Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ansawdd technegol da” (“good technical quality”) yw ansawdd technegol da o ran y meini prawf purdeb;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sydd â'r cyfrifoldeb o dan reoliad 14 dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

mae i “BADGE” (“BADGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(a) o Reoliad 1895/2005;

mae i “BFDGE” (“BFDGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(b) o Reoliad 1895/2005;

mae “busnes” (“business”) i'w ddehongli yn unol ag adran 1(3) o'r Ddeddf;

mae “bwyd” (“food”) i'w ddehongli yn unol ag adran 16(5) o'r Ddeddf;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/711” (“Directive 82/711”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC(1) sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 97/48/EC(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 85/572” (“Council Directive 85/572”) Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(3);

ystyr “Cyfarwyddeb 88/388” (“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(4);

ystyr “Cyfarwyddeb 89/107” (“Directive 89/107”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(5);

ystyr “y Cyfarwyddebau Purdeb” (“the Purity Directives”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/31/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(6), Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(7) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 96/77/EC sy'n gosod meini prawf penodol mewn purdeb ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau neu felysyddion(8);

ystyr “deunydd neu eitem” (“material or article” ) yw deunydd neu eitem sy'n cwympo o fewn y diffiniad o deunyddiau ac eitemau yn Erthygl 1(2) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “deunydd neu eitem plastig” (“plastic material or article”) yw unrhyw beth a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith y deunyddiau a'r eitemau plastig hynny a rhannau ohonynt y mae'r Gyfarwyddeb yn gymwys iddynt;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “EFSA” (“EFSA”) yw Awdurdod Diogelu Bwyd Ewrop;

ystyr “yn gallu” (“capable”) yw bod yn gallu yn ôl yr hyn a sefydlir o dan reoliad 11;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys cynnig neu ddangos rhywbeth i'w werthu neu fod yn meddiannu peth i'w werthu, a rhaid dehongli “gwerthiant” (“sale”) yn unol â hynny;

ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig), Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC(9) ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/19/EC(10) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2005/79/EC(11);

ystyr “mewnforio” (“import”) yw mewnforio wrth gynnal busnes;

ystyr “monomer” (“monomer”) yw unrhyw sylwedd a gynhwysir at ddibenion y Gyfarwyddeb ymhlith monomerau a sylweddau cychwynnol eraill;

mae i “NOGE” (“NOGE”) yr ystyr a roddir iddo yn Erthygl 1(1)(c) o Reoliad 1895/2005;

ystyr “Rheoliad 1895/2005” (“Regulation 1895/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd(12);

ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998(13);

ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 2005(14);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), yw unrhyw berson boed yn swyddog i'r awdurdod gorfodi neu beidio, sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “trin bwyd” (“handling of food”) yw defnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, deunydd pacio, gwerthu neu weini bwyd;

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn bernir bod cyflenwi unrhyw ddeunydd neu eitem ac eithrio drwy werthiant, wrth gynnal busnes, yn werthiant.

(3Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb, Cyfarwyddeb 82/711, Cyfarwyddeb 85/572 neu Reoliad 1895/2005 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddo yn y Gyfarwyddeb honno neu'r Rheoliad hwnnw.

(4Ac eithrio yn Rhan 5 o Atodlen 3, mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

(1)

OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26.

(2)

OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10.

(3)

OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14.

(4)

OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61.

(5)

OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27.

(6)

OJ Rhif L178, 28.7.97, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/46, (OJ Rhif L114, 21.4.2004, t.15.

(7)

OJ Rhif L226, 22.9.95, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47, (OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24).

(8)

OJ Rhif L339, 30.12.96, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/95, (OJ Rhif L283, 31.10.2003, t.71).

(9)

OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18.

(10)

OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8.

(11)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35.

(12)

OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources