Incwm yr aelwyd
2.—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—
(a)yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac—
(i)yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant) rhiant y myfyriwr ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9); neu
(ii)yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));
(b)yn achos y canlynol—
(i)myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, neu
(ii)myfyriwr yn y Sefydliad y mae ganddo bartner,
incwm gweddilliol y myfyriwr wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)); neu
(c)yn achos y canlynol—
(i)myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner; neu
(ii)myfyriwr yn y Sefydliad nad oes ganddo bartner,
incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd, mae swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) i'w ddidynnu—
(a)yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop—
(i)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr; neu
(ii)am bob plentyn heblaw'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu bartner rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth; a
(b)yn achos myfyriwr yn y Sefydliad am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr.
(4) Y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) yw—
(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,025; a
(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,050.
(5) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—
(a)y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau; neu
(b)y mae cyfraniad rhieni yn gymwys mewn perthynas ag ef fel arall gan gyfeirio at y myfyriwr sy'n rhiant neu ei bartner.