Search Legislation

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1850 (Cy.193)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2006

Wedi'u gwneud

11 Gorffennaf 2006

Yn dod i rym

13 Gorffennaf 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a), (2)(e) a (3), a 48 (1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd ynddo ef bellach(2).

Yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2), maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 13 Gorffennaf 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, (4), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd gan orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “letus awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letus o'r math a bennir ym mhwynt 1.3 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.2 o'r Rheoliad hwnnw o ran y Deyrnas Unedig;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd(5) fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 30 Tachwedd 2001(6), ac fel y'i newidiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2375/2001(7), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002(8), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002(9), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002(10) fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002(11), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002(12) fel y'i cywirwyd gan gorigendwm a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002(13)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1425/2003(14)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2174/2003(15)), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 242/2004(16), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 455/2004(17), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004(18), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004(19), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 684/2004(20), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 78/2005(21), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005(22), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005(23), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005(24), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1822/2005(25)) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006(26));

ystyr “sbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw sbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 3b.1 o'r Rheoliad hwnnw o ran y Deyrnas Unedig;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau

3.—(1Yn ddarostyngedig i'r trefniadau trosiannol a geir yn y darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2), mae person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol—

(a)os yw'r person hwnnw yn rhoi unrhyw fwyd ar y farchnad (ac eithrio letus awdurdodedig neu sbigoglys awdurdodedig) a gwmpesir gan Erthygl 1.1, 2.1, 2.2 neu 4.1 o Reoliad y Comisiwn, ond nad yw'n cydymffurfio â'r erthyglau hynny o'r Rheoliad hwnnw, fel y'u darllenir gydag Erthyglau 1.2 a 4.3 ohono; neu

(b)os yw'r person hwnnw yn mynd yn groes i Erthygl 2.3, 4.2 neu 4a o Reoliad y Comisiwn.

(2Y darpariaethau Cymunedol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)Erthygl 7 o Rheoliad y Comisiwn;

(b)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 655/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed nitrad mewn bwydydd i fabanod a phlant bach;

(c)Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 683/2004 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed afflatocsinau ac ocratocsin A mewn bwydydd i fabanod a phlant bach;

(ch)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 123/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed ocratocsin A;

(d)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 208/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed hydrocarbonau polygylchol aromatig;

(dd)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 parthed tocsinau Fusarium;

(e)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd parthed deucosinau a PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau.

Gorfodi

4.  Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod porthladd o fewn ei ranbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

5.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau sy'n codi oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3), i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); a

(g)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai'n darllen fel a ganlyn—

9.(1) An authorised officer of a food authority may at all reasonable times inspect any food intended for human consumption which has been placed on the market and subsections (2) to (7) below will apply where, on such an inspection, it appears to the authorised officer that the placing on the market of any food contravenes regulation 3(1)(a) of the Contaminants in Food (Wales) (No. 2) Regulations 2006.

(2) The authorised officer may either—

(a)give notice to the person in charge of the food that, until the notice is withdrawn, the food or any specified portion of it—

(i)is not to be used for human consumption, and

(ii)either is not to be removed or is to be removed to a place at which there are facilities to carry out sampling in the manner required by Article 1.3 of the Commission Regulation; or

(b)seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(3) Where the authorised officer exercises the power conferred by subsection (2)(a) above, the authorised officer is, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not the authorised officer is satisfied that the food complies with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations, as appropriate and—

(a)if the authorised officer is so satisfied, will forthwith withdraw the notice;

(b)if the authorised officer is not so satisfied, will seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace.

(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, the authorised officer will inform the person in charge of the food of the intention to have it dealt with by a justice of the peace and—

(a)any person who under regulation 3(1)(a) of the above Regulations might be liable to a prosecution in respect of the food will, if that person attends before the justice of the peace by whom the food falls to be dealt with, be entitled to be heard and to call witnesses; and

(b)that justice of the peace may, but need not, be a member of the court before which any person is proceeded against for an offence under regulation 3(1)(a) of the above Regulations in relation to that food.

(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as the justice of the peace considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by the justice of the peace under this section fails to comply with the requirements referred to in regulation 3(1)(a) of the above Regulations the justice of the peace will condemn the food and order—

(a)the food to be destroyed or to be so disposed of as to prevent it from being used for human consumption; and

(b)any expenses reasonably incurred in connection with the destruction or disposal to be defrayed by the owner of the food.

(6) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it, the food authority will compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.

(7) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (6) above will be determined by arbitration.

(8) Any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under subsection (2)(a) above will be guilty of an offence and liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale..

(3Bydd i'r ymadroddion “swyddog awdurdodedig”, “awdurdod bwyd”, “rhoi ar y farchnad”, “Rheoliad y Comisiwn” sy'n cyfateb yn eu tro i “authorised officer”, “food authority”, “placing on the market”, “the Commission Regulation” a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf, i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), yr ystyron sydd i'r ymadroddion hynny yn eu trefn yn y Rheoliadau hyn.

Diwygiad canlyniadol

6.  Yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(27) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn lle'r cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 rhodder y cofnod a ganlyn—

The Contaminants in Food (Wales) (No. 2) Regulations 2006 (to the extent that a sample falls to be prepared and analysed in accordance with the Commission Regulation as that expression is defined in those Regulations)S.I. 2006/1850(W.193)

Dirymiadau

7.  Dirymir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006(28).

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(29)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Gorffennaf 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/485) (Cy.55) (“Rheoliadau 2006”) ac yn eu hailddeddfu gyda newidiadau. Maent yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n gosod lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1, gyda chywiriadau a diwygiadau) (“Rheoliad y Comisiwn”). Ers gwneud Rheoliadau 2006, cafodd Rheoliad y Comisiwn ei diwygio er mwyn—

(a)cyflwyno uchafswm lefelau a ganiateir a rheolaethau eraill yn ymwneud â thocsinau Fwsariwm penodol (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 856/2005, OJ Rhif L143, 7.6.2005, t.3); a

(b)cyflwyno rheolaethau newydd neu ddiwygiedig yn ymwneud â deuocsinau a swm diocsinau a PCB’s sy'n debyg i ddeuocsinau (Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 199/2006, OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.34).

2.  Mae'r Rheoliadau yn—

(a)darparu ei fod yn dramgwydd, (ac eithrio mewn achosion penodol yn ymwneud â rhoi bwyd ar y farchnad cyn dyddiad a roddir mewn deddfwriaeth Gymuned benodol)—

(i)rhoi bwydydd penodol ar y farchnad os ydynt yn cynnwys halogion o unrhyw fath a bennir yn Rheoliad y Comisiwn mewn lefelau uwch na'r rhai a bennir (yn ddarostyngedig i rhanddirymiad sy'n gymwys i fathau penodol o letus ac i sbigoglys ffres),

(ii)defnyddio bwyd sy'n cynnwys yr halogion hynny mewn lefelau o'r fath fel cynhwysion wrth gynhyrchu bwydydd penodol,

(iii)cymysgu bwydydd nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf y cyfeirir atynt uchod gyda bwydydd sydd yn cydymffurfio,

(iv)cymysgu bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â nhw ac a fwriedir i'w bwyta gyda bwydydd y mae Rheoliad y Comisiwn yn ymwneud â nhw ac y bwriedir eu dosbarthu neu roi triniaeth arall iddynt cyn eu bwyta, neu

(v)dadwenwyno drwy driniaeth gemegol fwyd nad yw'n cydymffurfio â'r terfynau a nodwyd yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

(b)pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 4);

(c)darparu ar gyfer cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5);

(ch)gwneud newid canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990 i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (rheoliad 6), gyda'r effaith o ddatgymhwyso'r darpariaethau samplu a dadansoddi yn y Rheoliadau hynny ond yn unig i'r graddau fod y materion hynny yn cael eu rheoleiddio gan offerynnau'r Gymuned a grybwyllir ym mharagraff 3(a) i (dd) isod.

3.  Mae Rheoliad y Comisiwn yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n rhaid eu defnyddio er mwyn rheoli'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir ganddo. Ceir y dulliau hynny yn—

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MCPD sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14), fel y'i cywirwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC (OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34), ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/4/EC (OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.50);

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/63/EC yn sefydlu dulliau'r Gymuned o samplu ar gyfer rheoli swyddogol o weddillion plaleiddiaid mewn cynhyrchion sy'n deillio o blanhigion ac o anifeiliaid ac arnynt (OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/69/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol ddeuocsinau a phenderfynu ar PCBs sy'n debyg i ddeuocsinau mewn bwydydd (OJ Rhif L209, 6.8.2002, t.5) fel y'u cywirwyd drwy gorigendwm a gyhoeddwyd ar 20 Medi 2002 (OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40), ac fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/44/EC (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.17);

(ch)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/16/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r tun sydd mewn bwydydd tun (OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.16);

(d)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2005/10/EC sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyrene sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.15), a

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 401/2006 sy'n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli'n swyddogol lefelau'r benso(a)pyrene sydd mewn bwydydd (OJ Rhif L70, 9.3.2006, t.12). Mae'r Rheoliad hwn yn diddymu'r Cyfarwyddebau samplu a dadansoddi 98/53/EC, 2002/26/EC, 2003/78/EC a 2005/38/EC, ac yn ei gwneud yn ofynnol darllen unrhyw gyfeiriad at y Cyfarwyddebau hynny yn Rheoliad y Comisiwn fel cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) 401/2006.

4.  Cafodd arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(5)

OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1. Mae Erthygl 1.3 o'r Rheoliad hwn ac Atodiad I iddo yn pennu dulliau'r Gymuned o samplu a dadansoddi y mae'n ofynnol eu defnyddio i reolaethau'n swyddogol lefelau'r sylweddau a gwmpesir gan y Rheoliad. Ceir y dulliau hyn yng Nghyfarwyddebau'r Comisiwn 2001/22/EC, 2002/63/EC, 2002/69/EC, 2004/16/EC a 2005/10/EC ac yn Rheoliad y Comisiwn (EC) 401/2006. Rhoddir mwy o fanylion am yr offerynnau hynny yn y Nodyn Esboniadol i'r offeryn hwn.

(6)

OJ Rhif . L313, 30.11.2001, t.60.

(7)

OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1.

(8)

OJ Rhif . L37, 7.2.2002, t.4.

(9)

OJ Rhif . L41, 13.2.2002, t.12.

(10)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18.

(11)

OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.

(12)

OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5.

(13)

OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63.

(14)

OJ Rhif L203, 12.8.2003, t.1.

(15)

OJ Rhif L326, 13.12.2003, t.12.

(16)

OJ Rhif L42, 13.2.2004, t.3

(17)

OJ Rhif L74, 12.3.2004, t.11.

(18)

OJ Rhif L104, 8.4.2004, t.48.

(19)

OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.3.

(20)

OJ Rhif L106, 15.4.2004, t.6.

(21)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.43.

(22)

OJ Rhif L25, 28.1.2005, t.3.

(23)

OJ Rhif L34, 8.2.2005, t.3.

(24)

OJ Rhif L143, 7.6.2005, t.3.

(25)

OJ Rhif L293, 9.11.2005, t.11.

(26)

OJ Rhif L32, 4.2.2006, t.34.

(29)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources