Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998 fel y'i newidiwyd (“Rheoliadau 1998”) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, ac yn ail-ddeddfu darpariaethau penodol a geir yn Rheoliadau hynny, neu'n eu hail ddeddfu gyda newidiadau. Rhestrir y prif Gyfarwyddebau sy'n parhau i gael eu gweithredu gan y Rheoliadau hyn ym mharagraff 5 isod. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu'r defnydd o ddeilliannau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (“Rheoliad 1895/2005”).

2.  Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2 —

(a)yn gwahardd gweithgareddau penodedig mewn perthynas ag unrhyw deunydd neu eitem (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2) sy'n methu â bodloni'r safonau gofynnol priodol a osodir yn y Rheoliadau (rheoliad 3);

(b)yn gwahardd defnyddio monomerau ac ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau ac eithrio yn unol ag amodau penodedig (rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn achos monomerau a rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn achos ychwanegion);

(c)yn pennu'r safonau gofynnol sy'n ymwneud â galluogrwydd monomer neu ychwanegyn i gyflwyno ei gyfansoddion i fwyd (rheoliad 6 ar gyfer monomerau a rheoliad 7 ar gyfer ychwanegion);

(ch)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â chynhyrchion a geir drwy eplesu bacterol (rheoliad 8 );

(d)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â therfynau ymfudiad cyflawn allan o ddeunyddiau neu eitemau plastig i mewn i fwyd (rheoliad 9);

(dd)yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn ag ymfudiad aminau aromatig sylfaenol o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 10);

(e)yn pennu'r dulliau o benderfynu ar allu deunydd neu eitem plastig i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd, ac i ganfod presenoldeb unrhyw gyfansoddion o'r fath mewn bwyd (rheoliad 11 ac Atodlenni 2 a 3);

(f)yn darparu bod rhaid, cyn y cam manwerthu, i wybodaeth ysgrifenedig benodol, gan gynnwys datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol, fynd gyda deunyddiau ac eitemau plastig (rheoliad 12);

(ff)darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28), sy'n cynnwys darpariaethau Cymunedol ynglŷn â'r deilliadau epocsi a elwir BADGE, BFDGE a NOGE (rheoliad 13).

3.  Mae'r Rheoliadau yn Rhan 3 —

(a)yn dynodi awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd fel yr awdurdodau gorfodi yn eu hardaloedd neu eu rhanbarthau yn eu trefn (rheoliad 14);

(b)yn pennu'r tramgwyddau y gellir eu cyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac yn gosod uchafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 15);

(c)yn darparu amddiffyniadau cyffredinol eu natur, megis arfer diwydrwydd dyladwy, i dramgwyddau o dan reoliad 15 (rheoliad 16);

(ch)yn darparu amddiffyniad trosiannol o ran gwerthu jariau sy'n cynnwys bwydydd babanod a phlant bach ac sydd â gasged PVC wedi'i selio sy'n cynnwys olew ffa soia wedi'i epocsideiddio (rheoliad 17);

(d)yn darparu amddiffyniadau trosiannol o ran deunyddiau neu eitemau plastig sydd eisoes wedi cael eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg cyn bod newid yn y gyfraith a fyddai fel arall wedi gwneud eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg yn anghyfreithlon (rheoliad 18);

(dd)yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan anfonir sampl i gael ei dadansoddi (rheoliad 19);

(e)yn darparu ar gyfer cael dadansoddi sampl gyfeiriadol gan Labordy Fferyllydd y Llywodraeth (rheoliad 20);

4.  Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn a'r terfyn amser y mae'n rhaid cadw ato pan fo person yn dymuno gwneud cais i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop am awdurdodiad i ychwanegyn newydd (rheoliad 21).

5.  Y prif Gyfarwyddebau a weithredwyd gan Reoliadau 1998 sy'n parhau i gael eu gweithredu gan y Rheoliadau hyn yw —

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC (OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26) sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 93/8/EEC (OJ Rhif L90, 14.4.1993, t.22) a 97/48/EC (OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif . L372, 31.12.1985, t.14);

(c)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18) ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).

6.  Cafodd arfarniad rheoliadol llawn ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac fe'i gosodwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11 Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources