Search Legislation

Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2803 (Cy.242)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

18 Hydref 2006

Yn dod i rym

13 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(2).

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 13 Tachwedd 2006.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn ac mae'n cynnwys aderyn anwes ac unrhyw aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasus, arddangosfeydd, cystadlaethau, bridio ac i'w werthu;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “brechu” (“vaccinate”) yw trin dofednod neu adar caeth eraill â brechlyn yn erbyn ffliw adar;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n gyfrifol o ddydd i ddydd am ddofednod neu adar caeth eraill yn unrhyw fangre;

mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—

(a)

trelar, lled-drelar neu rywbeth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;

(b)

rhan o unrhyw gerbyd y gellir ei datgysylltu; ac

(c)

cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei gario ar gerbyd;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “diheintio” (“disinfect”) yw diheintio â diheintydd a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(3) i'w defnyddio o dan y Gorchymyn Clefydau Dofednod(4);

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu eu cadw'n gaeth i gynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill, i ailstocio cyflenwadau adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau adar hyn;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(5);

ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu firws y mae ei fynegrif pathogenedd mewnwythiennol mewn cywion ieir chwe wythnos oed yn uwch nag 1.2;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran unrhyw fangre, yw'r person sydd â gofal am y fangre honno;

ystyr “sw” (“zoo”) yw naill ai—

(i)

sefydliad parhaol lle mae anifeiliaid o rywogaeth wyllt yn cael eu cadw i'w harddangos i'r cyhoedd am saith niwrnod y flwyddyn neu fwy, ac eithrio syrcasau a siopau anifeiliaid anwes; neu

(ii)

corff, sefydliad neu ganolfan a gymeradwywyd, fel y'i diffinnir ym mhwynt (c) Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65 EC sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn, neu fewnforion i'r Gymuned o, anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a osodir mewn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC(6), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC(7).

Trwyddedau a hysbysiadau

3.—(1Rhaid i drwyddedau a hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw bryd.

(2Caiff trwyddedau o dan y Rheoliadau hyn fod yn gyffredinol neu'n benodol ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'r person sy'n rhoi'r trwyddedau yn credu eu bod yn angenrheidiol.

Trwyddedau a roddir yn Lloegr neu yn yr Alban

4.  Mae trwyddedau a roddwyd yn Lloegr neu'r Alban ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent wedi'u rhoi o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded o'r fath, yn ei gyfarwyddo i'w symud i fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.

Dangos trwyddedau

5.—(1Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cadw'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, arolygydd milfeddygol neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, dangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

(2Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cario gydag ef bob amser, yn ystod y symudiad trwyddedig, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—

(i)yr hyn sy'n cael ei symud (gan gynnwys faint ohono);

(ii)dyddiad y symudiad;

(iii)enw'r traddodwr;

(iv)cyfeiriad y fangre y cafodd y peth ei symud ohoni;

(v)enw'r traddodai;

(vi)cyfeiriad y gyrchfangre.

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, arolygydd milfeddygol neu swyddog arall i'r Cynulliad Cenedlaethol, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac

(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.

Gwahardd crynoadau adar

6.—(1Ni chaiff neb drefnu unrhyw ffair, marchnad, sioe, arddangosfa neu grynhoad arall sy'n golygu casglu at ei gilydd ddofednod neu adar caeth eraill oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei drwyddedu i wneud hynny.

(2Ni chaiff neb ddod ag unrhyw ddofednod neu aderyn caeth arall i grynhoad o'r fath os yw'n gwybod neu'n amau nad yw'r crynhoad wedi'i drwyddedu felly.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â rhoi trwydded o dan baragraff (1) oni bai—

(a)bod asesiad risg milfeddygol wedi'i gynnal; a

(b)bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na fyddai crynhoad o'r fath na chludo adar yn ôl ac ymlaen i grynhoad o'r fath yn cynyddu'n sylweddol y risg o drosglwyddo firws ffliw adar.

Nodi mangreoedd dofednod

7.—(1Rhaid i berson sydd, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw fangre unigol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o'r canlynol mewn perthynas â phob mangre o'r fath—

(a)cyfeiriad a Rhif daliad y fangre (os oes Rhif arni);

(b)ei enw a'i gyfeiriad ac, os ydynt yn wahanol, enw a chyfeiriad—

(i)perchennog y dofednod; a

(ii)meddiannydd y fangre;

(c)y rhywogaeth a gedwir yn y fangre;

(ch)y system neu systemau hwsmona a ddefnyddir yn y fangre, gan gynnwys a yw'r dofednod yn cael eu cadw i gynhyrchu—

(i)cig;

(ii)wyau deor; neu

(iii)wyau i'w bwyta;

(d)nifer pob rhywogaeth dofednod a gedwir yn y fangre fel arfer;

(dd)capasiti deorol unrhyw ddeorfa;

(e)manylion unrhyw amrywiadau stocio tymhorol a allai arwain at wahaniaethau arwyddocaol yn niferoedd neu rywogaethau dofednod ar y fangre;

(f)nifer pob rhywogaeth dofednod sydd â mynediad i'r awyr agored; ac

(ff)bodolaeth unrhyw grynofa ddŵr ar y fangre neu yng nghyffiniau'r fangre a honno'n grynofa ddŵr sy'n denu adar gwyllt.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei wneud o fewn 1 mis i'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson a hysbysodd y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6(2) o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2005(8) neu reoliad 6(2) o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005(9) (a elwir gyda'i gilydd “yr hen Reoliadau”).

(4Rhaid i berson sy'n dod yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod ar unrhyw fangre unigol ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o fewn 1 mis iddo ddod yn geidwad o'r fath o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1).

(5Rhaid i berson sydd wedi rhoi hysbysiad o dan yr hen Reoliadau neu o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol mewn ysgrifen o fewn 1 mis i'r canlynol—

(a)newid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(b) neu (c); neu

(b)cynnydd neu leihad o 20% neu fwy yn y nifer y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(d) neu (f), oni fydd hynny oherwydd amrywiadau rheoli arferol.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson sydd wedi hysbysu o dan yr hen Reoliadau neu o dan y rheoliad hwn, ei hysbysu—

(a)o unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a hysbyswyd felly; a

(b)o unrhyw wybodaeth arall y mae ar y Cynulliad Cenedlaethol angen rhesymol amdani i gyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006(10).

(7Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo hysbysu o dan baragraff (6) wneud hynny o fewn 1 mis iddo gael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “amrywiadau rheoli arferol” yw—

(a)gwagio cytiau dofednod neu ddeorfeydd i'w hailstocio ar unwaith; a

(b)stocio tymhorol.

Cyfyngu ar frechu adar sw

8.—(1Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn sw onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu wedi'i drwyddedu i'w wneud.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(11); neu

(b)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8 o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(12).

Brechu adar sw

9.—(1Os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni, caiff y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)brechu unrhyw adar mewn unrhyw swau y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol eu brechu (ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig i feddianwyr y swau hynny);

(b)ei gwneud yn ofynnol (drwy hysbysiad ysgrifenedig i feddiannydd unrhyw sw) i unrhyw aderyn yn y sw gael ei frechu; neu

(c)trwyddedu meddiannydd sw i frechu unrhyw aderyn yn y sw.

(2Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal asesiad risg ac yn credu bod risg y byddai ffliw adar yn cael ei drosglwyddo i adar sw neu i gategorïau o'r adar hynny.

(3Fel rhan o'i asesiad risg, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bwyso a mesur a yw sw—

(a)ar hynt ymfudo;

(b)yn agos at unrhyw grynofa ddŵr lle gall adar mudol ymdyrru;

(c)wedi'i leoli mewn ardal lle mae dwysedd adar mudol yn uchel.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu, mewn hysbysiad neu drwydded o dan y rheoliad hwn—

(a)nifer a rhywogaeth yr adar sydd i'w brechu;

(b)yr amodau bioddiogelwch sydd i'w bodloni yn y sw neu unrhyw ran o'r sw;

(c)amodau ynglyn â storio brechlyn a'i roi.

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y brechu'n cael ei wneud yn unol â'r cynllun brechu ataliol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC ynghylch mesurau i atal ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 rhag ymledu i adar a gedwir mewn swau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd yn yr Aelod-wladwriaethau ac yn diddymu Penderfyniad 2005/744/EC(13).

Estyn y pwer i beri brechu

10.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai brechu o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud drwy arfer y pŵer i frechu yn adran 16(1) o'r Ddeddf—

(a)adran 16(2) i (17)(14) (triniaeth ar ôl bod yn agored i heintiad);

(b)adran 16A(15) (cigydda anifeiliaid a frechwyd);

(c)adran 62A(16) (cigydda: pwer mynediad).

Cyfyngiadau ynglŷn ag adar sw

11.—(1Ni chaiff neb symud unrhyw aderyn sw a frechwyd onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

(2Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd drwyddedu symudiad adar sw a frechwyd i'r mannau canlynol yn unig—

(a)i sw yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu

(b)yn uniongyrchol i drydedd wlad.

(3Rhaid i arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd beidio â thrwyddedu symudiad i Aelod-wladwriaeth arall nac i drydedd wlad oni fydd ei awdurdod cymwys wedi awdurdodi'r symudiad.

(4Rhaid i arolygydd oruchwylio unrhyw symudiad a drwyddedir o dan baragraff (2) tra bo'r aderyn yng Nghymru.

(5Ni chaiff neb ollwng unrhyw aderyn sw a frechwyd i'r gwyllt onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol.

(6Ni chaiff neb gyflenwi na gwerthu, ar gyfer ei fwyta gan bobl, gynnyrch o aderyn sw a frechwyd.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod cymwys” —

(a)o ran Aelod-wladwriaeth, yw'r awdurdod yn yr Aelod-wladwriaeth honno a awdurdodwyd i gyflawni gwiriadau ffisegol neu ffurfioldebau gweinyddol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau'r Gymuned i reoli ffliw adar a diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC(17); a

(b)o ran trydydd gwledydd, yw'r awdurdod yn y drydedd wlad honno sydd wedi'i awdurdodi i reoleiddio'r broses o fewnforio adar sw.

Gwyliadwriaethu mewn sŵau

12.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod unrhyw wyliadwriaethu am ffliw adar y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol i gyfyngu ar ledaeniad ffliw adar yn cael ei wneud mewn unrhyw sw lle mae adar wedi'u brechu o dan y Rheoliadau hyn.

Methu â brechu adar

13.  Rhaid i unrhyw berson sy'n gwybod neu sy'n amau bod unrhyw aderyn heb ei frechu yn unol â gofynion y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw.

Dyletswyddau cyffredinol ynglŷn â gweithredu'r Rheoliadau hyn

14.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed, onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â'i wneud.

(2Ni chaiff neb ddifwyno, difodi na dileu unrhyw farc a ddodwyd gan arolygydd o dan reoliad 18(1).

(3Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd y camau sy'n ofynnol, neu drwy beidio â chymryd camau a waherddir, o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen.

Dangos cofnodion

15.—(1Rhaid i berson, y mae person sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo ddangos cofnod, wneud hynny'n ddi-oed.

(2Ar ôl dangos y cofnod, caiff y person sy'n cyflawni'r swyddogaeth—

(a)copïo'r cofnod, ar ba ffurf bynnag y mae'n cael ei gadw;

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnod cyfrifiadurol gael ei ddarparu ar ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac

(c)mynd ag unrhyw gofnod oddi yno a'i gadw hyd nes y bydd wedi cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Newid ym meddiannaeth mangre o dan gyfyngiad

16.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednyn neu aderyn caeth arall yn gallu ei symud o fangre adeg terfynu ei hawl i'w meddiannu oherwydd cyfyngiad ar symud a osodir o dan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl i unrhyw gyfyngiad o'r fath gael ei godi.

(2Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre ar ôl y terfyniad hwnnw—

(a)rhoi unrhyw gyfleusterau, ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall mewn ffordd arall (gan gynnwys ei werthu) y bydd ar y ceidwad angen rhesymol amdanynt; a

(b)caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i mewn i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall mewn ffordd wahanol.

(3Os nad yw'r ceidwad yn gallu, neu os yw'n anfodlon bwydo neu dendio'r dofednyn neu'r aderyn caeth arall, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannau'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednyn neu'r aderyn hwnnw'n cael ei fwydo a'i dendio'n iawn.

(4Mae ceidwad y dofednyn neu'r aderyn caeth arall yn atebol i dalu'r costau rhesymol a dynnir o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n ei fwydo neu'n ei dendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer ei fwydo, ei dendio neu ei ddefnyddio fel arall.

Datgymhwyso darpariaethau i berson sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn

17.  Ni fydd darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd symud neu ddefnyddio unrhyw beth neu'n cyfyngu ar ei symud neu ei ddefnyddio yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)arolygydd;

(c)unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol i gyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau arolygwyr

18.—(1Caiff arolygydd sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)marcio unrhyw aderyn neu unrhyw beth arall at ddibenion ei adnabod; a

(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.

(2Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, pan fyddant yn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—

(a)glanhau a diheintio unrhyw ran o fangre neu unrhyw beth yn y fangre honno;

(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o fangre neu unrhyw beth yn y fangre honno;

(c)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednyn neu aderyn caeth arall—

(i)yn cadw neu'n ynysu unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall neu anifail mewn lle penodedig;

(ii)yn gwahanu unrhyw ddofednyn, aderyn caeth arall neu anifail oddi wrth unrhyw anifail arall neu aderyn arall.

(3Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);

(b)adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);

(c)adran 64A(18) (pwerau arolygwyr ynglŷn â rhwymedigaethau Cymunedol), ac

(ch)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal gafael ar lestri ac awyrennau).

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

19.—(1Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni, a'u cymryd ar draul y person hwnnw.

(2Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—

(a)i'w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson gymryd neu beidio â chymryd camau penodedig mewn perthynas ag unrhyw le, anifail, aderyn, cerbyd, neu unrhyw beth arall; a

(b)i gymryd unrhyw beth i'w feddiant a dal ei afael arno.

Tramgwyddau

20.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a)adrannau 66 a 66A(19) (gwrthod a rhwystro);

(b)adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.);

(c)adran 68 (dyroddi trwyddedau sy'n wag etc.);

(ch)adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);

(d)adran 71A(20) (erlyniadau: terfyn amser);

(dd)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(e)adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod); ac

(f)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn).

(2Mae adran 69 o'r Ddeddf (sicrhau trwyddedau drwy dwyll) yn gymwys fel pe bai trwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.

(3Mae adran 75 o'r Ddeddf(21) (cosbau am dramgwyddau ynadol penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

21.—(1Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.

(3ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Gorfodi

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achos penodol, y byddai'n gorfodi'r Rheoliadau hyn yn lle'r awdurdod lleol.

Dirymiadau ac arbedion

23.—(1Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005(22) wedi'u dirymu.

(2Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal mewn Sŵau) (Cymru) (Rhif 2) 2005(23) wedi'u dirymu.

(3Mae'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar a ddyroddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 5 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005 yn parhau mewn grym fel petai wedi'i rhoi o dan reoliad 6(1) o'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(24)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (OS 2005/3384 (Cy.268)) (“y Prif Reoliadau”) a Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal mewn Swau) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (OS 2005/3385 (Cy.269)) (“y Rheoliadau Swau”);

(b)yn parhau i roi ei effaith i baragraff 2 o Erthygl 2a o Benderfyniad y Comisiwn 2005/734/EC, sy'n gosod mesurau bioddiogelwch i leihau'r risg o drosglwyddo ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 o adar sy'n byw yn y gwyllt i ddofednod ac adar caeth eraill, ac yn darparu ar gyfer system datgeliad cynnar mewn ardaloedd lle mae risg penodol (OJ Rhif L 274, 20.10.2005, t. 105), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/574/EC (OJ Rhif L 228, 22.8.2006, t. 24);

(c)yn rhoi ei effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2006/474/EC ynghylch mesurau i atal lledaeniad ffliw adar pathogenig iawn a achosir gan firws ffliw A o'r is-deip H5N1 i adar a gedwir mewn sŵau a mangreoedd cyrff, sefydliadau a chanolfannau a gymeradwywyd yn yr Aelod-wladwriaethau a hwnnw'n Benderfyniad sy'n diddymu Penderfyniad 2005/744/EC (OJ Rhif L 187, 8.7.2006, t. 37); ac

(ch)yn gweithredu darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd dofednod gael eu nodi, neu sy'n dibynnu ar eu nodi, o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau'r Gymuned ar gyfer rheoli ffliw adar ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EC (OJ Rhif L10, 14.1.2006, t.16).

2.  Mae Rheoliadau 1 i 5 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol ynglŷn â diffiniadau, trwyddedau a hysbysiadau.

3.  Mae rheoliad 6 yn gwahardd unrhyw berson rhag trefnu crynhoad didrwydded o ddofednod neu adar caeth eraill. Mae hefyd yn gwahardd unrhyw berson rhag dod ag adar o'r fath i grynhoad adar y mae'n gwybod neu'n amau ei fod yn un didrwydded.

4.  Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i geidwad 50 o ddofednod neu ragor ar unrhyw fangre unigol hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) o wybodaeth benodedig ynglŷn â'r dofednod hynny. Mae'r gofyniad hwn bellach yn gymwys i bob mangre, ac nid i fangreoedd masnachol yn unig fel yr oedd o dan y Prif Reoliadau. Mae rheoliad 7 hefyd yn gosod rhwymedigaeth newydd i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o newidiadau penodedig i'r wybodaeth hon.

5.  Mae rheoliadau 8 i 13 yn ymwneud â brechu adar sw. Mae rheoliad 8 yn cynnwys gwaharddiad cyffredinol ar frechu adar sw heb awdurdod. Mae rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol frechu adar sw, i'w gwneud yn ofynnol iddynt gael eu brechu neu i drwyddedu eu brechu. Mae rheoliad 11 yn nodi cyfyngiadau ar symud adar sw sydd wedi'u brechu.

6.  Mae rheoliadau 14 i 16 yn rhoi rhwymedigaethau cyffredinol ar y rhai a rwymir gan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 17 i 19 yn ymwneud â phwerau'r rhai sy'n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn. Mae rheoliadau 20 i 22 yn ymwneud â thramgwyddau a gorfodi. Mae rheoliad 23 yn dirymu'r Prif Reoliadau a'r Rheoliadau Sŵau ond yn darparu bod y drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar a ddyroddir o dan y Prif Reoliadau yn parhau i fod yn effeithiol.

7.  Nid oes arfarniad rheoliadol o'r effaith a fydd gan y Rheoliadau hyn wedi'i lunio oherwydd yr angen i weithredu'r mesurau y cyfeiriwyd atynt yn 1(c) ac (ch) mor gyflym â phosibl.

(3)

O.S. 1978/32, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/583 (Cy.49) ac O.S. 2006/1762 (Cy.184). Mae offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(4)

Diffinnir Gorchymyn Clefydau Dofednod yn O.S. 1978/32 fel Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079 (Cy.148) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Tarddu o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1762 (Cy.184)).

(5)

1981, p. 22; fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, (p. 42), O.S. 1992/3293 ac O.S. 2003/1734. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

OJ Rhif L 268, 14.9.1992, t. 54.

(7)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 321; gweler y testun sydd wedi'i gywiro fel y'i nodir yn y corigendwm i'r Gyfarwyddeb a gyhoeddwyd yn OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t.128.

(11)

O.S. 1998/463, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(13)

OJ Rhif L187, 8.7.2006, t. 37. Mae copïau o' gynllun brechu ataliol y D.U. ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Yr Is-adran Atal a Rheoli Clefydau Ecsotig, 1A, Page Street, Llundain SW1P 4PQ ac yn http://www.defra.gov.uk/animalh/diseases/notifiable/pdf/euuk-zooplan.pdf.

(14)

Diwygiwyd adran 16 o Ddeddf 1981 gan adran 7 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p. 42).

(15)

Mewnosodwyd adran 16A o Ddeddf 1981 gan adran 5 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002. Fe'i hestynnwyd i fod yn gymwys i ffliw adar gan O.S. 2003/1734.

(16)

Mewnosodwyd adran 62A o Ddeddf 1981 gan adran 8 of Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002.

(17)

OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16.

(18)

Mewnosodwyd adran 64A o Ddeddf 1981 gan Reoliadau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3293), rheoliad 2.

(19)

Mewnosodwyd adran 66A o Ddeddf 1981 gan adran 8(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42).

(20)

Mewnosodwyd adran 71A o Ddeddf 1981 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 14.

(21)

Mewnosodwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p. 42), adran 13.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources