Ffactorau sy'n cyfrannu at benderfyniad i ganiatáu brechu ataliol neu amddiffynnol
9.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu a fydd yn caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol—
(a)y risg y bydd y clwy'n brigo—
(i)yn y Deyrnas Unedig ac yn mynd ar led i unrhyw ran o'r wlad,
(ii)yn ymledu i Gymru gydag anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy, carcasau neu bethau eraill sy'n debyg o ledu'r clwy drwy eu mewnforio, neu
(iii)yn ymledu o Gymru gydag anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy, carcasau neu bethau eraill sy'n debyg o ledu'r clwy drwy eu hallforio, neu
(iv)yn ymledu i Gymru neu ohoni oherwydd cyflwr y tywydd ar y pryd;
(b)unrhyw fygythiad oddi wrth y clwy i anifeiliaid—
(i)mewn labordy, sŵ, parc bywyd gwyllt neu fangre arall lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn bennaf at ddibenion eu harddangos ac addysgu'r cyhoedd, neu ardal gaeëdig a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer saethu;
(ii)mangre nad yw'n dod o fewn (i) o gorff, sefydliad neu ganolfan—
(aa)sy'n cadw anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn unig at ddibenion cadwraeth, arddangos ac addysgu'r cyhoedd, neu ymchwil gwyddonol neu fridio'r anifeiliaid hynny ar gyfer ymchwil, a
(bb)a gymeradwywyd ynglŷn â'r anifeiliaid hynny o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Cynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2005;
(iii)mewn mangre arall lle cedwir anifeiliaid sy'n dueddol o gael y clwy at ddibenion gwyddonol neu at ddibenion sy'n ymwneud â chadwraeth neu rywogaeth neu adnoddau genetig anifeiliaid fferm;
(c)y meini prawf yn Atodiad X i Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/85/EC ar fesurau'r Gymuned i reoli clwy'r traed a'r genau sy'n diddymu Cyfarwyddeb 85/511/EEC a Phenderfyniadau 89/531/EEC a 91/665/EEC ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 92/46/EEC(1);
(ch)dulliau eraill o atal y clwy rhag ymledu sydd ar gael iddo;
(d)yn achos brechu ataliol, a oes angen brechu o'r fath fel mater o frys, i atal y clwy rhag ymledu i fangre neu ardal ddaearyddol drwy leihau'r niferoedd o firysau'r clwy sy'n cylchredeg yno; a
(dd)yn achos brechu amddiffynnol—
(i)a fydd brechu o'r fath yn amddiffyn anifeiliaid sy'n dueddol i gael y clwy yn y parth brechu arfaethedig rhag ymlediad firysau'r clwy drwy'r awyr neu drwy fagwrfeydd, a
(ii)effaith y mesurau a fyddai'n cael eu cymhwyso yn y parth brechu amddiffynnol a'r parth gwyliadwriaeth brechu ar bersonau ac anifeiliaid sydd yno.
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl ystyried y ffactorau hynny, yn credu mai caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol yw'r modd mwyaf priodol i atal y clwy rhag ymledu, rhaid iddo benderfynu ymgymryd â rhaglen frechu.
(3) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ymgymryd â rhaglen frechu bydd yn rhoi un neu fwy o drwyddedau sy'n caniatáu brechu ataliol neu amddiffynnol.
OJ Rhif L306, 22.11.2003,t.l.