- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthyglau 1(2), 2(3) a 2(3)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net o uned gynhyrchu (£) | |
NODIADAU I ATODLEN 1 | |||
(1) Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglyn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 . | |||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis ac yr oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os oedd yr incwm blynyddol net yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £27 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fo'r premiwm dad-ddwysáu hwnnw wedi'i dalu ar y raddfa uwch). | |||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis, rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | |||
(4) Didynner £19 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colled incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 ar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig defaid a chig geifr. | |||
(5) Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid nad oedd yr incwm blynyddol net ar eu cyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid. | |||
(6) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn ag iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99. | |||
(7) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(8) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(9) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(10) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
(11) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir nad oedd yr incwm blynyddol net ar ei gyfer yn ystod y cyfnod 12 Medi 2004 hyd 30 Mehefin 2005 yn gynhwysol yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd. | |||
1. Da byw | |||
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel) | buwch | 260 | |
Buchod bridio cig eidion : | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001(1) | buwch | 31 (1) | |
Ar dir arall | buwch | 80 (1) | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | pen | 63 (2) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 45 (3) | |
Mamogiaid: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 14 (4) | |
Ar dir arall | mamog | 21 (5) | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | pen | 1.05 | |
Moch: | |||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 95 | |
Moch porc | pen | 1.90 | |
Moch torri | pen | 3.50 | |
Moch bacwn | pen | 5.50 | |
Dofednod: | |||
Ieir dodwy | aderyn | 1.25 | |
Brwyliaid/ieir bwyta | aderyn | 0.15 | |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.30 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 3.00 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 199 (6) | |
Ffa | hectar | 175 (7) | |
Had porfa | hectar | 120 | |
Ceirch | hectar | 131 (8) | |
Rêp had olew | hectar | 188 (9) | |
Pys: | |||
Sych | hectar | 201 (10) | |
Dringo | hectar | 175 | |
Tatws: | |||
Cynnar cyntaf | hectar | 900 | |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 780 | |
Betys siwgr | hectar | 270 | |
Gwenith | hectar | 266 (11) | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | |||
Ffa cyffredin | hectar | 575 | |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1600 | |
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro | hectar | 2000 | |
Moron | hectar | 3100 | |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 1000 | |
Seleri | hectar | 8000 | |
Cennin | hectar | 3600 | |
Letus | hectar | 4150 | |
Nionod/Winwns: | |||
Bylbiau sych | hectar | 1305 | |
Salad | hectar | 3800 | |
Pannas | hectar | 3250 | |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6900 | |
Maip ac erfin/swêds | hectar | 1500 | |
4. Ffrwythau'r berllan | |||
Afalau: | |||
Seidr | hectar | 380 | |
Coginio | hectar | 1250 | |
Melys | hectar | 1400 | |
Ceirios | hectar | 900 | |
Gellyg | hectar | 1000 | |
Eirin | hectar | 1250 | |
5. Ffrwythau meddal | |||
Cyrans Duon | hectar | 850 | |
Mafon | hectar | 3100 | |
Mefus | hectar | 4200 | |
6. Amrywiol | |||
Hopys | hectar | 1700 | |
7. Tir Porthiant | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | |
8. Neilltir | |||
Tir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw'n cael ei ddefnyddio (yn unol ag erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 37 |
Erthyglau 1(3), 2(4) a 2(5)
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | |
---|---|---|---|
Defnydd ffermio | Uned gynhyrchu | Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu (£) | |
NODIADAU I ATODLEN 2 | |||
(1) Didynner £135 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Didynner £115 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor 1254/99 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £27 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am 12 mis ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Ychwaneger £54 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. Yn achos anifeiliaid sydd— (1) yn cael eu cadw am lai na 12 mis, a (2) na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £115 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol. Yn achos anifeiliaid sydd— (1) yn cael eu cadw am lai na 12 mis, a (2) y byddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm arbennig eidion petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu'n gyntaf £115 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata i'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £115 ac (os byddai'r incwm blynyddol net yn cynnwys swm ynglŷn â phremiwm dad-ddwysáu petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004) y swm o £27 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa is) neu £54 (pan fyddai'r premiwm dad-ddwysáu yn cael ei dalu ar y raddfa uwch). | |||
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (ni waeth beth fo'u hoedran) a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis. Yn achos anifeiliaid sy'n cael eu cadw am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. | |||
(4) Didynner £19 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthyglau 4 a 5 o Reoliad y Cyngor 2529/01 petai'r premiwm hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(5) Didynner £15 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid na fyddai'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r premiwm blynyddol defaid petai'r premiwm hwnnw yn dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn galendr 2004. | |||
(6) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â'r iawndal y caniateir i gynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) ac y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor 1251/99 petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(7) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(8) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(9) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(10) Didynner £274 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
(11) Didynner £238 o'r ffigur yng ngholofn 3 yn achos tir na fyddai'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm ynglŷn â thaliad arwynebedd petai'r taliad hwnnw'n dal ar gael a bod yr amodau ar gyfer ei dderbyn yr un fath ag ar gyfer blwyddyn farchnata 2004/2005. | |||
1. Da byw | |||
Buchod godro (ac eithrio bridiau Ynysoedd y Sianel): | buwch | 260 | |
Buchod bridio cig eidion: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | buwch | 31 (1) | |
Ar dir arall | buwch | 80 (1) | |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | pen | 63 (2) | |
Buchod llaeth i lenwi bylchau | pen | 45 (3) | |
Mamogiaid: | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | mamog | 14 (4) | |
Ar dir arall | mamog | 21 (5) | |
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | pen | 1.05 | |
Moch: | |||
Hychod a banwesi torrog | hwch neu fanwes | 95 | |
Moch porc | pen | 1.90 | |
Moch torri | pen | 3.50 | |
Moch bacwn | pen | 5.50 | |
Dofednod: | |||
Ieir dodwy | aderyn | 1.25 | |
Brwyliaid/ieir bwyta | aderyn | 0.15 | |
Cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.30 | |
Tyrcwn Nadolig | aderyn | 3.00 | |
2. Cnydau âr fferm | |||
Haidd | hectar | 199 (6) | |
Ffa | hectar | 175 (7) | |
Had porfa | hectar | 120 | |
Ceirch | hectar | 131 (8) | |
Rêp had olew | hectar | 188 (9) | |
Pys: | |||
Sych | hectar | 201 (10) | |
Dringo | hectar | 175 | |
Tatws: | |||
Cynnar cyntaf | hectar | 900 | |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) | hectar | 780 | |
Betys siwgr | hectar | 270 | |
Gwenith | hectar | 266 (11) | |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored | |||
Ffa cyffredin | hectar | 575 | |
Ysgewyll Brwsel | hectar | 1600 | |
Bresych, bresych Safwy a brocoli blaguro | hectar | 2000 | |
Moron | hectar | 3100 | |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf | hectar | 1000 | |
Seleri | hectar | 8000 | |
Cennin | hectar | 3600 | |
Letus | hectar | 4150 | |
Nionod/Winwns: | |||
Bylbiau sych | hectar | 1305 | |
Salad | hectar | 3800 | |
Pannas | hectar | 3250 | |
Riwbob (naturiol) | hectar | 6900 | |
Maip ac erfin/swêds | hectar | 1500 | |
4. Ffrwythau'r berllan | |||
Afalau: | |||
Seidr | hectar | 380 | |
Coginio | hectar | 1250 | |
Melys | hectar | 1400 | |
Ceirios | hectar | 900 | |
Gellyg | hectar | 1000 | |
Eirin | hectar | 1250 | |
5. Ffrwythau meddal | |||
Cyrans Duon | hectar | 850 | |
Mafon | hectar | 3100 | |
Mefus | hectar | 4200 | |
6. Amrywiol | |||
Hopys | hectar | 1700 | |
7. Tir Porthiant | |||
Ar dir sy'n dir cymwys at ddibenion Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | hectar | Swm y taliad Tir Mynydd y mae'n ofynnol ei dalu o dan Reoliad 2A o Reoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 | |
8. Neilltir | |||
Tir a oedd, ym mlwyddyn farchnata 2004/2005, wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99, ac eithrio pan fo'r tir hwnnw wedi'i ddefnyddio (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor 1251/99) i ddarparu deunyddiau ar gyfer cynhyrchu o fewn y Gymuned gynhyrchion nad oeddent wedi eu bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl nac anifeiliaid | hectar | 37 |
O.S. 2001 / 496 (Cy.23), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1154 (Cy.61); O.S. 2002/1806 (Cy.176) ac O.S. 2005/1269 (Cy.89).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: