Gwahardd brechu ac eithrio o dan drwydded
8.—(1) Ni chaniateir i unrhyw berson frechu anifail ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn y rheoliad hwn yn gymwys i—
(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodol 1998(1); neu
(b)y gwaith o roddi brechlyn yn unol â thystysgrif profion ar anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(2).
(1)
(2)