- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID, CYMRU
Wedi'u gwneud
7 Tachwedd2006
Yn dod i rym
14 Tachwedd 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 14 Tachwedd 2006.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aderyn caeth arall” (“other captive bird”) yw unrhyw aderyn a gedwir yn gaeth ac nad yw'n ddofednyn, ac mae'n cynnwys aderyn anwes ac aderyn a gedwir ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, ar gyfer bridio neu i'w werthu;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf, ac oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd felly gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu o dan y Ddeddf;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “cynllun brechu” (“vaccination plan”) yw naill ai cynllun brechu brys neu gynllun brechu ataliol;
mae i “cynllun brechu ataliol” yr un ystyr ag sydd i “preventative vaccination plan” yn Erthygl 56 o'r Gyfarwyddeb;
mae i “cynllun brechu brys” yr un ystyr ag sydd i “emergency vaccination plan” yn Erthygl 53 o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw'r holl adar sy'n cael eu magu neu'u cadw'n gaeth i gynhyrchu cig i'w fwyta neu wyau i'w bwyta, cynhyrchu cynhyrchion eraill, ailstocio cyflenwadau o adar hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3);
ystyr “ffliw adar” (“avian influenza”) yw haint mewn dofednod neu adar caeth eraill a achosir gan unrhyw firws ffliw A o'r is-deipiau H5 neu H7 neu firws sydd â mynegrif pathogenedd mewnwythiennol uwch nag 1.2 mewn cywion ieir chwe wythnos oed;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC(4);
ystyr “hysbysiad brechu” (“vaccination notice”) yw naill ai hysbysiad brechu brys neu hysbysiad brechu ataliol;
mae i “hysbysiad brechu ataliol” (“preventive vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(ii);
mae i “hysbysiad brechu brys” (“emergency vaccination notice”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(b);
ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda dofednod, y mae eu cig wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad neu le;
ystyr “meddiannydd” (“occupier”) o ran unrhyw fangre yw'r person sydd â gofal y fangre honno;
ystyr “parth brechu” (“vaccination zone”) yw naill ai parth brechu brys neu barth brechu ataliol;
mae i “parth brechu ataliol” (“preventive vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(b)(i);
mae i “parth brechu brys” (“emergency vaccination zone”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 6(1)(a); ac
mae i “trwydded brechu” (“vaccination licence”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 7(1)(a).
(2) Mae i ymadroddion Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddiffinnir yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn y Gyfarwyddeb.
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i adar a gedwir mewn sw yn ystyr Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Ataliol) (Cymru) 2006(5).
4.—(1) O ran datganiadau parth brechu o dan y Rheoliadau hyn —
(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir eu diwygio, neu'u dirymu, drwy ddatganiad pellach, ar unrhyw adeg;
(c)rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth a ddatgenir;
(ch)rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y parth ac, os ydynt yn gymwys mewn rhan yn unig o'r parth, bennu ym mha ran y maent yn gymwys; a
(d)rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
(2) Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig a chaniateir eu diwygio neu eu dirymu, drwy hysbysiad pellach, ar unrhyw adeg.
(3) O ran hysbysiadau brechu a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a)rhaid iddynt restru neu gyfeirio at y mesurau sy'n gymwys yn y fangre ac, os ydynt yn gymwys i ran yn unig o'r fangre, rhaid iddynt bennu i ba ran y maent yn gymwys; a
(b)rhaid iddynt ddatgan pa gategorïau o adar y mae'r mesurau yn gymwys iddynt.
(4) O ran trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a)rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;
(b)caniateir iddynt fod yn gyffredinol neu'n benodol;
(c)caniateir iddynt fod yn ddarostyngedig i unrhyw amod y mae'r person sy'n rhoi'r drwydded yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar; a
(ch)caniateir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg,
ac yn achos trwyddedau brechu, rhaid iddynt hefyd bennu'r materion a nodir ym mharagraff (3)(a) a (b).
(5) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod hyd a lled unrhyw barth brechu a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn, natur y cyfyngiadau a'r gofynion sy'n gymwys ynddo a dyddiadau ei ddatgan a'i dynnu yn ôl yn cael eu cyhoeddi.
(6) Mae trwyddedau symud a roddir yn yr Alban neu'n Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn effeithiol yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau symud a roddid o dan y Rheoliadau hyn, ond caiff arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y cyfryw drwydded, gan ei gyfarwyddo i'w symud i'r fangre a bennir yn yr hysbysiad a'i gadw yno neu ei symud y tu allan i Gymru.
(7) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud benodol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
(a)cadw'r drwydded, neu gopi ohoni, gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;
(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni gael ei gymryd; ac
(c)os gofynnir iddo wneud hynny, roi ei enw a'i gyfeiriad.
(8) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded symud gyffredinol a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn—
(a)cadw gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—
(i)yr hyn sy'n cael ei symud (gan gynnwys faint ohono);
(ii)dyddiad y symudiad;
(iii)enw'r traddodwr;
(iv)cyfeiriad y fangre y dechreuwyd y symudiad ohoni;
(v)enw'r traddodai; a
(vi)cyfeiriad y gyrchfangre;
(b)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd awdurdod lleol, arolygydd milfeddygol neu unrhyw un o swyddogion eraill y Cynulliad Cenedlaethol, y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd; ac
(c)os gofynnir iddo wneud hynny, rhoi ei enw a'i gyfeiriad.
5.—(1) Ni chaiff neb frechu unrhyw aderyn yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol neu wedi'i drwyddedu ganddo.
(2) Nid yw'r gwaharddiad yn gymwys i'r canlynol—
(a)unrhyw beth a wneir o dan awdurdod trwydded a roddwyd o dan erthygl 4 o'r Gorchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(6); neu
(b)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan reoliad 8(3) o Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(7).
6.—(1) Pan fodlonir yr amod ym mharagraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—
(a)datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“parth brechu brys”); neu
(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny ar frys yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu brys”).
(2) Yr amod yw bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud asesiad risg sy'n dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru oherwydd—
(a)brigiad ffliw adar yn y Deyrnas Unedig;
(b)brigiad ffliw adar mewn Aelod-wladwriaeth gyfagos; neu
(c)bod presenoldeb ffliw adar mewn dofednod neu adar caeth eraill mewn trydedd wlad gyfagos wedi'i gadarnhau.
(3) Pan fo parth brechu brys yn cael ei ddatgan, neu pan gyflwynir hysbysiad brechu brys ar ôl i gynllun brechu brys gael ei ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd a'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 53 a 54 o'r Gyfarwyddeb, rhaid datgan neu gyflwyno'r hysbysiad yn unol â darpariaethau'r cynllun hwnnw.
(4) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu brys yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
7.—(1) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (2) —
(a)caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), roi trwydded i feddiannydd unrhyw fangre i frechu dofednod, adar caeth eraill neu unrhyw gategori o ddofednod neu adar caeth eraill yn y fangre honno (“trwydded brechu”);
(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â'r cynllun brechu ataliol y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) ac os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg o ledu ffliw adar—
(i)datgan parth yng Nghymru gyfan neu mewn rhan ohoni, pan fo'r ardaloedd hynny yn cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“parth brechu ataliol”); neu
(ii)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylid eu brechu, lle y mae'n ofynnol brechu'r adar hynny yn ataliol yn erbyn ffliw adar (“hysbysiad brechu ataliol”).
(2) Dyma'r amodau—
(a)bod asesiad risg wedi'i wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n dangos bod unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill mewn unrhyw ran o Gymru yn agored i risg ffliw adar;
(b)bod cynllun brechu ataliol wedi'i ddwyn gerbron y Comisiwn Ewropeaidd ac wedi'i gymeradwyo ganddo yn unol ag Erthyglau 56 a 57 o'r Gyfarwyddeb.
(3) Bernir bod unrhyw fangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ataliol yn gyfan gwbl y tu mewn i'r parth hwnnw.
8.—(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy ddatganiad parth brechu neu hysbysiad brechu, ei gwneud yn ofynnol bod dofednod neu adar caeth eraill yn y parth hwnnw neu yn y fangre honno sy'n destun yr hysbysiad hwnnw gael eu brechu.
(2) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r brechu yn cael ei wneud drwy arfer pwer yn adran 16(1) o'r Ddeddf—
(a)adran 16(2) i 16(17)(8)(triniaeth ar ôl bod yn agored i heintiad);
(b)adran 16A(9) (lladd anifeiliaid sydd wedi'u brechu); ac
(c)adran 62A(10) (lladd: pwer mynediad).
9.—(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, mewn datganiad parth brechu neu mewn hysbysiad brechu, neu drwydded brechu, bennu pwy sydd i wneud y gwaith brechu.
(2) Mewn datganiad parth brechu, hysbysiad brechu neu drwydded brechu, caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol ag unrhyw gynllun brechu a gymeradwywyd, osod unrhyw fesurau o fewn y parth brechu, neu'r fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu, sy'n angenrheidiol er mwyn —
(a)rheoli'r math a'r maint o frechlyn i'w ddefnyddio;
(b)rheoli dulliau cyflenwi a storio'r brechlyn a dulliau gwaredu unrhyw frechlyn nas defnyddiwyd;
(c)rheoli rhoi'r brechlyn i'r adar;
(ch)sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw;
(d)sicrhau bod y samplau angenrheidiol o adar yn cael eu cymryd;
(dd)sicrhau bod modd adnabod adar sydd wedi'u brechu;
(e)sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu pan fod y gwaith brechu wedi'i gwblhau;
(f)rheoli symudiad unrhyw ddofednod, adar caeth eraill neu'u cynnyrch o'r naill fangre mewn parth i'r llall mewn parth, i mewn i'r parth hwnnw neu allan ohono neu i mewn i'r fangre honno sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded neu allan ohoni;
(ff)rheoli rhyddhau dofednod neu adar caeth eraill i'r gwyllt;
(g)sicrhau bioddiogelwch digonol pan fydd unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill neu'u cynnyrch yn cael eu cludo;
(ng)sicrhau bod dofednod neu adar caeth eraill sydd yn y parth neu yn y fangre sy'n destun yr hysbysiad neu'r drwydded o dan wyliadwriaeth,
a chaiff osod unrhyw gyfyngiadau ac amodau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “cynnyrch” dofednod neu adar caeth eraill yw unrhyw garcas, ŵy neu unrhyw beth arall sy'n tarddu neu sydd wedi'i wneud (naill ai'n llwyr neu'n rhannol) o ddofednod neu adar caeth eraill neu o garcasau'r cyfryw adar.
(4) Mae paragraffau (1) i (3) yn gymwys er gwaethaf unrhyw ofyniad neu gyfyngiad arall sy'n gymwys mewn unrhyw ran o barth neu fangre oherwydd bod rhan o'r parth neu'r fangre yn dod o fewn parth arall a ddatganwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu sy'n destun hysbysiad arall a gyflwynwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu arolygydd, at ddibenion lleihau'r risg o ledu ffliw adar neu at unrhyw ddiben arall.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n symud dofednod neu adar caeth eraill o dan y rheoliad hwn neu o dan reoliad 10 gadw cofnod o ddyddiad y symudiad a Rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir.
(6) Bernir bod lladd-dai, canolfannau pacio a deorfeydd a ddynodwyd o dan y Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006(11) wedi'u dynodi at ddiben cael dofednod neu wyau (yn ôl y digwydd) a symudir o dan drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
10.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan parth brechu brys neu'n cyflwyno hysbysiad brechu brys cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.
(2) Ni chaiff neb symud unrhyw ddofednod, unrhyw adar caeth eraill, eu carcasau neu unrhyw wyau dofednod neu adar caeth eraill —
(a)o fangre mewn parth i fangre arall yn y parth;
(b)i mewn i'r parth neu allan ohono; neu
(c)i mewn i fangre sy'n destun hysbysiad neu allan ohoni.
(3) Ni fydd paragraff (2) yn gymwys i'r canlynol —
(a)unrhyw un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen os yw'r symudiad hwnnw wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd;
(b)i ddosbarthiad manwerthol wyau dofednod ac wyau deor eraill a symudiadau sy'n dilyn y cyfryw ddosbarthiad; neu
(c)symudiad carcasau neu wyau i'w gwaredu.
(4) Rhaid i feddiannydd mangre y mae cywion diwrnod oed, dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i gael eu cigydda) neu unrhyw adar caeth eraill sy'n cael eu symud o dan unrhyw un o baragraffau 5 i 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y cywion diwrnod oed, dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu rhoi mewn rhan o'r fangre lle nad oes dofednod eraill.
(5) Rhaid i feddiannydd y fangre y mae dofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill yn cael eu symud iddi o dan baragraff 10 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny neu'r adar caeth hynny yn cael eu brechu yn ddi-oed os yw brechu'n ofynnol yn y fangre honno gan ddatganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1).
(6) Rhaid i feddiannydd lladd-dy y mae dofednod i'w cigydda yn cael eu symud iddo o dan baragraff 11, 12 neu 13 o'r Atodlen, sicrhau bod y dofednod hynny yn cael eu cigydda'n ddi-oed.
(7) Mae paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran yr un symudiadau—
(a)o barth sy'n gyfystyr â pharth brechu brys a ddatgenir yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon; neu
(b)o fangre sy'n destun hysbysiad sy'n gyfystyr â hysbysiad brechu yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon,
pan fo'r parth hwnnw wedi'i ddatgan, neu pan fo'r hysbysiad hwnnw wedi'i gyflwyno, cyn i gynllun brechu brys gael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 54 o'r Gyfarwyddeb.
(8) Nid yw paragraff (7) ond yn gymwys os yw meddiannydd y fangre y mae'r peth yn cael ei symud iddi yn ymwybodol, neu y mae'n rhesymol iddo fod yn ymwybodol, ei fod wedi cael ei symud o'r cyfryw barth neu o'r cyfryw fangre o dan y cyfryw hysbysiad.
11. Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi'i frechu fel y mae'n ofynnol gan y Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle y mae'r aderyn hwnnw ar unwaith.
12. Pan fo glanhau a diheintio cerbydau yn ofynnol mewn unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i feddiannydd y fangre honno ddarparu cyfleusterau digonol a chyfarpar a deunyddiau priodol ar gyfer y gwaith glanhau a diheintio hwnnw.
13.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw ceidwad unrhyw ddofednod neu unrhyw adar caeth eraill yn gallu eu symud oddi ar y fangre pan ddaw ei hawl i feddiannu'r fangre neu odanynt i ben oherwydd cyfyngiad ar symud a osodwyd gan y Rheoliadau hyn ac mae'n parhau i fod yn gymwys am saith niwrnod ar ôl tynnu'r cyfryw gyfyngiad.
(2) Rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre pan ddaw hawl y ceidwad i'w meddiannu i ben —
(a)darparu unrhyw gyfleusterau, ar gyfer bwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd arall (gan gynnwys eu gwerthu), y bydd ar y ceidwad angen rhesymol amdanynt; a
(b)caniatáu i'r ceidwad hwnnw ac unrhyw berson a awdurdodir ganddo gael mynd i'r fangre ar adegau rhesymol i fwydo, tendio neu ddefnyddio'r dofednod neu'r adar caeth eraill mewn ffordd wahanol.
(3) Os nad yw'r ceidwad yn gallu neu os nad yw'n fodlon bwydo neu dendio'r dofednod neu'r adar caeth eraill, rhaid i'r person sydd â hawl i feddiannu'r fangre gymryd y camau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y dofednod neu'r adar hynny yn cael eu bwydo a'u tendio'n iawn.
(4) Mae ceidwad y dofednod neu adar caeth eraill yn atebol i dalu'r costau rhesymol yr eir iddynt o dan y rheoliad hwn gan unrhyw berson sy'n eu bwydo neu'n eu tendio, neu'n darparu cyfleusterau ar gyfer eu bwydo, eu tendio neu eu defnyddio fel arall.
14.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n cyflanwi swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed onid oes ganddo achos rhesymol dros beidio â gwneud hynny.
(2) Ni chaiff neb ddifwyno, cuddio neu dynnu unrhyw farc a ddodwyd ar unrhyw aderyn neu beth gan unrhyw berson sy'n cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
15. Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n cymryd camau wrth weithredu'r Rheoliadau hyn.
16.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gan y Rheoliadau hyn wneud neu gadw cofnod—
(a)ei gadw am o leiaf deuddeng mis ar ôl y dyddiad pan wnaed y cofnod (oni bai iddo gael ei gyfarwyddo fel arall o dan y Rheoliadau hyn);
(b)ei ddangos i arolygydd os bydd yn gofyn amdano a rhoi copïau ohono iddo os bydd yn gofyn amdanynt.
(2) Caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre at ddiben arolygu unrhyw gofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff—
(a)copïo'r cofnodion hynny (ar ba ffurf bynnag y'u delir);
(b)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir mynd â hwy; ac
(c)mynd ag unrhyw gofnodion a'u dal dan gadwad.
(3) Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddychwelyd unrhyw gofnodion y mae wedi'u dal dan gadwad ar ôl iddo eu copïo neu ar ôl iddo orffen eu harolygu.
17. Rhaid i'r costau y mae unrhyw berson yn mynd iddynt wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sy'n waharddedig gan y Rheoliadau hyn neu odanynt, gael eu talu gan y person hwnnw oni bai i'r Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo fel arall yn ysgrifenedig.
18. Mae unrhyw drwyddedai, person y cyflwynir hysbysiad iddo, neu berson y mae datganiad yn gymwys iddo o dan y Rheoliadau hyn, ac sy'n mynd yn groes i'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn y drwydded honno, yn yr hysbysiad hwnnw neu yn y datganiad hwnnw, neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy, yn euog o dramgwydd.
19.—(1) Caiff arolygydd, pan fydd yn cyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, fod y person sydd â gofal unrhyw gerbyd neu gyfarpar yn ei lanhau a'i ddiheintio.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd, wrth gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn—
(a)glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth ar y fangre honno;
(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre yn glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth yn y fangre;
(c)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, bod meddiannydd unrhyw fangre neu geidwad unrhyw ddofednod neu adar caeth eraill—
(i)yn cadw neu ynysu unrhyw ddofednod, neu unrhyw adar caeth neu anifeiliaid eraill mewn man penodedig;
(ii)gwahanu unrhyw ddofednod, adar caeth neu anifeiliaid oddi wrth unrhyw anifeiliaid neu adar eraill.
(3) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf(12)—
(a)adran 63 (pwerau cyffredinol arolygwyr);
(b)adran 64 (pwerau arolygwyr o ran dofednod);
(c)adran 64A(13) (pwerau arolygwyr o ran rhwymedigaethau Cymunedol);
(ch)adran 65(1) i (3) (pŵer i ddal llestri ac awyrennau dan gadwad).
(4) Mae adran 65A o'r Ddeddf(14) (arolygu cerbydau) yn gymwys fel petai—
(a)y Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf;
(b)y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn; a
(c)pob parth brechu neu fangre a bennir mewn hysbysiad brechu wedi'i ddynodi at ddibenion yr adran honno tra bo'r hysbysiad brechu.
(5) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre o dan reoliad 8 neu baragraff (3)—
(a)marcio unrhyw aderyn neu beth arall at ddibenion eu hadnabod;
(b)cymryd samplau o unrhyw aderyn;
(c)mynd â'r personau a'r pethau ag ef y mae'r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(6) Caiff unrhyw berson sy'n mynd i mewn i fangre o dan baragraff (5)(c) fynd yn ôl ati heb neb yn ei hebrwng i gymryd unrhyw gamau pellach sy'n angenrheidiol er mwyn gweithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
20.—(1) Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu odanynt, caiff arolygydd gymryd y camau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar gost y person hwnnw.
(2) Mae pwerau arolygydd o dan baragraff (1) yn cynnwys pwerau—
(a)i'w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i unrhyw berson gymryd neu beidio â chymryd camau penodedig mewn perthynas ag unrhyw le, anifail, aderyn, neu beth arall;
(b)i gymryd unrhyw beth i feddiant a'i ddal gan gadwad.
21.—(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—
(a)adrannau 66 a 66A(15) (gwrthod a rhwystro);
(b)adran 67 (dyroddi trwyddedau anwir etc.);
(c)adran 68 (dyroddi trwyddedau etc. sy'n wag);
(ch)adran 71 (tramgwyddau eraill o ran trwyddedau);
(d)adran 71A(16), (erlyniadau: terfyn amser);
(dd)adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);
(e)adran 77 (arian sy'n adenilladwy yn ddiannod);
(f)adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn),
ac fel petai'r diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf wedi'i estyn i gynnwys pob aderyn.
(2) Mae adran 69 o'r Ddeddf (cael trwyddedau etc. drwy dwyll) yn gymwys fel petai trwyddedau a roddir o dan y Rheoliadau hyn wedi'u rhoi o dan Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf.
(3) Mae adran 75 o Ddeddf(17)(cosbau ar gyfer tramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio na chaiff unrhyw gyfnod yn y carchar o ganlyniad i gollfarn ddiannod fod yn hwy na thri mis.
22.—(1) Os dangosir bod tramgwydd a wnaed gan gorff corfforaethol—
(a)wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,
bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'r aelod hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd y cyfryw swydd.
23.—(1) Rhaid i'r awdurdod lleol orfodi'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, y bydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.
24. Nid yw darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy'n gwahardd neu'n cyfyngu ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth yn gymwys i'r canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—
(a)y Cynulliad Cenedlaethol;
(b)arolygydd awdurdod lleol;
(c)unrhyw berson arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr awdurdod lleol i weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn.
25. Mae Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006(18)drwy hyn wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(19)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Tachwedd 2006
Rheoliad 10(3)
1.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy sy'n deor—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r ŵy deor yn tarddu o haid fridio sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau;
(b)mae wedi cael ei ddiheintio cyn ei anfon yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol;
(c)mae i'w gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.
(3) Symudiad unrhyw wy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod ei fod yn cael ei gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.
2.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy heblaw wy sy'n deor—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Yr amodau yw bod yr ŵy yn tarddu o haid ddodwy sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau ac—
(a)ei fod yn cael ei gludo i ganolfan bacio ddynodedig a'i fod wedi'i bacio mewn deunydd pacio tafladwy a bod pob mesur bioddiogelwch sy'n ofynnol gan y drwydded symud yn cael ei ddefnyddio; neu
(b)ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004(20)er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004(21).
3. Symudiad unrhyw ŵy heblaw ŵy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod bod—
(a)ei fod yn cael ei gludo i ganolfan bacio ddynodedig a'i fod wedi'i bacio mewn deunydd pacio tafladwy a bod pob mesur bioddiogelwch sy'n ofynnol gan y drwydded symud yn cael ei ddefnyddio; neu
(b)ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004.
4. Symudiad cyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2).
5. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod —
(a)nad yw wedi cael ei frechu; a
(b)ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2) neu 2.
6. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu.
7. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod —
(a)bod yr adar wedi'u brechu yn erbyn ffliw adar os yw brechu yn ofynnol yn y fangre o le y symudir hwy gan ddatganiad neu hysbysiad brechu o dan reoliad 6(1); a
(b)bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
8. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu ar yr amod —
(a)nad ydynt wedi cael eu brechu; a
(b)bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
9. Symudiad unrhyw ddofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill o fangre sydd y tu allan barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu yn destun hysbysiad brechu.
10.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod wedi'u brechu i'w cigydda—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r dofednod wedi'u brechu â brechlyn a bennwyd yn y datganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1);
(b)mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol a'u profi cyn eu llwytho gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau;
(c)mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol cyn pen 48 o oriau cyn eu llwytho ac os yw'n briodol mae unrhyw adar dangos clwy yn y fangre hefyd wedi cael eu harchwilio gan arolygydd meddygol;
(ch)maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
11.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod heb eu brechu i'w cigydda—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r dofednod wedi cael eu harchwilio'n glinigol cyn eu llwytho gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau;
(b)maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
12. Symudiad unrhyw ddofednod i'w cigydda o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw yn destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun parth brechu, ar yr amod eu bod yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
13. Symudiad dofednod neu adar caeth byw eraill o'r Deyrnas Unedig o fangre sydd mewn parth brechu neu sy'n destun hysbysiad brechu ar yr amod bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan yr Aelod-wladwriaeth sy'n eu derbyn.
14. Yn yr Atodlen hon, mae mangre sydd i'w mynegi fel un “dynodedig” yn fangre y bernir ei bod yn ddynodedig yn unol â rheoliad 9(6).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi o ran Cymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2005/94/EC ar fesurau Cymunedol i reoli ffliw adar a honno'n Gyfarwyddeb sy'n diddymu Cyfarwyddeb 92/40/EEC (OJ Rhif L10, 14.1.2006, t. 16) i'r graddau y mae'n ymdrin â brechu yn erbyn ffliw adar.
Mae Rheoliad 5 yn gosod gwaharddiad cyffredinol ar frechu anifeiliaid yn erbyn ffliw adar ac eithrio pan fo'n ofynnol neu wedi'i drwyddedu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Rheoliadau 6 a 7 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol, os yw'n barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn lleihau risg lledu ffliw adar, ddatgan parthau brechu mewn ardaloedd sy'n cynnwys dofednod neu adar caeth eraill y mae'n barnu y dylent gael eu brechu, neu gyflwyno hysbysiadau brechu i feddianwyr mangreoedd lle y mae'r cyfryw adar yn cael eu cadw. Mae Rheoliad 8 yn rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i wneud brechu'n ofynnol yn y parthau hyn neu yn y cyfryw fangreoedd. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesurau ond pan fônt yn unol â chynllun brechu a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd a phan fo asesiad risg wedi'i wneud a bod hwnnw wedi dangos bod bygythiad arwyddocaol ac uniongyrchol y byddai ffliw adar yn ymledu yng Nghymru neu i Gymru, neu fod ardaloedd penodol neu adar penodol yn agored beth bynnag i risg ffliw adar. Bydd y mesurau hyn yn fesurau brys neu'n fesurau atal, gan ddibynnu ar natur y risg. Mae Rheoliad 7 hefyd yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol roi trwyddedau i feddianwyr mangreoedd sy'n caniatáu brechu adar, neu gategorïau penodol o adar, yn y mangreoedd hynny. Ni chaniateir cyflawni'r cyfryw fesur ond ar sail ataliol a phan fo asesiad risg yn dangos bod yr adar yn y mangreoedd yn agored i risg ffliw adar.
Mae Rheoliad 9 yn darparu ar gyfer mesurau sy'n gymwys mewn parth brechu neu fangre sy'n destun hysbysiad brechu neu drwydded brechu. Mae Rheoliad 10 yn darparu, pan fo gwaith brechu brys yn cael ei wneud cyn bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo'r cynllun brechu cenedlaethol brys, bod gwaharddiad cyffredinol ar symud dofednod, adar caeth eraill a'u hwyau o'r naill fangre mewn parth brechu brys i'r llall mewn parth brechu brys, i mewn i unrhyw barth brechu brys ac allan ohono ac i mewn i unrhyw fangre sy'n destun hysbysiad brechu ac allan ohoni oni bai bod y symudiad yn un o'r symudiadau a ganiateir ac a restrir yn yr Atodlen a bod y symudiad wedi'i drwyddedu.
Mae a wnelo rheoliadau 14 i 24 â phwerau arolygwyr, tramgwyddau a gorfodi'r gyfraith. Mae rheoliad 21 yn cymhwyso darpariaethau sy'n gysylltiedig â thramgwyddau o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p.22) fel petai'r Rheoliadau wedi'u gwneud o dan y Ddeddf honno. O ganlyniad, tramgwydd yw methu â chydymffurfio â'r Rheoliadau o dan adran 73 o'r Ddeddf. Mae rheoliad 21(3) yn darparu bod person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored ar gollfarn ddiannod i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na 3 mis neu i ddirwy nad yw'n fwy na £5000 neu'r ddau.
Mae rheoliad 25 yn dirymu Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) 2006.
Ni ddarparwyd arfarniad rheoliadol o ran y Rheoliadau hyn. Gellir cael Nodyn Trosi, sy'n nodi sut y trosir prif elfennau brechu Cyfarwyddeb 2005/94/EC yn y Rheoliadau hyn, oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1981 p.22, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1992/3293 a Deddf Iechyd Anifeiliaid 2002, p.42. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 10, 14.1.2006, t. 16.
O.S. 1998/463, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/2745, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (c. 42), adran 7.
Mewnosodwyd adran 16A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 5.
Mewnosodwyd adran 62A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8.
Estynnwyd y diffiniad o ddofednod yn adran 87(4) o'r Ddeddf i gynnwys dofednod ac adar caeth eraill, fel y'i diffinnir gan y Rheoliadau hyn, gan O.S. 2006/2927 (W.262).
Mewnosodwyd adran 64A gan O.S. 1992/3293, rheoliad 2.
Mewnosodwyd adran 65A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002 (p.42), adran 10.
Mewnosodwyd adran 66A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 8(2).
Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 14.
Diwygiwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 13
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55.
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: