwr ddyfarniad statudol mewn perthynas ag ef heblaw dyfarniad y bwriedid iddo helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd yn rhaid i'r myfyriwr ei dynnu mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar y cwrs oherwydd anabledd sydd neu a oedd ganddo am o leiaf ddwy flwyddyn academaidd o'r cwrs.

Cyrsiau dynodedig

12.  Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 11 os yw—

(a)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs tebyg;

(b)yn gwrs amser-llawn;

(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)yn cael ei ddarparu gan sefydliad Ewropeaidd.

Cyfnod cymhwystra

13.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pryd y byddai'r sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn disgwyl fel arfer i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs (“cyfnod cymhwystra”).

(2Mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben pan fydd y myfyriwr—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 14; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os yw wedi'i fodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos nad yw'n addas i gael cymorth.

(4Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben o dan baragraff (1) cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, ar unrhyw adeg, ymestyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y bydd yn penderfynu arno.

(5Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud un neu fwy o'r canlynol—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr eisoes fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 42.

Trosglwyddo cymhwystra

14.—(1Pan fydd myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—

(a)os daw cais i law oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

(b)os yw wedi'i fodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac

(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi dod i ben.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth ariannol

15.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

16.—(1Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Awst 2006.

(2Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)os yw'r cais yn cael ei wneud gan fyfyriwr cyfredol fel y darperir ar ei gyfer yn rheoliad 7(4), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 30 Ionawr 2007 fan bellaf;

(b)os yw'r cais yn cael ei wneud gan fyfyriwr Cyfarwyddeb cyfredol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol erbyn 30 Ionawr 2007 fan bellaf;

(c)os bydd un o'r digwyddiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3) yn digwydd, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(ch)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am y grant sy'n daladwy o dan reoliad 27, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(d)os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.

(3Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(c)—

(a)bod priod, partner sifil neu riant y ceisydd—

(i)yn cael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)yn dod yn berson a chanddo ganiatâd i ddod i mewn neu aros fel y'i disgrifir ym mharagraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y ceisydd yn un o wladolion y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu person sy'n un o wladolion y wladwriaeth honno;

(c)bod y ceisydd yn dod yn aelod o deulu gwladolyn o'r GE;

(ch)bod y ceisydd yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a)(iii) neu (vi) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(d)bod y ceisydd yn dod yn blentyn i wladolyn o'r Swistir.

Gwybodaeth

17.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

18.  Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)ei fod yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr un Sefydliad Ewropeaidd;

(c)ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch)ei fod yn absennol o'r cwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd)bod ei gyfeiriad gartref neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.

19.  Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn bodloni'r gofyniad hwn.

RHAN 4CYMORTH ARIANNOL

Cyffredinol

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw—

(a)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Ganolfan Bologna (“myfyriwr yng Nghanolfan Bologna”) hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw yn unol â darpariaethau Pennod 1;

(b)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan Goleg Ewrop (“myfyriwr yng Ngholeg Ewrop”) hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw i gael—

(i)grant at ffioedd a grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 2; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4; ac

(c)bod gan fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan y Sefydliad (“myfyriwr yn y Sefydliad”) hawl mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(i)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 3; a

(ii)grantiau atodol yn unol â Phennod 4.

(2Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu—

(a)nad oes gan y myfyriwr hawl i gael math neu swm penodol o gymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad oes gan y myfyriwr hawl i gael dim cymorth mewn perthynas â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu a ddylai fod gan fyfyriwr cymwys hawl i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Sefydliad Ewropeaidd perthnasol yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

PENNOD 1GRANTIAU AT FFIOEDD I FYFYRWYR YNG NGHANOLFAN BOLOGNA

Grant at ffioedd

21.—(1Mae gan fyfyriwr yng Nghanolfan Bologna hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyrwyr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.

(3Er gwaethaf paragraff (2), nid yw'r grant at ffioedd sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn i fod yn fwy na 22,700 ewro.

PENNOD 2GRANTIAU I FYFYRWYR YNG NGHOLEG EWROP

Grant at ffioedd

22.—(1Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs cyfredol wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y grant at ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfanswm y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â bod yn bresennol ar y cwrs yn ystod y flwyddyn academaidd honno, neu fel arall mewn cysylltiad â bod yn bresennol arno.

(3Er gwaethaf paragraff (2), nid yw swm y grant at ffioedd i fod yn fwy na'r canlynol—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, 9,450 ewro; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, 10,250 ewro.

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at gostau byw sy'n hafal i swm (A + B) lle—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

(i)mae A yn £2,233.22; a

(ii)mae B yn £45.58 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg am lai na 5 diwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)mae A yn £2,290; a

(ii)mae B yn £47 am bob wythnos, gan gynnwys wythnos pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg am lai na 5 diwrnod, pryd y mae'n ofynnol i'r myfyriwr fod yn bresennol yn y Coleg uwchlaw 30 wythnos a 3 diwrnod.

(4Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at fwrdd a llety o 6,000 ewro.

(5Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant i deithio adref am swm sy'n hafal i (A− B) lle—

  • A yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Coleg; a

  • B yw—

    (i)

    mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £93; a

    (ii)

    mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £95.

(6Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio colegol am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Coleg i'r Coleg.

(7Mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Coleg yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.

24.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir yn unol â rheoliad 23.

PENNOD 3GRANTIAU I FYFYRWYR YN Y SEFYDLIAD

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn perthynas â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (4) i (8) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan baragraff (8) os un flwyddyn academaidd neu lai yw cyfnod arferol y cwrs dynodedig y penderfynwyd bod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad ag ef

(4Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at gostau byw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, o 12,760 ewro; a

(b)mewn unrhyw achos arall, o 12,840 ewro.

(5Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant i deithio adref am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Sefydliad;

(6Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr tra bydd yn bresennol yn y Sefydliad i'r Sefydliad.

(7Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan y Sefydliad yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(8Mae gan fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

26.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (4) i (7) o reoliad 25.

PENNOD 4GRANTIAU ATODOL

Lwfans i fyfyrwyr anabl— amodau cymhwyso

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael lwfans i fyfyrwyr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

Swm y lwfans i fyfyrwyr anabl

28.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans i fyfyrwyr anabl yw'r swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(2Rhaid i swm y lwfans i fyfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

(i)£11,840 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd ar gyfer gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(ii)£4,680 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra ar gyfer gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(iii)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(aa)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(bb)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;

(iv)£1,565 mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd;

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)£12,135 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(ii)£4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra am wariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(iii)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(aa)yn y wlad y lleolir y sefydliad perthnasol ynddi er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad; a

(bb)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn teithio i'r sefydliad perthnasol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol;

(iv)£1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd am unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnir at y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) neu (ii) sy'n fwy na'r uchafsymiau a bennwyd.

Grant ar gyfer dibynyddion

29.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed; a

(b)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 30 i 33.

Grant dibynyddion mewn oed

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas â'r canlynol—

(a)partner y myfyriwr; neu

(b)dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr nad yw ei incwm net yn fwy na'r canlynol—

(i)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £3,345;

(ii)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £3,530.

(3Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

31.—(1Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,395; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

(i)£2,455; neu

(ii)pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Lwfans dysgu rhieni

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

(2Nid oes gan fyfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad hawl i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.

(3Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 33, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,365;

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,400.

Cyfrifo

33.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu'r myfyriwr yn y Sefydliad hawl i'w gael o dan reoliadau 29 i 32 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 29 i 32, swm sy'n hafal i (A− B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 30; a

(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 32.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A− B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hwnnw hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y dyfarniad statudol.

(5Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw £1,050 os nad oes gan y myfyriwr blentyn dibynnol;

    • £3,145 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    • £4,195 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

    • £4,195 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    • £5,250 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr blentyn dibynnol;

    • £3,225 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    • £4,300 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

    • £4,300 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    • £5,380 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

34.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 30 i 33.

Dehongli

35.—(1At ddibenion rheoliadau 30 i 33—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(dd)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (f), (ff) ac (g), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(f)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) i'w drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, wedi'u gwahanu; neu

(ii)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(ff)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi;

(g)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (e) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn perthynas â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(8);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(9);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(10);

(dd)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac

(e)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(3Os yw myfyriwr neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol;

(b)os yw'r flwyddyn academaidd berthnasol yn flwyddyn academaidd newydd; ac

(c)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

RHAN 5CYFRANIADAU

Cyfraniad y myfyriwr

36.—(1Cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr

37.—(1Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 36 gael ei gymhwyso—

(a)yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop yn unol â rheoliad 38; a

(b)yn achos myfyriwr yn y Sefydliad yn unol â rheoliad 39.

38.—(1Yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—

(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir o dan reoliad 23(3);

(b)yn ail—

(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng—

(aa)yn gyntaf, swm y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliad 33; a

(bb)yn ail, swm y grant ar gyfer bwrdd a llety a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(4);

(ii)mewn unrhyw achos arall, swm y grant at fwrdd a llety a gyfrifir o dan reoliad 23(4);

(c)yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(5);

(ch)yn bedwerydd, i ostwng swm y grant at deithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(6);

(d)yn bumed, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 23(7).

(2Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 23(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.

39.—(1Yn achos myfyriwr yn y Sefydliad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymhwyso cyfraniad y myfyriwr—

(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(4);

(b)yn ail—

(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng—

(aa)yn gyntaf, swm y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliad 33;

(bb)yn ail, swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(5); ac

(cc)yn drydydd, swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(6);

(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(6);

(c)yn drydydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 25(7).

(2Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(c) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 26(7), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.

RHAN 6TALIADAU

Talu grant at ffioedd

40.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r grant at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael nes ei fod wedi cael cais dilys am y taliad oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol.

Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol

41.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae gan fyfyriwr hawl i'w cael mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, dalu'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 23(4) neu reoliad 25(4) i'r awdurdod academaidd perthnasol er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant perthnasol ar ran y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Os na all asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu'r grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr gael ei wneud ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud taliadau dros dro o'r grantiau hynny hyd nes y ceir yr asesiad terfynol.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n credu bod hynny'n briodol, wneud taliad o lwfans i fyfyrwyr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â hi.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr sydd wedi tynnu'n ôl o'r cwrs, wedi rhoi'r gorau iddo neu wedi'i ddiarddel oddi arno ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud taliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—

(a)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch; neu

(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,

oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny gan gymryd amgylchiadau achos y myfyriwr i ystyriaeth.

Gordalu

42.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordaliad grant at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y cymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Gorffennaf 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources