- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 10(3)
1.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy sy'n deor—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r ŵy deor yn tarddu o haid fridio sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau;
(b)mae wedi cael ei ddiheintio cyn ei anfon yn unol â chyfarwyddiadau a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol;
(c)mae i'w gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.
(3) Symudiad unrhyw wy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod ei fod yn cael ei gludo yn uniongyrchol i ddeorfa ddynodedig.
2.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ŵy heblaw wy sy'n deor—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Yr amodau yw bod yr ŵy yn tarddu o haid ddodwy sydd wedi'i harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi gosod yr haid honno o dan unrhyw gyfyngiadau ac—
(a)ei fod yn cael ei gludo i ganolfan bacio ddynodedig a'i fod wedi'i bacio mewn deunydd pacio tafladwy a bod pob mesur bioddiogelwch sy'n ofynnol gan y drwydded symud yn cael ei ddefnyddio; neu
(b)ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004(1)er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004(2).
3. Symudiad unrhyw ŵy heblaw ŵy deor o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod bod—
(a)ei fod yn cael ei gludo i ganolfan bacio ddynodedig a'i fod wedi'i bacio mewn deunydd pacio tafladwy a bod pob mesur bioddiogelwch sy'n ofynnol gan y drwydded symud yn cael ei ddefnyddio; neu
(b)ei fod yn cael ei gludo i sefydliad ar gyfer gweithgynhyrchu cynhyrchion wyau fel a nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 er mwyn iddynt gael eu trafod a'u trin yn unol â Phennod XI o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 852/2004.
4. Symudiad cyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2).
5. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, ar yr amod —
(a)nad yw wedi cael ei frechu; a
(b)ei fod yn tarddu o ŵy deor sy'n bodloni'r amodau a nodir ym mharagraff 1(2) neu 2.
6. Symudiad unrhyw gyw diwrnod oed o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun hysbysiad brechu.
7. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu ar yr amod —
(a)bod yr adar wedi'u brechu yn erbyn ffliw adar os yw brechu yn ofynnol yn y fangre o le y symudir hwy gan ddatganiad neu hysbysiad brechu o dan reoliad 6(1); a
(b)bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
8. Symudiad unrhyw ddofednod (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth byw eraill o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu ar yr amod —
(a)nad ydynt wedi cael eu brechu; a
(b)bod yr adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau.
9. Symudiad unrhyw ddofednod byw (ac eithrio'r rhai sy'n mynd i'w cigydda) neu adar caeth eraill o fangre sydd y tu allan barth brechu, neu nad yw'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu yn destun hysbysiad brechu.
10.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod wedi'u brechu i'w cigydda—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r dofednod wedi'u brechu â brechlyn a bennwyd yn y datganiad neu hysbysiad brechu brys o dan reoliad 6(1);
(b)mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol a'u profi cyn eu llwytho gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau;
(c)mae'r adar wedi cael eu harchwilio'n glinigol gan arolygydd milfeddygol cyn pen 48 o oriau cyn eu llwytho ac os yw'n briodol mae unrhyw adar dangos clwy yn y fangre hefyd wedi cael eu harchwilio gan arolygydd meddygol;
(ch)maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
11.—(1) Os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2), symudiad unrhyw ddofednod heb eu brechu i'w cigydda—
(a)o fangre sydd mewn parth brechu i fangre arall sydd mewn parth brechu; neu
(b)o fangre sydd mewn parth brechu, neu sy'n destun hysbysiad brechu, i fangre sydd y tu allan i barth brechu neu nad yw'n destun hysbysiad brechu.
(2) Dyma'r amodau—
(a)mae'r dofednod wedi cael eu harchwilio'n glinigol cyn eu llwytho gan arolygydd milfeddygol nad yw wedi'u gosod o dan unrhyw gyfyngiadau;
(b)maent i'w hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
12. Symudiad unrhyw ddofednod i'w cigydda o fangre sydd y tu allan i barth brechu, neu nad yw yn destun hysbysiad brechu, i fangre sydd mewn parth brechu neu'n destun parth brechu, ar yr amod eu bod yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i ladd-dy dynodedig.
13. Symudiad dofednod neu adar caeth byw eraill o'r Deyrnas Unedig o fangre sydd mewn parth brechu neu sy'n destun hysbysiad brechu ar yr amod bod y symudiad wedi'i awdurdodi gan yr Aelod-wladwriaeth sy'n eu derbyn.
14. Yn yr Atodlen hon, mae mangre sydd i'w mynegi fel un “dynodedig” yn fangre y bernir ei bod yn ddynodedig yn unol â rheoliad 9(6).
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55.
OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: