Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu y Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu fyfyriwr yn y Sefydliad yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac—

(i)yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (heblaw person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant) rhiant y myfyriwr ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9); neu

(ii)yn achos myfyriwr newydd yng Ngholeg Ewrop a ddechreuodd y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));

(b)yn achos y canlynol—

(i)myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, neu

(ii)myfyriwr yn y Sefydliad y mae ganddo bartner,

incwm gweddilliol y myfyriwr wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5)); neu

(c)yn achos y canlynol—

(i)myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner; neu

(ii)myfyriwr yn y Sefydliad nad oes ganddo bartner,

incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd, mae swm a gyfrifir yn unol ag is-baragraff (4) i'w ddidynnu—

(a)yn achos myfyriwr yng Ngholeg Ewrop—

(i)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr; neu

(ii)am bob plentyn heblaw'r myfyriwr yng Ngholeg Ewrop sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop neu bartner rhiant y myfyriwr yng Ngholeg Ewrop y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth; a

(b)yn achos myfyriwr yn y Sefydliad am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu bartner y myfyriwr.

(4Y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) yw—

(a)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £1,025; a

(b)mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd arall, £1,050.

(5Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, nid yw incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—

(a)y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau; neu

(b)y mae cyfraniad rhieni yn gymwys mewn perthynas ag ef fel arall gan gyfeirio at y myfyriwr sy'n rhiant neu ei bartner.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources