Search Legislation

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2928 (Cy.263)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

8 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

17 Tachwedd 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74(1) a 74A o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1).

Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(2) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006.

Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Rhan I o Atodlen 3 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Ar ôl paragraff (18), mewnosoder y paragraff a ganlyn-

18A.  In the case of any compound feeding stuff for animals other than pet animals, all the feed materials must be declared in the statutory statement by their specific names and with an indication, in descending order, of the percentage by weight of each feed material in the compound feeding stuff, subject to a limit of variation of ± 15% in relation to each declared percentage..

(3Ym mharagraff 23(1), hepgorer y geiriau “and by paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations”.

(4Ym mharagraff 26, yn lle'r ymadrodd “under paragraph 25 above or under paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations” rhodder “under paragraphs 18A or 25 above”.

Dirymiadau

3.  Dirymir y darpariaethau canlynol—

(a)rheoliad 17A o Reoliadau Porthiant (Cymru) 2001(4) a pharagraff 19 o Atodlen 4 iddynt; a

(b)rheoliadau 6 a 10(c) o Reoliadau Porthiant, Porthiant (Samplu a Dadansoddi) a Phorthiant (Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2003(5).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14)) (“Rheoliadau 2006”) drwy fewnosod ynddynt ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ganran o bob deunydd bwyd anifeiliaid a gaiff ei gynnwys mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i'w ddatgan, gyda goddefiant heb fod yn fwy na ±15%, ar label y bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu ar ddogfen sy'n mynd gyda'r bwyd anifeiliaid, (rheoliad 2(2)). Cynhwysid y ddarpariaeth hon yn flaenorol yn Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (OS 2001/343 (Cy.15)) fel y'i diwygiwyd gan OS 2003/1850 (Cy.200) (“Rheoliadau 2001”) (rheoliad 3).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu darpariaeth yn Rheoliadau 2001 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod union ganran pob deunydd bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i'w datgelu i gwsmeriaid sy'n gofyn hynny (rheoliad 4).

3.  Rhoddwyd ar waith, o ran Cymru, gan ddarpariaethau Rheoliadau 2001, y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 a 2 uchod, Erthygl 1.4 ac Erthygl 1.1(b), yn y drefn honno, o Gyfarwyddeb 2002/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchrediad bwydydd anifeiliaid cyfansawdd (OJ Rhif L63, 6.3.2002, t.23).

4.  Yn sgil rhoi'r Erthyglau ar waith, ataliwyd y darpariaethau dros dro drwy orchymyn yr Uchel Lys hyd oni fyddai canlyniad achos a gyfeiriwyd at Lys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn hysbys. Yn ystod cyfnod atal y darpariaethau dros dro, dirymwyd y cyfan o Reoliadau 2001 ac eithrio'r darpariaethau a ataliwyd dros dro a rhoddwyd Rheoliadau 2006 yn eu lle.

5.  Yn ei ymateb yn sgil cyfeirio'r achos ato mae'r ECJ yn awr wedi dyfarnu bod Erthygl 1.4 o Gyfarwyddeb 2002/2/EC yn ddilys yn gyfreithiol, ond nad yw Erthygl 1.1(b) yn ddilys yn gyfreithiol.

6.  Cafodd asesiad rheoliadol llawn o'r effaith a fydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1970 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Cafodd adran 74A ei mewnosod gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(4)

O.S. 2001/343 (Cy.15). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2003/1850 (Cy.200).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources