- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr a fydd yn cymryd cyrsiau addysg uwch dynodedig yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu Sefydliad Prifysgol Ewrop (“Sefydliadau Ewropeaidd”) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006. Maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol (rheoliadau 7 i 10) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Sefydliadau Ewropeaidd) 2000. Mae Rheoliad 5 yn nodi hyd a lled y dirymu.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn yn nodi diffiniadau perthnasol, yn ogystal â darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn bod â hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs a ddarperir gan Sefydliad Ewropeaidd. Mae'r Rhan hon hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo rhwng cyrsiau a ddarperir gan Sefydliad Ewropeaidd.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â'r terfynau amser a'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gymorth a rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad â chais.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn nodi'r amrywiol fathau o grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n bresennol ar gyrsiau mewn Sefydliad Ewropeaidd a'r amodau y mae'n rhaid i fyfyriwr eu bodloni er mwyn bod â hawl i'w cael. Mae darpariaethau gwahanol yn cael eu gwneud yn unol â pha Sefydliad Ewropeaidd y mae'r myfyriwr yn astudio ynddo.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â chyfrifo a chymhwyso cyfraniad ariannol gan y myfyriwr yn achos myfyrwyr yng Ngholeg Ewrop ac yn Sefydliad Prifysgol Ewrop.
Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn ymdrin â thalu cymorth ac adennill gordaliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 (OJ L158, 30.04.2004, t.77-123) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau eu teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr aelod-wladwriaethau i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb yn cyfeirio at gymorth i fyfyrwyr. Bydd gan gategorïau penodol o berson nad oedd ganddynt hawl gynt i gael cymorth mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd hawl o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb. I fod â hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr syrthio o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1. Mae Atodlen 1 yn cynnwys y categorïau o berson y mae ganddynt hawl i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd o ganlyniad i'r Gyfarwyddeb. Mae copi o'r Nodyn Trawsosod mewn perthynas â rhoi'r Gyfarwyddeb ar waith i'r graddau y mae'n ymwneud â chymorth mewn cysylltiad â chyrsiau a ddarperir gan y Sefydliadau Ewropeaidd ar gael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus www.opsi.gov.uk. Mae copi wedi'i osod yn llyfrgelloedd dau Dŷ'r Senedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: