Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 26/07/2018
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 15/10/2016.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006, ATODLEN 3.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliad 29
1. Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ofynion yr Atodlen hon neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn euog o dramgwydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
2.—(1) Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol sydd i'w prosesu, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo ar longau mordwyol mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc dur gwrthstaen, neu danc sydd wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo, rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunydd bwyd neu'n gargo o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol; a
(b)pan fo'r olew neu'r braster yn cael ei gludo mewn tanc o ddeunyddiau heblaw'r rhai a bennir yn is-baragraff (a), rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd neu'n gargoau o'r rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “rhestr o gargoau blaenorol derbyniol ar gyfer olewau hylifol neu frasterau hylifol” yw'r rhestr a nodir yn yr Atodiad i [F1Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 579/2014] .
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 3 para. 2(2) wedi eu hamnewid (8.8.2014) gan Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/1858), rhlau. 1(2), 2(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
3. Caniateir i olewau hylifol neu frasterau hylifol nad ydynt i'w prosesu ymhellach, ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gael eu swmpgludo mewn tanciau nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, a chaniateir hynny yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a)rhaid i'r tanc fod yn danc dur gwrthstaen neu fod wedi'i leinio â resin epocsi neu ddeunydd sy'n dechnegol gyfatebol iddo; a
(b)rhaid i'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanc fod wedi bod yn ddeunyddiau bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I3Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
4. Rhaid i gapten llong fordwyol sy'n cludo mewn tanciau swmp o olewau hylifol neu frasterau hylifol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl neu sy'n debygol o gael eu defnyddio ar gyfer eu bwyta gan bobl, gadw tystiolaeth ddogfennol gywir yngl^yn â'r tri chargo blaenorol a gludwyd yn y tanciau o dan sylw, ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I4Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
5. Pan fo'r cargo wedi'u drawslwytho, yn ychwanegol at y dystiolaeth ddogfennol sy'n ofynnol yn rhinwedd paragraff 4, rhaid i gapten y llong sy'n ei dderbyn gadw tystiolaeth ddogfennol gywir bod cludo'r swmp o olew hylifol neu fraster hylifol wedi cydymffurfio â darpariaethau paragraff 2 neu 3 yn ystod y llwyth llong blaenorol ac am effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd rhwng y cargoau hynny ar y llong y cawsant eu trawslwytho ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I5Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
6. Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i gapten y llong roi i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol a ddisgrifiwyd ym mharagraffau 4 a 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I6Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
7. Caniateir i siwgr crai na fwriedir ei ddefnyddio fel bwyd neu gynhwysyn bwyd heb broses buro lawn ac effeithiol gael ei swmpgludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer cludo deunyddiau bwyd yn unig.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
8. Bydd y daliedyddion, y cynwysyddion neu'r tanceri y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 7 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—
(a)cyn llwytho'r siwgr crai, rhaid i'r daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer gael ei lanhau'n effeithiol i waredu gweddillion y cargo blaenorol ac unrhyw faeddu arall a'i arolygu i gadarnhau bod y gweddillion hynny wedi'u gwaredu'n effeithiol; a
(b)rhaid i'r cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd cyn y siwgr crai beidio â bod wedi bod yn swmp-hylif.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I8Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
9. Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7 gadw tystiolaeth ddogfennol, gan ddisgrifio'n gywir ac yn fanwl y cargo uniongyrchol flaenorol a gludwyd yn y daliedydd, y cynhwysydd neu'r tancer o dan sylw, a math ac effeithiolrwydd y broses lanhau a ddefnyddiwyd cyn cludo'r siwgr crai.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I9Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
10. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol fynd gyda llwyth siwgr crai yn ystod pob cam yn y broses o'i gludo i'r burfa a rhaid i'r burfa gadw copi o'r dystiolaeth honno. Rhaid i'r dystiolaeth ddogfennol gael ei marcio fel a ganlyn mewn modd sy'n hollol weladwy ac annileadwy mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned: “This product must be refined before being used for human consumption”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I10Atod. 3 para. 10 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
11. Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo'r siwgr crai neu'r broses buro ddarparu i'r awdurdod gorfodi y dystiolaeth ddogfennol y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 9 a 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I11Atod. 3 para. 11 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
12. Gwneir i siwgr crai sydd wedi'i gludo dros y môr mewn daliedyddion, cynwysyddion neu danceri nas cedwir at gludo deunyddiau bwyd yn unig, fynd drwy broses buro lawn ac effeithiol cyn iddo gael ei ystyried yn addas i'w ddefnyddio fel bwyd neu fel cynhwysyn bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I12Atod. 3 para. 12 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
13. Wrth gyflawni'r rhwymedigaethau o dan Erthygl 5(1) o Reoliad 852/2004 (dadansoddi peryglon a phwynt rheoli critigol) o ran swmpgludo siwgr crai dros y môr o dan baragraff 7, rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n gyfrifol am gludo neu buro siwgr crai—
(a)ystyried y broses lanhau yr ymgymerwyd, hi cyn llwytho'r siwgr i'w gludo dros y môr yn bwynt rheoli critigol yn y modd y cyfeirir at “critical control point” yn Erthygl 5(2)(b) o Reoliad 852/2004; a
(b)cymryd i ystyriaeth natur y cargo blaenorol sydd wedi'i gludo mewn unrhyw ddaliedydd, cynhwysydd neu dancer sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cludo'r siwgr.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
I13Atod. 3 para. 13 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
14.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon mae unrhyw eiriau neu ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac unrhyw eiriau neu ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC neu Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/28/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o siwgr crai dros y môr(1) yn dwyn yr un ystyr ag ystyr y geiriau neu'r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn eu tro yn y Cyfarwyddebau hynny.
(2) Yn yr Atodlen hon, ystyr “Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC” yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/3/EC sy'n caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr(2), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/4/EC yn diwygio Cyfarwyddeb 96/3/EC yn caniatáu rhan-ddirymiad o ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid deunyddiau bwyd o ran cludo swmpiau o olewau hylifol a brasterau hylifol dros y môr(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 3 para. 14 mewn grym ar 11.1.2006, gweler rhl. 1
OJ Rhif L140, 12.5.98, t.10.
OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42.
OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.25.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: