- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 42
Rheoliadau 3(3), 4(2), 10(2)(b), 10(2)(c), 18(2), 18(8)(b), 26(2)(dd), 31(3), 38, 39(2)(b), 50(2)(a), 50(7), 50(14)(b), 55(3)(b), 62(3)(a), 62(7) ac Atodlen 4(4)(a)
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon—
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—
(a)o ran gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunan-gyflogedig o'r AEE—
(i)ei briod neu ei bartner sifil;
(ii)ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
(iii)perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(b)o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin a pherson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunan-gyflogedig Swisaidd—
(i)ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii)ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
(c)o ran gwladolyn y GE nad yw'n hunangynhaliol—
(i)ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii)disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa)sydd o dan 21 oed; neu
(bb)sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(ch)o ran gwladolyn y GE sy'n hunangynhaliol—
(i)ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii)disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa)sydd o dan 21 oed; neu
(bb)sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
(iii)perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
(d)o ran gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—
(i)ei briod neu ei bartner sifil; neu
(ii)disgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—
(aa)sydd o dan 21 oed; neu
(bb)sy'n ddibynyddion ei briod neu ei bartner sifil;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r Gymuned Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;
ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 29 Ebrill 2004(1) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teulu i symud a phreswylio yn rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;
ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(2) fel y'i addaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(3);
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederaswin y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Luxembourg ar 21 Mehefin 1999(4) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gwladolyn y GE” (“EC national”) yw gwladolyn Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd;
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn yr AEE, heblaw gweithiwr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—
sy'n weithiwr yng Nghymru; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person yr ymdrinnir ag ef fel gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r Gymuned;
ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn Gwladwriaeth yn yr AEE heblaw y Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n codi o Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;
ystyr “hunangynhaliol” (“self-sufficient”) yw hunangynhaliol o fewn ystyr Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig heblaw person cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunan-gyflogedig” (“self-employed person”) yw—
o ran gwladolyn yr AEE, person sy'n hunan-gyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunan-gyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunan-gyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn yr AEE sy'n berson hunan-gyflogedig heblaw person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwadolyn yr AEE—
sy'n berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—
a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er nad ystyrir ei fod yn dod yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur, ystyrir ei bod yn iawn i ganiatáu iddo ddod i'r Deyrnas Unedig neu aros ynddi;
y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros yn unol â hynny; a
sydd wedi preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros;
ystyr “person hunan-gyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunan-gyflogedig heblaw person hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—
sy'n berson hunan-gyflogedig yng Nghymru; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5);
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd, am iddo symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn—
(a)ymgymryd â'r cwrs presennol; neu
(b)ymgymryd â chwrs, gan ddiystyru unrhyw wyliau a ddigwyddodd yn y cyfamser, yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i gael ei ystyried fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yn y lle y symudodd ohono.
(4) At ddibenion yr Atodlen hon, dylid ymdrin â pherson fel rhywun sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu mewn tiriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir pe bai'n breswylydd felly oni bai am y ffaith bod—
(a)y person hwnnw;
(b)ei briod neu ei bartner sifil;
(c)ei riant; neu
(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth lle mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(5) At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth lle mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn cynnwys—
(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a
(b)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr o dan Wladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—
(a)nad oedd yn flaenorol yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o un ardal neu'r llall neu'r ddwy ardal hon,
i'w ystyried fel bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
2.—(1) Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig am reswm heblaw ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru;
(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).
3. Person—
(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig am ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;
(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch)mewn achos yr oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
4. Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn ffoadur sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd na pheidiodd â phreswylio yn y modd hwnnw ers iddo gael ei gydnabod fel ffoadur; neu
(ii)yn briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn person a grybwyllir ym mharagraff (i); a
(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
5. Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros; neu
(ii)yn briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn person sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros;
(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
6.—(1) Person—
(a)sydd—
(i)yn weithiwr mudol o'r AEE neu yn berson hunan-gyflogedig o'r AEE;
(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd;
(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv)yn weithiwr y ffin o'r AEE neu yn berson hunan-gyflogedig y ffin o'r AEE;
(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunan-gyflogedig Swisaidd y ffin; neu
(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).
7. Person sydd—
(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c)â hawl i gymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(6), fel y'i hestynnir gan Gytundeb yr AEE.
8.—(1) Person sydd—
(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(b)wedi gadael y Deyrnas Unedig ac arfer hawl preswylio ar ôl iddo fod wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;
(c)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;
(ch)wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(d)mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).
(2) At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl preswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu Gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu berson sydd â hawl preswylio parhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig a bod ganddo hawl preswylio parhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn ohoni neu y mae'n berson y mae'n aelod o deulu gwladolyn ohoni.
9.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu
(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;
(b)ac mae'n—
(i)mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs dynodedig rhan-amser neu gwrs dynodedig ôl-radd yng Nghymru;
(c)wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw rhan o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser.
(2) Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn y wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn y GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad a fodlonir.
10.—(1) Person sydd—
(a)yn wladolyn y GE heblaw gwladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a
(ch)mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).
(2) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn y wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn y GE ac nid yn wladolyn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad a fodlonir.
11. Person sydd—
(a)yn blentyn gwladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;
(c)wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(ch)mewn achos yr oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) at y diben llwyr neu bennaf o dderbyn addysg lawn-amser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union o flaen y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).”.
Rheoliad 43
Rheoliad 44A
1. Yn yr Atodlen hon—
(a)ystyr “cwrs cymhwyso” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a—
(i)caiff ei restru yn rheoliad 5(5);
(ii)mae'n arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol; neu
(iii)o ran unrhyw flwyddyn academaidd y mae gan fyfyriwr yr hawl i dderbyn taliad o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm neu fwrsari gofal iechyd Albanaidd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at ei incwm;
(b)ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni amodau paragraff 3;
(c)ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso a fyddai'n cael ei gymryd gan berson nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac sy'n cychwyn y cwrs ar yr un pryd â myfyriwr cymhwysol.
2. Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwyso yn unol â'r Atodlen hon.
3. Mae person yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—
(a)mae'n fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag cymhwyso gan baragraff 4;
(b)mae ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c)mae'n cymryd cwrs cymhwyso sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
(ch)mae'n aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol Prifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg Prifysgol Caergrawnt; a
(d)mae o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwyso.
4. Nid yw myfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Atodlen 1 yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
5. I gael benthyciad ffioedd coleg, rhaid i'r myfyriwr cymhwysol ymrwymo mewn contract gyda'r Cynulliad Cenedlaethol.
6. Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwyso yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am nad yw'n gallu mynychu'r cwrs am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwyso er mwyn bod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg.
7. Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 8 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—
(a)gall myfyriwr ddod yn gymwys i gael benthyciad ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon o ran y flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a
(b)nad oes benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd pan ddigwyddodd y digwyddiad perthnasol.
8. Dyma'r digwyddiadau—
(a)pan gydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu pan fydd yn dod yn berson sydd â chaniatâd ganddo i ddod i mewn neu aros fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(b)pan fydd gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn y wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
(c)os yw'r myfyriwr yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;
(ch)os yw'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1;
(d)os yw'r myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;
(dd)os bydd y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.
9. Mae benthyciad ffioedd coleg ar gael o ran bob blwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso ac o ran un flwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwyso nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.
10. Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwyso dros un flwyddyn academaidd neu ddwy, at ddibenion penderfynu a yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael benthyciad ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudiaeth fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.
11.—(1) Swm y benthyciad ffioedd coleg o ran blwyddyn academaidd o gwrs cymhwyso yw swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.
(2) Os bydd myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am ffioedd coleg sy'n llai na'r mwyafswm sydd ar gael o ran y flwyddyn academaidd, caniateir iddo wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r mwyafswm sydd ar gael.
12. Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwyso i un arall—
(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben;
(b)os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg perthnasol neu neuadd breifat barhaol o ran y cwrs cymhwyso y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo os bodlonir yr amodau ym mharagraff 14 ac nad yw'n gallu cymhwyso ar gyfer benthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd honno.
(c)os bydd y myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni all wneud cais am fenthyciad arall o ran ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwyso y mae'n trosglwyddo iddo.
13. Os yr unig gymorth y mae myfyriwr cymhwysol yn gwneud cais amdano yw benthyciad ffioedd coleg, ni chyfrifir unrhyw gyfraniad.
14.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg y mae myfyriwr cymhwysol yn dod yn gymwys ar ei gyfer i'r coleg neu neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad ffioedd coleg mewn un cyfandaliad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg cyn—
(a)ei fod wedi derbyn cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol; a
(b)bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.
(4) Mae'n ofynnol i'r coleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at y Cynulliad Cenedlaethol ar y ffurf honno y caiff y Cynulliad ei gwneud yn ofynnol a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu'r benthyciad ffioedd coleg o ran y flwyddyn academaidd nes iddo dderbyn y cadarnhad hwnnw oni fydd yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol i dalu heb dderbyn cadarnhad o bresenoldeb.
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â thalu benthyciad ffioedd coleg o ran cwrs cymhwyso os bydd—
(a)cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben bod y myfyriwr cymhwysol yn peidio â mynychu'r cwrs; a
(b)y coleg neu neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn cychwyn mynychu eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.
15. Gall y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw ordalu benthyciad ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu neuadd breifat barhaol.”.
OJ L158, 30.04.2004, t.77— 123.
Cm. 2073.
Cm. 2183.
Cm. 4904.
1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).
OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/D— Dn 1968 (II) t.475).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: