- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
3.—(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—
(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;
(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(1), neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(2), neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(2) Os yw'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—
(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn; neu
(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(3) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: